Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ADOLYGIAD AR

News
Cite
Share

ADOLYGIAD AR Ysgrifau y Parchn. D. Edwards, Casnewyid, ac E. Roberts, Caernarfon, yn y Geninen."—• Yn ol egwyddorion sylfaeno] pob cymdeithas wladol ac eglwysig, iihyddfrydig yw-mai y bobl sydd yn ymgynull i'r adeilad, ac sydd yn talu am yr boil dreuliau, yw iawn berchenog- ion yr adeilad hwnw, ac nid rhyw greaduriaid ymyrgar sydd a digon o bres yn eu gwyneb i haeru mai hwynt-hwy yw gwir feddianwyr y ty a adeiladwyd gan eraill Gan fod Mr Ed- wards yn honi fod y Corph Methodistaidd yn rhyddfrydig iawn yn ot standards y Corpb, mynwn weled pa beth ddywed y Manuards ar y mater dan sylw Mae Cymdeithas Fisol pob sir (sef y Cwrdd Misol) i olygu pethau allanol achos Crist yn ei sir, sef adeiladu capeli, trefnu moddion i ateb y draul berthynoli hyny. dewis a gosod ymddiriedolwyr (trustees) lie bynag yr adeiledir bwynt, meddianu a diogelu y gweithredoedd a fyddo yn perthyn iddynt, a gofalu am gael gweithredoedd ac ymddiriedol- wyr newydd ar hen gapeli, yn ol fel byddo angenrhei Irwydd yn trofyn."—Constitutional Deed, tudal 27.—Cyffes Ffydd, 36 a 37. Mae y darllenydd. fe ddieiion, yn barod i ofyn wrth weled nad oes llais gan yr eglwysi yn nglyn ag adeiladaeth y capeli os mai y Cwrdd Misol sydd yn talu yr holl dreuliallperthynol i'w hadeiladaeth ? Gellir ei ateb nad oes nemawr i geiniog yn llaw y Cwrdd Misol at unrhyw achos ondyr hyn y mae yn ei gael gan yr eglwysi. Mae yn hen greadur gwelw iawn. Yr oedd amryw o'r Cyfarfodydd Misol a gyn- hahwydynyRoek yn costio i'r eglwys £10. Nid y Cwrdd Misol oedd yn cynal ei hun, er ei rwysg, ond yr eglwysi; a phan y mae yr eglwysi wedi decbreu cael digon arnn, mae flolwg wael ar y s^fydliad. Pa le y mae rhyddid-eglwysi y Corph P Mae Mr Edwards wedi bod yn ceisio rhoddi tipyn o baenti loywi ychydig ar y rheol uchod trwy ddweyd nad yw y rheol yn dreisgar, am fod yr aelodau ya gwybod am dani pan yn ymaelodi. Clywais p ef liynyddau yn ol yn beio yn fawr am ang- hyfiawnder sydd yn nglyn a phrydlesi y tafr ond os yw yr eaboniad uchod yn gywir gyda golwg ar gapeli y Corph, pa fodd y mae anghyfiawnder yn nghyfundrefn y prydlesi ? oblegid y maeadeiladwyr y tai yn cytuno a'u gorbhrmywyr fel yr ymostynga yr aelodau Methodistaidd i'w gormeswyr hwythau. Nid yw trais yn bechod ond ymostwng yn wir. foddol iddo, yn ol dysg yr hen athraw Ed. wards, ac nis gall godineb fod yn bechod yn ol y daysg uchod pan mae y pleidiau yn gwy- bod am y fasnach, ac ambell swllt yn pasio befyd. Ac ar ol i'r aelodau dalu am adeiladu eu capeli, ac i'r glymblaid hon gael ei thalu am edrych dros amgylchiadau yr adeiladwaith, mae yr un glymblaid fechan sydd yn. mynychu y gymanfa, yn honi yr hawl i'w taflu allan o'r capeli ymaentwedl colli yv toll chwys i enill yr arian i dalu i'r giwaid haerllug yma, a gwrandawer ar lais Edwards yn y Qeninen ar y mater hwn :—" Y bwrir allan i'r beol y defnyddiau llosgadwy, a gwagheir y capel at wasanaeth pobl eraill a fyddo yn addaw ei ddefnyddio yn fwy er anrhydedd yr efengyl. Dealler mai nid mewn theory y mae hyn yn I unig, ond gweithredwyd yn y modd hyn amryw weithlau." Mae efe yn fwy llawen wrth daflu dynion da i'r heol a gwaghau y capel, nag yw rhieni wrth orfod taflu dros y troth wyryw fechgyn melldigedig o'u heiddo, yn enwedig pan y caiff efe swllt y pen am eu crogi fel y cafodd yn y Rock, ac y mae yn gweled diffyg mawr mewn Anibyniaeth am na byddai y gallu hwn yn perthyn i'r cymanfaoedd. Mewn eglwys Anibynol y maey galla, i benodi ym- ddiriedolwyr iddi ei hun, ac eiddo yr eglwys ydyw yn 01 Anibyniaeth, ac nid yw efe yn hofii yr hands off sydd yn perthyn iddi wrth yr ymyrwyr tu allan. Nis gall eglwys Fethod- istaidd gymaint a cbyfnewid tipyn ar y capel heb ofyn cenad y Cwrdd Misol, ac nis gall yr un eglwys berthynol i'r Corph werthu y capel er adeiladu un yn well, ac mewn lie mwy cyfleus, beb gael cenad o'r Gymanfa, ac yn wyneb hyn gwelir mai ynfyd yw gosodiad Mr Roberts fod eglwysi y Methodistiaid yn hollol rydd yn eu gweithrediadau. Eto, yn nglyn a'r rheol dan sylw, mae y nodiad canlynol ar waelod y ddalen yn y Oyffes Ffydd. tiidal 37; "Ir dyben o gau allan bob athrawiaethau cyfeiliormis, nid yw yn oddefol i neb bregethu ond pregetbwyr y Corph yn un o'r capeli sydd yn perthyn i'r Corph, ond trwy gaaiatad y blaenoriaid ac ymddiriedolwyr y lie, a hyny dan olygiad Cymdeithas Fisol eu sir." Gwelir nad oes dim gallu gan eglwys Fethodistaidd i ganiatau i'r un pregethwr o enwad arall breg- ethu yn ei chapel; ond y mae y gallu hwn gan eglwys Anibynol. Gwtthodwyd i'r di- weddar Barch. W. Williams, o'r Wern, breg- ethu yn nghapel y Methodistiaid yn Llan- gollen, ond rhocldw ycl Ile iddo bregethu mewn ty tafarn yno. Yn ol iaith y Corph am dy tafarn, dywed mai synagog satan ydyw. Os felly, yr oedd satan yn fwy parod i roddi benthyg ei synagog i Williams i bregethu Crist ynddo nag oedd "Shon"i roddi benthyg ei gysegr ef iddo. Nis gall yr un eglwys Fethodistaidd roddi cenad i ddyn ieuanc i ddechreu pregethti heb genad y Cwrdd Misol, naneb a fyddo wedi ei fwrw allan o'r swydd, gwel Cyffes Ffydd 35. Dywed y Gy£fes 27 am y rhai a dderbynir yn aelodau, Eu bod yn cadw addoliad Duw yn eu tai, o leiaf ddwy waith yn y dydd; eu bod yn llywodraethu bawb ei dy ei hun yn dda, ac yn maethu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Yn ol y rheol uchod rhaid i bob aelod gadwaddoliad yn ei dy, pan mae canoedd o aelodau heb fod yn meddu ar dai eu hunain, ond tai eraill. A "maethu eu plant" a chauoecld o'r aelodau i heb fod yn meddu plant. Nid oes pfentyn gan Mr Edwards. Mae darllen a gweddio yn perthyn i'r addoliad teuluaidd, a chanoedd heb fod yn alluog i ddarllen, ac os byddai rnerch neu fachgen yn rhy wan i allu cyflawni y gwaith yn gyhoeddus mewn teulu gelvniaethus, beth sydd i wneud ag ef, caiff y rhaglith sydd yn y CyffesFfydd o flaen y rheolau siarad— "Ac nid oes derbyniad rhydd a pharh-aol ineb fel aelodau o'r cymdeithasau neillduol yn eiti plith, heb gydsyniad ac ymgais difrifol am gydffiu-fiad a hwynt." Gan hyny, dy ma nhw yn ddiarddeledig bob un yn ol y rheolau, nad oes "rhyddid i neb godi dadl yn erbyn y rheolau hyn." Yr oedd y pregethwyr a fu yn gwneud y rheolau ar eu teithiau am wythnosau, ac felly, nis gallasent gynal addoliad yn eu tai eu hunain bob dydd ddwy waith o leiaf, yr bya a ofynai y rbeol, ac yn methu cario yr iau. eu hunain a fuont yn eu rhoddi ar eraill. Mae y rheol gyntaf yn "Nghyfansoddiad y Corff," tudalen 34 yn tori pob Methodist allan, am fod yrhyn a ofyna uwchlaw gallu pob un, "Ac i gydymgynull unwaith yn yr wythnos, yn neillduol, heblaw i gyfarfodydd cyhoeddus ar y Sabbothau ac amserau eraill." Nid oes yma son os byddyn iach, nac yn gallu myned, ond m*if i 9*? Rhyddfrydig hwn yn rhwymo pob aelod 1 addaw yr hyn sydd anmhosibl iddo lw gyflawni. Gan hyny, beth feddwl y dar. llenydd o ddarluniadau y ddau ysgrifenwr o Fetbodistiaeth yn y Geninen !— William Jones (Asaph Gwent), Gwrhay, Blackwood, Mon.

"PA FUDD SYDD I'R CYMRQ,"…

NODIADAU.