Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

-

CYFUNDEB CYMREIG SIR BENFRO.

News
Cite
Share

CYFUNDEB CYMREIG SIR BENFRO. Cynaliwyd cyfarfod chwarterol y cyfundeb uchod yn Trefgarn, ar y dyddiau Mercher a lau, Awst 13eg a'r 14eg. Y gynadledd am ddau y dydd cyntaf, dan lywyddiaeth y Parch. J. H. Thomas, gweinidog y lie. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. J. G. Thomas, Solva. Pen- odwyd y Parch. John Evans, Penygroes, yn ysgrifenydd pro. tem. Yr oedd y gweinidogion canIynol yn bresenol,-Parchn. Jones, Towyn Davies, Abergwaun; Phillips, Hebron; Wil- liams, Carfan; Davies, Cwmogwy; Lewis, Berea; Jones, Tyddewi; Garibaldi Thomas, James, Brynbank J. Stevens, Llwynyrhwrdd; Thomas, Trefgarn; John Evans, Penygroes. O'r Cyfundeb Seisnig-Parchn. Michael Keys- ton Williams, Risemarket; Jacobs Albany, Haverfordwest. Yn rhy ddiweddar i'r gynhad- ledd-Parch. W. Jones, i rewyddel. Terfynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch. E. Jones, Ford. Pasiwyd y penderfyniadau canl.yool 1. Fod y eyfarfod n^saf i fod yn Moriah yn nol y gylchres. 2. Fod y Parch. J. Williams, Carfan, i ddar- llen papyr ar Brif rwystrau llwyddiant crefydd- ol yn y cyfandeb." 3. Fod y Parch. J. G. Thomas, Solva, i bre- gethu ar ddirwest. 4. Fod yr ysgrifenydd i ddanfon cais at yr eglwjsi, i geisio ganddynt ddanfon eu cyfran I tuag at y Drysorfa Gyfundebol i'r cwrdd chwar- ter nesaf. 5. Fod y Parch. J. G. Morris, Trefdraeth, i fod yn ysgrifenydd y cyfundeb. Drwy i Parch. J. EvaDs, Peoygroea wrthod, pasiwyd y pender- fyniad yn unfrydol. 6. Fod ysgrifenydd Cenbadol y Cyfundeb i'w benodi yn y cyfarfod nesaf. Yna darllenodd Henry John, Ysw., Castell- garw, bapur ar "Y Ddiaconiaeth." Ar oJ; ychydig o ymddyddan, penderfynwyd ceisio gan y brawd ei argraffu. Y MODDION CYHOEDDUS. Yn yr hwyr, pregethwyd gan y Parchn. Davies,. Cwmogwy; a D. Williams, Llandilo, yn Peny- cwm. Pregethwyd gan y Parchn. J. T. Phillips,. Hebron; a J. Michael Keyston, yn Parran. Pregethwyd gan y Parchn. L. Williams, Rose- market; a W. M. Davies, Abergwaun, yn Tref-. garn. Boreu dydd lau, am ddeg, dechreuwyd gan y Parch. J. G. Thomas, Sol va. Pregethwyd ar y genhadaeth gan y Parch. John Evans, Pen- ygroes; ar y cyfundeb gan y Parch. L. James, Brynbank. Gweinyddwyd wrth fwrdd yr Arglwydd gan y Parchn. W. Jones, Trewyddel;. ac E. Jones, Ford. Siaradwyd gan Parchn. O. Jacob, Albany, Hwlffordd; a D. Williams, Llandilo y blaenaf yn Saesonaeg. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn am ddau, gan y Parch. L. T. Jones, lyddewi. Pregethwyd gan y Parchn. J. Williams, Carfan a J. T. Phillips, Hebron y blaenaf yn Saesonaeg. Am chwech, dechreu- wyd gao y Parch. Davies, Cwmogwy; pregeth- wydgan y Parchn. J, Stevens, Llwynyrhwrdd; a Jacobs, Albany, Hwlffordd a W. Jones, Tre- wyddel; yr ail yn Saesonaeg. Ni gawsom bregethau grymus, yr oedd y brodyr mewn hwyliau da yn pregethu'r gwirion- edd. Yr oedd naws hyfryd yn y cymundeb yn y boreu, er hyny, gwelsom er ein mawr ofid, yr hyn dybiaf yn warth i wareiddiad, y Belyddwyr lluaws mawr o honynt yn cefnu ac yi/aflonyddu'r cyfan yn myned allan. Yr oedd eu hymddygiad- yn shock i bob teimlad crefyddol. Dymunwn fod yr ymweliad yn symbyliad i'r eglwys a'r gweinidog gyda'r gwaith da. Y mae hanes dydd- orol yp perthyn i'r eglwys hon, planwyd hi yn nghanol twrf erledigaeth, y mae blwydd ei sefydl- iad ar y cof-faen yn y capel yn 1689. Y mae. yma eglwys lewyrchus yu nol pob arwydd. JOHN EVANS, Ysg. pro tem.