Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYTIIUR LERPWL.

News
Cite
Share

LLYTIIUR LERPWL. Hynod o glust-lipa ydoedd "boneddig- ion Lerpwl" ar eu dyfodiad yn ol i'r dref o'r Amwythig. Rhaid fod rhyw ddallineb wedi eu taraw, neu buasent wedi gweled fod y rhod yn prysur droi o du'r Bala er's wythnosau, a deall fod yr eglwysi Annibynol yn rhy hen i gymeryd eu llywodraethu gan blant yn ol ewyllys ymyrwyr diegwyddor. Nid brenin ydyw'r gweinidog Annibynol, ac ni fyn Annibyniaeth ymerawdwr. Yn ddiarwybod i lawer, bu agos i'r clic lyncu y Bala fel y mae wedi gwneud ag Aberhonddu, a'r rhan fwyaf o'r gwein- idogion, a llawer iawn o'r diaconiaid. Clod byth i'r CELT am ddadleu mor groyw, ac agor llygaid yr eglwysi pan oeddid wedi llusgo eu rhyddid i frine trancedigaeth. Siomiant fawr arall a gafodd y clic ydoedd i "W. N." fetbu lladd y 'Cronicl.' Rhyfedd y dylanwad sydd ganddynt ar rai pethau. Y mae yma ddynion oeddynt ddeng mlynedd yn cl fel dynion ereill. yn eu dillad a'u hiawn bwyll, yn S. R.iaid a J. R.iaid o'r radd flaenaf, dadleuent hyd at waed yn erbyn gorthrwm a thrais phariseaidd ac arehoffeiriadol. Cychwyn- ent dysteb i S. R., a chyflwynasant hi iddo yn anrhydeddus, ac areithiasant yn synhwyrol ar yr achlysur; ond sydd erbyn heddyw wedi eu troi gan glicydd- iaeth a'u gwynebau yn union ffordd arall, pryd y mae'r ddau batriarch o Gonwy yr un, a'r 'Cronicl' yr un!! Y mae yma fath o swyddogion clicyddol, pa rai y dylai'r dref gael clarluniau o honynt er eu gochel. Gwisgant goohlau Annibynw'yr, pryd nad ydynt mewn gwirionedd yn fwy felly yn eu calon na Pio Nono ei hun. Un synd ffipvll hirfarn, v gellid yn hawdd roddi dau gwlwm arno, dioddefa mewn addoliad fel asyn wrth lidiart. Ni welsom ond un pregethwr erioed yn gallu gwneud iddo goccio ei glustiau, a rhoddi arwyddion i'r gwyddfodolion ei fod yn fyw ac yn effro yn ei set. Ni ddywed air ar unrhyw fater oni fydd eisieu rhoddi hoel trwy glust, neu draddodi rhyw greadur i Satan; hoffasai yn fawr fod yn un o'r lot a ddaliai draed y 'Cronicl' pan oedd y dienyddwr yn chwilio am ei wythien fawr. Un arall tebyg iawn i hen ffircen wedi cochi mewn mwg, a haner furstio a.r ol rhoi mwy na'i chynwys o "succan brecci," un hoff iawn o labet ledu tua Phwyllgorau Cynhyrfus y Bala, er na wyddai am natur dim a berthynai iddynt ond y ciniaw rhagorol yn y Plas Coch. Ond gallai yntau arfer ei freichiau fel signals yn ol ewyllys y wire pullers. Corn-chwytha un-aiall gyda hwy lawer o fygythion a chelanedd yn erbyn y 'Cronicl' y CELT, y brodyr, a'r Bala- rhesyma yn ddoeth iawn sut fu iddo gael "tro." Perthyna y doethawr hwn i'r gwr y soniai Cynddelw am dano—a allai fyned trwy wlaw taranau heb ei gyffwrdd, gwr diflew fel offeiriad Pabaidd. Er mor fain ydyw, byddis yn ei weled yn gwadnu o'r capel ambell 8uY, tan ei mygu hi; ond ni wel yr hen ewythr sydd a'i olwg braidd yn fyr, ond y mwg yn dyfod o'i bibell fel pe deuai o gorn lampost. Uu arall du bychan, o sort hollol wa- hanol, ond sydd mewn mantais i wneud llawer iawn o ddrwg. "Dewryn" o beth yw hwn, perthyna i frid yr hen King William's. Gwelir ef yn ffrotian tua Chymru bob lleuad newydd yn hocsio taneni a biff Nefyn wedi cochi, "Dan droi fer a than droi'i droed." Y mae yma un arall llawn peryclacl). na'r oil os digwydcHddo gymeryd yr ocMr hono, yn yr ochr hono y bu yn selog iawn yn awr er's tro. Y mae wedi toi nen y ty a gwellt gwyn hirdew, a white- waehio capan y drws a phaent coch, fel y bydd pobl yr Iwerddon, y rhai fyddant yn cadw gwirod yn eu tai, yn gwneud. N id oes derfyn ar ddyfalbarhad hwn gyda phethau byehain, a bydd yn gwneud i rai. dybio am ei would-be mai doethineb ydyw. Heblaw rhai fel yna, y mae y olic wedi hudo llawer o ddynion parchus i'w cyif- llwynion, pa rai ydynt erbyn hyn wedi gweled eu traha a'u gorwanc am ddyrch- afiad a thra-awdurdod, a chael y lluaws i gredu yn eu hannaeledigaeth. Onid ydyw yn resyn meddwl am y gweinidogion ieuainc a berchid yn fawr yn hen wlad eu tadau, pan y deuant dros Glawdd Offa, a than ddylanwad y clic, ydynt ryn gwneud ffyliaid o honynt eu Kunain. Na anesmwythed yr eglwysi, y mae I siol y clic wedi ei ysigo eisoes, y mae yn awr yn decbreu tynu ei gyrn ato, a chyn hir daw peth.au i'w lie. Y mae yn Lerpwl a'r amgylchoedd deimlad byw trwy yr holl wersyll yn erbyn twyll offeiriadaeth a phomp dynol. Oellir cael y CELT yn Lerpwl gan-, Mr. Hugh Jones, 86, Westminster road. Mr. W. Williams, 219, Brownlow Hill. Messrs Foulkes & Evans, 16, Tithebarn st. Mr. Isaac Foulkes, Printer, 21, Victoria st. Mr. H. Williams, 32, Devonport st.

LLYTHUR LLUNDAIN.

CYFARFOD MAWR HELBULUS YR…