Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
AT DDOSBATHWYR A THANYS-GRIFWYR…
News
Cite
Share
AT DDOSBATHWYR A THANYS- GRIFWYR "Y CELT." Oherwydd fod llawer o daliadau heb eu gwastadhau am y OELT i fyny byd Mawrtli 28ain, 1879, hyn sydd i roddi rhybudd— Pwy bynag fydd heb setlo eu cyfrifon o Hyn i bedwar diwrnod-ar-ddeg o'r dyddiad hwn (mewn stamps neu P. 0. 0.; ac os mewn stamps, rhaid iddynt fod yn rhai dimai a cheiniog a dimai, 800 nid rhai ceinibg), bydd eu parceli yn cael eu hatal, a bydd i'r derbynwyr wybod yr achos o hyny ond gallant ei gael yn uniongyrch- ol ond anfon i'r Swyddfa. P. 0. 0. a Cheques yn daladwy i A. DRIFFIELD, Carnarvon. Caernarfon, Ebriil 18, 1879.
AT EIN DOSBARTHWYR.
News
Cite
Share
AT EIN DOSBARTHWYR. Y mae y draul o argraphu y CELT ar bapur mor ragorol, a'r draul 0 ddosbarthu y sypynau drwy wahanol barthau y wlad, yn bur drwm; o ganlyniad yr wyf, ar ran y Cwmni, yn erfyn yn daer ar ein Dosbarthwyr oil i anfon y talion ar unwaith, yn ol cais yr Argraphydd.— GOL.
Igan J^ottiatiau gan p <§oI.
News
Cite
Share
I gan J^ottiatiau gan p <§oI. Cynydd yr Eglwysi Cynulleidfaol.—Haner can' mlynedd yn ol, nid oedd ganddynt ond 110 o eglwysi yn Linndain, tra y mae ganddynt yn awr 245. Nid oedd gan- ddynt y pryd hyny ond 1289 drwy Loegr, tra y mae ganddynt yn awr 2381, heblaw 1063 0 gangen eglwysi; y cyfan yn 3444. 'Nid oedd ganddynt y pryd hynyyn Nghy- mru ond 374, tra y mae ganddynt yn awr 984. Felly gwelir fod eu cynydd wedi bod yn fawr, er eu bod wedi mwy na dyblu mewn haner can' mlynedd, a'u bod wedi bron dreblu yn Nghymru ao yn Nghymru y bu y cynydd helaethaf, a go- beithio y parhant i gynydda drwy ym- estyn at fwyfwy o weithgarwch. Ac i'r dyben o drymhau eu dylanwad a helaethu eu defnyddioldeb, dylent waeud eu goreu i ddyfnhau eu teimlad o'u rhwymedig- aethau a'u cyfrifoldeb fel eglwysi Cynull- eidfaol, acastudiomewn yspryd Annibyn- ol yn eu holl gynulliadau y ffyrdd goreu i weithio a bod yn ddefnyddiol. Os ydynt yn hunan-gynhaliol, dylent arddel eu bawl ft theimlo eu rhwymedigaeth i fod yn hunanlywodraetbol. Dylent fedru trefnu eu holl amgylchiadau cartrefol yn well nag y gallaie. cymydogiori eu trefnu drostynt. Gallant gasglu addysg oddi- wrth siampl eu cymydogion, os dylent astudio a barnu a gweithredu yn ol en cynlluniau euhunain. Nibyddaihunan- reolaeth felly ddim yn ataliol iddynt gyd weithio a, chwaer eglwysi, nac ychwaith i gydymdrechu ag enWadau ereill o blaid unrhyw achosion, nea. symudiadau cy- hoeddus. Dwy elfen werthfawf iawn mewn cymeriad eglwys Gristionogol ydyw Annibyniaeth boneddigaidd a brawdgar- wch rhyddfrydig ac nis gall golli y naill na'r llall heb fylchu ei chroen a gwanychu ei defnyddioldeb. Dylaiwerthfawrogi ei hawl i dref nu ei hachosion ei hun, a chaniatau yr un hawl i'w chwaer eglwysi. Annghyson ydyw i eglwys ei nodweddu ei hun fel un Annibynol neu Gynulleidfaol tra y mae ei llywodraethiad yn Esgobydd- ol neu Henaduriaetbol. Cadwed pob eg- lwys at ei chymeriad a'i henw. :—+. Dylanwad Yspryd a Bywyd Oenadol,- Tystiolaetha un 0 newyddiaduron tecaf gwledydd y Dwyrain, sef The Friend of India," mai barn isel iawn sydd gan laweroedd o lwythau y brodorion yno am bobl Lloegr. Yr oedd llygredig- aethau babaraidd llawer o'i milwyr a chribddeiliaeth llawer o'i marsiandwyr wedi gwneud argraff annedwydd iawn ar galonau coeg-grefyddol Ilawer o'r Indiaid ond y mae yspryd a bywyd a llafur y teuluoedd cenadol sydd yno yn dechreu argyhoeddi y brodorion fod rhai pobl rhinweddol a hawddgar Jiyd ya nod yn Lloegr. ♦ Anghydfur -Y mae cryn nifer o Anghydffurrfwyr yn debyg 0 ddyfod i'r maes yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, i'w cynyg eu hunain i fod yn Aelodau Seneddol; ac y mae argoe&on y bydd mwy o Ymneillduwyr yn y Senedd nesaf nag a tu erioed o'r blaen. Cristionogaet4 north Ffynon Jacob.-Y m ae yn Samaria, yn ymyl Ffynon Jacob eglwys weithgar 0 Fedyddwyr o dros gant o aelodau. Orefyddau yn Calcutta.—Mae yno 199 o demlau Hinnwaidd 117 o Mosques Mahometanaidd 31 0 Addoldai Crist- ionogol, a dwy Synagog. + Dadl Ryfedd yn Madras.-Y mae yno yn awr ddadl boeth ddychrynllyd yn cynhyrfu yr holl dalaeth yn nghylch blewyn bach main o farf yr hen Brophwyd Mahomet, Yr yelys yn ei ddiogelu yn ofalus mewn blwch drudfawr; ac y mae y llywodraeth yn talu cant yn y flwyddyn o rupees i swyddog gwladol am edrych ar ol y blewyn. Ond y mae chwech 0 Fahometaniaid wedi dyfod allan mewn yspryd cynddeiriog i ddadlu eu titl i'r blewyn hwnw ao y mae y ddadl yn debyg o gael ei chodi i Uchel Lys Madras i gael ei therfynu a dichon mai y diwedd fydd i'r blewyn gael ei anfon yn ngofal rhyw angel i gael ei adblanu yn marf yr hen Brophwyd. ————♦—; Dr Talmage.-Y mae yrefengylwr hy- awdl a llafurus Br Talmage yn aelod o Henaduriaeth ag sydd yn lied hoff 0 feirn- iadu a disgyblu. Y mae ganddynt res go hir o gwynion yn ei erbyn, sef ei fod yn euog 0 gamddarlunio rhaio lygredigaeth- au dinas fawr New York yn ei bregetbau a'i anerchion. Gall fod eu zel drosy gwir- ionedd yn gryf ac yn ol eu cydwybod, ond heb fod yn hollol yn ol gwybodaeth a dichon hefyd fod ynddynt fymryn 0 gen- figen at y Dr oherwydd ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb. Os yw wedi bod yn annoeth, neu yn feiadwy, nid y ffordd oieu i'w ddiwygio a'i adgyweirio ydyw ei wysio i sefyll ei brawf 0 flaen eu brawdle eglwysig, a hyny er trin ei gyflwr gerbron y byd. Dylent gofio fod brawdle barn y cyhoedd, heblaw Barnwr pawb, wrth ei gefn a dichon y gwna ei hunan-amddi- ffyniad wasgu eu llys hwy i gyfyng-gyngor Dichon y byddai yn ddoethach gadael i weinidog selog ac ymroddgar o'i oedran a'i safle ef gael ei ddnll ei hun i gyflawni ei weinidogaeth. Ni ddeillia dim llawer o ddaioni o drefn rodresgar Henudnriaeth i ddysgyblu y fatlbi hen efengylydd ag sydd wedi bod mdr ddefaiyddiol o'r pwlpud a thrwy y wasg. Y mae gan yr un Hen.. aduriaeth hefyd ryw gwynion yn erbyn Dr Fulton. Dichon y cant fwy eto o waith disgyblu, ao y deuant yn fwy en- enwog am ddisgyblu nag am efengylu ao y deuant yn fwy hoff o'u brawdleoedd nag o'u pwlpudau. Dichon mai diwedd eu disgyblu fydd gwneud y ddau ddoctor yn weinidogion, Annibynol, a gwneud eu heg- lwysi ar yr un yryd yn eglwysi Cynull- eidfaol,