Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A WYDDOST DI FY NGENETH.

News
Cite
Share

A WYDDOST DI FY NGENETH. A wyddost di, fy ngeneth, Beth yw athroniaeth serch, Sy'n anweledig rywbeth Cydrhwng y mab a'r ferch ? Mae'n gyru'r ddau i deimlo Mor wirion, neu mor gall, Nes iddynt fethu cilio, Y naill o wydd y Hall. A wyddost di, fy nghariad, Fod modrwy hardd ei llun, Ya cael y gair yn wastad, 0 wneuthnr dau yn un ? Ond nid y fodrwy felen, Ac nid offeiriad chwaith, Sy'n uno mab a meinwen, Na, cariad-dyna'r ffaith. A wyddost di, fy mhriod, Fod byw yn orchwyl ddrnd- Fod eisieu arian parod Wrth fyn'd twy hyn o fyd ? Ond myn'd a wnawn yn ddiddan, Trwy'r byd o awr i awr, A swm go fach o arian, Tra'r serch yn swm go fawr. DERWENOG.

FY ADPYPYEION.