Hide Articles List

1 article on this Page

NEWYDDION CYMREIG.(

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. ( Nant, COEDPOETH.-Rhyfedd mor dueddol ydyw rhai pobl i wneud camgymeriadau, o ad. iladu cestyl I yn yr awyr, ac o saethu allan o honynt at bersonau a chymeriadal1 diniwaid, fel ag y gwneir yn yr ardal hon at enw Sarah Jones, fy ngeneth i, yr lion sydd hyd yn hyn yn lan oddiwrth y cyhudd- iad a roddir yn ei herbyfi; ond edryciied y cyfryw rhag y bydd i'r cestyll hyn ddyfod i lawr am eu penau hwy en liunain, a'u niweidio yn y fath fodd na ch;lnt gyfle i wneud Lyn bytli yn rhagor. Gwn o ba chvarei y coclwyd y gareg gyntaf, a pha fodd y treiglwyd hi allan, ac os bydd rhywun yn awyddas i gael rhagor o wybodaeth na hyn, deuant yma, a chant wybod yr holl genyf.-Richard Jones (Penrhyil, Fardel). Cakkdydd.—Mae symudiadau llongau y Meistri Evan Thomas, Radcliffe, a'u Cwm., fel y canlyn -C.rhaeddodcl Gwenllian Thomas ss Lisbon o Gaerdydd ar yr 2fed cyfisol; cyrhaeddodd Iolo Morganwg ss Sulina o Ibrail ar yr 31ain cynfisol; cyrhaeddodd Anne Thomas ss Kertch o Constanti- nople ar y 4ydd cyfisol; pasiodd Kate Thomas ss Gravesend am Gaerdydd ar y 4-ydd cyfisol; pasiodd Wynnstay ss Gibraltar am Amsterdam ar y laf cytisoi; cyrhaeddodd Walter .Thomas ss Malta o Gaerdydd ar y 4ydd cyfisel; gadawodd Bala ss Caerdydd am Port Said ar y 5ed cyfisol. Ystalyfera.—Cyfarfod Maivr Rhyddfrydol -Hydref 29ain, yn nghapel y Wern. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi. Yn y gadair Thomas Griffiths, Ysw., Ynysydaren. Ar yr esgynlawr yr oedd Sir Hussey Vivian, Bart., A.S., Mr W. Wil- liams, Maer Abertawe, &c. Caed araeth gan Dr. Morns. Pasiwyd y penderfyniad fod y cwrdd yn cymeradwyo gwaith Mr Gladstone yn y gorphenol ac yn addaw eto ei gynorthwyo yn y dyfodol, trwy gael yr oruchafiaeth i Mr Yeo, fel aelod i'n pleidio yn St Stephan. Cafodd Mr Yeo y derbyniad mwyaf brwdfrydig.—Siaradodd Sir ITussey Vivian yn eff- eithiol iawn, T. R. White, Ysw., a Mr Jones, Pant- teg, a. Maer Abertawe. Damwain.— Hydref 30, y blociwyd un Thomas Jones, saer, Gurnos, rhwng y trucks nes y bu farw mewn ychydig amser. Dyn tawel, esmwyth, yn berio cymeriad da drwy y lie. Darlith,—Hydref Slain, yn nghapel Pant- teg, ar America," gan y Parch. E. Lewis o'r Am- erica. Capel llawn. Elw i gynorthwyo y brawd John Griffiths.-Rechab. Libantjs Y Pvll GrER LLANELLI.-N os Fawrth, Hydref 27ain, bu y Parch. D. G. Evans, Penygraig, Caerfyrddin, yn traddodi ei ddarlith. ragorol ar y diweddar Ap Vychan. Darluniad byw o'r testyn— hanes ei fywyd—yn nghyd ag adroddiadau o'i weithiau penigamp a thoddedig. Z, Dylai edmvgwyr Ap Vychan gael dywedy ddarlith hon. Yn ab- senoldeb y cadeirydd bwriadol, Dr. J. A. Jones, Llanelli, cadeiriwyd gan y Parch. W. T. Davies, Ebenezer. Dylid hysbysu mai y rheswm fod y Dr. yn absenol oedd fod cyfarfod neillduol gan y Rhyddfrydwyr yn Llanedi. ac yntau i gymeryd rhan fiaenllaw ynddo.— Goh. Botjetxeiin. —Llwyddiant.— Yn mhlith y rhai a fuont lwyddianus yn arholiad rhagarweiniol y Pharmaceutical Society of Great Britain, a gynhal- iwvd yn Ngbaernarfon, far y 13eg cynfisol, a genym weled enw Mr E. P. Griffiths, mab Mr J. Griffiths, Yr Allt, o'r He uchod. Parotowyd ef go- gyfer a'r arlioliad gan Mr Hughes, athraw yr Ysgol Golegawl Bodedern.— Goh. LlANISE DK, Pontstephan.—-Cyfarfod Rhydd- frydol.—Yn Mwrddysgoldy Rama, ger y dref hon, nos Iaa diweddaf, y givelwyd gojygfa na welir mo'i bath yn ami. Ychydig ddyddiau yn flaenorol brithwyd muriau a manau cyhoeddus yr ardal a rhaglen yn hysbysu y cynhelid cyfarfod Rhydd- frydol yn yr ysgoldy uchod ac y cymerid rhan yn- ddo gan Mr Powell yr aelod Seneddol Rhyddfrydol dros y rhan hon o Sir Gaerfyrddin, yn ncrhyd a'r Parch. John Jones, Felyrifoel. Gwr mawr a chadarn ar lwyfan yr areithfa. Cymerwyd y gadair gan David Davies, Ysw., Felindre, am chwech o'r gloch. Llanwyd y llwyfan a boneddigion urddasol, megis y Parchn. J. Thomas, D. R. Williams, a R. C. Jones, o Lanbedr, H. James, Abeiduar, yn nghyd a Meistri L. Davies, Gelli; T Price, Wern- fendiimid; D. Jones, gohebydd y Faner\ John Morris, Llanbedr; W. Evans, Teify Castle, yn nghyd a llu ereill o ffyddloniaid Rhyddfrydiaeth. Wedi myned yn y blaen dipyn gyda gwaith y cyf- arfod cafwyd allan fod yn rhan ol yr adeilad aifer o fyfyrwyr o Goleg Dewi Sant, Llanbedr, wedi dyfod yno gyda r unig amcan o aflonyddu'r siarad- wyr a'r gwrandawyr. Apeliodd y cadeirydd atynt droion am dawelwch 1 gael chwareu teg i fyned a'r gwaith yn mlaen, ond dim gwell—wedi methu cael distawrwydd, rhoddodd y cadeirydd orchymyn eu troi allan, ac allan y cawsant fyned yn bendramwn- wgl a thrwsg ddigon, goddefwyd ganddynt ddigon hir. Yr oedd yno amryw a'r gwaed pur ynddynt yn lloni gyda'r arwyr am eu gyru allan. Wedi gorphen ei'o'r gwaith o =yru'r terfysgwyr allan, cauwyd y drws, ac aethpwyd yn mlaen yn hwylus. y lie eto yn orlawn, a phawb o'r brodyr yno'n un heb neb yn tynu'n groes. Cynygiwyd penderfyn- iadau o ymddiriedaeth yn y weinyddiaeth Rydd- frydol ac yn Mr Powel fel ymgeisydd Rhyddfrydol dros y rhan hon o'r sir gan y Parch. J. Thomas, Llanbedr, yn nghyda Mr D. Jones, gohebydd y Faner, a phasiwyd gyda banllefau o gymeradwy- aeth. Ar ol talu diolchgarwch i'r cadeirydd, &c., ymwahaowyd gyda theimladau penderfynol o ddangos ddydd yr etholiad fod Cymry Ryddfrydol eto yn fyw.- T. R. Henryd, Conwy.—Dydd Mercher diweddaf, y cynhaliodd yr eglwys Annibynol yn y lie uchod ei g\%yl ddiolehgarwch am y cynhauaf. Cyfarfodydd gweddi trwy y dydd, ac oedfa yn yr hwyr, pryd y pregethwyd yn hynod rymus ac effeithiol gan y Parchn. D. Evans, Llanrwst, a J. Rowlands, Llun- dain.- Un oedd yno. TiiAWSFrsTDD.—Dydd Sadwrn, Hydref 21ain, cynhaliodd Ysgol Sabbothol Ebenezer ei gwyl de flynyddol. Darparwyd y wledd am dri o'r gloch y prydnawn, yr oedd nifer luosog wedi dyfod yn 11 nghyd i gydfwynhau o'r danteithion a barotowyd yn y modd mwyaf chwaethus a blasus gan y bon- eddigesau canlynolMrs Jones, Fron galecl C. Williams a Roberts, Glascoed; Jones, Rectory Ter- race G. Jones, Maengwyn Street; a Misses Morris, Caeglas; Evans, Tyllwyd; J. Jones, Maengwyn Street; E. Roberts, Gilfachwen; C. Williams, Sychnant; E. Jones, Penystryd; M. Jones a J. Jones, Bryncelynog, yn nghyd ag ereill rhy luosog i'w henwi. Wedi clirio'r byrddau, cafwyd can an- erchiadol i yfwyr y te, gan M. Jones, Bryncelynog. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymadawyd wedi cael gwledd o'r fath oreu at gynal y corph. Am saith yn yr hwyr drachefn, buwyd yn gwledda ar ffrwyth y meddwl, pryd y cafwyd cystadleuaeth luosog mewn adroddiadau o'r Beibl ac emynau, traet-hodau, barddoniaeth, a dadganu. Dechreuwyd y cyfarfod drwy ganu ton gynulleidfaol, yna caed anerchiad gwir dda gan y llywydd, Mr W. W. Owen (C.M.), ar addysg yr Ysgol Sabbothol. Beirniadaeth-ar yr englyn i'r Beibl, ni ddaeth y buddugwr yn mlaen; dadgann "Llwybr y Wyddfa," goreu, E. Williams a D. Morris; ad- roddiadau, goreu, Sarah Jones, Cwmprysor; Ed- ward Jones, Ty'nypistill, a C. Jones o'r un lie. Penillion ar Jonah," goreu, E. Evans, Ysgwrn. Cystadleuaeth dadganu Y Gloew Gledd," goreu W. Parry, Prongaled can ddirwestol gan Derfel; pryddest, loan yn Ynys Patmos," goren, Mr Evans, Station Master; ton ddifyfyr, goreu, W. Parry, a D. Morris can gan Eos Prysor, Fy Machgen Dewr cystadleuaeth ar y d6n "Cledan,' o Lyfr Stephen, goreu, D. Roberts a'i barti; traeth' awd, "loan a'i weithiau," goreu, J. Jones, Fron- galed, ac R. Evans, Ysgwrn; cystadleuaeth dad- '5'anu "Y Ddau Forwr," goreu, W. Williams a E. Williams; beirniadwyd y traethodau gan Mr T. Evans, myfyriwr, Bala. Arweiniwyd y cyfarfod a. beirniadwyd y farddoniaeth gan y Parch. D. Merfyn Lewis, y gweinidog, gyda chymeradwyaeth, yr adroddiadau gan M. Jones, Bryncelynog, a'r 11 dadganu gan y bydglodus Mr C. Roberts, Tany- grisiau, Festiniog, yr hwn a dderbyniwyd gan y gynulieidfa gyda chymeradwyaeth gwresog. Caed un o'r cyfarfodydd mwyaf adloniadol i'r corph a'r meddwl, a gawsom er's llawer dydd. Un arwydd dda yn2 rhagor, fod yr achos yn Ebenezer, yn myned yn mlaen gyda nerth a chymeradwyaeth, a bod Mr Lewis yn gymeradwy 'iawn gan bob euwad yu Nhrawsfynydd. Parhaed brawdgarwch. -M. Prysor. MANION 0 DREF Myrddin.— Yr Etholiad Cy- jfredinol.—Y mae y frwydr etholiadol wedi dech- reu o ddifrif yn rhanbarth gorllewinol ein sir, ac yn y fwrdeisdref hon. Fel y gwyr darllenwyr y C'dt, yx xui nifer o aelodau Seneddol sydd i gynry- chioli Sir Gaerfyrddin ag o'r blaen, ond bod deddf ad-drefniad y seddau wedi rhanu ein sir i ddwy rhanbarth — dwyreiniol a gorllewinel. Cyfarfu cynrychiolwyr Rhyddfrydwyr y rhanbarth olaf mewn cynghor prydnawn dydd Llun, Hydref 19eg, yn Ysgoldy Heol Dwr yn y dref hon, Mr W. Thomas, Cwmbach, yn llywyddu, a phenderfynwyd yn y modd mwyf unol a brwdfrydig ar yr hen aeiod Rhyddfrydig W. H. R. Powell, Ysw., Maes- gwynte, i fod yn aelod seneddol dros y rhanbarth hwn. Diolchwyd yn gynes iddo am ei wroldeb a'i sel dros yr achos Rhyddfrydig yn gwrthod y rhan- barth Ddwyreiniol gynygiwyd iddo, ac a ddelai iddo yn ddjwrthwynebiad, er mwyu cael allan, os yn bosibl, yr unig Dori o bwys sydl yn y sir; teimlai y cynwhor fod Arglwydd Emlyn yn wrth- wynebydd pwysig, ond efe yn unig sydd gan y Toriaid, ac y mae eisiau i'r Rhyddfrydwyr fod yn effro ar ei gyfer. Y noswaith hono cynaliwyd cyf- arfod cyhoeddus yn neuadd mawr y dref. Lly- wyddwyd gan y maer, ac auerchwyd yr etholwyr gan Mr Poweli a Syr J. J. Jenkins. Cawsant dderbyniad brwdfrydig, ac ni fu y ddau siaradwr Cyhoeddus erioed yn fwy hapus a hyawdl ua'r nos- waith hono, ond yr un gafodd y derbyniad cynesaf ac a aeth a'r cwbl o'i flaen oedd Mr J. Lloyd Mor- gan, y bargyfreithiwr ieuanc, a mab i'r diweddar Proff. Morgan, Caerfyrddin, yr oedd ei dduli sar- castic o drin y Toriaid yn ofnadwy ac yn ilosgi fel tan, a chymaint oedd ei ddylanwad fel y gwaedd- odd rhywun—"Three cheers i Chamberlain Cymru," y mae yr enw yn eithaf priodol, obiegid Radic. I rhonc ydyw ac os eaiff fywyd ac ieehyd. y mae cadeiriau uchaf ein gwlad a'n teyrnas i gael eu llanw gan y gwr ieuanc hwn. Mae cyfanrwyd i ei gyfansoddiad, manyldeb ci ymdriniad o'r ewestiwn, a nerth ei ymresyineg yn adgofio i ni ei dad galluog, yn hyn y mae yn wir "eMp of the old block." Ond yn ei hyawdledd a'i ddylanwad fel siaradwr y mae yn uwch nag y bu ei dad erioed. Boed Duw yn dyner o hono fel pan bydd Me Powell wedi ei gasglu at ei dadau, y bydd genym Mr John Lloyd Morgan i lauw ei Ie. Wedi i Mr Morgan eistedd i lawr, aeth Mr Powell ato i guro ei gefn, a'r dyrfa yn taranu cheers iddo. Yn y cwrdd o'i ddechreu i'w ddiwedd yr oedd y brwdfrydedd mwyaf, a phasiwyd penderfyniad unol i bleidio Mr Powell a Syr John yn yr etholiad nesaf, ac os yw brwdfrydedd y cwrdd hwn yn ragfynegiad o'r hyn sydd i ddilyn- ac hyd yma ymae-fe fydd Mr Powell i fewn gyda mwiafrifeardderchog. Gyda'ch caniatad fe loddwn yma nifer pleidleisiau y ddau ymgeisydd yn ngiyn a'r mesurau canlynol fel gallo yr etbolwyr wybod pwy ydyw y cymhwysaf i fod yn aelod yn anni- bynol ar eu daliiclau, pleidieisiodd "Ir Powell 1085 o weithiau Emlyn, 292 mwyafrif pleidleis- iau Mr Powell, 794. Eto, y mesurau. Rhown yr enwau yn Seisneg— Division. Powell. Emlyn. Burial's Bill 9 9 0 Ground Game 24 24 0 Employers Liability 14 14 0 Hours of Polling Increased 8 8 0 Representation of the people 72 16 Agricultural Holdings Bill 14 3 Allan o 14 o rhaniadau pwysig yn nglyn a'r mesur olaf perthynol i'r ffermwyr yr Oedd Arglwydd Emlyn yn absenol 11 o weithiau, pleidleisiodd ddwywaith yn erbyn lies yr amaethwyr. ac unwaith drostynt, yr oedd Mr Powell yn bresenol yn yr holl rhaniadau a phleidleisiodd 13 o weithiau yn ffafr yr amaethwyr ac imwaith yn erbyn; heb yn wybod iddo, trwy fyn'd i'r wrong lobby. Y mae yr uchod yn ddigon i ddangos pwy ddylem bleid- leisio drosto. Darlith.—Bu y Parch. W. T. Davies, Llanelly, yn hel Llwynogod yr Eglwysi yn Priordy, dydd Iau, yr 22ain cyfisol, cafodd y Parch. G. H. Roberts (B.), Heol Prior, i'w gynor- thwyo. Cwrdd da a lluosog, ac heliwr campus. Damweiniau. — Cyfarfyddodd John James, gwas Mr Jeremy, Cwmdu, ger Ffynonddrain, Caer- fyrddin, a damwain dost dydd Mercher diweddaf, tra yn llwytho ei gert wrtli orsaf y dref, syrthiodd rhwng y ceffyl a'r cert, oherwydd gwylltiodd ceffylau. Symudwyd ef i'r clafdy, ac yno y mae mewn cyflwr gobeithiol. Yr un adeg daeth cerbyd Mrs Davies, Cwmanbach, ger Cana, i wrthdarawiad ac un o wageni yr orsaf yn Hall Street, a thaflwyd hi ar ei phen ar y palmant. Niweidiwyd ei thalcen yn fawr, ond y syndod yw na buasai y niwed yn fwy. Cymerwyd hi i dy Mr Lloyd, siopwr, a chaf- odd Doctoriaid Hughes a Rowlands i drin ei chlwyfau. Tybir y bydd yn alluog yn fuan i gael ei chymeryd gartref. Cydymdeimlir yn ddwys a hi yn ei hanffawd blin.—Gwili. | |Lla.nboidy.—Cyfarfodydd Urddo.-Urddwyd Mr W. Thomas, o Goleg Nottingham, yn y lie uchod, Hydref 21ain a'r 22ain. Nos Fercher, pre- gethodd y Prifathraw Jones, Caerfyrddin, a'r Parch. D. Thomas, Llanybri. Dydd Iau, pregethodd y Prifathraw: Jones ar Natur Eglwys. Siars i'r gweinidog y Parch. D. Williams, Rhydybont, i'r eglwys y Parch. R. Morgans, St Clears. Rhoddwyd y gofyniadau gan y Parch. D. Thomas, Llanybri, ac offrymwyd yr urdd weddi gan y Parch. W. Thomas, Whitland. Am ddau, pregethodd y Parchn. Lloyd, Bwlchnewydd; Owen, Glandwr, yn Seisneg; a D. Thomas, Llanybri. Am chwech, pregethwydj gan y Parchn. Williams, Henllan, ac Owen, Glandwr. Dechreuwyd y gwahanol gyfar- fodydd gan y Parchn. Morien Hughes, America; D. S. Davies, B. Williams, Henllan, a Jones, Ffy- nonbedr. Yr oedd amryw o weinidogion ereill a. myfyrwyr o Caerfyrddin a'r Bala yn bresenol.