Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. GAIR AT Y PARCH D. WYNNE EVANS.- Anwyl frawd yn y brophes GrMtionogoi,—Yr ydwyf wedi darllen eich ysgrifau yn y Cronicl a'r gwyntylliad o honyot yn y Celt, a braidd y casgl- iad sydd genyf mai yr un person ydyw y ddau, ac os ydwyf yn methu maddeuwch fy nhybiaeth. Nid ydwyf yn gaUu gweled eich bod yn profi dim o'r hyn yr ysgrifenwch arjo, am mai un peth yw difynu adnodau peth arall yw cyfleu y gwir feddwl. Cymerwch eich prawfiadau o waith awduron Seisnig, y rhai i'm tyb i sydd wibiog a gwylit acansefydlog iawn. Nid wyf yn ystyried barnau dynion ffaeledig fel fy hunan yn ddigonol sylfaen er adeiladu arno pan y mae gair Duw yn benderfynol'ar bobpeth i'm tyb i. Yn awr di- fynaf ychydig adnodau i gyfarfod eich haeriad sydd fel hyn, Nid rhaid aros gyda'r hyn sydd bosibl a thebygol, pan y mae genym sicrwydd gair Duw gyda golwg ar ddychweliadyr ludd- ewon i'w gwlad." Dim amhenaeth am eu credu nac am yr adnodau Jeremi xix. 11, "Acy dy- wedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y Uuoedd, Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a'r ddinas hon fel y dryllia un lestr pridd yr hwn ni ellir ei gyfanu mwyach; ac yn Pophet y cludir hwynt o eisieu lie i gladdu." Yn ail, Esay xxx. 11: "Canys efe a'i drylliai hi fel dryllio lIestr (costrel) crochenydd, gan garo heb arbed fel na chaffer yn mysg ei darnau gragen i gymeryd tan o'r aelwyd, nac i godi dwfr o'r ffos." Galarnad iv. 2: "Gwerthfawr feibioa Sion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrif- wyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylaw y crochenydd! Pan y gwelaf chwi wedi gafael yn y ffigyrau hyn yn yr adnodau a ddifynais dof at yr adnodau yn y Testament Newydd. Eto difynweh ddarn o ymddiddan Iesu Grist gyda'r wraig o Samaria, "Iachawdwriaeth sydd o'r luddewon." Ond buoch ddall i ddarn arall o'r ymddiddan, a dyma fe, "0 wraig cred fi, mae'r awr yn dyfod pryd nad addoloch y Tad nac yn y mynydd hwn nac yn Jersusalem." Bydd yn ddymunol genyf ddarllen eich ysgrifau heb yn- ddynt ddim o'r pwff Seisnigaidd, dim ond eich beirniadaeth eich hun. Hu GWAN.

-

CYFUNDEB CYMREIG SIR BENFRO.