Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
CYMDEITHAS LLAFAR GWLAD.
News
Cite
Share
CYMDEITHAS LLAFAR GWLAD. «{Bywyd ac enaid y gwyddoregau diwedd- arydyw cytuha-ru'r naill beth a'r llall," ac nid oes wyddoreg y mae hyn yn fwy gwir am dani ua gwyddoreg iaith. Trwy gymharu geiriau'r naill iaith a geiri^u'r llall, a ffurf- iau graoaadegol y naill a ff urfiau gramadegol y llall y mae ieithegwyr, yn d'od i wybod pa iettboedd sydd yn tarddu o'r un ffynhonell, a pha berthynas sydd rhyngddynt a'u gilydd ac y maeut yn galhi olrbain yn ol i'r ffynhonell gwyddant pa fath iaith a siaradai y Celtiaid cyn id iynt ymwahatKi yn Wyddelod a Chymry, ie, fe wyddant pa lath iaith oedd gan yr Ariaid cyn iddynt ymwabanu yn Geltiaid, a Theutoaiaid, a Groegwyr, a Lladiniaid, ac IndiaiH, oblegid y mae ieithoedd yr hoil bobloedd byn yn tarddu o'r un gwreiddyn. A chan fod ieith. tgwyr yn galla olrhain yr hen iaith Ariaidd, y maent trwy hyny yn gwybod pa fath fjwyd oedd ar ein hynafiaid, a pha ley trigent, pannad oedd eto wahaniaeth rhwng Cymro a Sais, na rhwbg Oymro a Groegwr. Trwy ddilyn iaith onrhyw gehedl gallant ddilyn banes a. hetynt ei phobl (nid ei brenhinoedd a'i duciaid y mae'n wir), ond hanes,ei pholl fet ped ysgrifenid ef mewn llyfr. Y mae'r gwaith hwn i gytnharu'r ieithoedd Ariaidd (ac ieithoedd ya perthyn i deuluoedd erail) befyd) yn prysur fynedyn ei flaen, gwirioneddau newydd yn dyfod beunydd i'r amlwg, a. goleuit newydd ar hanes y cenhedloedd ond y mae un gwyn i'w darlien o hyd yn ysmor'feniadau'r Ysgol- heigion sydd yn brysur gyda'rgwa:th hwn, sef, fod gwybodaetsi yn nghylch yr ieithoedd Celtaidd yu brio—" pah fydd yr ieithoedd Celtaidd wedi gildio'u holl gyfrinion" medd- ant, neu pan wybyddir mwy am yr ieith- oedd Celtaidd." Fe ddechreuwyd chwilio i mewn i hanes yr ieithoedd Celtaidd yn y dull cymharol diweddar gan Almaenwr o'r erw Zeuss, ac y mae amryw ys^olheigion Qwyddelig a Chymreig (ie, ac Aitnaenwyr a Fraacwyr hefyd) wedi llafurio yn y maes wedi hyny, a Phroffeswr Rbys yn arbenig, ond byddin fecban ydyw yr un Geltaidd wrth y byddinoedd fu'nymladd mewn meus- ydd ieitbegol eraill. Ac onid yw Cymry gwladgar yn barod i roi help Haw iddynt ? Y mae'r ieithoedd Celtaid 1 yn dra phwysig, hwy sy'n pertbyn agosaf i'r ieithoedd Ltæd. inaidd, a chyn y bydd iddynt ildio'u boll gyfrinion rhaid cael gwybodaeth fanwl am eu holl ffurfiau. Cyn y bydd ysgolheigion Cymreig yn gwybod cymunt am Gymraeg ac a wyr ysgolheigion Saisaig am Sèjisneg, rhaid i ni groniclo holl ffurfiau a geiriau llafar yr iaith Gymraeg, ?r»egis ag y mae'r English Dialect Society wedi gwneud i'r iaith Seisneg. Y mae pob ffurf a ysgrifir vn gyffredin yn sathredig ac an^hywir yn tafia rhyw oleuni ctr yr iaith trwy eu cymharu a ffurfhu eraill trwy gydmaru miawn' Sir Fon a I tyiewn' Sir Feirioriydd, a 'miwn' Sir Aberteifi yr olrheiniwyd tarddiad y gair i'w wreiddyn, median-u,-m. Er mwyn ceisio gwneud hyn o waith y sefydlwyd Cym- deithas Llafar Gwlad" mewn cysylltiad a Cboleg- y Gogledd, a rhag i'r Cymry fod ar ol cenedloedd ereiU yn ngwybod yr iaith sydd anwyl ganddynt, a gomedd yr hyn sydd deilwng iddi trwy guddio dan lestr y goleuni sydd ganddi i'w daflu ar ieithoedd eraill Ewrop. Taer erfynir ar bob Cymro sy'n caru ei iaith ymuao a. Chymdeithas Llafar Gwlad. Dymaswyddogion. y gymdeithas:- Llywydd, y Tywysog Lucien Bonaparte, yr ieithegydd enwog a'r ysgoior Celtaidd is- Iywvddien, yParch GarionSitvan Evans, y Prifathraw Reicbel, y Proffeswr Rhys ysgrifenydd, Mr J. Morris Jones; trysorydd, Mr L. D Jones. Y mae i'r gymdeithas ys- griferjyddion lleol yn mhob cwmwd bron yn r NgogleddCymru ond nid yN'r rhestr yn gyf- lawn eto, fe ddisgwylir ychwanegu deg neu ddeuddeg neu ragor ati. Bydd i'r ysgrifen- yddion lleol dderbyn enwau aelodau. i'r gymdeithas, ac os cant ddigon o enwau, tfurno cangen-gymdcithas yn eu hardal i ymdrin a gohebiaethau a'u hanfon i'r ys- grifenydd i'w cyhoeddi yn ngweithrediadau'r gymdeithas. Y mae rhai gohebiaethau wedi eu hanfon eisoes. Derbynir pob math o eiriau llafar, yn enwau ar anifeiliaid a llys- iau a- thelynau a chwareuon a Ilyfon der- bynir chwedlau wedi eu hysgrifenu yn yr iaith lafar, a phenillion a dyriau sydd ar lafar gwlad. Ac er mwyn i'r holl oheb- iaethair fod yn unffurf, dymunir ar i bawb eu hysgrifenu yn hollol fel y lleferir hwynt, yn ol y cynllun a osodir alian yn y cyfar- wyddiadau. Y mae copiau o'r cyfarwydd- iadau hyn i'w cael gan yr ysgrifenydd neu gan vr ysgrifeayddion lleol. Y tal aelodaeth yw haner coron yn y flwddyn, y flwyddyn yn dechreu yr un adeg a'r flwyddyn golegol, set ar y laf o Hydref. Eithros bydd neb a allai fod o fudd i'r gymdeithas yn analluog i dalu'r tanysgrifiad, gallai berthyn i gangen- gymdeithas yr ardal heb fod yn aelod o'r Gymdeithas, ond hyderir na theimla neb fod y tanysgrifiad yn ormod. Cynhygia'r gym- deithas wobrau o 5 gini a 2t gini yn Eis- teddfod Bangor am y casgliad goreu & fater wedi ei barotoi yn ol rheolau'r gymdeithas. Wele restr (anghyflawn) o ysgrifeayddion lleol MON.—-Caergybi, y Parch W. R. Jones Amlwch, y Parch D. Lloyd Jones Dwyran, y Parch J. Williams; Llangefni, Mr B. Davies; LIanfair P.G., Mr J. Owen, Board School; Pentraeth, y Parch W. Prichard Aberffraw, y Parch J. Thomas. AKFON.—Bangor, y Parch J. Puleston Joues; Caernarfen, Gwyneddon; Bethesda, Mr Iwan Jentyn, F.MH.S.; IJanberis, Mr Edward Fonlkes; Waenfawr, Mr R. O. Jones Cricieth. y Parch J. Owen, M.A. Llanfairfechan, Y Parch W. D. Roberts; Llandudno, Teganwy Dolwyddelen, Elis o'r Nant; Beddgelert, Carneddog Clynnog, Hywel Tudur; Clwtybont, Alafon. DINBYCH.-A bergele, Mr J. R. Ellis; Liangwm, Elis Wyn o Wyrfai; Dinbych, Mr R. Prys Jones, Board Schools L.1an- gollen, Proff. Silas Morris; Colwyn Bay, Mr Eiias Hughes; Nantgiyn, Elldeyrn; Rhuthyn, Emrys ap Iwan. MEIEIONYDD.—Llandri) lo, Parch E. J. Willims; Bala, Parch Michael D. Jones; Corwen, Parch H. Cernyw VViJliams Dinas Mawddwy, Mr Charles Ashton Pennal, y Parch Hugh Ellis; Dyffryn, Gwilym Ar- dudwy; Tywyn, Gwynedd; Trawsfynydd, Mr Jones, Yr Orsaf; Ffestiniog, Mr G. J. Williams; Llanuwchllyn, Mr IEan T. Davies Abermaw, Parch Gwynoro Davies. FFLINT.-Pedr MostynFflint, Parch Jonah Jones; Llanelwy. Glanffrwd; Wydd- grug, Parch T. Shankland; Ca^ergwrle, Parch T, R. Lloyd; Bodffari, Taliesin Hir.. aethog Rhesycae, Parch Uwchlyn Jones. TREFALDWYN. — Machynlleth, Mr J. Rowlands, cyfreithiwr; Cemmaes, Mr D. Evans, chemist; Llanidloes, Parch N. Cya- hafal Jones Drefnewydd, Mr R. Williams, F R.H.S.; Welshpool, Parch Maurice Jones; Llanfaircaereinion, Meiriadog; Meifod, Parch E. Griffiths; Llanwddyn, Parch T. H. Evans Llanfyliin, Mr J. Jones, Y.H.;Croes.. oswallt, Mr Owen Owen. Liverpool, Mr Isaac Foulkes. Rhoddir rhestr helaethach o ysgrifenyddion lleol ar fyr amser. Fe geir pob hysbysrwydd am y gymdeithas a'i hamcan ond gyru at yr ysgrifenydd mygedol, Mr J. Morris Jones, Coleg y Gogledd, Bangor.
MISS HELEN TAYLOR YN MANGOR
News
Cite
Share
MISS HELEN TAYLOR YN MANGOR Nos Fawrth diweddaf bu y foneddiges dalentog tschod yn cynal cyfarfod yn Ysgoldy Eben^zer, i egluro y cwestiwn o hawl y bobl i'r ddaear. Cymerwyd y gadair gan Mr W. 11 uw Rowlands, cyfreithiwr. Yn ystod araeth faith a dyddorol dangosodd y ddarlithyddes mor ddibynol ydym oil ar y tir amein hymbortb, a'o dillad, a'r fath ormes ydyw fod hawly ddaear yn y Deyrnas Gyfunol yn nwylaw ryw 30,000 (deng mil ar bngain) o landlordiaid, p% rai sydd wedi dyfod 1 feddiant ohono drwy ladi-ad a nerth cyfraith. Dywedd am dir Groeg, fod y ddaear yoo yn eiddo i'r bobl, ac nad oedd yno nebyn dioddef angen ac eisieu, ac befyd fod pob plentyn yu cael addysg rydd a rhad, er eu cychwyn yo briodol ar yrfa bywyd. Cynygiwyd diolohgirwch i Miss Taylor gan v Cynghorwr,Henry Lewis, yn cael ei I ei)io gaa y Cyaghorwf J. Price, Coleg Normal- I aidd.
NODXADAU. T
News
Cite
Share
-<:r Sirol i'r Iwerddon, fel y mae genym ni. I Sonir befyd am geisio rhyw gynllun i enill y dosbarth gweithiol o'u tu, ac mai dyna amcan Mr Goschen yn penderfynu gwneud ei oreu i aicrhau dicgelwch i'r ychydig arian a gynilir gany gweithwyr rhag iddynt fyned i ofal twyllwyr, fel y mae wedi bod yn rhy ami yr amserafu. Diamheu genym y bydd i bob plaid wieidyddol deimlo mwy oddiwrth y gweithwyr o flwyddyn i flwyddyn, ond y mae yn anmhoeibi i ni ddeall pa fodd y gall yr un gweithiwr fod yn Dori, oherwydd hanfod Toriaeth ywrhoddi ffafrau i'r bendefigaeth ar drauly werin a'r miioedd. 0 TRETHU YN ANGHYFIAWN. Un o'rangtyfiawnderau m wy af mewn cysyllt- iad a'rtir ydyw fod y bendefigaeth wedi srwneud eyfreithiau fel na raid talu nemawr ddim o dreth ar y tir. Nid ydyw yr hyn a dderbynir oddiwrth diroedd y wlad mewn treth (land-tax) ondrhywle tua|2,000,000p. y flwyddyn,tray mae yr hyn a elwir yn eiddo personol yn talu 45,000,000p. Mae y ffigyrau hyn ar unwaith yn dangos y fath anghyfkwnder a, gormes y mae mwyafrif pobl y wiad hon yn ei oddef yn slafaidd, ac wedi ei oddef er's canrifoedd bellach, a'r syndod yw eu bod yn parhau i wneud felly. Ond yr wythnos ddlweddaf mae Oyngbor Sirol Arfon wedi symud yn y mater, drwy bleidlais o 30 yn erbyn 11, a gobeithlwn y dilynir eu hesiampl gan gynghorau a byrdd- au y deyrnas i gyd. Y OyngoryddlJ. Spinther James a gynygiodd—"Fod y cyngor hwn o'r tarn y dylai perohenogion prif ardrethoedd tir adeiladu, ardrethoedd meirw, aphobmath o royalties, gael eu gorfodi i gyfranu tuag at y trethi lleol, a chael eu trethu am y swm a dderbynient oddiwrth yr eiddo wedi talu yr holl gostau; fod deiseb yn cael ei hanfon i Dy'r Cyifredm, o dan sel y oyngbor, yn erfyn am y fath gyfnewidiad yn y gyfraith ag a gyrhaedda yr amcan a nodwyd; fod deiseb hefyd yn cael ei hanfon at Fwrdd y Llywodr- aeth Leol yn erfyn at rod. mesurauyn cael eu cymeryd i ddwyn y mater gerbron y Senedd jaor fuan ag y byddo yn bo-sibi;. ac. fod cais yncael el. wneud at yr aelodau dros y sir i roddi i'r deisebau eu cefnogaeth wresocaf." Wrth gefnogi y penderfyniad, cyfeiriodd y ceifnogydd at y ffaith nad oedd neb o'r tirfedd- ianwyr,'ar hyn o bryd, yn cyfranu dim at un- rhyw dreth yn y wlad nac hyd yn nod at welliantau a gerid allan ar eu heiddo hwy eu hunain. Hyd yn hyn yr oedd y ddwj blaid boliticaidd yn y wlad wedi methu trin y cwes- tiwn ya holiol; ac felly, dyledswydd y Oyng- horau Sirol, fel cynrychiolwyr y bobl, ydoedd siarad allan yn gryf adigamsynlolerysgubo ymaith y blotyn du hwn ar ein cyfansoddiad deddfwriaethol.