Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

MRS. SALISBURY, GLAN ABEB,…

News
Cite
Share

MRS. SALISBURY, GLAN ABEB, CAER. Cyhoeddwyd yn y Carnarvon and Denbigh ITerald,' Mawrth 15, y crybwyll- iad canlynol am ei marwolaeth a'i chladd- ecligaeth :Bu farw y fonecldiges hawdd- gar Mrs Salisbury, yn Glan Aber, Caer, nos Sabboth, yr ail ddydd o'r mis yma. Yr oedd yn ferch, y ferch ieuengaf, i'r dhveddar enwog Arthur Jones, D.D., o Bangor, ao yn briod i E.G. Salisbury, Yswain, er y flwyddyn 1842. Ystyrid hi 'fel un o'r ysgolheigion llawnaf ao nohaf Ngcgledd Cymru oblegid nid oedd ei th ad craff, synhwyrol wcdi arbed na tbraul na gofal er ei byfforddiad a thrwy fod ei galluoedd naturiol mor gryfion, a'i di- wydrwydd mor ddyfal, cafwyd cynhauaf llawn toreithiog o'r ffrwyth mwyaf aedd- fed' Yr oedd pi dysg mewn ieithyddiaeth a mesuroniaeth yn dra rhagorol yr oedd hefyd yn gyfarwydd iawn a Menyddiaeth hen a diweddar; gallai hefyd ysgrifenu yn ddarluniadol, ond yr oedd yn rhy wyl- aidd i gyhoeddi ei chyfansoddiadau. Yr oedd ei rhieni gofaluswedi ei dwyn ifyny yn y modd tyneraf, yu ofn ac athrawiaeth yr Arglwydd ac addurnodd ei chymeriad Cristionogol drwy ei bywyd pur a liuuan- ymwadol, nesyr oeddei phereriodod dnw- iolfrydig ar y ddaear yn rhagarwyddo marwolaeth ddedwydd, dawel, a myned- iad holreth i'r mwynbad o etifeddiaeth y saint mewn gogoniant. Ciaddwyd gwedd- illion ei daearol dy yn mynwent brydferth Eccleston, ger Caer, Mawrth 5. Gwas- aethwyd yn effeithiol gan y Parch Mr Longueville, rheithor y plwyf a/i' Parch Canon Bow: n, o Eglwys St Mair, Caer; 0 a'r Parch W. J. Giles, o Netherlegb, hen gyfaill I'r teulu. Nid amlygvvryd dim rhodres ar yr achlysurpruddaidd. Dilyn- wyd yr elor gerbyd gan bertynasau galarus :—-Bn y galar-gerbyd blaenaf yr eedd ei phriod Mr E. G. Salisbury, a Cadben Salisbury, ei inab, a'r Parch. Eleazer Jones, ei brawd. Yn yr ail gerbyd yr oedd Mr Swinford Wood, Mr R. Jones. Mr W. J. Williams (ei meibion-ynghyf- rasth), a Mr T. S. Oldham. Yn y trydydd elor-gerbyd yr oedd Syr T. Frost, Mr Albert Wood, a Mr W. M. Williams, y rhoi oedclynt wedi eu dwyn diwy briod- a:au i berthynas a'r teulu.

PRIFATHRAW COLEG Y BALA.

LLYTHUR LERPWL:.

YR ADFYWIAD CREFYDDOL• YN-MANGOR.