Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CANED MAMAU I'W PLANT.

LLANDDANIEL, MON.

ARAETH MR HENRY RICHARD, A.S.,

News
Cite
Share

a'r chwiorydd hyny sydd yn awr yn wylo a thori eu calonau yn eu eartrefi am heithiedig oherwydd y lladdedigion a'r anwyliaid a gyf- arfyddodd a marwolaeth anamserol a gwaedlyd tuag Isandula a manau creill, o achos y Uwybr diofal a chwyrnwyllt "gymerodd Syr Bartle Frere. (Cymeradwyaeth.) Na, y mae fy nghydymdeimlad hefyd gyda pherthynasau y Zuluiaid anedwydd, amryw filoedd o ba rai, mae yn debyg, a fuont feirw, meirw wrth am- ddiffyn yn wrol a gwladgarol eu tiriogaethau rhag goresgyniad nwyfus a diesgus. (Clywcb, clywch.) Gwawdir llawer ar yr hyn a elwir "plaid yr heddwch-ar-unrhyw-bris." Yn mha le y mae y fath blaid i'w chael ? Y mae yn wif fod yn y wlad gorff o bobl sydd oherwydd seiliau crefyddol yn credu fod rhyfel yn wrthwynebol i ysbryd y grefydd Gristion- ogol, a heriaf yr hollfainc Esgobol i wrthbrofi a 15 y gosodiad yna. Ar ol amddiffyniad galluog i egwyddorion Cymdeithas Heddwcb, di- weddodd yr aelod anrhydeddus ei araeth drwy enwi rhestr o ryfeloedd y bu gan y wlad hon law ynddynt er y flwyddyn 1816. Nid oes braidd unrhyw genedl wareiddiedig nac an- waraidd, meddai, na fuom yn ymladd & hwy braidd unrhyw wlad na ddariu i ni goehi ei dyfroedd a. gwaed dynol. Er 1816 buom mewn rhyfel a. Thwrci, a'r Aipht, a'r Algerin- iaid, a'r Ashanteeaid (ddwywaitb), a'r Is- Ellmyniaid, a'r Caffiriaid (chwe' gwaith), a'r Arabiaid yn Aden, a China (dair gwaith) a Coorg, a thalaethau Rajpool, a'r Affghaniaid (ddwy waith), ag Ameers Scinde, a'r Mahrat- tiaid, a'r Sikhiaid (ddwy waith), a'r Santhal- iaid, a thrigolion Zealand Newydd (bedair gwaith), a Groeg, a'r Dyaks, a Rwssia, a Persia (ddwy waitb), a Siaru, a Nicaragua, a Japan, a'r Malayiaid, a'r Zuluiaid; heblaw rbyfeloedd &'n deiliaid ein hunain yn Canada yn Jamaica, yn yr Ynysoedd Ionaidd, yn Ceylon, yn India, ac yn yr Iwerddon, yn nghyd a rhan anuniongyrchol yn chwyldroadau Ysbaen a Portugal. Ond nid dyna'r cyfan. Yn 1864, cyhoeddwyd papur Seneddol yn rhoddi rhestr o'r rhyfeloedd bychain y bu genym ran ynddynt yn yr India er pan unwyd y Punjab. Y mae yr holl enwau genyf yma, ond ni wnaf gospi y Ty drwy eu darllen. Y maent yn rbifo ugain. Er yr adeg hono, bu o leiaf dri arall yn y gororau hyny o'r Affreed- iaid, y Berzotiaid, a phenboethiaid Sitana. Cawsom rywbeth hefyd tebyg i ryfel a Brenin Dabonry, ac a Sultan Zanzibar. Ond heb gyfrif hyny, na chyfrif y rhan gymerasom yn rhyfeloedd Ysbaen a Portugal, ein bod yn ystod y tair blynedd a thriugain hyn, wedi bod mewn tair-ar-ddeg-a-thriugain o ryfeloedd Nifer go dda i wlad y dywedir ei bod mewn perygl oddiwrth blaid yr heddwch-ar-unrhyw-bris. (Chwerthin a chymeradwyaeth.) A sut y darfu i ni wario ein harian yn y cyfamser ? We), yn y cyfnod yna, yn ol fy nghyfrif i, gwariasom dros dri- chant- ar-ddeg o filiynau mewn rhyfeloedd a pharotoadau i ryfeloedd! Wrth reswm, y mae bai yn gorphwys ar y bobl yna a enwais. Yr ydym ni, fel yr ydym yn cael ein hysbysu yn barhaus, y genedl fwyaf beddychlon a thangnefeddus. Nid ydym ni byth yn goresgyn tiroedd pobl ereill. Ac eto y mae rbyw ragfarn isel mewn cymdeithas os by. id dyn yn hoff o ifraeo a'i gymydogion yn mhob cyleiriad, fod rhyw le i gasglu ei fod ef ei hun o duedd drahaus a checrus. Na, nid cariad at heddwch sydd yn beryglus i genedl. Mae perygl teyrnas yn cyfodi pan fyddo dynion sydd yn llenwi swyddi pwysig yn y Wladwr- iaeth, ac o angenrbeidrwydd yn meddu dylan- I wad mawr ar gymeriad yn ngbyd ag ar dynghedion cenedl, yn cymeryd y fath lwybr ag fydd yn tueddu i lygru ac i anfoesoli cym- deithas drwy ymyraeth yn barbaus &'r gwir- ionedd, drwy- gynhyrfu teimladau rhyfeJgar drwy apeliadau ystrywgar at nwydau iselaf y dosbeirth iselaf o'r cyhoedd, drwy godibalchder cenedlaethol yn rheol uwchaf y Wladwriaetb, a thrwy daflu diystyrwch chwyrnllyd ar egwyddorion tragywyddol hyny o gynawnder, gwirionedd, a moesoldeb, ar y rhai, fel yr wyf yn credu, y mae Duw yn llywodraethu y byd; a chydnabyddiaeth o'r rhai hyn yw yr unig y 0 sylfaen ddiogcl a pharhaus y gellir adeiladu 0 Ilwyddiant cenedl arni. (Cymeradwyaeth.)