Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
.SPECIAL NOTICE.II
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
SPECIAL NOTICE. Revised Scale of Charges for Advertise- 13 ments in the" Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four Seven Ins. Ins. Ins. s. d. p. d. s. d. 11 One Column 7 0 25 0 40 0 Half „ 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 8 8 12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted „ Vacant Apartments Wanted „ To Let Concerts Eisteddfod au Sales by Auction, &c., &c I as follows:— One Insertion, per line 4d. Four Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2.Jd. Longer periods by special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise- ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to A. DRIFFIELD at Carnarvon.
Advertising
Advertising
Cite
Share
TELERAU Y CELT." 1 dnvy'r Post am cliwarter 0 1 8 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis galhva ganiatau hyny os bydd y pavceli yn myned dnvy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n liysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i dd'od i law bob 3 mis. Telerau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. eUT D.S.—Sylwer yn fanwl ar yr ucliod. J|$]
Y MYGU.
News
Cite
Share
Y MYGU. Y mae yn llawer rhyfeddach clywed, rliai yn tystio nad ydynt yn arfer mygu baco, na'u bod. Y mae y gweithwyr gyda eu gwaith, a'r hogiau yn rhodio gyda eu hogenod, a'u catiau yn eu safnaii a'r mwg yn dyfodallan. Wrth eu gweled yn tanio eu catiau yn y nos, gellid meddwl fod y,ser wedi syrthio, ac ami y maent yn rhoddi eiddo eu cymydogion ar dan. Ni cheir teithio yn ngherbydau y reil heb orfod llyncu mwg, ac ni cheir penlinio mewn addoldai heb beryglu bod mewn sudd baco, yn gymysg a pheth arall mor ffiaidd ac yntau ac yr ydys yn prysur ddarparu i wneud holl ferehed ein o-wlad yn fygesau. Ymffrostir ein bod yn dilyn esiamplau teuluoedd y Cyfandir, yn en wedig y Germaniaid. Do, buont hwy yn fygwyr, ac yn ymffrostio yn hyny. Un o'r golyg-. feydd iselaf a welais ar ddynoliaeth, oedd ymfudwyr Germanaidd ar fwrdd Hong yn cychwyn eu mordaith, wedi ymwisgo yn Wyddelig, oil yn mygu—yn feibion a merched, ac beb fawr arwydd ymgydna- I:ly byddu a dwfr a sebon i'w weled ar wisg- oedd, na dwylaw, na wynebau yr un o honynt ond y mae mygu wedi enill y fath nerth yn Germani, nes yw y llyw- odraeth yn ofni. Y mae plant o dan 16eg oed yno yn caol ea dirwyo a'u carcbaru am fygu. Ac nid yr aflendid, anfoesoldeb, a gwastraff yr arferiad sydd wedi peri i'r llywodraeth gyffroi, ond effeithiau niweid- iol yr arferiad ar y corff. Y maent yn ceisio magu milwyr yno, ac y mae medd- ygon yn «yd-dystio fod y baco yn amddi- fadu y genedl o nerth i gario y cledd a dal y dryll ac yr un effaith a ga ar ddalwyr yr aradr a thrimvyr y gerddi. Ni cheisiaf resymu oddiar y faint a delir yn Mhrydain am baco bob blwyddyn, na pha faint o elw ga y llywodraeth oddiwrtbo, a'r elw yn debyg i roddi ty ar dan er mwyn i ryw rai gael tal am ei ddiffodd. Gwaiio punt i enill ceiniog; ond y mae y swm yn rhy fawr i mi ei amgyftred. Coisiwn edrych arno mewn cylch llai, a nes atom. Y mae yn perthyn i'r Annibynwyryn Nghymru, medd y Dyddiaduron, fil o bregethwyr, rhwng gweinidogion, cynorth- wywyr, a myfyrwyr. Nid gormod cy- hoeddi fod 700 o honynt yn fygwyr, a phob wythnos yn llosgi dwy owns o baco. Gwna hyny mewn blwyddyn fil o bunau; ac nid wyf yn meddwl fod pregethwyr yr Annibynwyr yn fwy mygwyr na phre- gbthwyr y Methodistiaid, Wesley aid, Bedyddwyr, a pharsoniaid. Gwna hyny y mygwyr a ant i bulpudau Cymru yn 3,500, a bob blwyddyn yn llosgi gwerth £ 5,000 o baco A fyddai yn ormod dychymygu am bob un o'r 3,500 drwy eu hesamplau ar eu cynulleidfaoedd a'u teutu- oedd—yn enill un y ehwarter, pedwar y flwyddyn, i fod yn fygwyr ? Chwanegid felly drwy ddylanwad pregethwyr 14,000 0 y flwyddyn at frawdoliaeth y mygwyr yn Nghymru Y mae yn Ilawer haws enill y werin i ddilyn eu chwantau nag i ddilyn Crist. Pa rif o athrawon ein oolegau sydd heb fod yn mygu ? A fuasai yr ymofyniad hwn ddim yn werth sylw cynadledd yr Amwythig ? Y mae cryn fygu mown cysylltiad a chynadleddau chwarterol a chymanfaol. Wedi bod yn ymddiddan yn galed yn absenoldeb y bibell am dair awr, eir i fyfyrio mewn mwg ar y gwaith a wnaed. Gwelais mewn amgylchiad felly, ddau yn mygu am y mwyaf.. Yr oedd gan y talaf getyn du oddeutu modfedd c hyd, a chan y byraf bibell oddeutu 24 modfedd o hyd. Yr wyf yn meddwl mai countes neu duches oedd eu henw clasurol. Pe buasai y bychan wedi gorphen llosgi y baco yn dewis troi pen y tan i fynu a'r pen main i lawr, gwnaethai ei gountes ffon i'w gynorthwyo i ddringo i. fyny i'r deml i addoli. Bu peth dadl rhwng y ddau frawd pa un o'r ddau offeryn oedd y goreu at ei waith. Mynai y talaf mai y cetyn byr oedd y goreu, am fod yr arogldarth yn gryfach drwy hwnw; a mynai y byr mai y bibell hir oedd yr oreu, am fod yr arogldarth yn bereiddiach drwy hono. Ac y mae yn alarus meddwl am yr holl amser y mae y byd yn ei wario i fygu y mae hwn yn costio mwy na'r aur ac aberthir ugeiniau o flynyddau o hono bob blwyddyn gan y 3,500 pregeth- wyr ydynt yn mygu yn Nghymru. Nid wyf yn disgwyl i'm sylwadau enill llawer o bregethwyr i adael yr hyn a ys- tyriwn yn warth i bulpudau, ac i'n gwlad. Ni amheuaf na chaf sylw dyladwy gan y gwyr goreu sydd yn mygu; ond am y rliai bychain, na feddant ddim i dynu eu hunain i sylw ond dynwared gwendidau pôbl dda, ni ddisgwyliaf ono. eu gwawd hwy. Nid oes arnaf eu hofn, ac yr wyf yn colio fel yr ymddygwyd at Eta Delta. Dosbarih anhawdd i'n dycliwelyd oddiwrth ein gwendidau ydym ni y pregetbwyr. Ein gwaith ni ydyw myned i bulpudau cartrefol, Cyfarfodydd Cliwarterol, a chy- manfaol, i alw ar bobl ereill ddychwelyd, a chwyno, os na wnant, fod braich yr Arglwydd heb ddeffro. Nid wyf yn awgrymu fod yr holl fygwyr yn yfwyr y diodydd meddwol, gwn yn amgen; ond y mae mygu yn gam pwysig yn y cyfeiriad hwnw. Pe buasai geneth yn rlioddi gwenwyn yn niod ei mcistr, ac yn ei lofruddio, cawsai ei chrogi; y mae ein llywodraeth yn ym- fircstio yn yr elw a ga wrth oddef cymysgu gwenwyn mewn diod sydd yn 11a dd can' mil bob blwyddyn Dylent roddi yr arian hyn i brynu maes y crochenydd i fod yn gladdfa y rhai a greulawn lofruddir ganddynt. Prawf ystadegau y llywodr- aeth y camddefnyddir bob blwyddyu am baco yn Mhrydain yn mhell dros ddeng miliwn o bunau, ac am ddiodydd meddwol yn mhell dros gan' milium. Pan yn rhoddi fy llythur yn y Post, yr oedd yno un a geidw fasnachdy bychan ar ochr bryn, lie nad oes nemawr dy i'w weled yn agos ato. Cwynai yn ddwys ar iselder masnacb ond gofynai am P.O.O. £8 i dalu am y baco a werthasai mewn mis! I ba le yr ydym yn drifftio? a pha beth ddaw o'n gwlad ? Pwy fedr ateb ? — J. It
CYNRYCHOLIAD YR EGLWYSI.
News
Cite
Share
CYNRYCHOLIAD YR EGLWYSI. Dyna air newydd, yn cynwys drych- feddwl newydd. Prm y mae egwyddor annibyniaeth yn caniatau fod eisieu cyn- rycholiad o gwbl, gan fod holl lysoedd yr eglwysiyn gartrefol, ac heblaw hyny, yn derfynol. Ond ar amgylchiadau neillduol, cyffelyb i belynt v Bala, byddai yn ddv- •H