Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL O'R DE.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL O'R DE. GAN AP Y FRENI PACK. Yr oeddwn yn barod i dderbyn y newydd am fawr ostyngiad y mwyafrif yn rhanbarth y Gower. Da oedd genym er hyny i Mr D Randell gael ei ddychwelyd, er nad oedd ei fwyafnf ond 606. Y naae genyai wersi pwysig i'w dysgu oddiwrth y frwydr hon. Nid yw y gostylgiad i'w briodoli i unrhyw gyfnewidiad sydd wedi cymeryd lie yn marn. y werin ar bynciau y dydd ond i ddylanwadau personol. Y mae Mr J. T. D. Llewelyn yn dra adnabyddus drwy yr etholaeth, tra nad oedd Mr Randell yn adnabyddus iawn ond i un dosbarth yn unig. Ac y mae yna eto lu mawr o bob! ydynt yn rhy ddiystyr o egwyddorion Yn mhellach, y mae yn bur debygol fod amryw wedi cadw draw, os na phleidleisiodd rbai o blaid y Tori am iddynt gael eu siomi mewn perthynas a Syr Horace Davey. Yn hyn fe gymer y Gymdeithas Ryddfrydol wers i fod yn fwy pwyHog a gofalus yn y dyfodol, a diau y myn y gweith- wyr gynrychiolaeth decach ar ei chynghor. :¡¡, Ond pwysicach na'r oil ydyw y ffaith amlwg mai rhanol iawn y daeth y gweithwyr allan o blaid eu hymgeisydd en hunain. Pe b'ai y gweithwyr ond bod yn ffyddlon ac unol gallent ysgubo yr oil o'u blaen, ond cefnogaeth wael ar y cyfan o roddodd gweithwyr Gower i un- rhyw etholaeth arall ddyfod allan a chynrych- iolydd ilafur. Hysbysir ni fod yn y rhanbarth yma 7,000 o weithwyr yn meddu pleidlais, ond ni chafodd Mr Randell ond ychydig gyda haner hyny o bleidleisiau a chyfrif yr oil. Gwir nad oeddent barod ar gyfer y frwydr, ond dylent fod yn mwy parod nag oeddent. Ac er an- mharoted oeddent, dylent wneuthur gwell gwaith nag a wnaetbant. # Ond y mae yna ffaith arall hefyd a ddylem gadw mewn cof. Fe fu un dosbarth o weith- wyr yn yr etholaeth yn rhy frysiog yn eu dewisiad. Nid ydym yn awgrymu y gallent wneuthur unrhyw ddewisiad gwell, ond y mae yn bur sicr y byddai corff mawr y gweithwyr yn yr etholaethynmwy brwdfrydig dros y cynrychiolydd ilafur pe caent fwy o chwareu teg ar y cychwyn i'w ddewis fel eu hymgeisydd. Ond bellach y mae y frwydr drosodd, ac ni a hyderwn fed pob teimlad erbyn byn yn iach. A theimlwn yn hyderus yr ysgoir v tro nesaf bob peth a duedda i ranu v gwahanol ddos- barthiadau o Ryddfrydwyr yn yr etholaeth. Ac ond gofalu am hyn yn Nghymru gallwn ddisgwyl yn fuan alltudio pob Tori o'r wlad. Yr wythnos ddiweddaf aeth y son ar daen fod Mr Dillwyn, yr aelod seneddol egniol dros Abertawy, yn bwriadu rhoddi i fyny ei sedd. Pan glywodd MrDillwyn y newydd, fel yr hen bererin hwnw yr aeth y son am dano ei fod wedi marw, teimlai yn bur sier mai anwiredd oedd. Ni fwriada. prif arwr y Dadgysylltiad yn Nghymru ymddiol o'r maes hyd oni ewy. llysio ei etholwyr iddo wneyd. Bydd raid i ryw gyfnewidiad rhyfedd ddyfod dros Rydd- frydwyr Abertawy cyn y cymer hyny Ie. Mawr obeithiwn y bydd y cysylltiad rhwng crefydd &'r llywodraeth wedi ei lwyr ddifodi cyn y cymerir Mr Dillwyn oddiwrth ei waith at ei wobr. Gweithia Rheithor Defodol (nid dyfodol, fel y mynai y Du Bach wneyd y gair yn ddiwedd- ar), Merthyr, yn egniol iawn o blaid y Dad- gysylltiad, ond, wrth gwrs, heb fwriadu, yn y mesur lleiaf gyflawni y fath gablaiddwaiih. Y mae ei ystranciau naor chwerthinus, a'i athraw- iaethau mor wrachiaidd, nes y mae bron a gwneyd Eglwyswyr sobr yn fwy brwdfrydig dros Ddadgysylltiad na'r Ymneilldnwyr eu hunain. t dydd o'r blaen, bygythid taflu dynes ieuanc dros drothwy yr eglwys os canai mewn cyngherdd a gynhelid gan eglwys Ym- neilldiiol-neu feallai mai ei hesgymuno o'r cor a ddylaswn ddyweyd. Canu a wnaeth y ddynes ieuanc, nid ydym eto wedi clywed y canlyn- iadau. Car i ni, ag sydd yn derbyn y Celt er y rbifyn cyntaf, mewn llythyr atom heddyw, a. ddadgana ei fawr awydd i'w weled yn cael ei helaethu, nid yn ei ysbryd, ond yn ei faint. Dymuniad hiraethus am lwyddiant y Celt a'i egwyddorion sydd y tu cefn i'r cais hwn. Y mae llu mawr o gyiEelyb awydd. Daw dydd y gellir pob peth, ac y ca pawb eu dymuniad. Ond nis gwn pa bryd. Diolchwn i'n cyfaill am ei eiriau caredig.

CRONICL Y SENEDD.

CYMRY CYHOEDDUS.