Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GORPRWYS MAENT.'

News
Cite
Share

GORPRWYS MAENT.' Oyflwynedig i Mr. John Thomas, Plagmadoc, ger BaJa, ar farwolaetli ei anwyl Mod, yr lion a fa farw Mawrth 2<Jfed. 1879. "Fel v gorphwysont oddiwrth eu liafur a'u gweithredoecld sydd yn eu canlyn hwy. Dat. xiv. 13. Beth yw marw? Gorphwys ydyw Cyn i'r saint ail ddechreu byw; Pwyso pen ar fynwcs lesu Ilhwng y ddeufvd dyna yw. Pa le mae ein lioif anwyliaid Fuont feirw o bryd i bryd ? "Gorphwys maent oddiwrth eu liafur" Yn y Nefoedd. Gwyn eu byd. Nid yw'r Cristion ond pererin, Ar ei daith mewn anial dir; Neu winllanydd wrth ei orcliwyl, Ni chaiff aros yma'n hir Daw ei Arglwydd heibio'n ebrwydd, Ac a'i geilw ef i dre'; Un law gaua ddorau bywvd, A'r llall egyr ddrws y Ne'. Y mae rhwymau tynion, tyner Teimlad yn ein dal yn ngliyd, Wedi eu c'lymu a bysedd cariad, Gan Greawdwr mawr y byd; Ond yr hwn fu'n rhwymo ein daear Wrth yr Huan mawr i droi, A all ddatod yr holl rvvymau Wnaeth ei law E'i hunan roi. 'Nid yw angeu, er mor atgas, Ond llr*w aswy ein Dnw ni, 'N dated c'lymau ei ddeheulaw Rhwng y ddaear hon a thi Yr un Duw a ddywedodd "Bydded" Goiea drwy'r SHt'fafen dios, A'r Dnw hwnw, o'i ddoethineb, Dd'wedodd wed'yn, Bydded nos." vCaiff angylion gario barnau z,Y Ar y byd, mewn dwfr a than, A chant weini i'r saint, drwy gario Myrdd o negeseuau man Ond nid oes o fewn y Wynfa Neb gaiff gario enaid ssa-nt Nid oes ond y Tad yn unig Gaiff y fraint o gyrchu'r plant. Duw yw angen-Dnw fu yna, Nid eicli gelyn. ond eicli ffrvnd, Cyn i'r teulu ei adnabod, 'R oedd 'r ymwelydd wedi myn'd Camgymerodd Mair ei Harglwydd Gan lawenydd wrth y bedd; Dagrau gofid, dallodd chwitliau, Nes methasoch wei'd ei wedd. Ymaith aeth a'ch anwyl briod Yn ei gwmni tua'r nef Duw a dyn yn cydymdeithio, Rhyfedd yw ei ofal Ef Ond fe wystlodd gcrff ei blentyn Y daw eto'n ol ryw bryd, Ac nad yw yr holl gysylltiad Wedi ei dori oddiwrth y byd. Fe aeth Enoch ae Elias A'r hen bebyll gyda hwy, Ni a(lavvsallt i'w Pei,tli'nasiti Obaith byth eu gweled mwy Ond mor hoffus yw cael cadw Rlian ar ol o'n ceraint gwiw, I gyseg u rhan o'r dclaear Ynein teimlad tra b'om byw. Daw'r tymorau yn- eu cylchdro I addaw by wyd uwch y fan, A bydd natur yn ymdrechu I ddal ynfyw ein gobaith gwan "Gorphwys maent," medd gwywdergauaf, Clywir cynwrf Gwanwyn draw, Haf, a'i flodau, ddaw i dd'wedyd, C'nana i gasglu'r 'sgubau ddaw. Ond, fy nghyfaill, gwn nas diclion Teiinlad dwys a mynwes friw Rodio llwvbrau sychion rheswm Ar ol troion dyfnion Duw Ac nid yw y Duw a blanodd Deimlad yn y fynwes hon, Yn bwriadu ini beidio Golchi poen a dagrau a'r fi-on. Diwrnod tywyll, du, cymylog, Diwrnod oedd yn nos i gyd, Oedd y diwrnod y ffarweliodd Mam mor dyner ar y byd Priod hawddgar a llafurus, Cvdmar bywvd ffyddlon iawn, Angeu'n chwalu eich cynllumau Cyn i'r un addfedu'n llaw.n. Ond mae cynUun Duw yn aros, Nicl, oes dam wain yn ei drefn Gwyn ei fyd a ymdawelo— Cyfyd Ef ei blant drachefn Cant gvfarfod ar Ei ddelw, Ni bydd rttid ymadael mwy, Collir. holl olidiau'r ddaear Yn y gan am farwol glwy'. Pa'm yr wylwn, lieb ystyried Fod ein dagrau'n beio Duw ? Ac yn galw'r saint o'r gwynfyd Yn ol i fyd y poenau i fyw Ni ddymunem eu hvsbeilio O'u haur goron a'u gwisg wcn; Ond awn atynt, a chawn ninau Gyfryw goron ar ein pen. Ebrill 18fed, 1879. LL. T

Family Notices

YR EGWYDDOR WIHFODDOL.

CYFARFOD CENHADOL SIR. RENFRO.

CYFARFOD CHWARTEROL UNDSB…

CEiiBBO IAETH,