Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
EFRYDYDD 0 FANGOR WEDI BODDI…
News
Cite
Share
EFRYDYDD 0 FANGOR WEDI BODDI YN Y DDYFRDWY. Prydnawn ddydd Gwener, aetli Mr Peter 'Ed, Edward Booley. efrydydd ieuancyn Ngholeg Anibynol Bangor, i ymdrochle yn yr Afon Ddyfrdwy, ger Maesglas, Treffynnon. Yr •oedd Mr Booley yn treulio ei wyliau gyda'i rieni yn Nhreffynon, ac ar y dydd a nodwyd ,aeth ef, a'i dad, a brawd ienanc, i ymdrochi. Yr oedd y llanw ar y pryd yn myned allan, ac aeth Mr Booley i geisio gwaredu ei frawd ieuengach, pryd y boddodd o lfaen Uygaid -ei dad, oyn i help gael eiestyniddo- Oreodd y dygwyddiad gryn gyffro yn y dref. Yr -oedd Mr Booley oddeutu 22 mlwydd oed, ac .yn bregehhwr ieuanc gobeithiol.
DAMWAIN I GWCH GER CONWY.
News
Cite
Share
DAMWAIN I GWCH GER CONWY. BODDIAD WYTH 0 BERSONAU. Prydnawn Mercher, aeth y Uestr Marie" Lilian o Gonwy mown balast, yn cael ei thynu gan lusgfad ac aeth wyth o bersonau, yn cyn- wys Wm. Jones, pilot, 50 mlwydd oed (gwr priod gyda dau blentyu); Wm. Evans (50, gyda dau o blant); Robt Evans (17), mab meistr porthladd Conwy John Pullan, (26, gyda dau o Mant), Dr C. Greene a Dr H. Thompson, Bir- mingham; a dwy ferch ieuanc o'r enwau Misses Fanny a Beatrice Varcoe, o Hanley, y rhai a ar- hosasent gyda Mr Hadle ?,Gorphwysfa,Degan wy, allan yn y llestr grybwylliedig, gan fwriadu dy- chwelyd yn mad y pilot. Gannaddychwelasant ddydd Mercher, fel y disgwylid, dechreuwyd myned yn anesmwyth yn eu cylcb, a phellebrwyd i amryw fanau i holi am danynt, ond i ddim pwr- pas ihefyd, chwiliwyd genau yr afon Gonwy, eithr ni chafwyd dim o'u banes. Modd bynag, oddeutu chwech o'r gloch boreu Iau, daeth bad y pilot i'r lan a'i waelod yn uehaf o dan JPen- morfa Cottage, ar ochrorllewinol Pen y Gog- arth, yn mha un yr oedd corph William Evans, straed yr hwn oeddynt wedi ymddyrysu mewn rhaff. Yn ddilynol darganfyddwyd corpb Dr Greene yn nofio ar yr afon o fewn tua milltir a haner i Gonwy. Nos Iau darganfyddwyd corph Miss Beatrice Varcoe yn nofio a'i wyneb yn isaf ;ger y bar, Daeth corph merch i'r lan yn Hoylake, ger JLerpwl, nos Sabboth, yr hwn a adnabyddwyd gan ei thad fel eiddo Miss Fanny Varcoe. Nid oes gwybodaeth pa fodd y digwyddodd y ddamwain ond y dyb ydyw mai dymchwelyd a wnaeth y cwch drwy fod y mor braidd yn gyn- hyrfus a'r cwch yn rhy fychan i gynwys wyth o bersonau. Barnai eraill ei fod yn cario gormod <0 lian, ac i ruthriad o wynt ei droi a'i wyneb yn isaf. Yr oedd porthladd Conwy a'r amgylch oedd yn llawn cyffro a phryder ddydd Iau, tra yr oedd gweddwon ac amddifaidja pherthynasau a chyf- eillion y trueniaid a gollasant eu bywydau mewn tristwoh a galar dwfn. Y TRENGHOLIAD. Dydd Gwener cynhaliodd Mr J H Roberts drengholiad yn ystafell yr ynadon, Conwy, ar gorph Miss Beatrice Vaine Varcoe, Charles Greene, M.D., a William Evans, cychwr, Con- wy. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, ac yr oedd yn bresenol amryw o berthynasau y trancedig- rheithwyr hughes oedd blaenor y Rhoddwyd tystiolaeth gan Mri W Varcoe, a C b Yarcoe, tad a brawd y ddwy ferch ieuainc a foddwyd, y rhai a dystient eu bod vn adnabod corph y ferch a ddarganfydd tvyd.Mr Charles Ellis, Brynbyfryd, a dystiai ei fod tra yn croesi y Penmaenbach, wedi sylwi ar gwch yn llawn Dwylian yn nghyfeiriad y Gogartb. Pan yr -edrychodd i'r un cyfeiriad drachefn yn mhen ychydig o eiliadau methodd a gweled y cwch, ond canfyddodd rhyw dryblith ar wyneb y dwfr yn nghanol yr hyn yr oedd rhyw ychydig o gochni. Bernir mai dyma y pryd y dychwelodd y cwch, oblegid fod rhan o wisg un o'r bonedd- agesau o'r lliw yma. Ar ol gwrandaw ar amryw dystiolaethaa ereill dychwelwyd rheithfarn o "Farwoliaeth Ddam- weiniol." Codir tanysg'ifiadau yn Nghonwy a'r cylchoedd tuagat gynorth wyo teuluoedd y tranc- edigion o'r dref hono, y rhai sydd yn bur dlawd. Gwneir ymchwiliadau egniol am y rhelyw o'r cyrph. Gwnaed 7p o gasgliad yn nghapet Llanfairfechan y Sul diweddaf.
ANNGHYSONDERAU Y PRESENOL.
News
Cite
Share
ANNGHYSONDERAU Y PRESENOL. LLITH I. Na fyddwn debyg i ddrwg." Rhag ofn i'r byd gredu nad ydym yn perthyn i'r dosbarth sydd a'u henwau wedi eu hysgrifenu yn llyfr bywyd yr Oen. Yn ol y ffrwyth yr adnabyddir c y pren," oblegid annghyson yw gweled afalau yn tyfu ar ddrain. Gan hyny, hollol annghyson yw gweled unrhyw obaith am welliant yn ein mysg ni fel rhai sydd wedi gwneud llw y bydd- wn yn esiampl i'r byd, a'r ffrwythau yn profi fel arall. Goleuni i'r byd, dinas ar fryn, dyna fel y dylai y rhai sydd yn arwain ac yn dysgu y bobl fod, neu pa obaith am yr annysgedig neu yr anngyfarwydd i rodio yn y ffordd iawn. Os yw Duw wedi anfon rhai i'r byd i fod yn oleuadau, a'r goleuadau hyny yn creu tywyllwch dywedaf nid eiddo Duw ydynt. Clywir y gair yn cael ei gyhoeddi o lawer o bwlpudau yn Nghymru y dyddiau presenol am y cyfiawnder ni dderfydd, y farn a fydd. ac am ddirwest, ie, fe gaiff y rbai yma wir gyfiawnder, ac am y farn a fydd, O! bydd yn ofnadwy. Paham ? Y Duw fydd yn cyhoeddi uwch ein penau, Nis adnabum chwi erioed," Am ba beth ? Am y twyll ofnadwy o sefyll i fyny ar y pwlpud rhwng y Duw byw a phechaduriaid mawrion, a chyhosddi o'r fan hono am iddynt fyw yn sobr, gosod dirwest o'u blaen, dangos y cyfrifoldeb o fyned i'r diotdai, byw yn mysg y gyfeddach, dangos i'r lluoedd am fod canoedd o filoedd yn myned i'r farn yn anmharod bob., blwyddyn, ac yn dywedyd wrth- ynt, "Gwyneifydygwrni rodia yn nghyngor yr annuwolion ac ni saif yn ffordd y peehaduriaid ac nid eistedda yn eisteddfa gwatwarwyr." Y mae peth fel yna yn sicr o fod yn iawn, mewn ystyr, ond y mae yr hen ddywediad hwnw am yr hen offeiriad yn wir am lawer eraill, Gwna di fel yr wyf fi yn dyvveyd, ond nid fel yr wyf fi yn gwneyd." Ond gyfeillion anwyl, y mae eneidiau dynion yn rhy werthfawr i cbwareu uwch eu penau. Ond at y pwnc. Y rhaiyna yu eyhoeddi am ddirwest a sobrwydd ar yr un pryd, pob anadliad o'u heiddo yn Ilawn o ddrowdod, arogl gwenwynig yn dyfod allan o'u genau, a'i awyr hwnw fel megis yn dyfod o'r llyn brwm- stanaidd. Ond meddant, pa ddrwg o ychydig o'r gwlybyroedd, y mae ychydig bach yn cyn- hyrfu fy ysbryd, ni allaswn i byth sefyll i fyny o flaea torf fawr o bobl heb ychydig. Gwarchod pawb, ychydig'o bethau meddwoi er lies! O! feddwl ofnadwy. Dyn yn cyhoeddi gair Duw er argyhoeddi pech iduriaid o gyfeiliorni eu ffyrdd, ac yntau yn drachtio ychydig o ddifer- ynau o'r hylif ofnadwy hwnw sydd yn damnio miloedd o ddynion goreu ein hoes. A oes cysondeb mewn peth fel yna? Na; dyna un o'r anngbysonderau mwyaf ofnadwy a welodd ein byd ni erioed. Amlyged Duw ei hun i'r bobl yma yn ei ffordd fawr ei hun gan obeithio y deuant i weled eu camsyniad mewn pryd. 0 na wrandawswn ar lais y Beibl. "Nac edrychar y gwin pan fyddo goch." Ychydig ddyddiau yn ol yr oedd un o brif ddynion ein hoes yn tradd- odi araeth ar ddirwest, yn nghlyw canoedd o weioidogion y Gair. Yr oedd lleferydd y dyn hwnw yn ddigon i greu arswyd a braw ar bob dyn rhesymol i beidio cyffwrdd a'r un dyferyn o'r diodydd meddwol, yn enwedig y rhai sydd yn proffesu eu bod wedi rhoddi eu llw i Dduw y gwnant bob aberth i achub bywyd dyn. Beth oedd ei leferydd? Dyma nhw: Cywilydd- iweb," mjddai, gan godi ei law, "Daew hwy, ni ddylent esgyn i esgynlawr y pwlpud byth tra y byddont yn llyncu y gwenwyn marwol iddynt eu hunain, ac yn rhoddi esiampl i'r byd i ddilyn eu hoi. Nid oes achos i'r gonest a'r di-dwyll i deimlo dim, nid oes achos i neb i wisgo y cap os nad yw yn ffitio. Nid oes achos i neb ofyn a'i myfi yw, neu a'i hwn a hwn yw, chwilied pob un drosto ei hun, a gadawed y canlyniadau i'r Meistr Mawr." Gofaled pob un i beidio gwneud dim alr hylif damniol, yna ni chaiff ei restru yn mysg y dosbarth sydd yn byw ac yn gwneud yr annghysonderau mwyaf Uygredig y presenol. EHEDYDD WYN.
Advertising
Advertising
Cite
Share
THE BEST ADVERTISING MEDIUM. i LLANDUDNO ADVERTISER AND LIST OF VISITORS PUBLISHED AT LLEWELYN CHAMBERS LLEWELYN STREET, LLANDUDNO, Every Friday Morning. Price One Penny. THE LLANDUDNO ADVERTISER was started a tew years ago by a number of Llan- dudno tradesmen for the purpose of advertising the town and neighbourhood,and the number of our trades people who make it their advertising med- ium is an unmistakeable indicator of the high standard it has gained in the confidence of the public. The ADVERTISER started out on what was quite an original course in Llandudno Journalism, and has ever since kept to that course without turning to the right or left to notice those which would be imitators. During the Summer Months, the ADVER- TISER contains a FULL AND ACCURATE LIST OF VISITORS to this the Queen of Watering Places." It is patronized by the residents generally as their own paper, and purchased by the tens of thousands visitors who resort to this fashionable and rapidly increasing watering place, and by them sent TO ALL PARTS OF THE WORLD. THE LLANDUDNO ADVERTISER AND LIST OF VISITORS has a larger circulation than any other paper in the District; and to Solicitors, Auctioneers, Tradesmen, Hotel and Lodging house Keepers, &c., it is by far the best medium for adver- tising. For terms and all information, apply at the office, Llewelyn Street, Llandudno. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABER- YSTWYTH. PresidentThe Right Hon. LORD ABEKDARE G.C.B. Principal:—The REV. T. C. EDWARDS, M.A., (Lond and Oxon), D.D. (Edin.). LARGE number of entrance Scholarships and DL Exhibitions from £ 40 to < £ 10 (open and close) offered for competition. Examination begin, Wednesday, September 17th, 1890. A fee of £10 per Session admits to all Classes. Single Classes £1 per term. Women Students admitted into Hall of Resid- ence under superintendence of Miss E. A. Car- penter, at a charge of 30 guineas per session. For full particulars apply to the Registrar, University College of Wales, Aberystwyth. MORGAN LLOYD, July 9th, 1800. Mon. Sec. EGLWYS Y GRAIG, RHYMNEY. BYDDED hysbys fod yr eglwys uchod wedipasio nos Sabboth, Awst 10fed,1890, yn unfrydolfod pob cysylltiad rhyngddi a'u gweinidog, Mr H J Ellis yn cael ei dori, ac nad ydynt o hyn allan yn ei gydnabod fel aelod na phregethwr. Danfoner pob gohebiaeth i Mr W Williams, Coffee Tavern, Rhymney Bridge, Rhymney. s THOMAS THOMAS, Ysg, EGLWYS ANIBYNOL LLANDUDOCH. DYMUNA yr eglwys uchod hysbysu nad ydyw yn gyfleus ganddi dderbyn cyhoeddiadau pregethwyr heb yn gyntaf ohebu a'r Ysgrifenydd, WILLIAM JAMES, Pilot-street, St. Dogmells, Cardigan.