Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
CODWCH FANER DIEWEST,
News
Cite
Share
CODWCH FANER DIEWEST, Codwch faner Dirwest, Codwch hon i'r lan, Galwch bawb i ddeffro, Rhyfel fo'n mhob man; Daeth y gelyn medd'dod, Eto'n uwch ei ben, Mynwch goncro'r ddiod, Feibion Cymru Wen. Ysbryd drwg y gwydryn, Nycha iechyd llu, Dyga fwyd a dillad Gwag yw llawer ty. Gelyn yw i'r Cymry, Gelyn yw i'r nef; Gelyn 'nawr a bythoedd Yw y ddiod gref. Dagrau ein chwiorydd, Angau brodyr cu, Briwiau coch yn gwaedu, Saethau newyn du, Dirmyg gwyr estronol, ''0 Griddfan Seion Duw, Sydd yn galw'r Cymry'n Awr i fod yn fyw. Keinion.
CYNWRF Y DEGWM.
News
Cite
Share
CYNWRF Y DEGWM. CAN DR. E PAN JONES. Mae yn y S.W.D. News am Awst 22, lythyr maith o eiddo rhyw John Owen Llanelwy, ar y cyffro gwrth-ddegymol; er fy mod yn anghydweled ag ef yn holiol, ar athrawiaeth fawr y degwm, rhaid i mi addef ei fod yn hollol gyson ag ef ei hun yn ol y safle o'r hon y aaae yn edrych ar y degwm, ie, yn llawer mwy cyson na'r rhai sydd yn gwrthwynebu talu y degwm heb gael 2s, 3s. neu 4s yn y X yn ol. Athrawiaeth gloff ac anhymig yw hon ac aid wyf yn gallu cyd- ymdeimlo a hi o gwbl, ond byddaf yn eydymdeimlo yn drwyadl a'r rhai sydd yn gwrthod talu un ddimaa, er yn ol eu hymresymiad hwy eu hunain nid oes gan- Jj* 0 hawl iddo fel personau nag sydd genyf finau iddo, canys dywedaut hwy, mai am ei fod yn U eiddo y genedl," y gwrth- odant dalu. Wel mae rhan o hono felly o angenrheidrwydd yn perthyn i mi, ond y mae yn syn lmiobaley cafwyd allaa fod y degwm yn fwy o eiddo y genedl na'r rhent, yr wyf yn sicr, gan nad pwy osododd y cry hwn i fynu, nad oedd erioed wedi astudio y pwnc, a gwn nad oes, ac nas gall neb gredu y fath ffiloreg ond iddo gymeryd amser i holi ei hun, gan bwy yr oedd hawl i roddi y degwm a chadw y naw rhan arall. Mae yn canlyn llythyr yr Owen hwn ohebiaeth a fu rhwng un Roger Edwards, Glanaber, Llanfyllin, a'i landlord J. M. Dugdale yr hwn sydd newydd ddyfod i feddiant o'r tir a ddelir gan Roger Edwards. Wrth wneud cytundeb a'i denantiaid dymuna Dugdale osod i fewn adran yn eu rhwymo i dalu y degwm, a'r hyn nid yw Roger Edwards yn cydweled, ac ymddengys y S. W. D. News fel pe yn edrych ar yr ohebiaeih hon yn gaffaeliad mae ganddo erthygl arweiniol ar yr achos yn yr hon y condemnir Dugdale yn ddiarbed am ryfygu o hono osod talu y degwm yn amod wrth rentu ei dir, ond o'm rhan fy hun nis gallaf weled dim o le yn hyny, unwaith y cydnabyddir fod y tir yn eiddo y landlord ar ba sail y gellir ei alw igyfrif am iddo ddewis ei amodanei hun wrth ei rentu. Mae addef mai Dugdale bia'r tir ac ar yr un pryd amau ei hawl i wneud fel y myno ag efyn rhedeg yn erbyn rheswm a chysondeb. Fet y mae gan bereh- enogion tai hawl i osod i lawr amodau wrtb dderbyn ymwelwyr i letya,-nid oes diodydd meddwol i ddyfod i'r ty, rhaid iddynt ddyfod i fewn erbyn deg o'r gloch, ni chaniateir iddynt dderbyn cwmni ar y Sabbath, eaniata pawb fod hawl gan bercbenogion tai i I ddyweud fel yna, ac os na fydd yr ymwelwyr yn caru yr amodau, wel mae iddynt roesaw i fyhed lie y rnynont. Felly Roger Edwards gyda'r tir. Wel, nid yw y Dugdale hwn mwy na llawer o landlords o'r un nodwedd, yn gwneud dim yn groes i gyfraith y wlad, yr oedd y gyfriith mewn bod drwy y blvnyddoedd, ond yr oedd yr hen landlords yn byw yn well na'r gyfraith, a hyny a'll fod y bobl yn lied gyffredin yn byw fel yr oedd- ynt yn dymuno. Nid yw Dugdalp. yn gwneud dim ond gosod mewn ymarferiad yr awdur- dod a roddwyd iddo, y camgymeriad yw caniatau mai efe yw perchen y tir. Diolch i Dugdale am osod y gyfraith bon mewn gweithredia.d a bydded i ryw yspryd gyn- hyrfu ugeiniau o landlords i fod o "gyffelyb feddwl, nes y byddo i'r S. W. D. News a'r cyhoedd yn gyffredin ddyfodi weled gwrthuni 1 syniad mai eiddo y landlord yw y tir, a chodi ati i'w gymeryd o'u gafael.
[No title]
News
Cite
Share
Llanfairfechan. — Cynhaliwyd Eisteddfod Gerddorol ar raddfa eang mewn pabell ar gae Mr J Evans, Bronparc, dydd Llun diweddaf. Rhanwyd y briflwobr, sef 10p., rhwng Corau Nantlle a Caer- narfon drwy farn Eos Morlais. Canmolai egni y c6r lleol,—" Gl aula van," a'i arweinydd ymroddgar, Mr T John Owen. Cadeiriodd Syr John Puleston, A.S., mewn un cyfarfod, ac yr oedd yn bresenol yr ysgrifenydd enwog, Mr Walter Besant, Llundain. — Gok.
IHEL Y DEGWM.
News
Cite
Share
I HEL Y DEGWM. [GAN MR. D. FF. DAVIS.] Ymddengys fod casglu degwm drwy nerth heddgeidwaid a milwyr wedi dechreu eto yna gyda chwi yn y gogledd, da genyf weled fod gwrthddegymwyr y gogledd ddim wedi rhoddi i fyny yr ysbryd degymol, matnt eto yn gadarn yn y ffydd a gynyrchwyd ynddynt er's pedair blynedd yn ol. Diameu genym fod gwrthocl talu y degwm yn Nghymru wedi gwneud mwy na dim, ac na'r oil gyda'u gilvdd er rhyddhau yr Eg- lwys oddiwrth y Llywodraeth yn ISTghymrii a. Lloegr, oddieithr efallai Ddadgygylltiad & Dadwadioliad yr Eglwys Wyddelig gan Mr Gladstone yn 1869. Cynghorai Mr Chamberlain ybobl pan oedd yn perthyn i'r ffydd Radicalaidd am gyffroi a chadw cryn stwr er mynid yr ethol- fraint i'r siroedd; felly y mae Cymru wedi gwthio pwnc Dadgysylltiad yn y blaen gyda'r arwerthiadau degymol. Credaf ein bod yn hollol iawn mewn tafia pob rhwystr ar ffordd gweinidogioa eglwys nad ydym yn ei hymofyn, i godi eu cyfiogau, cynyd ag y byddom ddim yn tori y gyfraith wrth wneud hyny; mae yn eithaf cyfreithlon i ni i beidio talu ond drwy rym cyfraith, mae yn lawn i ni hefyd i wneud i'r arwerth- wyr a'i bwmbeiliaid, &c., i fyned yu. ol a chadwat lythyren y gyfraith wrth atafaelu a gwerthu eiddo y ffermwyr eri i'r offeiriaid a'r Dirprwywyr Eglwysig gael meddiant ar eu harian anghyfiawn; eithr sangir ar yr ymylon os na thorir y gyfraith wrth gamdrin yr amaethwyr, &c., pan fyddant yn cadw o fewn i lythyren y gyfraith, tra na fyddai yn feius i'w rhwystro drwy nerth corfforol, os byddent yn troseddu rheolau y gyfraith yn ei gweinyddiad. Y sefyll allan perffaith, feddyliwn i, fyddai fod y ffermwyr yn gwrthod talu, ond heb daflu unrhyw rwystr anghyfreithlon ar ffordd yr atafaelwyr, dioddef y cyfan mewn ysbryd athronyddol a chrefyddol gan greda yn ddiysgog yn ngallu gwirioaedd er yn gweithio yn araf, ac ar yr un pryd cael sawd fel sydd genym yn y De i ddigolledu'r ffermwyrac amddiffyn achosioik mewn llys- oedd barn os gwneir camwri a hwynt. Dywed yr apostol rywle, Dioddefasoch eich ysbeilia ya dawel er mwyn achos yr Arg- lwydd lega; gwna ffermwyr Cymru hyny y dyddiaa hyn, dioddefant mewn amryw ffyrdd dros yr egwyddor o gydra-ddoldeb erefyddol, ac os na chant y parch dyledus yn eu dydd, bydded iddynt gofio ybydd