Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
"', BARDDONIAETH.
News
Cite
Share
BARDDONIAETH. MR JOHN PARRY, LLANARMON. Mawr enw gan Gymry union—a gaiff Y gwr o Lanarmon Daw i ryddid arwyddion—dydd hyfryd Mae yn agoryd yn nhrem ein gwron. Arswyd i glyw y Person "—yw geiriau Hen gerub Llanarmon; Noda'i Serf, ofnadwy ffon-ddiwygiad A dadgymaliad y degymolion. Pedeoo. Y TORPEDO. Anferth dorpedo vnfjd—yw dyfais Diafol i ddymchweIyd; Arf rhyfel ar for hefyd Yrr i'w bcdd lyngesau'r byd. T. LODWICK. DYFODIAD Y GWANWYN. Mae'r gwanwyn wedi d'od, A bywyd yn ei god, Yn elfen fyw! Ac adar, fawr a man, Yn nghoedy llwyn a gan, 0 beraidd fonwes lan. Eu mawl i Dduw. Ceir brithyll yn y llyn, Ac wyn ar ael y bryn, Ya chware'a fwyn. Am ddyfod eto waw r 1 d'w'nu ar ein llawr, Yn ngwen yr haulwen fawr, Heb ehwerw gwyn. Amaethwr ar y ddol, Sy'n bwnv had i'w chol, J Mewn gobaith lIawn Am ffrwyth ei Hfur blin, Wrth drol y tir ai dria, Dan lawer math o hin, Oedd enbyd iawn. Ei fonwes sy' ar dan, Nes etlyn ynddo gan, Foreuol gerdd, Wrth weled anian dlos, Yn gwenu ar y rhos, Tu ol i'r dyweil nos, A'r ddaear werdd. Mae'r nef a'i gwawr yn Hon, Uwchben ein daear gron, Heb gwmwl du; Y gauaf yn ei fedd, A natur fawr iiaewn hedd, A'i theulu yn cael gwledd, Y gwaawyn cu. Mor dlws y briall Ií1ân Ar ddaear werddlas Ign, Arddunel fron 0 wanwyn aros, saf Nes daw y cynes haf, 1 adnewyddu'r claf I iechyd lion Bala. G. O. PARRY. ENGLYNION A gyfansoddwyd ar ol gwrando y Parch. D. S. Davies,Caerfyrddin, yn darlithioar "Arwyddion yr Âmserau." Areithiwr, o waed Brython—y w Davies, Un difyr, twymgalon; Rhoddodd ini arwyddion Helaeth, iach, drwy'r ddarlith hon. Dyn gwlad yn dwyn goludoedd—ydyw Ei adwaen wna miloedd Ei eiriau 'hwnt i foroedd—fawrygir, A'i enw odlir gan bell genhedloedd. Rhyddid yw ei arwyddair—yn wgus Dirinyga bob anair; Yn y byd ei enw bair—yn enwog, A cheir yn hwyliog barch i'r anwylair. Mesura'n wych yr a.mseroedd—a'i rawnwia Gyfrana i'r cy hoedd; Diwyllio'r diadelloedd-wna*n gywrain A daw i'w harwain at y dyfnderoedd. Dwrn dig ar bennefigaeth-a esyd Rhy wasaidd fu'ntalaeth Adeg fa ar Gymru'n gaeth, Ha! gwelwn fuddugoliaeth. Di-ildio yw, Cymro i'r earn-i'w wlad, Al-e'n bleidiwr diragfara; Ergydiwr yw gwir gadarn, Cawr o'i fodd, cywir ei farn. Y gwron ya hawdd gerir—was crefydd A'i ysgrifell berchir Heb awel groes, einioeshir-o lwyddiant Hedd a mwyniant iddo a ddymauir. Llanfyrnach. Philip Dayies (Ap Myrnach)
NEWYDDION CYMREIG.
News
Cite
Share
NEWYDDION CYMREIG. BetHEsoA.—Tanysgrifiadau at Gapel Bethesda. -Trwy law David Williams, Station—0. E. Wil- liams, 2s 6c; Alice Williams, 2s 6c; Cyfaill, Is; symiau llai, Is; casgliad Rheoboth, 3s 9c; Miss Williams, Ty Calch, Is. Trwy law William .Roberts, Glasfryn-Griffitb Roberts, Is; Babert Williams, Is; Owen Jones, Is; symiau llai, 2s 6c. Trwy law John Williams, Tanrhirdir, 10s. Trwy law Griffith Jones, Mills Row, Festitiiog-Rev. W. P. Huws, 2s 6c; Evan Lewis, 23 6c; William Jones,2s 6c; John Parry, Is; Richard Jones, Is; Thomas Roberts, 18; Joseph J. Jones, Is Richard Jones, Is Griffith Parry, Is Griffith Jor.es, Is; Robert Williams, la; J. Davies,, Is; symiau llai, 3s 6c.-R. Hughes. Dolyddelen. — Cyfarfod Pregethu. — Cynhal- iwyd ef fel arfer Sul a Llun y Pasg. Pregethodd y Parchn. Pari Huws, B.D., W. P. Williams, Waenfawr, ac R. Roberts, Rhos, i gyaulleidfaoedd lluosog.—Goh. Tynewydd, TreherbeRT.—jEXenezer.—Mawrth 22ain, cynaliwyd cyfarfod ymadawol Mr Thomas Davies, yr hwn t'u ddiacon ffyddlawn yn yr eglwys nchod. YmfGda i Wilkesbarre, Pa. Dadganwyd gan y cantorion alawon priodol i'r amgylehiad. Tystiolaethodd amryw o'r brodyr yn dda neillduol am y brawd. Hyderwn y caiff roesawiad teilwng gan ei gyfeillion y tu draw i'r Werydd.—Cyfaill. Merthyr Tydfil.^—Salem.—Traddodwyd dar- lith ragorol yma ar H. W. Beecher," Mawrth 26ain, i gynulleidfa luusog gan y Parch. D. G. Williams. Gan fod Mr Williams mor adnabyddas fel pregethwr hyawdl a phoblogbidd, ac fel lienor galluog yr oedd dysgwyliadau mwyaf uchel am y ddarlith, ond profodd ei ymddangosiad cyntaf hwn fel darlithydd, fel y dywedodd Mr Hough, Ynys- gau, pan yn cymeryd rhan yn y dioichiadau, Yn anfeidrol uwch na dysgwyliadau neb." Dadgan- wyd dymuniad i Mr Williams draddodi yr un ddar- lith eto mevvn adeilad eangaeh yn y lie er mwyn i holldrigolion y drefgaely fraint o'i chlywed, a dy- wedodd y eadeirydd, W, L. Daniel, Ysw., Prif Gwnstabl y dref, y byddai yn hyfrydweh ganddo gymeryd cant o docynau ei huu. Cyflwynodd Mr Daniel lythyr i Mr Williams a, dderbyniodd oddi- wrth y diweddar H. W. Beecher. wedi ei ysgrifenu a'i law ei hun. Myned holl Anibynwyr Cymru giywed y ddarlith penigamp hon.— R. H. Cakrfykddin.—Priodas y Proffeswr Walter Evans.—Yr oedd llawenydd cyffredinol yn y dref yn mysg eyfeillion y boneddwr haeddbarch uchod ar ei briodas A Miss Curtis. Yn mysg lluaws o amlygiadau o edmygedd, cyflwynwyd iddo lestr arian prydferth ar ran holl fyfyrwyr y Coteg Henaduriaethol. Yr oedd geiriau eymhwys wedi eu cerflo ar y Ilestr yn datgan anwyldeb mwyaf y myfyrwyr i gyd at Mr Evans a'u dymuniadau da iddo ar vr achtysur. Pasiodd y Pwyllgor Anibynol dro yn ol benderfyniad cynhes yn ei longyfarch ar ei benodiad i gadair Prifathraw y Coleg.—Goh. O'R GONWY i'r Ogwen.—Agorwyd y Co-opera- tive Stores newydd yn Penmaeuinawr gan Mr Darbisliire, yr hwn sydd wedi aberthu llawer er mwyngwneud help sylweddol4i'r:gweithwyr Y mae y capelau am y prysuraf yn cynhal cyn- gherddau y dyddiau hyn, mae modd blino ar y pethau goreu.-—-Gauafol yw yr hin wedi bod yn ddiweddar, ond. ■eafwyd Pase kafaidd ddigon, a daeth nifsr luosog o ymwelwyr i'r lie, fel yr oedd yn hawdd deall wrth y gynulleidfa. yn nghapel yr Anibynwyr Seisnig ar y Sul.-Nos Fercher diweddaf bu Kemion yn rhoddi hanes ei daith i'r America yn nghapel y Wesleyaid, Llanfairfechao. Bu hir ddisgwyl am dano, or diwedd cafwyd ganddo i roddi yr hanes, a gwnaetbi hya yn wreiddiol fel pob peth arall, defnyddiodd swyn lusern (magic lantern) i egturo y ddarlith. Mae y testyn yma mor gylfredin. nes y mae fel buwch wedi ei godro yn sych, ond cafodd y gynulleidfa a wrandawodd Mr Thomas deimlo fod yn bosibl gwneud darlith ar America yn newydd ac adeiladol Dydd Gwener y Groglith cyuhaliwyd cyfarfod pregethu biynyddol Gcrizim, a chafwyd pregethu melus gan y Parchn. Williams, Rhuddian, a James, I Caergybi.—Gwallter,
Advertising
Advertising
Cite
Share
»■ ,.),V un i. TYSTIOLAETH UNFRYDOL Y BYWYD. MAI MEDBYGIHIAETH ANGHYKHAROL YW HUGHES'S DROPSY PILLS At y Clefyd Blin ag y maent yn ^.wyn ei eaw Wrth t nodau canlynol 'on aanabod y Clefyd os bydd wedi ga+ael >d ynoca:— Diffyg Dwfr, Gravel; Chwya.1 j n v Traed, Cliniau, Ymysgaroedd. &c.; Gwynt a Llawnder yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a. Chwsg y Cluniau, Asthma neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stift'dra yn y Oprfif, &c. Y rbai ydyat-brawf sicr o bresenoldeb y DKOPSY n y cyfansoddiad, ac y mae yn bwysig peidio sgeuluso defnyddio M eddyg;niaetli ar ol teimlo un 'r nodau uchod, Trwy anwybodaeth a diffyg ofal goddefir i'r clefyd marwol hwn i sefydlu a wreiddio yn y cyfansoddiad cyn sicrhau y Feddyginiaeth Briodol, ac felly terfyna yn angeuol i filoedd yn flynyddol. Er sierhaugwellhad buan a sicr, dylai pob dioddefydd sicihau Blychiad o'r PILLS BYD- ENWOG. sef HUGHES'S DROPSY PILLS. EFFEITHIAU R HYPE DDOL AR WYNT A- DWFR, Ysgrifena y Parch. W. M. Jones, Gweinidog y Bedyddwyr yn Ebbw Vale. « Yr wyf wedi fy awdurdodi i anfon y dystiol- aeth ganlynol gyda'r bwriad i chwi wneud uarhw ddefnydd cyhoeddus ohoniafernwcb. yn briodol er Uosad dynoiryw. Ymwela/s a Evan Francis yn ddyidiol, ac yr oedd cyflvmder gyda pha un y gostynsjwyd y chwydd annghyffreditt y peth mwyaf rhyfeddol yn iy ngolwg i. Y mae Evan Francis ynhen wr 66 ml wvdd oed. Dioddef- odd yn ddrwg oddiwrth y DROPSY yn ystod y gauaf diweddaf. Y r oedd wedi ruyned yn llwyr anallnog i ddyfod o'i wely gan y Chwydd a'r Poen yn ei Gefn, Ymysgaroedd, a.'i Goesau Yr oedd yn barhaus o dan ofal y meddyg, ond er hyny myned yn waelach oedd bob dydd. Nid oedd neb yn meddwl y gallai wella mwyach. Yn unol achynghor roddwyd iddo, treiodd HUGHES' DROPSY PILLS." Oddeutu y pedwerydd dydd wedi iddo ddechreu eu cymeryd, ymddangosai arwyddion ei fod yn dyfud yn well. Cysgodd y bedivaredd nos, yr hyn uad oedd wedi allu wneud am wythnosau cyn hyny. Cafodd y PILLS yr effeithiau rhyfeddaf ar y GWYNT a'r DWFR. Yn mhen oddeutu wythnos yr oedd y Chwydd yn e Goesau wedi d'od i lawr o 24 modfedd i 12 modfedd.. • • V mae yn awr mor iach fel y mae yn gallu treulio wythnos oddicartref. Ymae yn teimlo o dan rwymau i wneud ei wellhad cyflym a rhyfeddol yn hysbys i'r cyhoedd fel y byddo i eraill i allu treio y FEDDYGINIAETH WERTHFAWR HON. Y mae Gwyr, Gwragedd, a Phlant yn mhob gwlad wedi derbyn budd anrhaethadwy o'u defnyddio. Ugg= RHYBUDD Er mwyn sicrhau pawb rhag twyll, gofaler cael y Trade Mark llun Diamond) at geiriau DROPSY rILLS" oddifewn arbob blwch, a'r enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am la lie, 2s 9c, a 4s 9c trwy y Post, Is 3c, 2s 11e, a 4s 9e oddiwrth y Perchenog— JACOB HUGHES, D.S., A.PH.S., Manufacturing Chemist, PBNARTil, CAEDirF. Goruchwyliwr ynAmerica-MR R. D. Williams, Chemist, &c., Plymouth, Pa., gan yr hwn y gollir cael hefyd "GoMEU'S BALM a Hcohe's Dropsy Pills."