Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
SPECIAL NOTICE. Revised Scale of Charges for Advertise- 0 menis in the" Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four Seven Ins. Ins. Ins. s. d. p, d. s. d. One Column 7 0 25 0 40 0 Half „ 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 8 8 12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted Concerts „ Vacant Eisteddfodau Apartments Wanted Sales by Auction, &c., &c „ To Let as follows:— One Insertion, per line 4d. Eour Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2Jd. Longer periods by special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise- ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to A. DRIFFIELD at Carnarvon. TELERAU Y CELT." 1 dnvy'r Post am clnvarter 0 1 8 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swilt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfpn y parceli. Y taliadau i dd'od i law bob 3 mis. Telerau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. IW D.S.—Sylwer yn fanwl ar yr uchod. B
fll EISTEDDFOD.
News
Cite
Share
fll EISTEDDFOD. Rbai a haner addolant yr Eisteddfod, ac; ni fynant gredu fod yr un bai yu perthyn iddi; ereill a'i condemniant yn ddiarbed, a dadleuant na ddichon dim da ddyfod o honi. Diau fod y tybiau eithafol yna yn y I gyfeiliornus gyda golwg ar yr hen sefydl- iad. Y mae ffaeleddau yn perthyn iddi, er hyny nid ydyw heb lawer o rinweddau, a gwneir dirfawr ddaioni drwyddi mewn gwabanol ffyrdd. Dyledswydd ei hed- mygwyr ydyw ei gwella a'i diwygio, ac ni ddylai ei gwrthwynebwyr ddwyn cyhudd- iadau yn ei herbyn nad ydyw yn euog o honynt, neu nad ydyw yn fwy euog o honypt na chynulliadau lluosog ereill yn ein gwlad. Khesymeg wael yw dadleu dros ladd neu ddifodi unrhyw beth am y rheswm fod drwg nen ddiffyg yn nglyn a a; ef. Beth pe yr ymddygai dynion at eu gilydd ar y tir yna ? Neu beth pe ym- ddygai y Creawdwr at ei greaduriaid yn y ffordd yna ? Yr tin peth fyddai lladd y claf yn lie ei feddyginiaethu. Heb fyned yn orfanwl, dichon y gellir rhestru y gwrth-eisteddfod wyr i dri dos- barth:—y rhai nad oes* ganddynt chwaeth at lenyddiaeth o un math; gan hyny,. oferedd disgwyl i rai o'r nodwedd hyn deimlo clyddordeb yn yr Eisteddfod a'i phethau—pethau ereill tra gwahanol ddenant eu sylw. Y mae dosbarth arall yn wahanol-y mae ganddynt giyu lawer o duedd ar droion at yr Eisteddfod a'i phetbau, ond heb dalent neillduol i dori ffigiwr o bwys ynddynt—carent yn fawr allu gwneud enw iddynt eu litinaia drwy- ddynt, a gwelwyd Ilawer o honynt yn enill 2s 6c neu 3s feallai am unwaith yn eu hoes mewn man gyfarfodydd, ac nid oedd neb a ganmolai ac a glodforai bethau o'r natur hyn yn uwch na hwy ar y pryd; ond o ddiffyg talent, ac o bosibl diffyg ymdrecli yn ami, yn methti myned yn mlaen, a'r canlyniad fyddai troi allan i gondemnio yr eisteddfodan, &c., a dweyd y dylent gael eu difodi, gan nad-oes un daioni yn nglyn a hwynt. Cymhwysiadol fyddai ystori y llwynog a'r grawnwin i'r dosbarth hwn,—" Grawn suiion ydynt bethau'r Eisteddfod." jY trydydd dos- barth a gynwysa rai ydynt o bosibi yn cydwybodol gredu mai peth niweidiol yw yr Eisteddfod-ei bod yn fagwrfa a meith. rinfa llawer iawn o bechodau, megys di- friaeth, cynhenau, meddwdod, &c. Sicr fod gormod o'r pethau yna yn nglyn a hi, ac nid rhaid bod ,Yn elyn iddi cyn eu gweled, a thoimlo yr hyn a wnant. Ond gan fod y pethau yna, a rhagor allesid enwi, ysywaeth, yn nglyn a'r Eisteddfod, yr unig ffordd i wneud a hi yn ol rhai yw ei difodi. Os felly, difodor amryw sefydliadau a chynulliadau ereill am yr un rheswm. Ai yn yr Eisteddfod yn unig y ceir difriaeth a chynhenau? A wna y cyfcillion cydwybodol yma sierhau, pe y difodid hi yforu nesaf, y peidiai y pethau liyn ar yr un pryd ? Pe na byddai Eisteddfod o heddyw allan, a fyddai pob ro/v wedi darfod o'r tir? Na choeliaf, caem row yn barhaus—row eglwys, nen row enwad, neu row fedydd, neu row goleg, neu row gynadledd, neu row fwrdd ysgol, neu row etholiad, neu row senedd, neu rote ryfel, ac o ran hyny. rhyfel yw pob rdW. Ond gallesicl meddwl wrth glywed ambell un yn siarad am rows yr Eisteddfod, nad oes dim o'r fath beth i'w cael yn un lie arall. Druan o'r hen sefydliad, myn rhai ei wneud yn "fwch diangol" i ddwyn yr lioll rows yna. Meddwdod cto.-Rhy wir fod gormod o yfed a meddwi yn ein heisteddfodau, yn ogystal a chynulliadau lluosog ereill; ond a ydyw hyny yn rheswm dros eu difodi? Difoder ffeiriau a marchnadoedd, ie, a chvrran^o^drl £ ?.m VT* rm i-ln J "Ie," meddai rhywnn, "y mae angen ffeiriau a marchnadoedd er hyrwyddo masnach yn mlaell." Wel, a chaniatau nad oes dim rhagor o ddaioni yn deilliaw o'r Eisteddfod na bod yno rywun wedi enill deg neu ugain punt o arian, ac amryw ereill symiau mwy neu lai, heb edrych arni ond mewn rbyw ystyr famacliol fel yna yn unig, y mae yn llawn mor onest a ffair nea farchnad. Nid yr un dalent sydd gan baw b-gwerthu ceffyl mewn ffair gymer ambell un er enill ychydig bunoedd i dalu y rhent neu rywbeth arall; ond dichon y bydd ganddo gymydog, heb gnnddo dalent i trynu na gwerthu ceffyl, na buwch, na mochyn; ond gadawer icldo ddyfod o Eisteddfod B.,feallai y bydd wedi enill ychydig bunoedd mor onest a'r gwertbwr ceffylau, ac wedi dyfod adref mor gynar ac mor sobr ac yntau. Pe na fyddai un alllCan uwch yn cael ymestyn ato gan yr Eisteddfod, y mae ganddi gy- maint o hawl iddo a ffair neu farchnad bob tipyn. Gofynaf eto, pe na iyddai Eisteddfod o lieddyw allan, a fyddai Ilai o yfed a meddwi ? Prin y credaf. A phe na fyddai Eisteddfodau ynte, dim ond yn mysg y Cymry y byddai llai o feddwi' (byddai hyny yn dda, mae'n wir), oblegid nid oes un genedl arall yn cynal Eistedd- fodiu. Hawdd rhoddi gwedd ddrwg ar unrhyw beth wrtli ddangos y pethau gwaethaf yn nglyn ag ef yn unig. "Heb eifai, heb ci mi, medd hen ddiareb dangoser pethau gwaetbaf unrhyw borson, bydded cystal ag y byddo, nid ydyw hyny yn ddangoseg cywir o'r dyn dangoser ei rinweddau yn ogystal, a mynych y ceir hwy yn gor- bwyso y drwg. Beth pe dangosid -pethau gwaethaf hyd yn nod y weinidogaeth? Oawsid anil i ddalen ddu yma ac acw. Felly gyda golwg ar unrhyw beth, yr un fath am yr Eisteddfod wrth gwrs. Rhyw gymaint o amser yn ol, clywais bregeth ofnadwy o lym mewn cyfarfod lluosog. yn erbyn eisteddfodau a chyfar- fodydd cystadleaol, ac nid oedd un o bob ugain yn y gynulleidfa yn gwybod dim oil am natur eisteddfod; achannadoedd y pregethwr yn dweyd dim ond pethau gwaethaf cyfarfydodd o'r fath, naturiol* oedd i'r holl gynulleidfa yn agos gael eu gwneud i'w cyfrif yn bethau diles a drwg. Ond barn yr ychydig oedd yno yn gwybod yn wahanol oedd, fod y bregeth yn ofn- adwy o eithafol. Gan fod y syhvadau yn cael eu traddodi gan bregethwr, ac o'r pwlpud, natui-iol iawn i'r gynulleidfa, gan mwyaf, oedd myned yn elynion i'r Eis- teddfod Dywedai cyfaill wrtbyf y dydd arall, yr hwn sydd wedi treulio rhai blynyddau yn nghanolbarth Lloegr, fod y dosbarth gweithiol o'r Oymry lawer ar y blaon -i'r cyfryw ddosbaith yn mysg y Saeson, a phriodolai hyny, i raddau pell, i'r dylan- wad sydd gan yr Eisteddfod, &c., ar y genedl. Ac o ran hyny, onid ydyw y -l