Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

--J. B. GOUGH,

News
Cite
Share

J. B. GOUGH, Y PRIF ABEITHIWB DIRWESTOL. Cawsom yr hy fry dwell o wrandaw ar y dyn hynod hwn ddydd Gwener cliwecldaf yn mhabell fawr Caernarfon. Aeth deu- naw mlynedd heibio er pan glywsom ef o'r blaen yn ninas Pittsburgh, yn nhal- aetli Pennsylvania. Bu raid i ni amryw weithiau fyned at y drysau yn hir iawn cyn amser agor y pyrth, ac agorid hwynt bob amser awr neu ehwaneg cyn dechreu y cyfarfod. A rhwng yr arosiad maith ar yr eira a'r rhew yn yr ystryd cyn cael mynediad i mewn, ac o leiaf awr arall yn y neuadd cyn dechreuad y cyfarfod, a dwy vr o araeth ganddo yntau, yr oedd ymddangosiad Gough yn y ddinas yn golygu i ni haner diwrnod o lafur caled. Cawsom wytlmosau-o foddhad mewn dis- gwyliad am dano, a misoedd o lafur adeiladol yn beirniadu areithyddiaeth ein gilydd with olouni hyawdledd dihafal yr areithiwr liynod hwn. Ni chymerai an myfyriwr wobr mawr am beidio gwran- daw Gough. A chywir y barnent. Nid oes y fath esiampl o siaradwr i'w osod o flaen myfyrwyr. Da genym oedd gweled y fath lu o lefarwyr o bob oed ac o bob enwad wedi ymgynull i'r babell y tro hwn. Credwn fod llawer o honynfc wedi dyfod yno yn An swydd i glywed yr araethydd- iaeth, yn annibynol ar ei gysylltiad a'r achos ditwestol. Ao yr oedd yn wir werth dyfod-o bell iawn i'r dyben hwnw yn unig. Byddai yn clda genym pe dysg- ent un wers amlwg oddiwitho-clechi-euri ei auerchiad yn ddigon uchel i bawb ei glywed. Dylai, pob un sydd yn sefyll o flaen cynulieidfa ddysgu gwneud hyny. Mae rhyw hen arferiad fechan, isel. egwanllyd, a llwfr, oddiar gamsyniad neu ragritb. ystumddrwg, yn ein plith ni fel cenedl, sef dechreu ein hanercliiadau o unrhyw fath yn isel, ac anglielfydd, ao anliyglyw, a symud yn mlaen yn ara' gordduwiol, fel pe byddai baich pechcd y byd yu aros arnynt hwy, ac nid ar Griat, a. thuchan tipyn a phesyohu heb alwad, sic araf esgyn ar y gamwt, a bloeddio ei oreu o hyny i'r diwedd. Gwuaed pob un oreu y galio wrth fyned yn mlaen, ond yn enw pob rheswn dechreued fel dyn. Mae'r ffaith fod dynion cryfion wedi niab- wysiadu y dull eiddil anwrol hwn wedi argraffu ar feddyliau pregethwyr ieuainc mai hono yw'r ifordd effeithioli gyrhaedd a. dangos gwir fawredd pregethwrol. Iechyd i galon lleiarwyr ieuainc oedd gweled Mr. Gongli yn ymdaflu gorff ac enaid i ganol ei waith y aiunud cyntaf, "yn ddilol 'rwan," ac ?nor uchel ei lais, mor angherddol ei yspryd, ac mor ofn- adwy o ddifri yn y pum' munud cyntaf ag y bu mewn unrhyw bum' munud Y11 ystod yr awr a haner y safodd ger ein bron. Nij. ydym wedi gorphen ä hyn eto. Mae'! dull bychan dirmygus sydd gan lawer o bregethwyr ac areithwyr Gym ru yn gwneud un niwed mawr arall. Trwy ifol lynu wrth yr arferiad eiddil o ddech- reu eu pregethau mewn cywair isel an- hyglyw, a llusgo yn mlaen yn araf, dL nerth. diwres, a diargoel hyd haner y bregeth, ac yna ymunioni, ac ymddeffro, a llafurio yn galed iawn o hyny hyd ddiwedd y bregeth. "X maenfc wedi dysgu ein cynulleidfaoedd i beidio gwrando yn egniol, a pheidio disgwyl am ddim yn neillduol am yr haner awr gyntaf. Clyw- ais un o'r gweinidogion anwylaf a chraff- usaf yn mhlith y Trefnyddion Galfinaidd yn cyfaddef nad oedd eu cynulleidfaoedcl hwy fel rheol yn rhoddi eu hunain i wrando o ddifrif yn yr hauor awr cyntaf. Gallwn inau ddwyn tystiolaeth am gryn nifer o'n cynulleidfaoedd ninau, yr Anni- bynwyr, nad ydynt yn disgwyl i bregethwr wneud dim yn fywiog, egniol, cynhyrfus, ac argyhoeddiadol, nes byddo yn agos i ddiwedd y bregeth. Ac os gwna, bydd yn gwneud hyny ar ei gost ei Iran, i gynulleidfa anfoddlon am gael ei bwrw allan o'i rhych aifarpl, Dysgecl y llu o bregethwyr a fu yn gwrando Mr. Gough, mai gwrol a boneddigaidd yw llefaru fel credwr, o'r g;ur cyntaf i'r gair diwoddaf. Dyna y rheol y#prydoledig—Credais, am hyny y lleferais." Ac 03 gwhant", bydd ymweliad yr aieithiwr mawr, "ary cyfrif hwnw yft unig, yn fendith anmhrisiadwy i holl gysylltiadau crefydd yn Ngogledd Oymru. Mae lie ac angen ymhelaetha ar y pen hwn, set y wers i lefarwyr ein gwlad, ond gadawn ar hyn. Dirwest oedd pwnc y ddarlith. Y mae ei ymweliad yn foddion effeithiol i gadarn- hau pleidwyr dirwest yn mhob mail. Byddant yn taro yn hyfach a thrymach nag erioed ar arferion diotawl ein gwlad. Ae y niae ei yspi!yd" ymosodol, a'i ffydd gref yn llwyddiant buan y mudiad dir- westol, wedi ei. neiihu i gredu fod dydd ein gwaredigaeth yn ymyl, ac nid yn mhell yn ndaen yn nghragwyddoldeb. Yr oedd yno lawer o'n cynulleidfaoedd yn gwrando. Nis gall y rhai. byny am flyn- yddoecld i ddyfod feio eu gweiuidogion am fod yn rhy lym o blaid dirwest. Gresyn ei fod yn myned yn hen. Yn hyn yr un peth a ddigwydd i'r da ao i'r drwg. Ni fynem gredu mai efe ydoedd y gwr byw, heiny, sionc, a welsom ddenaw mlynedd yn ol yn Mhennsylvania. Cerddai yn ol ac yn mlaen yn ngorsa-f Bangor fel hen wr methedig. Bu raid cael ysgwyd dwy- 0 y law, ac edrych yn myw ei lygaid awdur- dodol, cyn credu mai efe ydoedd y gwr y oynhuliai pobloedd 0 bob cyfeiriad i'w wrando yn mhabell fawr Caernarfon. Bydd yn hoff iawn genym gofio am dano pe na byddai am ddim ond y deyrn- ged o bArch a. dalodd mer enaid-gynhyrf- iol i'r Prophwyd o Nazareth, fel Arwr mawr yr holl ddaear, ac nad oes modd bod yn hero, na chyflawni heroism, ond trwy efelychu Arwr Calfaria. Diolch i Dduw ddarfod i hyny alw allan gymerad- wyaeth fwyaf ddiymatal. y dyrfa fawr. Buom 0 fewn y mymryn lleiaf yn y byd i gychwyn y gan "Hold the Fort," yn Saes- neg, non" Pen Calfaria, nac aed hwnw byth o'm cof." Nid yw yn disgwyl cael ein gweled byth eto ar y ddaear. Teimla ei fod yn canu yn iach a'n teyrnas ni y tro hwn. Ffarweliai a ni yn ddifrifol a serchog, gati obeithio y caem gyfarfod a'n gilydd mewn gwlad sy well. D. S. D.

[No title]