Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

News
Cite
Share

<ptoj)obi0(i! (Ejtmrag. GWYNFE.—Cymerodd damwain ddifrifol le yn y lie uchod, dydd Mercher, yr 22ain cynfisol. Tra yr oedd David Davies, Clynclawdd, gyda'i geifylau, yn dwyn glo o Brynaman, i odynau galch Penrhiw Wen, rhedodd y gaseg ymaith, a thra, yr oedd yn Ilusgo wrth yr awenau (reins) torasant, a tharawodd y cerbyd ef, ac aeth yr olwyn drosto. TYwy hyny derbyniodd niwed, fel y bu farw yn yahen oddeutu chwarter awr, er mad oedd y niwed gweledig ar ei gorff yn llawer, eto i gycl fe ellir dyweud am dano, Gwys a ddaeth i'w gyrchu ymaitb, Ar y "Rhybudd" rhaid oedd myn'd, Heb gael siarad a pherthynas, Na ffarwelio ag un ffrynd; Ei oes fer rhag-derfynedig, Hi a redodd liyd y pen, Rhaid i angau 'i gyrchu gartref, 'Nol bwriadau'r nefoedd wen. Boreu hwnw rhedai iccliyd, Trwy ei gyfansoddiad llawn, Dawnsiau lioender ei ieuenctyd, Yn gwpanau melus iawn Ond tia wele'r cenad rhyfedd Idd ei ddwyn i arall fy d, Ar amrantiad rhaid oedd myaed, Dyma rybudd i lli gyd. I barotoi 'r un modd a Dafydd, I gael cwrdd a'r unrhyw daith, Canys teithio'r ydym ninau Tua'r tragwyddoldeb maith; Nid yw'n trigfan ar y ddaear, Ni chawa aros yma/n hir, Ni a ddygir megis yntau, Ymaith rywfodd—iyma'r gwir. Collwyd Dafydd ar y ddaear, Ond mae fry mewn nefol gor, Ac fe ellir dyweud am dano, "'He's not lost but gone before," Heddyw mae ar fynydd Seion, Yno'n seinio peraidd gaino, Yn ei wisgoedd disglaer, gwynion, Ger y ddwyfol orseddfainc." Y Sadwrn canlynol, daeth torf luosog yn ughyd, i dalu y gymwynas olaf i'n hanwyl frawd, trwy roddi yr hyn oedd farwo' o hono i orphwys yn raynwent dawel Capelymaen, hyd floedd udgorn yr archangel. Huned yn ei fedd yn dawel, Hyd floedd udgorn yr archangel, Daw yn rhydd ar doriad boreu, Pan ddel meirw byd o'u beddau Uno gyda'r hardd dduwioliou, Draw i wisgo'r berlog goron. GWYDRTM. PWLL, GER LLANELLr.- Yn Libanus, y Pwll, ger Llanelli, nos Fawrth, Mai y 27ain, traddododd v Parch. W. Trefor Davies, Ebenezer, Llanelli, ei ddarlith ar y testyn Llwynogod yr Eglwysi." Yr oedd cynulliad lluosog wedi dyfod yno, llawer o ba rai oedd wedi clywed y ddarlith hon or blaen, ond cymaint oedd eu hawydd am ei chlywed yr ail waith, fel y cerddasant yn ewyllysgar o Llanelli i'r Pwll, er mwyn ei gwrando, a gallwn dystio na chawsant eu siomi y tro hwn eto, oblegid yr oedd v darlithydd yn ei hwyliau digrifol fel arfer. Credwn y dylai pob eglwys yn mhob enwad gael y pleser o glywed y ddarlith hynod hon, a byddai yn sicr o wnend lies iddynt. Cadeiriwyd yn ddoniol gan y Parch. J. Y. Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn y Pwil. Gwnaethom elw da at y ddyled—J. R. Jones. BIRMINGHAM.—Cymanfa Flynyddol y Bedydd- •ivyr Cymreig.—Cyiihaliwyd yr uchod, Mai 24ain, 25am, a'r 26ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchedigion Jones, y Cefn, a Jones, y JDinas. Y Gymanfa, Gerddorol.—Cedwir cryh dipyn o swn mewn rhai cylchoedd yn y dref, am gael Cymanfa Gerddorol U ndebol, ond barn y gwyr inwyaf Erofiadol ar faterion o'r fath yw fod y syniad yn ollol anvmarferol, ac nad oes obaith ei gario allan i weithrediad.-Cylchwyl Lenyddol y Nadolig. —Y mae yma ryw symud mewn cysylltigd a'r wyl uchod, deallaf fod pwyllgor "gryrous" o wyr "goleuedig a phrofiadol" wedi ei ffurfio, disgwyliwn 'y 'a welecl rhestr o'r testyuau allan yn tuau. Cylchwyl Lenyddol y Methodistia.id.—Y mae dydd eynhaliad hon yn ymyl. Gwobrwyon bychain a. thestynau anymarferol ywnodwedd amlycaf hon.- Gohebydd. CAPEL Y WIG.-Nos Fercher, yr 28ain o'r mis d:iweddaf, bu yr enwog Thalamus yn tra- ddodi ei ddarlith benigamp ar "Ysprydeg- iaeth," yn y lis uchod, i gynulleidfa fawr arutlirol. A barnu ar y spot, yn ol y rheol gyirredin. y casgliad y daethom iddo oedd, na cliafodd y canoedd oedd yn bresenol, ddim erioed cystal gwledd, m' wn gwirionedd ei bod yn amheuthyn. A plia ryfedd, welwyd genym yfath beth crioccl o'r blaen, sef gweinidogion yr efengylyn cyflawnigwyrtliiau. Y maeypwyllgor benderfynodd ar alw y boneddwr gwir dalentog hwn wedi arddangos y pwyli a'r doethineb mwyaf, gan nad oes dacll fod yr elw wedi cyr- haedd tubwnt i'w disgwyliadau mwyaf calonog. Nid oes angen am i ni fan yma yn nghwr anghysbell y ddaear, ddweud dim i ganmol y ddarlith na'r darlithydd, gan ei bod yn sicr fod rhanau preswyliedig y byd wedi gofalu cael barnu drostynt eu lmnain; Cyflawnodd y cadeirydd ei ran yn bwrpasol iawn, ac yr oedd yn dda genym wel;;d fod y pwyllgor wedi gwahodd Mr Griffiths, ficer y plwyf (Llan- granog), i wneud y gwasanaeth hwn. Y mae yr elw i fod at wasanaeth yr Ysgol Fryt- anaidd yn yr ardal. Y mae parotoadau ar raddfa pur eang yn cael eu gwneud ar byd yr ardal erbyn y cyfarfod ordeinio dyfodol, troad allan cyfCredinol yn cael ei wneud ar y pryfaid copynol, parwydydd yn cael eu liaddurno o'r newydd a phapyrau amryliwiog, a'r calch a'r prent yn cael «i ddefnyddio yn y palas a'r bwthyn all round. Beth am y ddefod ordeinio yma, gydag Annibyniaeth ? Prin yr ydym yn meddwl eihod yn hollol gyson a thenets An- nibyniaeth. Y mae ynddi ryw gydnabyddiaeth fod rhyw awdurdod yn perthyn i'r Urdd nad yw yn perthyn i'r eglwysi. Ai nid ffug a ffwlbsi i Annibynwr goleuedig a gonest yr ymddengys y cwbl ? Rhaid cael un wedi ei urddo i oifrymu yr urdd-weddi, i ofyn y cwestiynau, i draddodi y charge i'r gweinidog ac i'r eglwys, ac wedi myned drwy y ddefod i gyd y mae y gweinidog ieuane yn meddu rhyw hawliaa tra y byddo byw, er hwyrach, i'w gys- ylltiad a'r eglwys benodol gael ei dori_ mewn blwyddyn, tra o'r ochr arall, os bydd i ddyn ieuanc o'r mwyaf dilychwin ac yn meddu ar nodweddau Cristion o radd uchel, ac wedi myned trwy y cwrs arferol o ragbarotoad i'r weinidogaeth, os na wel rhyw eglwys yn dda i roddi galwad iddo, a thrwy hyny fyned trwy y ft'urfiau arferol, y mae yn cael ei amddifadu o ragorfreintiau mwyaf dewisol gweinidogaeth yr efengyl. Onid ydyw hyn yn anghyson hollol ag Annibyniaeth ? Onid mwy teilwng o lawer fyddai i'r eglwys ei hun gyflwyno iddo bob awdurdod i weinyddu tra yn ei gwasanaeth hi, ac i hyny ddarfod gyda bod ei gysylltiad a hi yn cael ei dori. Y mae cryn sylw wedi ei roddi yn y Celt i'r hawliau mewn bedydd, onid ydyw y mater hwn hefyd yn deilwng o ymdra- fedaeth ar dudalenau y Celt. Nid ydyw yn deg disgwyl ar neb o'r cloth i'w gymeryd i fyny wrth gwrs. Pa le mae y Llethr neu ryw un tebyg i wneud cyfiawnder a'r pwnc P Deuwch allan. gyfeillion.-Ehedydd, Cnwc y Bando. ROE WEN, CONWAY.—Cynhaliodd yr Anni- bynwyr yn y lie uchod eu cyfarfod blynyddol eleni fel arfer, ar Dyddiau 'Chafael. Pregeth- wyd y noson gyntaf gan y Parchn. LI. B. Roberts, Pendref, Caernarfon, a David Davies, M.C., gynt o Penmachno. Tranoeth drwy y dydd pregethwyd gan y Parchn. LI. B. Roberts, Pendref, a J. Roberts, Conwy. Ni raid i'r enwogion hyn wrth lythyrau canmoliaeth, ond efallai y goddefer dyweyd cymaint a hyn gyda golwg ar yr Hybarch J. R. fel un sydd yn ymyl ei 1 edwar ugain mlwydd oed, fod yn dda gan luaws yn nghymydogaeth Roe Wen gael y cyfleusdra o'i wrando unwaith yn rhagor. Gan ei fod yn ddiweddar wedi bod yn cwyno oher- wydd gwaeledd iechyd, nid ocddem heb beth ofn na fyddai yn alluog i gyflawni ei addewid trwy ddyfod i'n cyfarfod, ond trwy diriondeb trugaredd fe'i harbedwyd, a daeth i'r Roe Wen yn brydlon, a hyny fel yr aeth Paul gynt i R nfalll, gyda "c-hyfiawnder bendith Efengyl I Crist." Pregethyconrynhir am dani yn y Roe, oedd yr hon a draddodwyd ganddo y noson olaf, ar Ragluniaeth a Gras. Darluniai t hwynt fel dwy law forwyn haelionus; yn cyfranu ar hyd yr oesai:, y naill yn nrws y ont, a'r llall yn nrw3 y cefn. Cafwyd cyfar- fodydd rhagorol or dechrm i'r diwedd-yr oedd yr hin yn braf, y cynulliadau yn lluosog, 1 pregethau yn rymus, ac arwyddion amlwg fod gwirioneddau yr efengyl yn gafaelu yn meddwl a chalon y gwrandawyr. Y mae yn Roe Wen, fel y gwyr llawer, dri enwad crcfydd- ol, sef, Bedyddwyr, Annibynwyv, a Methodist- iaid, ac mewn pentref mor henafol a phoblog, y mae bron yn wyrth na fyddai yma eglwys Sefydledig, ond fel mae yn digwydd, 'does yma na pharson, curad, clochydd, na cliloch byth yn aflonyddu ar heddwch neb. Y Methodist- iaid sydd gryfaf yma, cymarol wan yw y Bedyddwyr, a gwan yw yr Annibynwyr wedi bod ar hyd y blynyddau, ond y maent wedi cynyddu cryn lawer yn ddiweddar, mae rhif yr aelodau yn bresenol yn agos i dri chymaint ag ydoedd ddwy flynedd yn ol. Efallai mae teg fyddai crybwyll fod yr enwadau eraill hefyd wedi cael graddau o gynydd yn nghorph -Y y misoedd diweddaf. Y mae yr ardal hon fel llawer cymydogaeth arall yn rhwymedig iawn i'r efengylwr enwog Richard Owen, yr hwn sydd er's amser bellach yn adnabyddus trwy Gymru fel un o'r diwygwyr mwyaf llwyddian- us. Pregethwyd gan y gwr anwyl yma yn Roe Wen a'r cylchoedd amryw weithiau yn ystod y gauaf diweddaf, a bu ei ymweliad a'r lie yn foddion yn llaw "preswylydd y berth" i beru cyfnewidiad mawr er daioni trwy yr holl gymydogaeth. Cawsom dan ei weinidogaeth felus, rymus, ac elfeithiol y fraint o glywed rhai degau o hen wrandawyr ystyfnig y Roe (llawer o ba rai nad oedd gan neb y meddwl lleiaf am eu dychweliad) o ganol eu dagrau yn gorfod gofyn hen gwestiwn ceidwad y carchar gynt Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig P" Mae Richard Owen ar y maes o hyd, a Duw Israel yn parhau i wneud pethau mawrion drwyddo. Dymunwn iddo oes hir i wasanaethu ei Arglwydd, ac i droi lluoedd eto o dywyllwch i'r goleu, ac o feddiant satan at Dduw.—Ysbiwr. GWYNFE, — Damwain. — Taffwyd yr ardal uchod a'r cylchoedd i gyffro a galar dydd Mer- cher, yr 21ain cyfisol, drwy y newydd o'r ddanmain a fu yn angau uniongyrchol i'r cyfaill dirodres, David Davies, ieu., Glynclawdd. 0 gylch haner dydd pan yn dod i lawr oddiwrth yr odynau calch ar y Mynydd du, a dau geffyl a cherbyd heb fawr llwyth, gwylltiodd y ceffylau, a chollodd yntau ei afael, Ilen fe dorodd yr awenau, a syrthiodd dan yr olwyn a bu farw mewn ychydig funudau. Cynhaliwyd trengholiad ar y corph dydd Gwener, yn mhresenoldeb Mr J. Prothroe Lewis, trenghoiydd dosbarth dwy- reiniol sir Gaerfyrddin, pan y dygwyd rheithfam o Farwolaeth ddamweiniol." Dydd Sadwrn ymgasglodd torf yn nghyd i wneud y gymwyuaa olaf i'w weddillion marwol. Claddwyd ef yn Capel Waen, pryd y gweinyddwyd yn doddedig dros ben gan y Parch W. Thomas, ei weinidog. Nos Sul dilynol traddododd Mr Thomas, hefyd yn Capel Waen, bregeth angladdol gymwysiadol, effeithiol a dylanwadol iawn oddiwrth y geiriau hyny yn cyntaf Samuel, A lie Dafydd oedd wag." Mab ydoedd yr ymadawedig i Mr W. Davies, Penybanc, Llansadwrn, ond yr oedd wedi dyfod at Mr Davies, ei ewythr, i Glyn- clawdd, ers yn agos i ddeg mlynedd, ac yr oedd- ynt wedi ei fabwysiadu fel eu plentyn a theimlant golled fawr ar ei ol. Yr oedd wedi cael ei 22ain oed, ae yn un o'r bechgyn gwisgiaf, cadarnaf, a siriolaf a feddai'rholl gymydogaeth, ac yr oedd hefyd yn aelod hardd a defnyddiol yn Capel Waen era blynyddau, ac yn un o aelodau ftyddlonaf cor y lie a'r Glee Party, yr hwn oedd wrthi yn ddiwyd yn parotoi erbyn eisteddfod fawreddog Brynatian, ond trowyd y gan yn dristweh yn Gwynfe y dyddiau hyn, ond yr ydym yn hyderus gredu fod ein hanwyl gyfaill wedi cael ei symud i'r cor sydd fry i seinio'r anthem fuddugeliaethug, Iddo Et yr Hwn a'n carodd." Yr Arglwydd a gysuro yr holl berthynasau yn eu tristwch ac a'u gwnelont oil yn barod i fyned ar ei oj, yw dymuniad-Cymydog. ABERTAWE.—Cyhoeddwyd drwy y Celt, papyr yr Annibynwyr, i fod y Parch. T. Eynon Davies, Countess of Huntington, Abertawe, wedi derbyn galwad oddiwrth yr Eglwys Gynalleidfaol (S.),