Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y PARCH. JONAH ROBERTS, CASTELTAEDD.

News
Cite
Share

Y PARCH. JONAH ROBERTS, CASTELTAEDD. SYR,—1. Beth oedd eich awdurdod i ddywedyd yn Nghastellnedd fod holl fyfyrwyr y Bala wedi myned i Bwyllgor yr Amwythig? 2. Ai gwir eich bod wedi dywedyd mai gwehil- ion Annibynwyr-yn weinidogion a diaconiaid— neu ryw beth tebyg, oedd yn Mliwyllgor y Bala, yr hwn a gynaliwyd yr un dydd a Phwyllgor yr Amwythig? 3. Beth wnaeth i chwi roddi eich enw wrth rybudd i'n clwb fod un David Davies yn glaf, ac yntau yn ei waith? a gwnend hyny pan oedd. y Parch. J, Matthews wedi gomedd ei arwyddo. A oeddech chwi yn ei adwaen yn well na Mr Matthews ? Nid wyf yn rhoddi fy enw priodol wrth yr uchod nid am fod arnaf eich ofn, nac ofn neb arall, ond am eich bod yn gymaint o gyfaill i'r Gell Gndd, ac o elyn i'r CELT. A pha fesur y mesuroch yr adfesurir i chwithau." DYN O'R DREF. [Drwg genym orfod cyhoeddi gofyniadau fel y rhai blaenorol; ond, yn wir, y mae cenftgen rhai yn erbyn Coleg defnyddiol y Bala, a'u gelyn- iaeth yn erbyn y CELT, a'u cyfrwysdra diorphwys i geisio gweithio yn eu herbyn, ac i geisio athrodi a diraddio hen athrawon a hen frodyr pleidiol iddynt, yn nychu elfenau en crefydcl eu hunain, ao yn sicr o ddrygu en defnyddioldeb en hunain, heblaw gwanychu a gwarthruddo eu henwad.—GOL.] COLEG Y BALA. FOXEDDIGION,—Y mae Coleg y Bala wedi bod o leshad i ni fel enwad crefyddol. Yr oeddwn i yn y cyfarfod cyntftf yn ei gychwyniad yn Llan- uwchllyn. Nid wyf yn gwybod fod neb oedd yn y cyfarfod hwnw yn fyw ond fy hunan. Nid oedd yno na digter na dadl-- Ond pawb o'r brodyr yno'n, un, s Heb neb yn tynu'n groes ac nid oedd cwmwl cymaint a chledr llaw gwr yn ymddangos i arwyddo ystorm. Ni cliymerais i un rhan yn y dadleuon sydd wedi bod yn ng'hylch y sefydliad ond cynygiaf y cynllun canlynol i ystyriaeth er terfynu pob dadl ac ymryson yn mherthynas iddo. Llywodraethiad y Coleg sydd mewn dadl. Cytuned y ddwy ochr ar y cynllun canlynol, a therfyna pob ymryson :— 1. Fod pob person unigol a gyfrano tio at y Coleg, neu 10s. y flwyddyn ac llchod, i fod yn aelod o'r Pwyllgor. 2. Fod pob eglwys a gasglo £ 1 ac uchod y flwyddyn at y Coleg, a hawl i anfon un i fod ar y Pwyllgor, bydded weinidog neu leygwr. 3. Fod pob Cyfundeb a hawl i anfon un i fod ar y Pwyllgor. 4. Fod y Pwyllgor i gyfarfod unwaith y flwyddyn yn y Bala, a rhyw le canolog yn y De- heudir bob yn ail. 5. Fod holl drefniklau y Coleg i gael eu pen- derfynu gan y cyfryw Bwyllgorau. v Yr wyf yn barnu y byddai Pwyllgor o'r cyfan- soddiad uchod yn do- i'r enwad ac y g'allai pawb fod yn dawel y trefnid pob peth perthynol i'r Coleg yn y modd goreu. Dyna fy nghynygiad, foneddigion ac os gwrth- ddadleuir yn ei erbyn, ni bydd i mi fyned i ddadl a neb. Penmain. E. HUGHES. [Yr ydym yn credu fod calon ein hen gyfaill Mr Hughes yn gynes am dangnefedd a chydweith- rediad, a bod ei awgrymiadau yn deilwng o ystyriaeth ond ein barn ydyw, Bod ei bed. werydd cynghor yn un nad ellir gyflawni. Yn Aberhonddu y dylid cyfarfod i ystyried am- gylcliladau Coleg Aberhonddu. Yn Nghaer- fyrddin y dylid trefnu amgylchiadau Coleg Caerfyrddin ac yn y Bala amgylchiadau Coleg y Bala. Ni hoffai neb i Bwyllgorau Caerfyrddin nac Aberhonddu gaei eu symud o'r Do i'r Gogledd bob yn ail; a byddai yn groes i bob trefn deg, hen a newydd, i symud Pwyllgor y Bala bob haner blwyddyn.-GoL.]

MARWOLAETH MRS SALISBURY,…

ANIAN YN MAI.

Y CELT.'

ENGLYNION CYFLWYNEDIG I ALARCH…

YMGOM Y GWCW A'R WENOL.