Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-.--pim a'r iflall rl r §e.

News
Cite
Share

pim a'r iflall rl r §e. AR GOLL: Y gohebydd ffraeth, llygad- graff a galluog Adelphos." A oes rhywun o ddarllenwyr neu olygwyr y Gelt a wyr pa le y mae ? Beth sydd wedi dyfod o hono ? Gobeithiaf ei fod yn rhywle o fewn terfynau trugaredd y cigfrain. Gwobrwyir yn deil- wng y neb a roddo ryw hysbysrwydd am dano. This is genuine. =IF Ymwel-vyd a rbanau o'r dehendir yma nos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, gan ystorm o fellt a tharanau. Ymddengys mai ei phrif amcan yn ymweled a Chaerdydd oedd malurio llumanbren ucbel ar y Bridge Hotel. Gorchwyl teilwng o urddas y fellten. Os am gael syniadaeth glir am ysbryd ac amean eenhadaeth felldithiol y dafarn sylwer ar ba ichlysuron y cyfyd hi ei baner- au i'r gwynt. Lladdwyd dyn gan y daran- follt yn Nghasnewydd. Tystiai un gwein- idog henafol nos Sadwrn mai yr unig obaith welai ef i'w wraig farw o farwobeth yr uniawn" oedd iddi gael marw yn amser taranau ystyriwn hyn yn rhy gellweirus i'w nodi y fan yma oni bai mai pregethwr Methodist wllai y sylw. Dyna'r unig adeg v mae rhai yn teimlo tipyn o ysbryd gweddi yn dyfod drostynt. Diolch am Sinai. # Yn y S. W. Daily News rai dyddiau yn ol, dywedai gohebydd Caerfyrddin fod y Parch. D. M. Lewis, mab yr Hybarch E. Lewis, Brynbenan, wedi cael cynyg ar y gadair dduwinyddol yn Ngholeg Caerfyrddin. Ysgrifenodd Mr Lewis i'r un newyddiadur i wrthddywedyd hyn. Dywed nad oedd wedi ca.el cynyg ar y gadair o gwbl, ond ei fod yn ymgeisydd am dani. Y mae Mr Lewis yn nai i'r diweddar Broff. Morgan, ac o gyffelyb ysbryd iddo heblaw ei fod yn ysgolhaig gwych. Anhawdd fydd cael neb i lanw lie Proff. Morgan, ond mawr obeithiwn y gwna y Bwrdd Presbyteraidd y dewisiad goreu sydd ddichonadwy er cadw fyny safle y sefvdliad sydd wedi bod o gymaint gwerth i Gymru. a A T TP TP Y gwragedd yn gwisgo breeches!" Drwy 9 r.5 y ryw ymadrodd fel yna y dadgana rhai pobl' yn y De yma eu harswyd duwiol wrth feidwl fod y fath gyflafan ofnadwy i or- ddiwes ein byd ag i'r merched a'r gwragedd gael eu iawnderau! Ond i mewn mae y llanw'n d'od, yn wleidiadol a chrefyddol. Gwneir ymdrech i gael gan y Sanedd i estyn yr etholfraint i'r gwragedd. A dywedir 1 bod rhai etholwyr yn Neheubarth Llundain yn bwriadu dwyn Miss Helen Taylor yn I mlaen fel ymgeisydd am sedd yn y Senedd pan ddaw yr etholiad nesaf! Credir nad oes yr un atalfa gyfreithiol ar ffordd gwneud hyn. Ond ffaitli ryfedd yw—os rhyfedd hefyd—ma<i y benywod eu hunain sydd fwya/f croes i'w rhyw wisgo llodrau. Golchi'r llestri ac ysgubo'r llawi ydvw gwaith merch, meddant, ac nid esgyn i'r areithfa, &c. Buasai yn dda ganddynt glywed bod unrhyw anhawsder wedi cyfodi ar ffordd y merched i wisgo y llodrau, hyd nod anhawsder cyffelyb i'r anhawsder gadwai y n y dyn hwnw yn ei ystafell wely hyd ganol dydd methai v teulu yn lan a deall paham na wnelai ei ymddangosiad; o'r diwedd gan led-ofni y caent ef wedi marw, aeth un o'r teulu i'r ystafell, a dyna lie yr oedd yn eistedd ar erchwyn ei wely mewn penbleth ryfedd, yn methu yn Jan a phenderfynu pa goes i osod i fewn gyntaf. Cyngorodd yr ymwelydd ef i osod y ddwy fewn yr un pryd, ac felly y gwnaeth. Dos dithau wraig, a gwna yr un modd. # Y mochyn fuasai Adelphos druan yn ladd yr wythnos ddiweddaf pe bae ar gael fuasai y ddefod hynafol yr aed drwyddi yn eglwys Gadeiriol Llandaif, dydd Mawrth, sef cyf- lwyno fyny i'r Hen Eglwys Lan Gatholig lumanau y Gatrawd Gymreig—41st regi- ment. Y mae y seremoni o gyflwyno banerau i gatrawd yn ddefod grefyddol, a phan y mae henaint a methiant a malldod yn gor- ddiwes y banerau hyn, dychwelir hwy i'r eglwys i'w crogi ar eu muriau i farw o farw- olaeth naturiol. Cyflwynwyd y llumanau yma i'r gatrawd yn y flwyddyn 1803, ac y mae arnynt yr arwyddair Cymreig Gwell angau na chywilydd." Chwifiwyd hwy yn America yn 1814 ac 1815 yn mrwydr Ava, yn Burmah; yn mrwydrau Candahar, Ghuz- nee, Cabul, Alma, Inkerman, a Sebastopol. Hawdd oedd gwybod oddiwrth eu gwedd eu bod wedi bod mewn brwydrau celyd. Yr oedd tua wyth cant o filwyr yn nghyd yn yr Eglwys Gadeiriol, a thraddododd y Deon anerchiad jingoaidd iddynt, o'r fath a garent. Hyd nod pe bai prophwydoliaeth y braw- ychwyr yn d'od i ben fod diwedd yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru yn agos, dywedai, y buasai y llumanau hyn yn brawf i'r genedl- aeth sy'n d'od fod yna Eglwys Genedlaethol yn Nghymru ar y 27ain o Fai, 1884. Prawfion awgrymiadol iawn i'r oesau a ddeuant fydd banerau gwaedlyd, onide ? Gadawa Eglwys Crist brawi o'i bodolaeth ar ffurf o Heddwch fel yr afon," ond Eglwys Loegr Lumanau gwaedlyd, carpiog, pwdr! Y mae Dr. Rees, Abertawe wedi cael teitl newydd, sef, C.C.U.E.W. Nid ydwyf wedi gweled ei enw yn ddiweddar yn un man heb y teitl ar ei ol. Dim ond am flwyddyn y ceir ei wisgo, a phenderfynir prynu yr am- ser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg." MANION.-Y mae y frechwen wedi dyfod rywfodd o rywle i Gaerdydd, nid yw wedi gafaelyd ond mewn rhyw bedwar eto y mae yr awdurdodau ar eu goreu i geisio cadw y pla rhag myned ar wasgar.- Hunodd yn yr Iesu y Parch Thomas Evans, (M.C.) Llanddewi Brefi, nos Sul, wythnos i'r diweddaf yn 80 mlwydd oed. ^Rhydd y Llywodraeth 2,500p. yn flynyddol i Brif Ysgol Aberystwyith am bum mlynedd ar y telerau iddynt hwy godi mil yn Ueol. -—— Ymae Clwb Amaetbyddol Poritfaen wedi pen- aerfynu sefydlu ysgoloriaeth o 25p. y flwydd- yn mewn cvsylltiad a Phrif Ysgol y Deheu i feibion amaethwyr. Wedi ysgrifenu yr uchocl am y frechwen yn Nghaeriydd, gwelaf bod canoedd yn dioddef dan arteith- iau y pla yn Llundain. Gwnaeth Dr. Price, Pontypridd ei ymddangosiad yn Neuadd Ddirwestol, Merthyr, nos Sadwill gyda'r bwriad o draddodi e. ddarlith ar gorph-losgiad (cremation) daeth pedwar yn nghyd i'w wrando inivy na nifer yr addewid.

GALWADAU,

[No title]

Advertising

MANION GAN S. R.