Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

DANTEITHION.

News
Cite
Share

DANTEITHION. (Cyflwyvedig i Bapur yrEnwad.) 1. Rhyddid i Eglwysi Arfon.-Teimlir yn falch fod achos Rhyddid yn myned ihagddo. Gwneir JIawer ymdrech egniol y blynyddau hyn i gyfyngu rhyddid eglwysig, ond y mae yn achos o laweirydd digymysg i "feddyliau gweiniaid" fod Cyfarfod Chwarterol Sir Gaer- narfon yn canhtan rbyw gymaint o ryddtd i'r eglwysi. Darllener y perderfyniad canlynol a basiwyd yn y cyfarfod diweddaf .Ein bod, fel cynadledd, yn gadael yn rhydd i bob eglwys ei barn ei hun, pa un a iabwysiedir gwin anfeddwol ai peidio." Y mae y geiriau mor afler a phe buasai yswain-gyfreithiwr wedi bod wrtho. ond o hyn allan dyma ryddid i bob eglwys ei barn ei bun! Dichon fod y pender- fyniad yn rhag-dybied nad oedd yr cglwysi yn flaenorol yn meddu rhyddid i farnu drostynt eu huaain; ond gan fod y Gynadledd yn eu rhyddhau, ihyddion fyddant yn wir! 2. Y Goreu a'r Gwaethaf.—Mewn cyfarfod neillduol yn ddiweddar, dywedai Proff. Mor- gan, Caerfyrddin, na wyddai "am ddim gwell i ddyn na mynychu lIe o addoliad lie y byddo y pwlpud yn alia, na ,dim gwaeth na lie y byddo yn wan." Dyma berlau o wirioneddau wedi eu Ilefaru yn groew. Gwyn fyd y rhai sydd dan ddylanwad y pwlpud fyddo yn "alia." Ona cheid gan luaws o'n pregeth- wyr gredu y dichon y pwlpud fod yrr" wan." Sylwais droion mai y pwlpud gwan sydd byth a hefyd yn beio dynion am sefyll draw, tra y cyhoedda Proff. Morgan yn ddifloesgni nas gwyr am ddim gwaeth i ddyn na mynychu lie o addoliad lie y byddo y pwlpud yn wan. Weinidogion o bob oedran,myfyriwch frawddeg olaf y Proffeswr, yn He gwanhau eich pwlpudau drwy ymgecru tua'r Bala a'r Amwythig, &c. 3. Y Ghjmblaid Braidd yii Ofnus.— Buont yn benuchel iawn. y., ni fel Enwad" oedd pobpeth, ond cydnabydda y Tyst' bellach eu bod braidd yn ofnus." Y mae y Cadfridog braidd yn ofnus" erbyn hyn. Rhodder gwrandawiad i'w lais cwynfanus yn y tystion diweddaf yma. Ydyw, y mae yr Enwad braidd yn ofnus yn awr. Cyhoedda Papur yr Enwad fod cyfarfod yr Amwythig yn symud In mlaen" braidd yn ofnus." Ceisir dyfeisio a chynllunio rhyw foddion i rwystro gweith- rediadau Pwyllgor y Bala, a'i cynllun di- weddaf ydyw ceisio perswadio dynion mai yn yr Amwythig yr oedd y cyfoethogion i gyd. Yr, oedd yr holl weinidogion oedd yn yr Amwythig yn cyurychioli mwy o lawer na thri chymaint o arian ag a gynrychiolai yr boll weinidogion oedd yn y Bala," meddai y 'Tyst.' Ni fuasai eisio dyfeisio, ysgrifenu, a chyhoeddi y fath gehvydd oni bae fod rhyw rai braidd yn ofnus." Y mae B. J. Owens" wedi cydnabod plaid yr eglwysi yn fuddugol. iaethus, ac y mae bod neillduol dan yr cnw "Etholwr" yn cydnabod hefyd "mai y cwrs It gymerwyd yn y Bala yw y sicraf i orchfygu." 'Nid rhyfedd felly fod y GIym. blaid braidd yn ofnus yn ngwyneb pethau fel hyn. 4. lihagor o Waith i W. N.Y mae "W. N." wedi anfarwoli y ddwy lythyren hyn wrth ymladd brwydr y gweinidogion. 'Does dim dadl yn fy meddwl nad yw wedi cael ei godi gan Ragluniaeth yn arbenig i amddiffyn ei 11 anwyl gariadus frodyr." Y mae rhywyn "synhwyrol" yn ymosod yn ddiarbed ar yr eglwysi yn y Tyst,' Dilynaf ran o'r ysgrif, ond cymeraf ryddid i newid y [ gair eglwysi" a rhoi y gair pwlpudau yn ei Ie. Hwyrach y bydd hon yn ddysglaid flasus i rywrai: Y mae y gelyn wedi dyfod i mewn fel afon; a dichon fod ein henwad ni ar hyn o bryd yn cael ei brofi ganddo yn fwy. nac unrhyw enwad arall. Nid oes un ddadl nad yr achos mawr—yr achos penaf o bono—ydyw anghrefyddolder. Dynion wedi ymlusgo i'r pwlpudaubeb wybod dim am oruchwyliaeth crefydd ar eu heneidiau. Mae ganddynt lawer o ddawn, tipyn o wybodaetb, a thoraeth anferth o hyfdra ac y maent trwy y pethau hyny yn 11 wyddo i gael sylw mewn eglwysi, lie y mae lluaws yr aelodau yn bobl dawel a heddychol, nas gallasent gael mewn unrhyw gymdeithas arall. Maent erioed heb ddysgu gwersi cyntaf crefydd. Ni wyddant ddim am y ddoethineb sydd oddi uchod, sydd yn heddychol, boneddigaidd, hawdd ei thriu. Dynion hollol di-ras ydynt, yn trafod pethau crefydd fel pethau hollol gyffredin. Nid ydynt erioed wedi dysgu moesgarwch crefydd; ac am barchu nac oedran, na safiad, na chymer- iad-nid ydynt wedi meddwl am y fath beth. Cwynir ilawer y dyddiau hyn am gael diwyg- iad, ac y mae mawr angen am dano, ond y syniad sydd gan lawer am ddiwygiad. ydyw cael rhagor o ddynion i fewn i'r pwlpudau ond byddai yn llawn cymaint o ddiwygiad i gael lluaws o'r rhai trystfawr sydd ynddynt allan o honynt. Ni cheir bytb eglwysi hedd- ychol a thangnefeddus tra byddo dynion di- ras a digrefydd yn cael y fath lywodraeth ynddynt." Am tfyr y Seti wrth gwrs y cyhoeddwyd y cableddau uchod yn y Tyst,' ond dichon y gwel y meddyliau gweiniaid a'r personau siomedig," eu bod yn llawn mor gymwysiadol at lwytb Lefi. Nid wyf yn credu y ceid neb ond yr Enwad" i ymostwng i ddefnyddio ymadroddion mor eithafol. Pe buasai unrhyw un wedi dyweyd haner y pethau uchod am weinidogion, buasai y Tyst' yn ymgroesi rhag eu cyhoeddi, ond y maent yn fendigedig o dderbyniol am yr eglwysi. Dyma gyfle ardderchog i W. N. unwaith eto i ymorchestu 1 gyflawni gwrhydri. (Heb ddarfod.) I

BARN A LLAIS GWRANDAWYR.

NEWMARKET.