Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

DANTEITHION.

News
Cite
Share

DANTEITHION. (Cyfiwyvedig i Bapur yr Enwad.) 1. Y Prif Weinidog a'r Prif Athraw.-Y mae hanfod Papur yr Enwad yn cyferbynu y ddau. Dengys fod g-wZaci-lywiaeth "Beacons lield" a ckole, lywiaeth "Michael" yn tueddu at" Unbenaeth. Yr amcan ydyw ceisio creu rhagfarn yn erbyn M. D. Jones, ac y mae yn amcan teihvng o'r Glymblaid. Y mae y Prif Weinidog yn llywodraeth wr swyddogol, ond nid yw y Prifathraw yn llywodraethwr ogwbl, a gwyr y tangsgrifwyr hyny yn dda. Haerir byth a thrachefu fod M. D. Jones yn meddu dylanwad ar reolaeth y Coleg. Dyna, am unwaith, gyhuddiad gwirioneddol yn ei erbyn. Y mae ganddo ddylanwad, a thyna paliam y cynllwynir i'w symud oddiar y ffordd. Ceisir ilywodraethu Annibynia gan bersonau uchel- geisiol, ond y mae gormod o ddynion dylan- wadol ar y ffordd, a cheisir eu symud ymaith drwy eu cyffelybu i Beaconsfield, &c. 1 2. Ysgol Milton Mount a Choleg y Bala.- Ymddengys fod anghydwelediad o berthynas i reolaeth y flaenaf. Rhoddwyd yr holl rchos i'w benderfynu gan bersonau wedi eu dewis gan yr Undeb Cynulleidfaol. Y mae Llad- mcrydd" yn mawr ganmol y cynllun, a bawdd canfod nad oes dim roddai fwy o foddlonrwydd i'w uchelder na gweled helyntion Coleg y Bala yn cael eu cyflwyno i ofal yr Undeb Bich Cymreig! Bydd cyfarfod nesaf yr Efelychiad Cymreig i'w gynal yn Lerpwl, a byddai yn fanteisiol iawn i rywrai gael achos y Coleg i'w drafod yno! 3. Yr hen, hen hanes.—Hen hanes y Glym- blaid mewn pwyllgorau a chynadleddau ydyw anghymeradwyo" pobpeth gwerinol ac annibynol. Y mae eu hanes am y deng mlynedd diweddaf yn profi hyn. Gwelir engreifftiau nodedig o hyn yn nghofnodion pedair neu bump o gynadleddau yn ddiweddar; ac yn ddiweddaf, dacw gyfarfod chwilfriwedig yr Amwythig yn "hollol anghymeradwyo" M. D. Jones a PlnvylJgor Rheolaidd y Bala. Dywedid fod y diweddar Dr. Harris, Cwrty- cadno, yn medru rhibo" dynion; ond diolch nad ydyw doctoriaid Lerpwl ac Abertawe yn meddu y ddawn" hono, onide buasai ein haner wedi cin rheibio am feiddio bawlio ein hiawnderau yn y Bala. 4 Y Glymblaid mewn Penbleth,-Cynal- iasant un o'r cyfarfodydd pwysicaf a gynaliwyd erioed yn yr Amwythig. Yr oedd y cyfarfod hwnw, wrth gwrs, yn gyfarfod lluosog adylanwadol, a buasai yn hawdd iddynt basio penderfyniadau cryfion diameu y car- asent wneud hyny, a diau y gwnaethent hyny oni bae fod rhwystrau cryfach ar en ffordd a chyfaddefa Dr. Thomas yn onest (chwareu teg iddo) mai y rhwystr mawr oedd fod ganddynt iymwneud a'r eglwysi ac a'r cyhoedd. Dyma'r benbleth a'r dyryswch, pa fodd i bi§io pender- fyniadau cryfion, a rhoddi eyfrif i'r eglwysi a'r cyhoedd am eu hymddygiadau. Ymgalonoged yr eglwysi; y mae yn amlwg fod dynion synwyrol yn gorfod teimlo eu dylanwad bcllach. Buont yn cael eu hanymwybyddu yn hir; ond y mae eu dylanwad yn dechreu cael ei deimlo erbyn hyn. Beth bynag ddaw o ffrwgwd y Bala, bydd yn foddion i'r eglwysi i adnabod eu gwir gyfeillion, a pheri i'w Hais gael ei glywed. 5. Tyngu Anudon.-Mewn llys gwladol yn ddiweddar, dywedai y Barnwr fod hyn ar gynydd mewn parth neillduol o Gymru. Yr wyf yn mawr obeithio na wnaed bvny yn yr Amwythig. Yn wir yr ydwyf yn hyderu nad oes neb, ie, neb o'r Glymblaid wedi myned yn ddigon di-hunanbarchus i ymostwng i gyflawni y pechod gwarthus o dyngu anudon. Eto, pasiwyd yn yr Amwythig Fod y cyfarfod hwn yn dyinuno datgan yn y modd mwyaf croew a phendant nad yw yn gwybod fod gan neb amcan i niweidio y Parch. M. D. Jones yn ei safle fel athraw," &c., &c. Dr. Rees, Aber- tawe, gynygiodd y penderfyniad, ac y mae iasau oerion yn myned droswyf wrth ci ail ysgriienu. Carwn yn fawr i'r G#r o Gaanan," cymydog agosaf i Dr. Eees, gyhoeddi ypenderfyniad fu gerbron cyfarfod y Lord Raglan yn Merthyr. Ceid felly weled pa fodd y saif datganiad yr Amwythig gerbron maeu- brawf y gwirionedd. 0 na elliddifodi y dat- ganiad dinystrio! ac andwyol hwn 6. Anghysowlcb Bendigedig.—Unobriodol- eddau pechadurusaf M. D. Jones ydyw ci ddy- lanwad, yn neillduol ei ddylanwad ar reolaetb 4 J y Coleg. Ni wnaetbid fawr o sylw o hono, druan, oni bae ei ddylanwad. Ni fuasai eisieu ei" gropo oni bae ei ddylanwad. Gallasai yr Hen Gyfansoddiad wneud y tro oni bae ei ddylanwad. Nid oes ganddo unrhyw allu yn -rheolciddiad y Coleg rhagor na rhyw danys- grifiwr arall ond ei ddylanwad. Ni chenfigenir wrth ddim ond wrth. ei ddylanwad. Amcan pob ystryw ydyw dinystrio ei ddylanwad. Swm y cwbl a glybuwyd yw ei ddylanwad. Y mae cyfangorph ei holl bechodau ysgeler yn gorwedd yn ei ddylanwad Mewn cysylltiad â mater arall, dywed Dr. Thomas mai y rhai y mae ganddynt fwyaf o gynwyr a chrefydd a garia y dylanwad mwyaf yn y diwedd, i ba ddosbarth bynag y perttv- y 0 ynant." Yn ol y Doctor, rhaid mai gan M. D. Jones y mae ipwyaf o synwyr a chrefydd yn y diwedd, oblegyd cydnabyddir mai efe sydd fwyaf ei ddylanwad ar Bwyllgor y Coleg. Yn wir y mae miloedd yr un farn a'r Doctor ar y pwne hwn. Cyboedda y Glym- blaid mai pechod mawr yr holl bechodau yn nglyn &g M, D. Jones ydyw ei ddylanwad a thystiant ar yr un anadl, yn anwyjiadwrus, mai ei synwyr a'i grefydd ydyw ei ddylanwad. Dyma angbysondeb bendigedig teilwng o alluoedd goreugwyr yr Enwad." (Rhagor eto.) "4..

YR OFFEIRIADAETII MEWN CYFFRO.

Y CLEFYD MELYN.

Y RHYFEL MAWR YN AMERICA.