Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

ADRAN YR ADOLYGYDD.

News
Cite
Share

ADRAN YR ADOLYGYDD. GAN D. S. D., CAERFYRDDIN. Gwilvm Morgan, a'i Amserau: Gan Ellis o'r Nant, Dolyddelen. Pris Is.—Ar ffurf ffug- chwedl y mae y llyfr hwn, ond sicrha yr awdwr mai hanes gwirioneddol am gyfiwr yr oes hono yw y gwaith. I bob Cymro a ddymuna wybod dan loa amgylchiadau y caed y cyfieithiad Cymreig rhagorol o'r Ysgrythyran gan y Dr Gwilym Morgan y mae y llyfr bychan hwn yn anmhris- iadwy. Oes baby ddolac oes dywell iawn oedd yr oes hono. Nid oes angen dweud tywyllfar 01 y pabyddol—mae'r ddau air yn ymarferol gyfystyr. Dengys y llyfr fod Cymry yr oes bono mor selog pabyddion ag ydynt yn awr o Brotestaniaid. A dyry i ni olwg alaethus ar sefyllfa pethau yn Mhrydain yn y dyddiau hyny, Byddai darllen y llyfr hwn yn ddigon i beri i'r Cymro mwyaf difraw synu at y gwahan- iaeth dirfawr sy rhwng yr oes hon a'r oes hono. Dyma'r prawf goreu a ddodwyd yn nwylaw Cymry erioed o werth Cristionogaeth i'n gwlad. Cynnwysa doraeth fawr o waith darllen. Mae yr awdwr yn greadur rhyfedd. Gellid meddwl ei fod wedi byw yn oes y mynachod Cymreig- gan mor gyfarwydd y mae yn eu banes. Llwyddodd i ysgrifenu y gwaith yn ia th yr oes bono. Mae y cymeriadau sy ynddo yn dra am- rywioI-ond mae yr awdwr wedi llwyddo i'w gosod allan yn eu hiaith eu bunain yn bynod natnriol. Pan mae y brenin yn llefaru yr ydym yn teimlo ein bod ger ei fron. Yr un modd y teimlwn wrth ddarllen areithiau yr esgob a'r offeiriad, sohr nea feddw, y mynach grwgnach- llyd, a'r ustus erlidus, a'r beirdd a'r crythorion, y doethion a'r ffyliaid, a'r hael a'r hunanol—y maent oil yn fyw o'n blaen yn niwyg yr oes hono. Nid peth cyffredin, yw y gallu hwn. Mae llawer ysgrifenydd wedi ceiaio gwneud hyn, end nis gwyddom am neb/wedi llwyddo yn well nag Ellis o'r Nant-ac eithrio Hiraetbog, brPEiii y nofelwyr Cymreig yn y cyfeiriad hwn. Flynyddoedd yn ol cefaiswir hyfrydwch ac adeil- adaeth wtth ddarllen "Nanws Aeb Rhobert" 0 waith Ellis o'r Nant, a pharotodd hyny fy meddwl i ddisgwyl gwledd i'm hysbryd Cym- reig wrth ddarllen Gwilym Morgan." A'm cred yn awr yw y dylasai Ellis wneud y llyfr hwn yn fwy o lawer nag ydyw. Y mae ya dwyn Cymeriadau rhyfedd i'r golwg dro neu ddau yna diflanant heb un gair ychwaneg o'u hanes. Mae hyn yn cren chwilfrydedd poenus i'r darllenydd, yn enwedig am Malen Wyllt a Chadwgan y Mynach. Ymddengys fod maes eang yn aros nofelwyr Cymreig yn nghyfnodau hynafol eu cenedl eu hunain. Gobeithiwn yr a Ellis o'r Nant yn ei flaen tuag yn ol fel hyn i adgyfodi hen banesion dyddorol a diysbydd gwabanol gyfnodau banes Cymru. Da fyddai 1 ieuenctyd Cymru brynu "Nanws Ach Rho- bert a Gwilym Morgan er mwyn ymgydna- byddu a iaith gref a brawddegan miniog yr hen Gymry. Yn lie dweud wrth ddyn ei fod yn feddw chwil dywedid "yr wyt yn poeri'n fyr iawn." A chanmoliaeth uchel i feirdd oedd eu bod yn canu ar eu bwyd eu hunain a llawer o ymadroddion eyffelyb. Mae un linell arall yn ngweithiau Ellis o'r Nant, y mae yn hanesydd athronyddol. Gwelir hyn yn ei sylwadau ar y deddfau a gyhoeddwyd i wahardd y "behdd crwydrol fel eu gelwid, ac i wahatdd i offeir. iaid bregethu allan o'u cylch cyfyng eu hunain. Dengys mai y canlyniad o hyn oedd fod y Cymry yn myned i fethu deall eu gilydd. Ac mai o hyn y daeth yr anhawsder mwyaf i gael cyfieithiad o'r Ysgrythyrau mewn iaith ddeall- adwy i wahanol ardaloedd-hyd nod i ardal- oedd cyfagos, heb son am y rhai pellaf oddiwrth eu gilydd. Y gwir yn fyr yw-y mae yn « Gwilym Morgan" ddefnyddiau cyfoethog i'r darllenwyr mwyaf meddylgar. Efail y Gof: Ymddiddanion ar Brif Bync- iau'r dydd gan y Parch D. Oliver Edwards. Cyhoeddedig gan Mrs Evans, Swyddfa Seven Cymru yn Nghaerfyrddin. Pris Is.—Ail-ar- fraffiad yw hwn, a dethohad o ysgrifau dyddorol dan y penawd uchod y blynyddoedd diweddaf yn Seven Cymru, sef newyddiadur wythnosol Cymreig y Bedyddwyr. Y materion a drinir ydynt: Y cyfarfod gweddi ar noson wlawog; 14r Amen wedi ro&fw; A yw yr arias wedi myned o'r wlad ? Mae digon o arian at bob- peth ond erefydd; Bedd Sion Gybydd Randy bach" a'r Weinyddiaeth; Y modd y treulir dydd Nadolig; Ffrewyll i gefnau offeiriaid calon-ga!ed; Lladd y gweinidog; America a Phrydain Pwffyddiaeth cwnayddol, pregeth- wrol, a mynwentol; Y Toryaid yn euHibiQ Gladstone; Y Toryaid a'r Rhyddfrydwyr Un- debo]; Cymeriadau drwg yn yr eglwysi; Eis- teddfod y Degwm Anghladd y degwm Helynt wrth ddewis gweinidog; Penodiad ynadon; Ty yr Arglwyddi; Eglwys y degwm; Bendithion dadgysylltiad yn y Werddon; Cadw dyddiadur -cofnodion rhyfedd; ymweliad y Frenhines a Chymru Home Rule Pills; Ymeillduwyr Toryaidd-dynion gwellt; Brwydr y degwm Tirfeddianwyr didrugaredd; Prydles capeli Ymneillduol; a-manion dyddorol eraill yn gyd- weuedig a'r uchod. Brithir yr ''ymddiddan- ion" a Ilawer o chwedlau difyrus. Y mae ynddynt werth llawer swllt o ddifyrwch diniwed ac o wybodaeth faddiol, ac y maent yn berffaith iach yn y ffydd Ryddfrydol. Pennawd o briodoldeb amheus i'r ymdriaiaeth hon yw Efail y Gof. Dan y pennawd hwn disgwyliem lawer o amrywiaeth yn yr areithiau-y rhan fwyaf yn llefaru mewn iaith gartrefol a gwledig a rhyw un o honynt yn fwy dysgedig na'r lleill. ODd yn yr Ymddiddanion hyn nid oes dim i wahaniaethu rhwng Jones a Die a Sion a Gru ffydd a Walter ac Arthur a Hugh a Morgan a Sam a Daniel. Llefarant oil yr un iaith a'r un rbesymau a'r un cymhariaetbau a'r un pethau a'r un ffordd. Maent yn rhy debyg i'w gilydd. Oliver Edwards yw pob un o honynt. Yr unig gymeriadau neillduol yw Mr Parry (yr Eglwys- wr) a S on y Gwaddotwr a Mallen. Mae Parry a Mallen yndal yr un cymeriad o'r dechreu i'r diwedd. Mewn saerniaeth nid yw Efail y Gof ganmoladwy. Nid mewn dialogue y mae nerth Mr Edwards. Mae y Gymraeg hefyd yn cael cam. Nid oes wahaniaeth yma rhwng byddai a buasai, gallai a gallasai, a gellid a gallesid, ceid a cawsid, &c. A Cbymraeg amheus yw "tiawer i ddyn," "anibell i ddyn," Gwn am lawer i un ag sydd yn," Mae genych lawer i spouter poblogaidd," Mae llawer i eglwys yn Nghymru wedi," atnbell i waith," llawer i botelaid," &c. Mae yr i ddwywaith hefyd yn aml-gwall cyffredin y Deheudir. I ddyn i wneud, i gael ganddo i weithio. Mae'r wlad mor loyal heddyw ag erioed i'w eu hen arwein- ydd," Yn perthyn iw eu corlan." Mae amryw wallau ieithol eraiti yn britho y llyfr megis: "ei bod yn Jaw arddercbog i wneud" yn lie yn llaw ardderchog, &c. "Clywais hen wraig fy mam" yn lie clywais yr hen wraig fy mam. Peth cyffredin yn y cylchoedd hyn yw dyweud hen wraig fy mam fel pe byddai'r fam yn cadw hen wraig. "Clywais hen wr fy nhadyn dweud." Byddai yr o flaen y naill a'r llall yn gwneud y cwbl yn ddiamwys. Mae yr i a'r i'w ei yn cael ei drin yn eglur gan P. A. M6n mewn ad- olygiad ar wallau ieithyddol Brutus ar y t.d. 130 o'i Athrawiaeth Bedydd a argraffwyd gan W. Evans, swyddfa Seren Gomer yn N ghaetfyrddin, drigain mlynedd yn ol. Mae Mr Edwards yn perthyn yn nes na ni i P. A. Môn, a thalai yn dda iddo astudio y tudalen uchod. Er mwyn eraill ni a gyhoeddwn sylwadau P. A. Mon yn y Celt. Ond mewn gwiriouedd nid ydym yn cyfrif fod Mr Edward? ar ei oreu-llenyddol yn Efail y Gof. Brychau yw y pethau hyn oil. Y Cvonicl am fis Awst.—Hwn yw y rhifyn cyfoethocaf a ymddangosodd er ye cryn amser. I ddechreu ceir darlun o H. M. Stanley a chryn- hoad Hawn n brif ddygwyddiadau hanes ei fywyd. Llawn digon o fanylion hefyd i ni allu ymgydnabyddu a'n harwrr Yn nesaf cawn ysgrif bechadurus o fer gan Eynon ar y Cymry fel Pregethwyr Seisnig. Dim ond dau dudalen gan Eynon Davies ar y fath bwnc a hwn Rhaid addef ei bod yn ysgrif gyniiwysfawr-liawer mewn ychydig. Ond y mae yn creu syched am ychwaneg-a chauwyd y ffynon!! Nid sychu a wnaeth, ond cauwyd hi rhagom. Yr oeddwn yn synu clywed Eynon yn dweud nad ydyw yn draethodwr. Dyma fi ar ben Mri. Gol., gwn nad wyf wedi gwneud haner cyfiawnder a'r testyn, ni fu'm erioed yn gallu ysgrifenu traethawd, ac ofowyf nad oes fuwr gobaith i roi allu gwneud byth, Dichon y caf 'hamdden dro arall i wneud yn well." Gobeith- iaf mai iaith gostyngeiddrwydd yw peth fel hyn. Yna cawn bregeth dda ar Bywyd"dyn a, dysgeidiaeth SataD," gan Mr Davies, Soar, Aberdar. Dylai y brawd hwn ysgrifenu yn aml- ach. Yna cawn don yn y Sol-ffa gan D. V. T. Nis gallaf fi ar Sol-ffa oni byddaf yn gwybod y don yn flaenorol. "Sol-ffeais i'm Sal-ffuant yw hi arnaf fl. Yn nesaf cawn yr ail bennod ar y Doctor Arthur Jones o Faugor.gaia Llew Tegid. Dyma yr ysgrif fwyat difyrus yn y rhifyn. Ac y mae mor dda nes codi ofn na pliery y fath ddefnydd- iau yn hir. Gobeithio fori digon ar ol am flwyddyn i'r Cronicl. Nodiad am Stanley a'i Feibl.-Tri tuda!en a haner o newyddion y mis yn wleidyddol, CEefyddol a chyffredicol. Ni chafodd hyd nod y Cronicl erioed well crynhoad o newyddion na'r Cof a Chadw" am Awst. Treuliau cymharol dwy genhadaeth dramor- cymdeithas yr Annibynwyr a chymdeithas y Wesleyaid. Cyflog cenhadon yr Annibynwyr Y,50 y flwyddyn yn llai nag eiddo y Wesleyaid. Treuliau eraill hefyd gryn dipyn yn llai.—Cynyg ffurfio Cymdeithas y Lili wen i feithrin diweir- deb.—Yna ysgrif lafurus a dyddorol gan D. Wynne Evans ar "Ail-ddyfodiad Crist." Da genyf fod Mr Evans wedi cymeryd at y maes hwn-maes cymharol ddisathr gan y Cymry— arweinia hyn ef i roddi esboniad newydd ar lawer o adnodau. Mae adeiladaeth i'w gael o'r maes hwn pa un bynag a gytunwn a chasgliadau Mr Evans ai peidio. Da genyf glywed y bydd yr adgyfodiad cyntaf y mis nesaf.-Pigion i'r Plant: Rhybudd pwysig oddiwrth angau a'i gwmni-Congl Gotta. Mr Williams, Rhiwlas,. Llanwddyn, a Mr a Mrs Roberts, Ty Capel,. Great Mersey Street, Hynlleina.d.—Congi yr Ysgrifenydd-Nodion ar Newyddion y mis, a Barddoniaeth. Dyma ddysglaid fawr o'r blasus- fwyd goreu, am Ddwy Geiniog Marwnadau: I'r diweddar Barch. T. Penr Evans, gan Rhidian Rees, Pecclawdd. Pris 3c. 1'r diweddar G. V. Bowen, Ffynondruidion, Abergwaun, gan Dafydd Morris. Argraffwyd gan D. L. Jones, (Cynalaw), Briton Ferry. Gwnaed sylw ar gan dlws a thyner y bardd a. Benclawdd o'r blaen. Er cystal yw y canu ar ol T. Penry Evans, byddai cyfrol dda o'i bregeth- au swynol a hynod o wreiddiol yn gof-golofn 4 mwy anfarwol i'w goffadwriaeth ua dim a all y beirdd mwyaf profedig ganu am dano. Mae byn yn rhy.fedd. Nid oedd neb yn Nghymru yn ysgrifenu ei bregethau yn fwy manwl nag Evans, Pontardulais, ac eto yr wyf yn methu cael er chwilio fod y rhithyn Ileiaf o obaith y cyhoeddir dim o'i waith. Pa le y mae ei lawysgrifau ? A. oes rhywun a etyb? Ai ni wyr Towyn Jones,- Cwmamman rywbeth am danynt ? Neu ryw frawd arall? Byddai yn resyn i'r type hwn o bregethwr gael ei golli yn hollol. A byddai yn go lied genedlaethol. Yr wyf yn ofni mai dyna fydd ein rhan wrth bob arwyddion a welwn hyd yn hyn. Dyn rhagorol yn mhob ystyr oedd y diweddar G. O. Bowen. Diwyd a dystaw yd- oedd. Cyfaill ffyddlon i'r Celt a'i bleidwyr. Dylid cael cofiant am dano yn y Celt a'r Cronicl. Bu yn ddiacon heddychol a defnyddiol am lawer o flynyddau yn Eglwys Rhosycaerau. Ai ni allai ei weinidog, Mr James, roddi ysgrif fer am danb? Pan ymwelais ag Abergwaun a>ehlywed ei fod yn gystuddiol, oherwydd fy adnabyddiaeth o'i ffyddlondeb mynais er peth trafferth gael my Bed 1 Ffynondruidion i'w weled. Mae yn dda iawn. genyf hyny erbyn hyn.

Advertising