Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
CYFARFOD y MYFYHWYR CYMRBIG.-P—Gynheiir cyfarfod blynyddol Cymdeithas Myfyrwyr Cymreig ddydd Gwener, Medi 5ed, yn Mhrifysgol Bangor. Decbreuir y gweithrediadau am naw o'r gloch y boreu. Agorir y cyfarfod gydag anerchiad gan y cyn-gadeirydd, Dr. Daniell. Yna darllenir papyr- au byrion gan y Proff. Roberts ar Gynlluniau Darllen;" gan Dr. Rhys Davies ar "Ddarlithiau Lleol;" a chan Mr Charles Morgan, B.A., ar Llyfrgelloedd Lleol." Cynygir i sylw y cyfar- fod gynllun o waith am y flwyddyn ddyfodol yn. unol ag awgrymiadau y papyrau uchod. J. E. LLOYD, ) YGG CHASX.ES MOBGAN, F S
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR
News
Cite
Share
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR Yr wythnos hon yr y'm yn anfon allan dylebion am y chwarter. Taled ein "derbynwyr oil i'n dos- barthwyr yn ddioedi, er mwyn i ninau gael ein talu ganddynt hwythau Cwyna rhai dosbarth- wyr yn erbyn eu derbynwyr eu bod yn anghofio talu iddynt, ac er eu mwyn hwy y gwnawn y sylw hwn.
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Dirwestwr a ofyna—1, A ydyw rheolau a chy- fraith y Llythyrdy Cyffredinol yn caniatau i Feistr y Llythyrdy mewn rhyw fan neu gilydd i fod yn oruchwyliwr o dan Ddarllawdy i werthu diodydd meddwol P 2, Os nad ydyw y rheolau a chyfraith yn caniatau felly, paham y maent yn mentro gwneud y fath bath ? Caleb.—Heb anfon eich enw priodol. I'r fasged. Mewn Llaw.— Ben Evans, Tyro, Llawen, &c.
LLYFR FY LLWYBRAU, NEU HUNAN…
News
Cite
Share
LLYFR FY LLWYBRAU, NEU HUNAN HANES MERTHYR CYMREIG. Mae hwn yn Hyfryn rhyfedd, hanes Merthyr wedi ei ysgrifenu gan y Merthyr ei hun,-rhaid felly, nad yw wedi ei gwbl ferthyru. Dywed bethau rhyfedd, mewn dull doniol a darllenadwy. Amcan y llyfr, feddyliwn yw dangos fod clymbleidiaeth yn allu mawr yn nghynadleddau y Bedyddwyr, a bod yr awdwr wedi inyned yn aberth i'w chynddaredd, os yw y darluniadau a rydd o weithrediadau y gynbadledd, y cyfarfod chwarter, a'r gyinanfa, yn agos cywir. Wrth reswm, nid oes yma ond un ochr i'r ddaleu, dylem ofyn yn daer yn ngeiriau y Llyfr Gweddi, rhag y fath gi waid, gwared ni, Arglwydd daionus." Deil pregethwyr fel personau unigol, eu cymharu ag unrhyw ddosbarth o bobl, ond ymddengys fod rhvw ysbryd drwg yn eu dallu, bryd bJnag. y byddont yn cyfarfod mewn cynhadleddau fel y mae hanes gweithrediadau cynhadl- eddau, o ddyddiau y Star Chamber, i lawr yn ysmotiau duon yn hanes pob enwad. Nid yw yr awdwr yn rhoddi ei enw, ond hysbysir ni yn ddamweiniol, mai John Jones, Felinheli, yw y Merthyr. Tybiai mai yn debyg y buasai pawb yn ei nabod fel Stephan a John Penry, dan yr enw Merthyr Cymreig," ond dylasai efe wybod fod Merth- yron cynhadleddau mor lluosog, fel y mae yn gofyn cryn lawer o fanylion, eyn ei wahaniaethu ef oddiwrth eraill. Nid wyf yn sicr fy mod yn deall amcan cyhoeddiad y llyfr. Os mae yr amcan oedd hanesyddu yr amgylchiadau, er enill cydymdeimlad y cyhoedd, credaf y gallesid gwneud hyny mewn arddull mwy syml. Os mai yr amcan yw dadlenu triciau y saint yn eu conclaves, dylasai siarad yn fwy eglur, mae weithiau yn awgrymu enwaa personau nad all neb y tu allan i gylchoedd y Felinheli, cymanfa- oedd Arfon a Mon en gwneud allan. Os oedd yn werth hanesyddu y triciau o gwbl, yr oedd yn werth dyweud am bob actor yn y drama, ti yw y gwr." Os mai ei amcan oedd tywallt gwawdiaeth ar ben y conclaves fu yn trin ei achos, dylasai wneud hyny heb ddwyn i fewn gymaint o'i hanes personol ei hun, yn neillduol ei hanes cya ei sefydliad yn Llanrwst, canys y mae yr hanes a geir yn y 26 tudalen cyntaf mor debyg i'r hyn ellid ddyweud am 99 o bob cant o ymgeis- wyr am y weinidogaeth, a'r naill ddarn tair ceiniog i'r llall. Ond gan nad faint yw ffaeleddau y llyfr, nis gall neb a'i darlleno lai na theimlo yn ddifrifol, wrth weled fel y mae y bobl sydd yn enwi eu hunain yn ganlynwyr Iesu, rhai yn proffesu eu hunain y bobl ore yn y byd, .yn gallu ymostwng i gyflawni y fath fudrwaith, yn rhoddi eu dylanwad i ddrysu amgylchiadau brawd, ac i ddinystrio ei ddefnyddioldeb. Os oes rhyw sail i'r awgrymiadau mae efe yn daflu allan yma a thraw am gymeriadau rhai o'r gwyr fu yn ymosod arno, Hen a lleyg, mae yn dangos fod yna ryw budredd rhyfedd yn rhengau y Bedyddwyr. Darllener y llyfr drwyddo cyn dechreu barnu. E. PAN JONES.
EISTEDDFOD BANGOR.
News
Cite
Share
EISTEDDFOD BANGOR. Bellach dyma ein huchel wyl genedlaethol wrth y drws, ac fel y mae yn dynesu, da genym ganfod arwyddion fod yr hen ysbryd cenedlaethol yn caet ei ddeffroi trwy y wlad yn gyftredinol o Gaergybi Gaerdydd. Clywir swn parotoadau o bob oyfeiriad a chura calonau miloedd gan bryder a fydd pob peth yn barod ac yn gyfleus iddynt ddyfod i'r wyl' Ni fu Almanac y Miloedd" ac "Almanac Caer- gybi" erioed yn fwy dyddorol nag ydynt yn y dyddiau hyn ac astudir bwynt gyda. dyfalbarhad canmoladwy, gan faint y pryder am dywydd ffafr- iol i fyned i'r wyl. Nid rhyfedd hyn ychwaith pan gofiwn mor werthfawr yn ein golwg yw urddas yr hen wyl. Mae wedi enill safle anrhydeddus fel sefydliad sydd a'i amcan yn bur a dyrchafol, a'i ddylanwad yn eang ac arosol. Mae wedi bod yn gyfrwng i gynyrchu cyfansoddiadau ydynt yn addurn i lenyddiaeth yn mhob oes. Mae dynion goreu yr oes yn cydnabod dylanwad Eisteddfod y Cymry, fel y mae ei llwyddiant yn dyfod yn fater pwysig iawn ac yr ydym yn galw ar bob Cymro i roddi help Haw a llogell er mwyn cynal i fyny ei hurddas eleni beth bynag. Ni chynhaliwyd hi erioed mewn lie mwy manteisiol. Mae y cyfleas- derau teithiol i'r ddinas o bob man yn gyfryw na ehafwyd erioed eu rhagorach ac y mae preswyl- wyr y ddinas yn rai ag sydd ganddynt fawr ofal calon dros lwyddiant ac anrhydedd yr wyl. Ceir yn eu plith ddynion sydd a'a calonau yn caro newn cydymdeimlad a'r Eisteddfod,-nid Eisteddfodwyr mewn geiriau yn unig, ond rhai sydd a'u gweithred- oedd yn profi y gallant aberthu llawer hefyd er ei gwneud yn llwyddianus. Cofied pob Cymro mai nid sefydliad Ileol neu sirol yw yr Eisteddfod; ae mai nid anrhydedd sect ra phlaid sydd yn y glor- ian. Sefydliad cenedlaethol ydyw. Gwnaed y Cymry gan hyny eu rhan i brofi hyny, trwy estyn iddi y fath gefnogaeth eleni fydd yn foddion i ar- gyhoeddi y byd mai sefydliad y genedl ydyw. Yn ein rhifyn diweddaf rhoddasom enwau nifer o foneddigion urddasol oeddynt wedi datgan eu parodrwydd i lywyddu y cyfarfodydd. Da, iawn genym allu ychwanegu attynt y tro hwn enw y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Cranbrook, llyvrydd y Cyngbor Addysg, yr hwn sydd wedi addaw cym- eryd y gadair yn y cyfarfod agoriadol dydd Mawrth; pryd y cymer y brif gystadleuaeth gorawl le. Teimlwn yn sier y derbynir y newydd hwn gyda boddhad cyffredinol, yn neillduol felly gan bleidwyr addysg; gan fod ei arglwyddiaeth bob amser wedi cymeryd y dyddordeb mwyaf yn ashos addysg, ac wedi cymeryd rhan flaenllaw yn mhob peth fyddai yn tueddu i ddyrchafu moesol- deb ac i luosogi manteision addysgol yr oes. DA genym hefyd allu hysbysu fod Arglwydd Esgob Bangor wedi tanysgriflo deg gini i'r drysorfa, ae wedi cymeryd dyddordeb mawr yn y gweithrediad- au o'r cychwyn. Disgwylir ei arglwyddiaeth i lywyddu yn y eyfarfod dydd Mercher, a diameu genym y ceir anerchiad ganddo gwerth ei wrando a'i gofio. Bydd yr Hybarch Archddiacon Farrar yn traddodi anerchiad yn y cyfarfod boreu Mawrth, ac yn llywyddu yn y cyngherdd nos Fawrth. Nid oes angeu dyweud pwy ydyw y boneddwr parch- edig, gan fod eiglod yn adnabyddus fel awdwr galluog, lienor dysgedig, ac un o areithwyr mwyaf hyawdl yr oes ac yr ydym yn sicr y cymer mil- oedd fantais ar y cyfleusdra rhagorol hwn i'w glywed. Traddodir anerchiadau Cymraeg yn ystod y cyfarfodydd ar bynciau cenedlaethol gan enwogion o safle DrHerber Evans, Caernarfon; yr Hybarch Archddiacon Griffith, Neath; G W Taylor, Ysw., Rhos ac Hwfa M6n ac yn Saesneg gan Proff. Mason o Edinburgh ac ereill. Gyda'r fath ddoniau areithyddol ceir yno wledd cdidog na ehafwyd erioed ei bath. Mae yn hyfrydwch genym ddeall nad yw y pwyllgor wedi anghofio, Mac am anwybyddu hen ddefodau eysylltiedig a'r wyl. Agorir yr Eisteddfod gyda ber-awdl gan y bardd anrhydeddus Hwfa M6n, yr hon fydd- fel efe ei hllnan- yn llawn athrylith. Bydd Gorsedd y Beirdd 0 dan ei choron, a chymerir rhan yn ei gweithrediadau gan arweinyddion enwocaf y genedl. Cyhelir cyfarfodydd fel arfer yn ystod yr wyl gan yr amrywiol gymdeithasau,, megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y Cymmrod- orion, y Cerddorion, Undeb yr Efrydwyr Cymreig, &c. Darllenir papyrau ar wahanol destynaui pwysig ao amserol gan ddynion galluog; a diameu: genym y nodweddir yr holl weithrediadau a'r pwyll, a'r doethineb fu mor amlwg ynddynt yn y blynyddoedd a aethant heibio. Bydd y cystadleu- aethau corawl mor ddyddorol a brwdfrydig, a'r cyngherddau mor atdyniadol a mawreddog af erioed gan fod rhai o brif gorau Cymry yn gloewi eu harfau ar gyfer y blaenaf, a gwasanaethir yn yr olaf gan brif gantorion a thelynorion yr oes. Ceir enwau Signor Foli; Mrs Mary Davies, Miss Eleanor Rees, Madame Annie Marriott, Miss Susannah Pierce, Miss Annie Griffith, Miss Julia Lewis, Miss Annie Hope, Eos Morlais, Mr Philip Newbury, Mr Ffrangcon Davies, a Mr Gordon Williams yn mhlith y cantorion; a bydd Pencerdd Gwalia, Telynores Menai, Eos y Berth, ac Ap Eos y Berth yno gyda'u telynau i dwymo'r miloedd i dymer moli." Ystyrir cystadleuaeth y corau Cymreig am y baton aur gwerth .£70-rhodd haelionus W Prit- chard-Morgan, Ysw., A.S.,—yn un o'r rhai pwys- icaf fu erioed. Enillwyd ef y llynedd yn Aber- honddll gan Gôr Caernarfon, ac os byddant yr un mor llwyddiannseleni, eu heiddo hwy fydd. Er ei gael rhaid iddynt ymladd yn galed, gan tod bechgyn dewr Talysarn a Festiniog eisoes ar y maes yn bloeddio i'r gad. Da genym ddeall fod trefniadau wedi eu gwneud i gael cydgan gan fechgyn bach y "Clio," yn rhifo 300, yn y cyfarfod boreuol bob dydd ac edrychir yn mlaen at eu datganiadau gyda boddhad neill- duol. Wrth ystyried yr holl bethau hyn, yr ydym yn galonog iawn yn gwahodd holl drigolion Cymru benbaladr i 'Steddfod Fawr Bangor, a gynheiir ar yr 2il, 3ydd, 4ydd, a'r 6ed o Fedi nesaf. Dangoswn. i'r byd fod yr hen sefydliad, nid yn unig yn cadw ei dir, ond hefyd yn myned rhagddogan ychwanegu cryfder.
CYFRANIADAU AT DDIRWY Y DR.…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
0 Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Padding- ton, Llundain:— John Lloyd 0 2 6 D. Brython Davies 0 1 0 W. R. 0 1 0 Evan Edwards 0 1 0 T. J. Anthony .$0 10 HughEdwards ••• 0 1 0 David Williams — 0 0 6 C.LLDavies 0 0 6 J. Melynian Richards 0 0 6 B. Davies 0 0 6 J. Edwards .006 W. Morgan Davies 0 0 6 Miss A. Davies 0 0 6 John R. Jones, Castell LlanerM 0 1 6 Cafanswm Taflem III. £ 1 13 71 Cydnabyddwyd o'rjblaen X31 17 6 Drwy amryfusedd dodwyd un euw ddwy waith am 2s 6d. yn Taflem II. Dyolchwn i'r rhai sydd a llyfrau casglu ganddynt am anfon i mi yr enwau a'r derbyniadau sydd ganddynt mewn llaw mor fuan ag y gallont fel yr ymddangosont yn y tafleni nesaf. Daeth rhan fawr o'r daflen uchod oddiwrth gyfeillion na wnaed un cais atynt ond yr hyn a welsant yn y Celt. Ni raid dyweud y byddai yn dda genym glywed yn fuan oddiwrth rai eraill ar nas gall neb alw gyda hwynt ar ran y drysorfa hon.—Yr eiddoch yn galonog, D. S. DAVIES.