Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
TO THE DEAF.—A Person cured of Deafness T and noises in the head of 23 years' standing by a simple remedy, will send a. description of it FREE to any Person who applies to NICHOLSON, 1, Bedford Square, London. W.C. £ 100,000,000 UNCLAIMED.—A Register 312 pages clot h gilt, containing the names of 70,000 persons advertised fprto claim property and money since 1700. Price Is 6d post free. Every man and woman in the world should buy this book, as instructions are given how to recover property from Chancery free of all charges or fees. Dougal <fc Co.,62, Strand, London A fortune may await you. "Wills searched.
i HIN A'R LLALL O'R DE.
News
Cite
Share
i HIN A'R LLALL O'R DE. [GAN LP Y FRENI FACH.] Y mae yr adeg i adnewyddu trwyddedau i werthu gwirodydd meddwol eto wedi dyfod oddiamgylch. Mewn rhai ardatoedd y mae cyfeillion sobrwydd a'u llygaid yn ago red. Y n mhlith ereill nid yw dirwestwyr y Bhon- dda yn cysgu. Nid oes ardal yn Nghymru y mae mwy o angen cwtogi y fasnach. Llengyw y rhai a wnant eu fEortiwn yn gyflym ar draul dinystr miloedd. Nid oes anturiaeth yn bod a dal y ffordd yn well o safbwynt y byd hwn yn nghymoedd y Rhon- dda na chodi tafarndai. Acychydig yw y draffertb a geir i. sicrbau trwyddedau. :II: :II: Ai nid yw yn bryd gofyn paham y dyry yr ustusiaid drwyddedau mor rhwydd i dai newyddion yn y eymoedd hyn ? Pa nifer, tybed, o'r ustusiaid eu hunain sydd a llaw vn y fasnach yn uniongyrchol neu anunion- gyrchol ? Ai nid ustusiaid eu hunain, drwy ereill, mewn llawer achos sydd yn gofyn yn rhinweddol am drwyddedau ? Tybed y dy- lai ustus sydd a Haw yn y fasnach gael eis- tedd ar y fainu i ystyried ei achos eu bun ? Hyd yn nod pan na fedd yr ustus ddyddor- deb pellach mewn tafarndy na'i fod wedi ei godi ar ei dir ef, y mae perygl i'w farn gael ei gwyro pan yn ystyried yr achos. Mawr obeithiaf y tynir y Hen yn ol un o'r dyddiau nesaf yma, fel y gallo y eyhoedd weled yn glir ddirgelwch ochraeth ustusiaid lawer i dafarnwyr a thafarnyddiaeth. :II: :II: Clywais weinidog yn ddiweddar yn adrodd ffeithiau pruddaidd y daetbai o hyd iddynt wrth borth carchar Caerdydd. Yrydys wedi sefydlu ,cenhadaeth grefyddol wrth borth y carchar hwn. Ca gweinidog efengyl fyned y tu fewn i'r porth i siarad a'r carcharorion a ollyngir yn rhydd. Nifer mawr iawn o'r truelniaid a ddygir i'r carchar, yn union- gyrchol neu anuniongyrchol gan y fasnach felldithiol. A'r mwyafrif o garcharorion Caerdydd a ddeuant o gymoedd y lihondda. Bechgyn ieuainc a faged yn dyner ar aelwyd- ydd crefyddol yn Siroedd Caerfyrddin, Pen- fro, ac Aberteifi yw llawer o honynt. Rhodd. asant ffordd i'r demtasiwn pan ddaethant fyny o'r wlad, ac felly gosodasant eu traed, feallai yn ddifeddwl, ar y ffordd lydan sy'n arwain i ddistryw. Un yn ddiweddar, bachgen ieuanc yn wreiddiol o Geredigion, a ddiolchai i Dduw wrth borth y carchar yn Nghaerdydd, fod ei fam yn y nef, ac nas gwyddai yr hon a'i magodd mor dyner, ei fod ef wedi suddo i'r fath ddyfnder o warth. Ac eto, ustusiaid heddwch, y rhai a broffes- ant mewn purdeb ac onestrwydd, a noddant yn ymarferol y fasnach gythreulig sydd ddinystr i'n gwlad! Brysied y dydd pan ddaw hyd yn nod ustusiaid heddweh yn fwy o dan lywodraeth y werin a'r miloedd. :II: # :II: Tebyg mai barn y BarnwrBaresford yw y dylai perchenogion y nwyddau a atafaelir am y degwm roddi pob cymhorth i'r degym- wyr i gario allan eu hystranciau. Felly y casglaf oddiwrth ei ddyfarniad mewn achos o pound breach a brofwyd yn Llanbedr dydd Llun diweddaf. Y beili a atafaelodd anifeiliaid dyn diniwed gan feddwl mai eiddo y pechadur a wrthodai dalu y degwm oedd- ynt. Y gwyddfodolion a. ganiataodd iddo fyned yn mlaen a'i ebwareu heb ei hysbysu o'i amryfusedd. Ac am iddynt atal eu tafod rhag cyfarwyddo y beili collfarnwyd hwynt gan y. Barnwr Beresford! Gwragedd oedd y gwyddfodolion a ddaliasant eu tafod yn benaf y tro hwn! Gallant hwy fod yn ddistaw pan y mae byny yn ddyledswydd arnynt er dwyn barn i fuddugoliaeth yn nghythrwfl y degwm. Mawr obeithiaf na thyr y gwragedd en calon yn yr ymdrach glodwiw o fod yn ddistaw oherwydd i'r Barnydd Beresfordeu condemnio am hyny. > # Maentumia y Deon Owen fod gwrthod talu y degwm yn anfoesoldeb! Syna na fuasai arweinwyr Anghydffurfiaeth yn codi eu llais yn erbyn y pechod cyhoeddus hwn! Tebyg yr ystyriai Deon Owen hi yn bechod i ddyn waeddi pan yn dioddef dan orthtwm I Trecha ireched, gwana gwaedded," sydd ddiareb yr hoff wn gael barn y Deon arni. Tebyg y eyfrifai y rhan flaenaf yn rhinwedd pur a'r rhan olaf yn feiddgarwch rhonc os nad yn annuwioldeb anfaddeuol. Ar ol gwaeddi cyhyd am Ddadgysylltiad a Dad- waddoliad heb fod y Weinyddiaeth Doriaidd yn talu dim sylw, na'r Rhyddfrydwyr ddim llawer tra y maent wrth y llyw, pa fodd y gall y gorthrymedig waeddi yn erbyn deddf orthrymus ond drwy ei mathru dan draed gyda dirmyg digymysg ?
COLOFN Y CLECION.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
COLOFN Y CLECION. -Fel hyn yr englynodd Dewi Maddwy, Man- ceinion, i enethig feehan dlos i gyfaill iddo:— Nag aur yr wyt rageracli—ni welais Anwylyd o'th dlysach; Nid oes yn wir feinir fach Ar oleuni wawr lanach. —Wele englyn gan ua o feirdd Cymru i Die Shon Dafydd pregethwrol:— Diurddas yw gwrthod arddel—o'i fodd Iaith ei fam oruchel; I'w osod yn ddigon isel, Mae eisieu i Jack gael mis o Jel! -Prawf diweddar o athrawiaeth y "pechod gwreiddiol "-y pecynau gwreiddiol." —Dywedir fod y galon ddynol yn debyg i wely pluf-rhaid ei thosio a'i phwnio, ei throi a'i hys- gwyd, i'w cbadw rhag myned yn galed. —Yn etholiad cyffredinol 1886, yn Mhrydain,, rhifai yr Undebwyr 77; y Ceidwadwyr, 316; y Gladstoniaid, 192; a'r Parneliaid, 85. Fel y can- lyn y saif y rhif yn bresenol: Undebwyr, 68; Ceidwadwyr, 307 Gladstoniaid, 209; Parneliaid, 86. Yr oedd mwyafrif yr Undebwyr yn 1886 yn 116; eu mwyafrif yn awr a chyfrif y Llefarydd ydyw 79. —Dywed naturiaeitiwyr fod ymenydd dyn yn lleikau fel y mae yn heneiddio. Eglura hyny pa- ham na wyr yr hen bobl ddim, tra y mae dymon ieuainc iawn yn gwybod y cwbl, a chryn lawer yn rhagor. -Pat; (yn cael ei ollwng i lawr i ffynon) "Stop. ia, Murphy; mae arna' i eisio d'od i fyny." Murphy: (yn para i'w ollwng i lawr) "I beth, Pat ? Pat:" Stopia yr ydw 'i yn deud wrthat ti. Os na stopi di y fynyd yma, mi doraf fi y rhaff." —Y BACHGENYN DIREIBUS.—Ysgrifena y Bur- lington Hawkeye am y bachgen bach direidus fel y canlyn Tra yn myned heibio i un o'r ysgoldai y dydd o'r blaen, clywem y plant yn canu, "0, fel y carwyf fy anwyl athraw I" Yr oedd yno un bach- gen gyda llais fel udgorn yn canu mor frwd- frydig, fel y pwysleisiai ar bron bob gair, a rhuai allan, 0, fel y carwyf fy anwyl athraw gydag yni na adawai un amheuaeth yn nghylch y peth. Ddeg mynud ar ol hyny, yr oedd y bachgen hwnw wedi ei wneud i sefyll ar y llawr am roddi cwyr crydd ar gadair ei anwyl athraw; cael tri o farciau drwg am dynu Ilun ei athraw ar gefn llyfr; cael ei ysgwyd yn dda am roddi pin gam yn set bachgen arall; ei ddwrdio am chwibanu ei dded- frydu i aros ar ol, wedi i'r ysgol ollwng allan, am wneud mystas inc ar ei wyneb, a duo trwyn bach- gen arall; ei guro yn dda am daflu tri chant a deugain o beleni papyr at y ceiling, a thaflu un.fawr i glust un o'r genethod Ni ellwch gredu haner yr hyn a ddywed bachgen pan yn canu."
Advertising
Advertising
Cite
Share
ONE BOX OF CLARKE'S B 41 PILLS is warranted to cure all charges from the Urinary Organs, in either sex (acquired, constitutional), Gravel and Pains in the Back. Guaranteed from Mercury. Sold in Boxes 4s 6d each, by all Chemists and Patent Medicine Vendors; or sent for sixty stamps by the- Makers. THE LINCOLN AND MIDT I COUNTIES DRUG Co., Lincoln. Wholesale, Barclay A.JMnsi. Farringdou St. aad at the Wholesale Honsesi
IHEL Y DEGWM.
News
Cite
Share
cenhedlaethau i ddyfod yn edrych arnynt gydag edmygedd diolchgar. Ni fydd cwtogi ar yr offeiriaid yn ddim anfantais foesol iddynt beth bynag, efallai y dioddefa y cnawdol a'r materol dipyn, bydd yr ysbrydol ar ei fantais, canys y mae Ilawer o honynt yn gofaluam y corph yn rhy dda, yn ymbesgi fel erbyn dydd lladdedigaetb, yn lliwio eu gwynebau a'r botel sydd yn felldith i'n gwlad, i'r cyfryw rai bydd ychydig newyn o achos rhyfel y degwm yn foddion gras, yn gynorthwy ni a obeithiwn iddynt fyfyrio fod byd ar ol hwn, fod barn fanol, fanol i sefyll o'i blaen, a.c na chaiff meddwon etifeddu teyrnas Dduw." Gwir nadydym ni fel gweinidogion Ymneill- duolyn hollol rydd oddiwrth yr un peth, ond mentsaf ddweyd ein bod yn mhell o flaen ofEeiriaid yn yr ystyr yma, welais i ddim un offeiriad yn gweithio efo dirwest, mi glywais am un yn Nghymru, eithr y mae yn ffaith nodedig fod dylanwad yr ofiEeiriaid bron yn ddieithriad o blaid arferiadau ym- yfawl yr oes. Nid oes genyf ddim un dig- ter na welais at un offeiriad yn Nghymru, nid yn erbyn y personau yr ydwyf, ond yn erbyn y drefn gan eu bod hwy o ochr y drefn sydd yn anysgrythyrol ac yn annghyfiawn yn ol fy marn i, ni ddisgwylir i mi i'w harbed. Gallesid meddwl y buasai offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn ddyuion dewr a'u gwynebau fel callestr yn erbyn pob math ar ddrygioni, o herwydd eu sefyllfa anni. bynol mewn ystyr arianol ar yr eglwysi, fel y dywedai un Hughes, offeiriad gynt yn Llandyfriog, Castell Newydd, wrth nhadcu: Mae'n wael, meddai, ar y pregethwyr Ani- bynol, mae pob hen wraig yn eistedd ar eu hachos hw, 'does gyda ni ddim ond yr esgob, a ta'r cynllwn ynddo, chlywith e ddim o'r cyfan. Tra yr ydym ni fel pregethwyr Ymneill- duol yn byw ar ewyllys da yr eglwysi, er hyny ydym yn lawer o flaen boneddigion annibynol Eglwys Loegr i godi ein llef yn erbyn drygioni a phechodau yr oes; mae gyda ni eglwys gyfan i edrych ar ein hoi, a theimlwn ein cyfrifoldeb iddynt a'n hym- ddibyniaeth arnynt, am hyny ymdrechwn ofalu, tra y mae sefyllfa annibynol offeiriaid Eglwys Loegr fel iheol yn felldith iddynt ac yn anfantais i achos crefvdd, drwy nad oes dim awdurdod gan y bobl, mae y bobl gyffredin yn well crefyddwyr na'r mawrion, mae arolygiaeth y bobl yn fendigedig o lesiol. Gan hyny, ffermwyr Cymru, parhewch i guro ar yr Eglwys, parhewch i wrthod talu y degwm. fel y eaffom gydraddoldeb crefyddol heb fod yn faith, a diameu y bydd yn fen- dith i'r Eglwys yn y pen draw. Bu hir gwyno yn Nghymru ar y fferm- wyr am eu gwaseiddiwch a'u llwfrdra gwleidyddol, ond erbyn heddyw yr ydych wedi profi yn y frwydr ddegymol fod gwaed dewr yr hen Frythoniaid yn rhedeg yn eich gwythienau, dangoswch ysbryd bunanym- wadol y merthyron, yn foddion dyoddef er mwyn egwyddor; fel yr wyf yn falebach bob dydd fy mod yn hanu o ffermwyr Cymru, ie, o ffermwyr gofalus a dewr Sir A berteifi, y rhai a enwogasant euhunain yn achos rhyddid yn etholiad 1868.