Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
SPECIAL NOTICE.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
SPECIAL NOTICE. Revised Scale of Cha-rgeb for Advertise- ZD ments in the "Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four Seven Ins. Ins. Ins. ——.—————————— ———— ———— -.——— s. d. p-, d. s. d. One Column 7 0 25 0 40 0 Half „ 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 8 8 12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted Concerts „ Vacant Eisteddfodau Apartments Wanted Sales by Auction, &c., &c „ To Let as follows:- One Insertion, per line 4d. Four Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2jd. Longer periods by special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise- ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to Å. DRIFFIELD at Carnarvon.
TELERAU " Y CELT."
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
TELERAU Y CELT." 1 1 P >st am chwarter 0 1 8 2 eto 'eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Rhoddir el w ynot 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yh ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i dd'od i law bob 3 mis. Telerau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. ifgT D.S.-Sylwer yn fanwl ar yr uchod.
YMFUDIAETH A'R WLADFA.
News
Cite
Share
YMFUDIAETH A'R WLADFA. LLYTIIYR I. Mae'n ddigon amlwg er ys blynyddau lawer fod ymfudiaeth fawr i fod o Gymru, am fod tlodi ei thrigolion yn fwy nag unrhyw bobl arall sydd yn byw yn y deyrnas gyfunol. Yn adpg y llwyddiant mawr sydd wedi bod ar fas nach y blynyddau yr oedd Gladstone mewn awdurdod, yr oedd y Cymry yn dlotach nahyd y nod y Gwyctdelod. Yn yr amser a fu, cardotwyr penaf Ewrop oedd y Gwydclelod. Nid ywlr Cymry yn hoff o gardota ond y maent yn dlotacli na'r Gwyddelod er ys blynyddau lawer, am fod ymfudiaeth erfawr wedi bod o'r Jwerddon ac befyd fod ei gwleid- wyr wedi mynu ychydig o chwareu teg i'r genedl, yn enwedig i ddal a phryna tiroedd. Nid yw ein haelodau Scnecldol Cymreig wedi meddwl nemawr am wella cyflwr y Cymry. Pan yr oedd Mr Watkin Williams am gael ysgar yr Eglwys oddiwrth y Llywodraeth, yr oedd eenfigen yr aelodau Cymreig yn oi mod eenfigen yr aelodau Cymreig yn oi mod tuag ato iel na chefnogent ef, am nad oedd efe wedi ei ordeinio i fod yn ben- aeth. Nid oedd efe yn O'Connell Gym. reig, ac am hyny ni chydnabyddent ei uwchafiaeth, ac ui waeddent am ysgariad, am fod Mr Williams wedi gwaeddi'n gyntaf. Nid ydynt yn son am wella cyflwr deiladon tir, nac yn cynyg. dim arall i wella cyflwr y genedl, oddieithr eu bod yn cael eu tueddu i ddyweyd ambell r air i gael cerdod i Brif- ysgol Aberystwyth. Mae y genedl yn dlawd iawn, ac nid yw ein mawrion yn eymeryd hyn at eu hystyriaeth, nac yn meddwl dim am roddi ymwared. Mae yn agos i un dyn o bob pump yn sir Aberteili yn derbyn eymorth plwyfol; ac y mae rhanau cyfoethocaf Cymru, sef ei gweithfeydd, yn awr mewn dygn dlodi; ac y mae son am ymfudo yn mhob cyfeiriad, a miloedd o bobl yn rhy dlodion i dalu eif cludiad, tra y mae ereill yn alluog i dalu ychydig. Pe buasai y gweithwyr wedi rhoddi eu harian at undebau ymfudol yn lie at undebau sefyll allan, buasent yn llawer gwell eu eyflwr y dyddhwn. Yr UnolDaleitltiau sydd wedi bod yn brif fan yr amser a fu i Gymry ymfudo iddo; a phe gwrandewicl ar Mr J. W. Jones, y 'Drych,' yr unol Daleithiau yw'r man goreu eto i Gymry ymfudo iddo. Bur 'Drych.' gynt yn ngwasanaeth cwmni o Kansas, ac eiddo y cwmnj, hwnw ydoedd, ac ni cheicl canmol unman yn y I Drych y pryd liyny ond Kansas, am mai drwy werthu tiroedd yn Kansas yr oedd y I Drych yn cael ei gynal. Yr adeg hyny bu Mr J. W. Jones, yn yr 'Herald Cymraeg,' yn ymosod ar y Wladfa dan y fi'ngenw "Garibaldi," ac ni wyddid ar y pryd i)ivy oc,.dd y gelyn bwnw i'r Wladfa, a chynygiodd efe i M, D. Jones, Bala, mown llythyr, i ysgrifenu dros y WIadfa ond iddo gael ei dalu Bydd y Drych/ o bryd i bryd, yn cyhoeddi egwyddorion anfiyddiaeth, drwy ddwyn allan ddyfyniadau o eiriau yr cl nffyddwyr Renan a Strauss, o- dan yr esgus o fod yn deg a dibartiaetb, ac ymosodid ar weinidogion goreu crefydd yn mhlith Cymry'r Taleitbiau, nes y penderfynwyd codi papurau i'w wrth- wynebu. Er hyn oil, y mae Mr John Thomas, Liverpool, mewn rbifyn diweddar o'r 'Tyst a'r Dydd,' yn mawr gymeradwyo Mr J. W. Jones fel arweinydd ymfudol Yr wyf finau am roddi rhybudd difeifol i bob Cymro yn mhob man i beidio eymeryd ei arwain gan Mr J. W, Jones, am nas gall gael arweinydd peryclach mewn ym- fudiaeth, moesoldeb, a chrefydd. Mae tuedd fawr yn mhobl yr Unol Daleithiau i ganmol y man y byddont hwy yn byw ynddo uwchlaw pob man arall. Os bydd dyn yn tirio yn Efrog Newydd, ac yn holi lie y mae-y man goreu i ymfudwr, atebir yn union mai yn Efrog Newydd y mac'r man goreia o ddigon. Yno y mae'r cyfleusderau goreu, a mwyaf o arian parod, a darbwyllir yr ymfudwr i aros yno. Siopwr and odid fydd yn areithio felly wrth yr ymfudwr, am fod- gobaith gwerthu dillad iddo, ond iddo aros yn Efrog Newydd. Bydd y dyn yn mlien amser am symud tuag Utica ac wedi myned yno, canmolir of am e,i gallineb yn peidio aros yn Efrog Newydd, am mai Utica yw zn y Jerusalem y Cyuiry yn yr America, ac mai yn Utica y mae y capeli Cymreig goreu, a'r gweinidogion Cymreig ar- dderchvcaf yn yr Unol Daleithiau, ac nad oes un man tu allan i Gymru mor fanteisiol i Gymro greiydda ag -Utica. Crydd ond odid fydd y dyn, mewn gobaith i werthu par o esgidiau i'r ymfudwr, a dyma'r gwir reswm ei fod yn canmol Utica fel lie i ymfudwr Cymreig. Os bydd yr ymfudwr yn ymadael i ryw le arall, nid oes obaith i'r crydd byth i'w gael yn un o'i gwsmeriaid. OA bydd yr ymfudwr wedi byn am fyned i Steuben, bydd pobl Steuben yn ei ganmol yn/fawr am ei gallineb yn symud o Utica, am nad oes tir i'w gael ar werth yn Utica. Yn Steuben mao digon o fausydd i'w cael ar worth, ac y mae yspryd gwerthu pobpeth yn yr Tanciaid, ond eu plant a'u gwragedd. Mae arian .yn fwy anwyl yn eu golwg na'r cartefi anwylaf. Yr egwyddor gynhyrfiol yn Steuben i ganmol y lie uwchlaw pob man arall fydd cael ymfudwr gwyrdd i roddi crogbris am dyddyn, er mwyn i'r ffarmwr gael myned i'r Gorllewin i brynu tyddyn arall am bris bychan. Mae dull gwasgarol y Cymry o ym- sefydlu yn yr Unol Daleithiau yn hynod o anfanteisiol iddynt, ac y maent yn mhob man yn elfen doddawl, ac nid yn elfen ffurfiol. Mae'r un peth yn Canada,, Australia, ac yn yr boll wladfaoedd Prydeinig. Myn y Sais a'r Americ- iaid yn mhob man fod yn feistr, a dodant genhedloedd ymfudol atynt yn dorwyr coed, ac yn webenwyr dwfr. Mae'r Americ^aid a'r Saeson yn gofalu am bob swydd enillgar ac esmwyth iddynt eu hunain, ac yn gwneud y Cymry ac ym- fndwyr ereill yn llafurwyr iddynt. Y Cymro sydd yn aredig ac yn codi yd, a'r Sais yn fasnachwr. Y Cymro fydd o flaen y tan yn toddi haiarn, ac yn y pwll yn tori glo, ac yn y chwarel yn gweithio llechi, a'r Sais yn trin ac yn pocedu'r arian. Mae'r Sais yn mynu bod yn llywodraethwr, ac y mae hyn yn rhoddi mantais iddo yn mhob cylch. Mae'r Gvvyddel yn penderfynu na oddefa yn liwv, ac y mae yn ymgodi ond y mae'r Cymro 1'1 yn duwiol oddef ei orthrymwyr yn mhob gwlad i wneud fel y mynont og ef, ac nid yw hyn yn dduwioldeb gwirioneddol ychwaith. "Y gwirionedd a'ch rhyddha chwi," meddai Crist, a dylai en crefydd wneud hyn i'r Cymry. MICHAEL D. JONES. l