Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Yr oeddym braidd yn ofnus wrth anfon allan i hysbysu dyfodiad y CELT, gan nas gwyddem pa gefnogaeth a gawsem genych chwi, ond erbyn hyn mae genym addewidion am gydweithrediad mintai gref o ohebwyr, y rhai, os nad ellir eu rhestru yn mhlith ein goreugwyr," ydynt wedi arfer meddwl a barnu d- ostynt eu hunain, ac yn alluog i osod eu meddyliau ar bapur mor eglur, fcl y gallo y neb a redo eu deall a'u darllen, am yr hyn mae y cyhoedd wedi arfer eich cydnabod, a hen arfer anrhydeddu llawer o honoch. Diolcli i chwi am eich addewidion, dybynwn arnoeh, telwcb hwynt mor theolaidd a threfn- us ag y galloch, Byddwn yn ddiolchgar am bob awgrym o'r ciddoch er diwygio a pher- ffeitbio y CELT, a gweithredwn yn eu hoi mor bell ag y byddont yn ymarferol. Gadewch i ni gael l; y newyddion diweddaraf" o'ch gwahanol gymydogaethau.
AT EIN DOSBARTHWYR. j
AT EIN DOSBARTHWYR. Gan mai hwn yw y tro cyntaf i ni eich anerch ar ein cyfrifoldeb ein liunain, byddwn yn ddiolcbgar iawn am eich cydweithrediad, heb eich ffyddlondeb chwi nis gallwn ni wneuthur dim. Yr ydym wedi bod yn ffydd- Ion i'n gilydd am rai blynyddoedd. Parhaed felly. Anfonir y sypynau yn rheolaidd fel y galloch eu cael yn mhob ardal fore dydd Gwener. Os bydd rhyw wall yn y cyfeiriad {address), neu ryw ftordd rhatach i rywun o honoch ei gael, anfonwch yn ddioed, ac os na fydd y rhit yn ateb i'ch archiad (order), neu archiad wedi myned ar goll, da chwi cydym- ddygwch a ni ar v dechreu, ae anfonwch atom mor fuan ag y byddo modd, fel galloni osod pethau yn drefnus ar yr olwynion. Tra y gwnawn ein goreu i'ch cydnabod am eich traffertli, hyderwn mai nid dyna eich unig gymhellydd i fod yn ftyddlon i'r CELT; ar eich Haw chwi yn benaf y mae sicrhau iddo gylcbrediad helaeth, gellweh ei ladd neu ei gadw yn fyw mynwch iddo chwareu teg yn ol ei deilyngdod, a gwna ynfcau chwareu teg a chwithau; a phan ddelo pen tymor, go- beithio y tal y derbynwyr ei gyflog yn onest ac amserol, fel y galloch chwithau dalu i'r swyddfa.
AT Y DARLLENWYR.
AT Y DARLLENWYR. Wele y rhifyn cyntaf o'r gyfres newydd o'r CELT yn eich Haw. Beth yw eich barn am dano? Pwy a draetha ei oesef? Mac yn cychwyn allan mewn amseroedd enbyd ar fyd, ac eglwys, y fath na fu mae'n debyg, a dyweyd y Ileiaf yn y ganrif hon, a hwyrach nafydd ychwaith. Ei unig neges yw taflu 0 10 cymaint a fedro o oleuni ar dryblith symud- iadau yr oes, ar gyulluniau celloedd cudd a cbyhoedd cymdeithas, canmol y da, condsmn- io y drwg, amddiffyn rhyddid, a dangos i'r cyhoedd y ffordd i gael rhagor o hono yn wladol a chrefyddol. Os yn cymcradwyo ei neges, rhodder iddo roesaw a chefnogaeth. Ni cha ofn dyn ein hatal i ddyweyd y gwir, nM awydd am boblcgrwydd ein denu i'w ddarnguddio na'i ysgoi, a bydd ein colofnau yn rhydd i bawb i ddyweyd y gwir, ond iddo wneyd yn foneddigaidd. Chwi sydd i ddyweyd pa hyd y caiff efe fyw, os teimlwch ei fod yn gwneyd gwaith da, gwn y noddwch ef, ond os na weithia ha fwytaed chwaith. Ni arbedir llafur i'w wneyd yn ddyddorol ac adeiladol, rhoddir ynddo gymaint a ellir o ct- ouni ar bynciau y dydd, gwna ei ran i addfedu barn y cyhoedd ar ddadleuon cyhoeddus, ac i hyrwyddo gwelliantaumewn byd ac eglwys. PAN.
YR IWERDDON.
"I YR IWERDDON. Mae Cwestiwn y Dwyrain wedi myned yn hen, a'r cyhoedd yn mron wedi colli pob dyddordeb ynddo, ni chymerir yn awr amser i ddarllen mwy o'r lia,nes na'r telegramau diweddaraf." Ar v Gorllewin y mae llygaid y cyhoedd y dyddiau hyn, telegramau di- weddaraf o'r Iwerddon sydd yn llanw holl bapurau' Lloegr a chyfandir Ewrop, a'r Gwvddel a ddelir i fynu ar bob trostan o flaen llygaid y byd gwareiddiedig. Gosodir hwynt allan fel haid o deriysgwyr ffol, an- foddog, yn cymeryd eu harwain gan ben- boethiaid gwallgof, y rhai ddylasid osod i lawr ar unwaith drwy nerth pylor plwm, pren llinyn, carchar alltudiaeth. Gwnaed prawf ar bob un o'r cyfryngau yna ond yn ofer, er y bydd y Saeson a'u cynffonwyr yn arfer dyweyd wrth liyrddio nifer' o honynt i fyd arall, fe rydd hyn yna derfyn ar eu gwrth- ryfel, dyna'r pen wedi ei dori, fe fyddant yn Moriydd bellach." Dyua fel y siaredid wedi crogi y bechgyn hyny yn Manchester, ond pan welwyd deng mil ar hugain o bobl yn troi allan i wneyd gorymdaith angladdol iddynt yn Dublin, a gorymdaith arall o ddeg i ddeu- ddeg mil yn cerdded drwy heolydd Limerick, gwel wycl fod Ffeniaeth mor fyw ag erioed; fod Ffeniaid newyddion yn codi o Iwch y merthvron. Nis gellir eu gosod i lawr drwy grogi a saethu nifer o honynt tra fyddo Siarter fawr y teulu dynol o'u plaid. Mae Prydain yn enwogamei chydymdeiml- ad a'r gorthrymedig yn mhob rhan o'r byd (?) mae ci chydymdeimlad a'r Cristionogion a orlhrymid gan y Twrc yn nhalaethau y Danube yn fyd-adnabyddus; nis gallai oddef i Gristionogion gael eu trethu i gynal Mahom- etaniaeth, eyhoedda anathema wrth ben y Twrc am na chaniata eu hanibyniaeth i bob dyrnaid o anwariaid sydd yn trigo ar lanau y Danube, anibyniaeth i Bosnia, anibyniaeth i Servia, anibyniaeth i Herzogovina, anibyn- iaeth i Bulgaria, a bu agos i gynadledd Berlin fyned yn chwalfa wrth geisio sicrhau anibyn- iaeth i Groeg, ac am bob rheswm a ddygid yn mlaen dros anibyniaeth y cenedloedd uchod, gellir dwyn yn mlaen ddeg rheswm dros i'r Gwyddelod gael byw yn anibynol, Canmolir Gladstone am orfodi y Twrc i gario allan gytundeb Berlin, fel ag i sicrhau chwareu teg i dywysogaethau y Danube, ond atolwg, a yw gwneyd chwareu teg ag anwariaid yn y dwy- rain yn fwy pwysig na gwneyd chwareu teg a phobl wareiddiedig yn y Gorllewin ? A yw yn fwy pwysig i'r Bulgariaid gael eu ryddhau oddiwrth feichiau Mahometaniaeth, nag i'r Cymro ymneillduol gael ci ryddhau oddiwrth feichiau Esgobyddiaeth ? mae y naill yn grefydd sefydledig yn gystal a'r llall. Ai nid teg fyddai galw cynadledd yn Berlin i orfodi y Saeson i adael i'r Gwyddelod fyw yn ani- bynol, ac i benderfynu ar linell derfyn rhwng Lloegr a Chymru, a gorfodi y Saeson i roddi i fynu hen drefydd Cymreig fel Pengwern a Chroesoswallt, fel y gorfodwyd y Twrc i roddi i fynu Dulcigno. Atebir ni yn ddoniol fod Cymru yn gystal a'r Iwerddon wedi eu huno a Lloegr yn un deyrnas yn ol y cyfan- soddiad Prydeinig, ac felly nad oes gan y naill na'r Hall yn ol cyfraith le i son am ani- byniaeth. Ond gall y Twrc yntau ddwyn yn mlaen yr un rhesymau yn union dros gadw meddiant o dywysogaethau y Danube. Ond byddai mor briodol i'r lleidr ddyweyd mai efe yw gwir berchen yr eiddo a ddygodd am fod ei dad a'i fam yn ei anog i'w gadw, ag yw i'r Saeson son am gyfraith a chyfansoddiad Prydeinig fel rhesymau dros gadw Cymru ar Iwerddon o dan eu pawen. Atolwg, pwy wnaeth y cyfreithiau ? Gwnawd y deddfau sydd yn dal perthynas a'r Iwerddon gan ber- sonau gwasaidd a gwallgof, na ystyrid yn gymwys i ddwyn carai esgidiau seneddwyr yr oes hon, a phan oedd yr hen hnrtyn, Sior III yn eistedd ar yr orsedd; Mae y cyfreithiau- sydd yn rhoddi i'r Saeson feddiant ar Gymru rai canoedd o flynyddoedd yn henach na'r cyf. reithiau sydd yn dal perthynas a'r Iwerddon, ond nid yw hynafiaeth yn gwella dim ar an- onestrwydd. Gwyr y darllenydd, mae'n ddi- au, am y tric wnaeth Edward i sicrhau cydsyniad y Cymry i dderbyn ei fab ef yn dywysog-" tywysog na fedrai siarad gair o Saesneg." Wn i yn y byd a oddefid mewn Ilys gwladol i'r naill gymydog gymeryd tyddyn neu dy o eiddo y llall drwy ryw gelwydd gwyn o'r fath, diau y dywedid, Ni chewch chwithau efo'ch cyfraith a'ch Saesoneg. wneyd caseg yn geffyl, na clieffyl yn gaseg." Ond dyma frenin yn cymeryd meddiant »• deyrnas trwy y fath ystryw, a'i olynwyr yn cael mwynhau yr ysglyfaeth, ac yn ddigon digywilydd i ddadlu cyfreithlondeb y medd- ianiad, oherwydd gwneyd o'r hen ysbeiliwr ddeddf ei hunan, i ddyweyd ei fod yn gyf- reithlon. Mae y pethau hyny a elwir penau coronog a'u cynghorwyr yn mhob oes oddiar hyny yn gwybod yr hanesion hyn yn dda, ac. os ydynt yn well na'u hynafiaid, paham na chynygient ddadwneyd eu drygau. Ceir llawer yn barod i feio Edward am yr hyn a wnaeth yn Nghaernarfon, ond rhoddant eu holl ddylanwad i gynorthwyo ei olynwyr i ddal meddiant o'r hyn y beiant ef am ei gymeryd. Beio yr yspeiliwr am doii i dy er gymydog, a tliroi y teulu i'r heol i drengu. ond canmol ei etifeddion am ddal meddiant o hono, tra yr etifeddion cyfreithlon heb Ie i roi eu pen i lawr. Siarada y weinyddiaeth bresenol am fynu ufudd-dod i'r cyfreithiau a dyogelu eiddo a bywydau. Well done, Gladstone. Ond paham na fuasid yr amser a aeth heibio yn parchu y cyfansoddiad Gwyddelig,ac yn dyogelu bywyd- au y Gwyddelod ? Byddai rhyw synwyr mewn dyweyd fel yna wrth y Gwyddelod pa byddent hwy yn dyfod drosodd i aflonyddu ar y Saeson yn Llocgr, ond dan yr amgylch- iadau presenol, mao synwyr y dywediad i gyd yn gorwedd yn nerth y fyddin a'r llynges, a gall y weinyddiaeth bresenol fod yn sicr mai i'r graddau y gwna hi iawn am anwiredd y tadau y cedwir heddwch yn yr Iwerddon, mae cyfreithiau hCJJach na chyfreithiau Lloegr wedi eu troseddu yn yr Iwerddon, a gwell cyf- ansoddiad na'r un Brydeinig wedi cael ei an- mb archu, ac nid yw y terfysgoedd presenol ond gwaed y rhai hyny yn gwaeddi dial. PAN.
!NODIADAU WYTHNOSOL.
NODIADAU WYTHNOSOL. Mae ceidwaid yr athrawiaeth yn Ysgotland mewn penbleth a helbul,llawn gwaeth,ria dim ydym ni wedi weled eto yn Nghymru. Ym- ddengys fod Robertson Smith, athraw o gryn enwogrwydd yn Edinboro, wedi yggrifenu erthygl ar yr laith Hebraeg a'i Llenydd- iaeth," am gyfeiliornadau yr hon yn gysta! a'i ysgrifeniadau ereill, barnodd y Gymanfa Gyffredinol yn angenrhoidiol ei, ddiswyddo, tori ei ben," a'i droi o'i gadair, y peth goreu meddent, allent wneyd er dyogelwch yr eglwysi. Yr oedd yno lawer oddoctoriaid yn ei erbyn, a rhai o'i blaid. Caniatawyd iddo 7ad, awr a deg munud i ateb y cyhudd adau—• amynedd Ued dda-ond pan ranwyd y ty