Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EGLWYS DOLYDDELEN A CIIOLEG.…

News
Cite
Share

EGLWYS DOLYDDELEN A CIIOLEG. Y BALA. Nos Fercher, Y 12fed cynfisol, galwodd yr eglwys uchod gyfarfod cyhoeddus o'r holl aelodan, er ystyried amgylchiadau y Coleg Annihynol yn y Bala. Catwyd anerciliadau ar y pwnc gan luaws o'r brodyr,ac aralygai yr oil "o'r sisradwyr yn gystal a'r gwrandawyr cu bod yn meddu yr ymddiriedaeth lwyraf yn ngonestrwydd yr athrawon ac. hefyd eu bod yn edmyga eu llafur a'u talentau yn n<jhyflawniad eu swyddau fel athrawon; ac befyd amlygai yr oil en banghymeradwyaeth llwyraf o waitil y Glymblaid ymyrgar sydd ar hyn o bryd yn tori ar hcddwch yr Athrofa raewn dull mor anheg ac anfoneddigaidd. Ar ol llawer o siarad lied frwd ar arllwysiad dibrinv o ffi)leidiau digofaint ar ben y Glymblaid, eyfododd yr hen dad Lewis Griffiths, gof, i gynyg y penderfyniad canlynol i'r cyfarfod:— "Fod y cyfarfod hwn yn llawenhau yn llwyddianta chynydd Coleg y B ila o dan ofal yr Athrawon presenol, ac yn addaw pirlnu i gefnogi yr Athrofa yn y dyfodol trwy gasglu tuagat ei chynal." Cefnogwyd yr uchod gan Mr William Jones, Ccetmor, a phasiwyd ef yn unfrydol. Cynygiwyd y penderfyniad nesaf gan Mr W. Hughes (Prysor), a chefnogwyd cf gan Mr Kicbard Lloyd, Pentre'rfelin, sef Ein bod yn anghymeradwyo gwaith y Z!, y rhai hyny sydd yn ameanu yspeilio y Tanys- gtifwyr o'u bawl i lywodraethu y Coleg drwy dros^lwyddo ei lywodraeth i'r Cyrddau, Chwarterol." Hefyd, ar gynygiad Mr Thomas Williams Fron, a chefnogiad Mr John Morris, Tyn-y- hryn, pasiwyd Ein bol yn llawenhau yn fawr wrth wcled yr eglwysi yn dettroi i h wlio eu hiawn- derau yn ngwyneb yr ymos idiadau a wneir yn brenenol ar egwyddoriou lutnfodol Cynull- eiddfuoliaeth." Cynygiwyd gan Mr R. R. Ellis, Fedw, a b t' chefnogwyd gan Mr D. Williams, "Ein bod yn llvvyr anghymeradwyo y llythyrau maleisus a gyhoeddwyd (yn neill- duol y rhai dan flugenwau) mewn peitbynas ag Athrofly Bala, yn neillduolyr ymosodiadau cnllihus ar y Parchedigion S. R. ac M. D. Jones, Bala." Cynygiodd Mr Richard Lloyd, Coed-y-fron, a chefnogwyd gan Mr John Hughes, Pont- areniir, • Nad ydym yn ystyried y Cyfarfodydd Chwarterol yn gyfarfodydd o gynrychiolwyr y gwahanol eglwysi o gwbl." Mr William Roberts, Glasfryn, a gynygiodd Ein bod yn llwyr annghymeradwyo gwaitb y Cyfarfodydd Chwarterol yn condemnio llythyrau y Parch M. D. Jones mewn hunan- amddifFyniad, tra na ddwwedant air yn erbyn llythyrau ymosodol arno, er eu bod yncynwys y cvhuddiadau erchyllaf yn erbyn ei gymer- iad." Cefnogwyd yr uchod gan Mr W. Evans. Cyfododd Mr Robert D. Hughes, Tan-y- bener i gynyg, a chefnogwyd ef gan Mr Wil liam Williams, Beudybach, Ein bod yn condemnio Cyfansoddiad Newydd y Coleg, ac yn datgan mai y Tanys- grifwyr sydd ircoli ei boll amgylchiadau, ac yn liawlio i Bwyllgor Mawrtb gael ei gynal yn y Bala y flwyddyn hon fel o'r blaen." Pasiwyd yr oil or penderfyniadau uchod yn hollol unfrydol a chyda brwdfrydedd teilwng o bobl yn teimlo iod eu rhyddid mewn perygl a'u barn yn cael ei sarhau. liydded i holl ealwysi Cymru ddeffroi, a gwrthdystio yn tfieithiol yn erbyn yr ymgais feiddgar a wneir g in y Glymblaid i grafangu pob awdurdod i'w dwylaw eu bunain ac i osod Pabau bycbain Lerpwlaidd i farchogaeth yr enwad Annibynol, Fedw. R. R. ELLIS.

PILL I'R "CELT."

PENILLION COFFADWRIAETHOL

[No title]