Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
—' —' -—' SPECIAL NOTICE. Revised Scale of Charges for Advertise- t, ments in the" Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four 1, Seven Ins. Ins. Ins. I- s. d. ?. d. s. d. One Column 7 0 25 0 40 0 Half „ 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 a 8 12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted Concerts „ Vacant Eisteddfodau Apartments Wanted Sales by Auction, &c., &c „ To Let as follows:- One Insertion, per line 4d. Four Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2Jd. Longer pClíodSlby special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise- ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to A. DRIFFIELD at Carnarvon. TELERAU Y CELT." 1 drwy'r Post am cliwarter 0 1 8 2 etc eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 046 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifcr uwch- law 4, ond nis galhvn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. 'Erfyniwn ar ein Dos- bartliwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfpn y parceli. Y taliadau i dd'od 1 law bob 3 mis. Telerau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. IW D.S.—Sylwer yn fanwl ar yr uchod. B AT EIN GOHEBWYR. PKIODASAU.—Gwelliant Gwall.-Yn ein rhifyri cyn y diweddaf, ymddangosodd gwall yn mhriodas Mr Hugh Roberts, Albert Vaults, Llandudno, a Miss Emma Williams, 34, Doon Street, Liver- pool, gynt o America, drwy ddodi Mr Hugh Williams, yn lie MR HUGH ROBERTS.
J. R. A CHYMANFA MALDWYN.
News
Cite
Share
J. R. A CHYMANFA MALDWYN. MR. GOJ¿.- Y n y Tyst a'r Dydd' am yr ail wythnos yn Ma with, ymddangos- odd y nodyn athrod'gar canlynol Pan enwodd rhyw" fachgenyn J. R. mewn cyfarfod i ddewis pregethwyr i Gymanfa Maldwyn—John Breese, Bryn- derwen, a ddywedai nad oedd neb yn fwy el barch nag ef i J. R. a'i frawd S. R.; ond nad oedd yr un ohonynt yn bregetnwr Cymanfa. Mor rhyfygus onide ?" Y mae awdwr y sylw uchod wedi bod yn o llwyddiannus i brofi ei fod o ran ei gymeriad yn un o berthynasau Judas Iscariot, drwy ei waith yn cymeryd mantais anheg ac anfrawdol, a hyny mewii dull mor fradwrus, i ddwyn fy enw i ger bron darllenwyr y I ITyst a'r Dydd," mewn cysylltiad a J. R. a Chymanfa Maldwyn. Ni bnasai neb ond brad wr wedi Mr- gynefino ag "Ychwanegu ysgelder at ei bechod mor greulon ag anfon ei saothau gwenwynig i archolli teimladau un o'r dynion goreu a fedd Cymru, a hyny pan oedd ei fynwes yn friw a'i galon yn llesg o achos y brofedigaeth chwerw a'i cyfar- fyddod mor ddiweddar: sef claddu ei anwyl unig ferch! Y mae gohebydd y Tfst a'r Dydd' am wisgo cymeriad ddirmygiedig Ananias a Saphira, drwy ddarnguddio" er mwyn cael mantais dybiedig i'w ddyrchafll ei hun a'i gyfeill- ion, a darostwng dynion fel J. R. ac S. R., ydynt anghydmarol uwchlaw iddo ef mewn talent ac mewn Ilwyr ymroddiad i leshau eu henwad a'u gwlad. Daeth Judas, Ananias a Saphira i ddiwedd anamserol with fynwesu brad- wriaeth a clian fod y gohebydd wedi dangos arwyddion digamsyniol ei fod o'r un "gwaed" yn gymwys a'r teulu an- rhydeddus (?) uchod, bydd yntau yn sicr o gael myned i'w le ei hun" yn gynt dichon na'i ddisgwyliad. Gan iddo ddarnguddio" peth o hanes dewisiad pregethwyr Cymanfa Maldwyn, y mae wedi gosod yr aagen- rheidrwydd poenus arnaf i egluro yr hanes. Gwn y bydd hyny yn anghymer- adwy gan red y mae genyf barch tuag- atynt, er nad ydwyf yn gallu cydweled a hwy yn mhob peth; a dymunwn iddynt gofio mai i annoethineb y gohebydd hwn y mae iddynt ddiolch am gyhoeddusrwydd i sylwau difeddwl ddrwg a wnaed ar eu galluoedd fel pregethwyr Cymanfa. Yn y dyddiau blaenorol i ddewisiad pregethwyr i'r Gymanfa, bu llawer ohonom yn siarad am amryw i'w cynyg, ac yn eu plith y Parch J. Thomas, Ler- pwl; ond yr oedd y rhan luosocaf i glywed eu barn yn teimlo nad oedd Mr Thomas ddim yn ddigon galluog o ran llais i fod yn bregethwr cymeradwy mewn Cymanfa, ac mai cam ag ef, ac a'r Gymanfa fuasai ei ddewis — fod Cymanfa ddiweddaf Maldwyn wedi profi hyny yn amlwg i bawb fu ynddi. Os dewisir Mr Thomas i Gymanfa, y mae ei oedran a'i barchusrwydd yn hawlio iddo gael pregetbu yn y prif gyfartodydd;' ond gwyr pawb, a dylai Mr Thomas wybod, nad yw ef yn meddu ar ddigon o allu lleisiol i bregethu yn lhvyddiannus ar ol prif bregethwyr Cymanfaol ein Henwad, sefyr enwog Herber Evans. Yr oeddwn yn teimlo yn fawr dros Mr Thomas pan oedd yu ceisio pregethu ar ol Mr Evans yn Nghymanfa ddiweddaf Mal- dwyn a'r dorf fawr yn methu yn deg a'i glywed, a lluoedd ohonynt yn troi tuag adref yn siomedig cyn ddiwedd y bregeth. Gan fy mod i a llawer ereill wedi bod yn siarad fel yna am Mr Thomas, yr oeddwn yn barnu fod J. R., ac yntau yn yr un dosbarth o ran llais a gallu i bre- gethu mewn Cymanfa ac er cymaint edmygwr ydwyf o J. R., yr oeddwn yn teimlo mai gonestrwvdd ynof ddyweyd fy marn yn deg am J. R. yn gystal ag am Mr Thomas. Y mae cymeriad athrodgar gohbeydd y 'Tyst,' yn dyfod i'r golwg yn amIwg yn ei waith yn dywedyd mai "bachgenyn" a gynygiodd J. R., yr hyn sydd yn gain- dystiolaeth fwriadol. Y mae7r "bacbgenyn" hwn yn ddyn yn ngolwg cyfreithiau ei wlad, ac yn ddigon o ddyn gan eglwys Annibynol yr hen gapel i'w ddewis i chwareu yr harmonium, a hyny er's llawer o flynyddoedd bellach. Heblaw hyny, yr oedd yn ddigon o ddyn i wneud y gadair ardderchog oedd yn Eisteddfod Gadeiriol Maldwyn y flwyddyn ddiweddaf. Paham na fuasai y gohebydd yn dyweyd mai "bachgenyn" arall a gynygiodd am i'r Parch. W. Nichol-on gabl ei ddewis, a bod rhywrai wedi bod yn ddigon "rhyfygus" i fod yn ei erbyn yntau, a phaham na ddy- wedasai beth oedd ein rhesymau dros ein "rhyfyg." Paham hefyd na fuasai yn dywedyd fod un o ddiaconiaid hynaf yr eglwys wedi cynyg yr enwog Ap Yychan fel un o'r rhai mwyaf teilwng o gael ei ddewis, ac yn ddiau fel un o'r rhai mwyaf cymeradwy a galluog yn ein mysg fel enwad, ac i rai o'r cyfeillion awgrymu mewn dull digon di- dramgwydd—y byddai yn well i ni gael rhywrai dipyn yn fwy dieithr na Mr. Thomas er na fu yn pregethu yn Llan- brynmair er y Gymanfa o'r blaen-tua deng mlynedd yn ol. Br cymaint o lyfchyrau sydd wedi eu cyhoeddi yn y gwahanol newyddiaduron am yr helynt annymunol sydd yn yr ardal hon er's blynyddau bellach, yr wyf heb fod yn awdwr i gymaint ag un ohonynt; er fod rhai cyfeillion wedi bod yn meddwl fel arall am danaf. Drwg iawn genyf i waith yr ymytwr athrodgar a lusgodd fy enw mewn dull annheg a sarhaus ger bron darllenwyr y 'Tyst,' fy ngorfodi i roddi cyhoeddus- rwydd i rai pethau y buasai yn llawer mwy cydunol a'm teimlad eu gadael yn llonydd. Brynderwen. JOliN BREESE. Dan ben y Nodion Personol" a gy- hoeddir o wythnos i wythnos yn y Tyst a'r Dydd,' y rhai a bobir yn y Celloedd Cudd, enllibir rhyw frawd neu frodyr fyddir am ddirmygu. Yn y Tyst' di- weddaf rhoddir picelliad i Dr. P. J., Grace Roberts, pobl Beulah, Alun Roberts, a gwareheidwaid Annibyniaetb. Mewn rhifyn blaenorol o'r 'Tyst,' gwnaed cynyg bradwrus i enyn casineb rhwng dau hen gyfaill anwyl; ond drwy drugaredd, nis medr cynllwynwyr dirgelfanau y 'Tyst' ddim rhwygo eu brawdgarwch-gwrth- ododd golygydd y 'Tyst' ganiatau i John Breese gyfle i egluro yr amgylchiadau a gamliwir gan" yr athrodwr, gan "hyny yr ydym yn ei ystyried yn deg iddo gael eu hpglnro itnvy y OF-LT.