Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau, &c. GENEDIGAETHAU. ROBERTS—Mal 5ed, priod Mr W. Roberts, 28, High Street, Porthmadog, ar ferch. WILLIAMS—Mai 7fed, priod y Parch. W. E. Williams, periglor, Trawsfynydd, ar fab. JONEs--Mai 9fed, priod Mr Hugh Jones, High. gate, Ffestiniog, ar fab- -eu cyntafanedig. STEPHENS—Mai lleg, priod Mr William Stephens, Sun.street, Ffestiniog, ar fab. PRIODAS A.U. ADAMS—EVANS—Mai laf, yn Hawen, Ceredigion, gan y Parch. R. P. Jones, Pencader, y Parch. D. Adams, B.A., gweinidog Hawen a Bryngwenith, a Miss Jane Evans, Pantygwenith. 'ELLIS—JONES—Mai 2il, yn addoldy yr Annibyn- wyr, Dolgellau, gan y Parch. D. Griffiths, Mr John Ellis, Ty'nllwyn, a Miss Gwen Jones, Waenfechan, Dolgellau. STEPHENS—SANDBROOK—Mai 14eg, yn nghapel Ebenezer, Abertawe, gan y Parch. W. Jenkins, Pentre-Estyll, yn cael ei gynorthwyo gari y Parch. W. Thomas, Rock, Cwmafon, y Parch, J. Stephens, Llwynyrhwrdd, a Miss Miss M, Sandbrook, merch Mr J. Sandbrook, Dolypwll, yr hwn sydd yn un o ddiaconiad hynaf eglwys Liwynyrhwdd. Boed rli wy man cryfion cariad 0 hyd am danynt hwy, 'Does dim eill wneud ysgariad Hyd angau rhyngddynt hwy Fel per winwydden iffirwythlon Bo'r wraig ar hyd y ty, Boed plant fel heirdd btanigion 0 gylch eu bord yn gu." DONATUS. MARWOLAETHAU. JONES—Mai 5ed, Dafydd, mab ieuengaf Mr Edward Jones, Pengwern-road, Llangollen, yn 24 mlwydd oed.. EDWARDB-Mai 6fe&, Mr Thomas Edwards, Brook Street, Llangollen, yn 68 mlwydd oed. EVANS-Mai 8fed, mereh i Mr Evan Evans, Ffactri TTchaf, Llanfyllin, yn 6 mlwydd oed. DAvms-Mai lOfed, John,,plentyn Mr James Davies, plasterer, Bridge-end, Aberystwyth, yn dnir wythnos oed. EVANS—Mai lleg, Mr Jenkin Evans, Blaenplwyf, Llanychaiarn, ger Aberystwyth, y& 50 mlwydd oed. J ONES—Mai 12fed, priod Mr W. Jones, Cwm- mwythig, Aberystwyth, yn .68 mlwydd oed. THOMAS—Mai yr 8fed, yn 1 mlwydd oed, Willie, plentynJMr a JMrs Thomas, Treliws, Llanwinio. Claddwyd ef yn mynwent eglwys y plwyf, y Sadwrn canlynol, pryd y pregethwyd yn y ty gan Mr D. Evans, Cwmbach, ag y gwasanaeth- wyd yn yr egIwys ac ar lan y bedd gan y Parch D. Ilowell, iicer.
TEULU CAS Y FFON.
News
Cite
Share
TEULU CAS Y FFON. Mac llawer math 6 ddynolryw Ar hyd y ddaear'gron Rhai drwg, rhai da, rhai gwych, rhai gwael, Rhai'n drist, a rhai yn lion. CYDOAN—0 bob rhyw deulu yn mhob gwlad Trwy'r byd i gyd o'r bron, Y teulu casa o ddynolryw Yw teulu cas y ffon. Mae rhai fel pla ar hyd y byd, O'r anwyl, maent yn gas Maent bron a gyru'r cryfa ei nerth I syrthio oddiwrth ras. 0 bob rhyw deulu yn mhob gwlad, &e 'Rwy'n cofio cor undebol da Yn canu'n wych a lion Ond marw wnaeth cyn dechreu'r ha', 0 achos teulu'r ffon. 0 bob rhyw deulu yn mliob gwlad, &c Adwaemvn lawer cerddor gwych Yn enwog yn y fro Ond haner gair yn groes i'w raen A rydd ei drwyn ar dro. 0 bob rhyw deulu yn mhob gwlad, &c. Nid oes cymdeithas yn un man Nad Jdyw hil y ffon Fel llwydrew ar y blodeu cain Yn gwywo'r oil o'r bron. 0 bob rhyw deulu yn mliob gwlad, &c. 0 na chawn gymhorth cwn y byd I'w hela o bob man, A'u gyru i ryw erchyll dwll, Fel na ddoent byth i'r Ian ■ CYDGAN—E fyddai'n ddedwydd wcdi hyn, Pawb yn y cywair Hon, Heb wg na gweniaith yn y byd 'Rol difa teulu'r ffon. Llanberis. ALARCH qWYRFAI.
[No title]
News
Cite
Share
Dywedir fod y Barnwr Mellor yn bwriadii ymneillduo o'r faine dechreu y mis ncsaf. Ganwyd ef yn 1809. Cafodd ei alw i'r Bar" yn 1833, ac ymunodd a'r Midland Circuit, Gwnaed ef yn Q C. yn 1851. Bu yncynrych. ioli Yarmouth yn Kby y Cyflredin o 1857 byd 1850; a Nottingham o 1859 hyd 1861. Cafodd ei benodi yn farnwr yn 1861, a chan ei fod wedi gwasanfiethu dros bymtheg mlyn- edd, y mae wedi ennill blwytld-dal. Hysbysir fod y Meistri Lloyd a'u Cyf., a Hopkins, Gilkes, a'u Cyf, baiarn-fasnachwyr mawriou yn Middlesborougti wedi methu. Mae dyledion y blaenaf tua X400,000, a'r olaf tua £ 200,000. Cafodd Thomas Moran ei ryddhau o gar- char Caer boreu dydd G wenfrdiweddaf, wcdi bod yno am dair wytlmos. Ei beebbd oedd methu cynal ei deulu oherwydd ci fod allau o waith. Yr oedd swrn da o arian wedi eu casglu iddo yn ystod yr adeg y bu yny circhar. Cafodd ei ryddhau wythuos cyn yr amser oedd i ddyfod yn rbydd yn 01 dedfryd yr ynadon. Cymerodd tanchwa le yn mhwll-glo Whit- worth, Tredegar, dydd Liun, a niweidiwyd glowr ieuanc 18 oed o'r enw Powell Jouesyn fawr.
FFESTINIOG.
News
Cite
Share
Mr W. R. Jones, Trawsfynydd, Mr E. T. Jones, a J. Owen. Cystadleuaeth canu yr unawd Ti nid wyt." Ymgeisiodd pump, a dyfarnwyd y wobr 10s. i Mr R. Roberts, Trawsfynydd. Am y 11 wy bren oreu, gwobr 8s y Mr R. Williams, Trawsfynydd. Beirn- iadaeth ar y traethodau Darbodaeth." Ym- geisiodd un—gwobr 15s. Mr D. Davies, Pen- 9 n rhyn. Y rhai goreu ar Ffurfio Brawddegau ydoedd Mr R. Evans, Llan, Mr G. Lloyd, a Mr R. R. Rowland. Beirniadaeth ar y tonau. Ymgeisiod tri-ar-ddeg—gwobr 5s. Goreu Crych Elen; ail oreu, gwobr 2s 6c, Mr D. Jones, Glanygors. Beirniadaeth ar y cyfieith- iad o'r Cymraeg i'r Saesneg, gwobr 10s., goreu, Mr R. R. Rowland, Geufron; ail, 5s., Mr O. Griffith, Hhiw. Beirniadaeth ar y Samplers, gwobr 5s., goreu, Mrs Jane Roberts, Tai'rfrest; ail, 2s. 6c., Mrs Kate Hughes, Conglywal. Beirniadaeth ar yr englynion i'r Gigiran. Ymgeisiodd tri-ar-ddeg-ar-hugain ar y testyn hwn. Gwobr 5s. Y goreu ydoedd eiddo Castellydd, a daeth ymlacn yn mherson Mr D. Jones, Dcwi Ap Gutyn. We'e yr englyn— Drwy'i heinioes budr ei banian—siwrio'i thrais Ar ei threm wna'r gigfran, Cry' eco'i gwddf yn crawcian, Wiria gwymp i lawer gwan. Beirniadaeth Y Llythyrau Desgrifiad o'r Awr Giniaw. Gwobr 7s..6c. Ymgeisiodd deg, dau yn gyd-faddugol, Mri J. Davies, Rhiw, a G. Lloyd, Tanygrisiau; ail, Mri J. M. Jones, a D. Davies, Penrhyn. Beirniadaeth traeth- odau Y Dyn Ieuane. Gwobr YI. Goreu Mr Owen Lloyd Jones, Dolwyddelen. Cystadleu- aeth canu Dyfroedd y Bywyd (Alaw Manod.) Daeth tri chdr y Band of Hope yn mlaen i'r llwyfan: Cor Tanygrisiau, dan arweiniad Mr G. J. Williams; cor Bethania, dan arweiniad Mr William Vaughan, a chor Bethel dan arweiniad Mr William Stephen. Dywed y beirniad fod y tri chor wedi canu yn rhagorol o dda, a dyfarnodd y wobr o .63 i g<3r Bethel, a metronome gwerth f,2 i'r arweinydd. Cyfarfod Nos Faivrth,—Yn gyntaf, Ded- wyddwch y Nef, gan Mr W. E. Joues, ac an- erchiad gwir ddoniol gan y llywydd, R. Owen, Ysw., ac arweiniwyd gan y Parch E. Jones, Caernarfon. Can gan Eos Ffestin. Cwesti- ynau i rai dan 25 oed, gwobr 10s. Goreu, Mr D.Jones, Bywydd Terrace; ail, Mr Hugh Roberts; trydydd, Mr E. Price, Bethania. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg. Gwobr Xi. Goreu, Mr R. Hughes, Post-office, Four- crosses. Cystadleuaeth canu unawd (baritone), Gwobr 10s. Dau a ddaeth yn mlaen, goreu Mr R. Roberts, Trawsfynydd. Cvrestiynau ar Gyfatebiaeth Butler. Teilynga Mr J. Jenkins yr ail wobr, 6s. Beirniadaeth ar yr hir a thoddaid Y Chwarelwr. Gwobr 8s. Ym- geisiodd wyth. Y g-oreu ydoedd Mr W. Humphrey (Elihu.) Wele Y Chwarelwr- Y Chwarelwr sy' ddewrwycli wr hylon Wrtli raff mae'n gweithiaw a'i ddifraw ddwyfron Hwnit bylora'r graig yn blerion Hyllt lech-f eitil vi-i lleiii dillyiiion Ry' nawdd lwyr i anedd lon-rhag 'stormy dd, Ac erch wlawogydd mal croc-hli eigion. Beirniadaeth y cwestiynau JIT Chwarel y Welsh Slate. Gwobr 10s. Ymgeisiodd pedwar. Goreu,Mr D. Davies, Penrhyn; ail a thrydydd, Mri O. Griffiths, a, D. Jones. Ymgeisiodd saith ar yr Anthem Gynulleidfaol Gwobr jEl Is. Goreu, Mr W. Hughes (Alaw Manod.) Beiriadaeth y cwestiynau ar Heb. i. Gwobr 10s. Ymgeisiodd tri-ar-ddeg- Goreu, Mr D. Jones, Bywydd Terrace; ail, Mr 0. Evan, Tv'nddol. Cystadleuaeth dadfonu Y Ddau Lowr. Gwobr 15s. Ymgeisiodd tri parti. Goreu, Mr R. Roberts, Trawsfynyddd, a'i gyfaili. Beirniadaeth y Rhiangerdd. Ym- geisiodd wyth. Rhanwyd y wobr, £ 1, rhwng loan A p G ruffydd a Mr W. R. Jones, Four- crosses. Cystadleuaeth gorawl, Pwy yw y rhai hyii. Daeth dau g6r yn mlaen i'r llwyfan, cÓr Tanygrisiau, dan arweiniad Mr C. Roberts, a chôr Peniel, dan arweiniad Mr H. Jones Ar ol beirniadaeth faith a manwl a hollt- fiewyn, dylarnodd y wobr 97, a £ 1 i arweinydd y cor diweddaf. Beirniadaeth ar y prif draethawd, "Trem ar agwedd foesol a chre- fyddol ardal Festiniog." Gwobr £22s. Ym- geisiodd pedwar. Goreu Mr R. Williams (Britwn); ail wobr, £1, Mri J. Jones, Tan- ygrisiau, a J. Jones, Tabernacl, yn gyfartal. Beirniaid y traethodau a'r farddoniaeth ydoedd y Parch E. Jones, Caernarfon; y gerddoriaeth, Mr J. Roberts (Pencerdd Gwynedd.) Ar ol myned trwy y seremoni arferol, aeth pawb i'w fan.-Trebor Manod.