Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
.AFFGHANISTAN.
News
Cite
Share
AFFGHANISTAN. Pan yn ysgrifenu gair ar y peijawd uchod 0 yn eich rhifyn o'r blaen, addawsom alw nylw at Afghanistan fel-
GWLAD A LLYWODRAETH.
News
Cite
Share
GWLAD A LLYWODRAETH. Gwlad fynyddig ydyw ar y cyfan, ab mewn rhai manau gwelir ei mynyddoedd yn dyrchafu 18,000 neu 20,000 o droed- feddi, pa rai a ffurfient yn bedwar dos- barth, ac a adnabyddir wrth yr enwau Hindu-Koosli, Soliman Mountains, Kohi- baba, a'r Paropamisus. Eto, er hyny, ystyrir Affghanistan yn wlad gyfoethog, gan y ceir mewn rbui 111 man 0 honi aur, arian, copr, a rhyw gymaint o haiarn sydd agos gyfartal i'r haiarn a geir yn Sweden. IIefyd, ceir ynddi blwm, halen, allang salt L, pelg-e, &c. Y grawn ydynt gwenith, haidd, pys, ffa, ac Indrawn. Y rhai mwyaf cyffredin o'r anifeiliaid dof ydynt, y defaid. Y mae dau fath 0 honynt, a chan bob un 0 honynt gynffon lydan, dew. Mewn rhai manau o'r Eimah Mountains, y mae y cynffonau mor fawr nes y mae yn angenrheidiol cael math o frame neu gar bychan er helpu y ddafad i gario ei chynffon. Rhagora eu defaid ar ein defaid ni yn gymaint a'u tod yn rhoddi dau gnuf bob blwyddyn. Y mae yr afr yno agos mor ami a'r ddafad. Y mae y ceffylau a'r mulod yn bur gyffredin yno, ond y camelod a'r gwarthegychydig ya llai. Ond nid dyna y cyfan am Affghanistan na, y mae yno drefydd, a llywodraeth, a llywodraethwyr. Y prif drefydd ydynt, Cabul, Peshawur, Chirnee, Candaliar, Jelallabad, Quettah, Herat, a Lubrawar. Er fod Affghanisfan 0 dan awdurdod freninol, eto nid ydyw cylch ei Uywodraeth ond ychydig yn y talaethan. Y mae yr holl genedl wcdi ei gwasgaru i wahanol lwythau, pa rai sydd yn parhau felly 0 dan eu llywodraeth neillduol eu hun aceto ynymyiaeth ycliycli (T ar gallu breninol. Gwerin-wladwriaeth ydyw tu- fewnol ei Uywodraeth, Y maent yn cael eu dosbarthu i wahanol dylwytliau, a chan bob tylwyth ei fiaenorei hun, a hwnwyn etholedig o'r teulu hynaf yn y llwylh y blaenor yma fydd yn gweinidogaethu, ac yn barnu mewn gwahanol faterion ond yn y cyffredin, bydd yn ofynol cael cyd- syniad pwyllgor o'r penau teuluoedd. Mewn Uywodraeth mor ansefydlogag un. yr Affghaniad, y mae ei gwleidyddiaeth wrth reswm yn gyfnewidiol. Pan ym- welwycl a Peshawur gan genadwr Pry- iig .yn y flwyddyn 1809, yr oedd y deyrnas wedi ei gwasgaru i saith-ar- hugain 0 dalaethau. ErbYll hyn y maey rhan fwyaf o'r talaethau yma yn hollol annibynol arnynt eu hunain, megys Lind, Mooltan, Cashmere, &c. Y prif dalaethau ydynt, Jelallabad, Peshawur, Cabul, Chir- noe, a Candahar a'r talaethau ereill sydd yn cymeryd i fown y wlad. Oncl yn awr, rhag trethu eich newyddiatlur a meithder, terfynaf yn bresenol, gan addaw ysgrif y tro nesaf ar Affghanistan a'i rhyfeloedd yn y cyfnod a aeth heibio. Bryngwran. OWEN L. POBKHTS.
CYNRYCHOLIAD YR EGLWYSI.
News
Cite
Share
munol fod gan yr eglwysi, nen yn hytraeh y tanysgrifwyr, ryw ffordd i beri elywed eu llais yn y cynghorau oncl nid oes dim o'r fath beth wedi ei drefnu, a, gellir dweyd mewn gwirionedd nad ce3 gan yr eglwy.-i cynulleidfaol fath yn y bvd o gynrycholiad; ondyroeddy gweinidog- ion wedi cael hyny o ffafr i radcLiu mawr i'w dwylaw eu hunain, ac ystyried fod barn gweinidog yn y Cyfarfod Gmvartovol bron yr un ystyr a barn yr eglwys a fyddai dan ei ofal. Oncl mae rhai yn barnu fod y gweinidogion wedi abusio yr ymddiri^cl a roddwyd iddynt, ac wedi bod yn penderfynu" ac yn dedclfu yn hollol groes i'r hyn a wyddent ydoedd barn pobl eu gofal. Rai misoedd yn ol, bu y Farch. E. Williams, Dinas, yn ysgrifenu yn lied helaeth a manwl i'r I Tyst a'r Dydd' ar Gynrycholifid yr Eglwysi;" a'i brif gasgliad ef oddiwrth yr "hyn a ysgrifenodd ydoedd hyn "Fod Cyfarfoclydd Chw.:r- terol y Cyfundebau yn gynrycholiad cywir o farn a theimlad yr eglwysi, ac y gellid ymddiried ei fod felly mewn pedwar-ar- bymtheg o bob ugain o amgylohiadau." Mae genyf gryn hyder mewn casgliadau fel hyn wedi eu tynu gan fy hen gyfaill o'r Dinas ond yr oedd y casgliad yna yn ormod o damaid i ni y gweriniaid i'w lyncu. Acyrydym yn parhau i'w amen ac yn wir, buom yn disgwyl cyn hyn i'r yspryd gwerinol dori allan i wadu hawl y gweinidogion. yn nghyd a nifor feehan iawn o rai ereill sydd yn fynychwyr y Cyfarfod Chwarterol, i lywochaethu a deddfu dros holl Independia. Hyd helynt diweddar Coleg y Bala, yr oedd yr eglwysi yn berffaith ddioddefgar, ac yn gadael i'r gweinidogion gaol en fforcld yn mhob peth a, pha dda nen ddrwg bynag a wnaent, cai baslo yn ddistaw. Ond ymddengys fod fro wedi dyfod arni! Dyma gynwrf yn y gweiv-yll Independia A'r eglwysi yn deffVo fJl cadarn wedi gwin," gan daeru yn ngwvneb eu gweinidogion eu bod yn gwasgn ar 'D I hawliau yr 'eglwysi. Mae ainryw wedi tori allan, a galw cyfarfodydd cyhoeddus i wneud ardystiadau, a phasio penderfyn- iadau, yn erbyn dull y gweinidogion a'r Cyfarfodydd Chwarterol, a. Chynadledd Amwythig yn eu perthynas a Choleg y Bala. Nid all fod niwed i chwi y rhai sydd wedi cyhoedcli eu hardystiadau, megys Ffestiniog, Trawsfynydd, Eeulah, &c., a gwnaed hyn er gwrthwynebiad eu gweini- dogion, yn nghyd a'r gweinidogion cy- mydogaethol. Gallwn enwi ereill sydd wedi gwneud ardystiadau cyfl'elyb, ond gan nad ydynt wedi cyhoeddi eu hanes,1 gwell heb son am danynt. Gwn am ereill lie y darfu y gweinidog a'r eglwys gydimo i ardystio yn erbyn cynrycholiad y Cyfar- fod Chwarterol, megys Dolwyddelen. Darfu eglwys Conwy dalu traul, ac anfon I' J.R." i'r Amwythig to watch the proceed- ings, vn nghyd a rhoddi cyngor yn eienau i'w gario i'r gweinidogion, aphawb fyddai yna yn bresenol, sef "Focl iddynt oil roddi mwy o'u hamser a'u llafur, a'u harian i ofalu am eu heglwysi gartref, a llai oddicartref." Mae llawer iawn wedi cael ei ysgrifenu yn ddiweddar er clangds fod hen eglwys Llanbrynmair yn loyal iawn i'r weinidog- aeth, ac i'r Cyfarfodydd Chwarterol, a Chynadledd yr Amwythig; ond mae un o_ohebwyr y 'CELT-' yn dweyd gair, os yclywyn ffaith, sydd yn avvgrymu nad yn /hol'ol mfir loyal ag y tybid A Dyrna cldy wed y gohebyddr:—Fod cylclirediad y Cronicl' yn y gymyclogaeth. yn ugeiniau, a chylchrediad y 'CELT' yu ddegau, a chylchrecltad y I rryst. a'r Dydd,' papur yr Enwad, i'r hwn y ceisir genym gredu fod yr eglwys yn loyal yn — —. Pa gynifer ? Un Papur y Weinidogaeth, papur y Cwrdd Ckwarter, papur Cynad- ledcl yr. Amwythig, papur y Gell Gudd, &<f. Organ y Weinidogaeth, dim ond un I Nid loyal iawn ydyw y Llanbrynmeiriaid i bapur eu Henwad, os gwir hyn. Dywedir fod y werin yn Ffrainc yn rliv barod i godi roio a gwrthryfel ond fod pool Licegr yn fwy arafaidd ond pan godanfc, by jingo," bydd yn anhawdd ei lhodli i lawr. Yr wyf yn credn fod eglwysi Cymru yn debyg iddynt. Buont yn hwyrfrydig iawn i ddweyd gair croes yn erbyn cynrycholiad y weinidogaeth ond yrncllengys eu bod wedi deffro. Yr oedd raid caelcryn wroldeb i dori allan yn erbyu TJubenaeth yr offeiriadaeth, Nis gwn pwy oedd y rhai cyntaf i godi. Tybiv/n mai fy hen gymydogion yn Beu- lah. Pa fodd bynag, yr wyf yn credu y bydd yr ardystiad cyntaf yn erbyn tra- arglwyddiaeth yr offeiriadaeth yn ddech- reuad eyfnod newydd yn Uywodraethiad yr eglwysi Annlbynol. Mae yn cldiau nad oes ganddynt hycl yn hyn ond gwy- bodaetli 1 ed^ anm her ffaith aih helynt Coleg y I-ala, gan nad oeddynt wedi cymeryd dyddordeb, nac un math 0 ofalon yn ei gylcb, odclieithr talu en tanysgri-fiadau. Yr wyf am eu hanog i astudio yr holl achos yn drwyacll— y ddwy oclir i'r ddadl, yn nghyd a'r ddwy blaid sydd yn cario y ddadl yn mlaen. Ac ar ol iddynt ddeall yn gyflavvn, boed iddynt gocli eu Haw a'u llais, a mynu cael gwrandawiad yn llyw- odraethiad eu harian eu hunain, Yr wyf eto am gnro cefn yr eglwysi a enwyd am eu gwryldeb yn tori allan yn gyntaf i sefyll dros eu hiawnderau ac wrth ddib nu dywedaf3 na adawer byth mwyach i bersonan rhagfarnllyd^ dryg- ionus, enllibgar, i lefaru eu syniadau trahaus eu hunain yn enw bod yn gyn- rychiolwyr yn eglwysi cynulleidfaol. G-RUFFYDD RISIART.