Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
CfWMFELIN, MYNACH.
News
Cite
Share
CfWMFELIN, MYNACH. Mae y pentref gwledig hwn yn sefyll mewn lleanghysbell yn sir Gaerfyrddin. Mae yma gapel hardd gan ein brodyr parchas y Bedydd- wyr, ac y mae yr achos yn llwyddiannus iawn o dan lugeiliaeth ofalns yr enwog a'r dawnus Barch D. S. Davies. Cynaliwyd cyfarfod cys- tadleuol blynyddol llewyrchus iawn yn y lie yma nos Wener, y 7fed o Fawrth, pryd y llyw- yddwyd gan weinidog y lie. Barnwyd y gerddoriaeth gan 1\1 rD. Davies (Oewi Mynaeb) s'rgweddill gan Mr Dan Evans, Cwmbach. Yn y prydnawn, cyn dechreu y cyfarfod, anrheg- wyd aelodau yr Ysgol Sabbothol, yn ngbyda'r lluaws dieithriaid oedd wedi ymgynull yn^hyd, S'r blasusr fwyd te a bara britb, &c. Cafodd pawb eu digoni a'r danteithion o'r fath a gar- ent. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a chy- farchwyd y gynulleidfa yn wresog iawn ar y dechreu gan J. Davies, Ysw. Bu yma gys- tadlu ar ganu, areithio, darllen, ae adrodd, &c, a threuliwyd y cyfarfod yn y modd mwyaf buddiol; ond ni wneir yn bresenol end enwi rhai o'r prif bethau. Y petb cyntaf a gawn ei nodi ydyw unawd y plant, "Wele ni yn dyfod." Yr oedd oddeutH dwsin o iechgyn ac oddeutu Jr un nifer o ferched yn cystadlu, a rhai o onynt yn ieuainc iawn a chawsora bleser mawr wrth wrandaw ar blant pedair oed, rai o honynt, yn canu o flaen cynulleidfa o bobl. Enillwyd gwobr flaenaf y bechgyn gan B Nicholas, a'r ail wobr gan D. Nicholas, a'r drydedd wobr gan J. Lewis. Enillwyd gwobr flaensf y merched gan P. Morris, yr ail wobr fan M. Rogers, a'r drydedd wobr gan E. Fieholas. Testun yr araeth ddifyfyr oedd Prydlondeb. Llefarodd y eystadleuwyroll yn dda; ond y bnddugel oedd Mr A. Rees, yr hwn a gyrhaeddodd yn mheilach na'r lleill, trwy osod allan y pwysigrwydd o fod yn bryd- lawn gyda phethau ysprydol yn gystal a phethau naturiol. Pedwarawd, "Yr Ymrwym- iad;" rhanwyd y wobr rhwng Mr John Lewis 1 Mr John Howells a'u partion. Unawd y bass; rhanwyd y wobr rbwngMeistri D. Ed- wards ac E. Thomas. Unawd y tenor; goreu, Mr J. Picton. Unawd y soprano; goreu, Miss Jones, Pantglas. Y brif d6n, I'r ffynon ger ty mwth;" dau g6r yn eystadlu, sef c6r Cwm- bach, o dan arweiniad Mr J. Jervis, a ch6r Cwmfelin, o dan arweiniad Mr J. Picton. Rhanwyd y wobr rhyngddynt. Catwyd araeth hyawdl gan y lly wydd. Cafwyd cyfarfod pies- eras • buddiol iawn o'r dechreu it, .diwedd. J. r, Lewi*, Cwmbach.
LLANGADOG.
News
Cite
Share
LLANGADOG. Bivrdd Ysgol.—Cynaliwyd cyfarfod misol Bwrdd Ysgol Llangadog yn Ysgoldy Bethle- hem dydd Mercher. Yn bresenol-Cadben M. P. Lloyd yn y gadair; Parch W. Thomas, Gwynfe, Es-gadeirydd; Meistri D. Howells, W. N. Lewis, T, Jones, L. Rees, J. Thomas, D. Price, D. James, a J. Rees. Ar ol darllen a chadarnbau penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod. blaenorol, darllenwyd y gwahanol lythyrau dderbyniodd yr ysgrifenydd yn ystod y mis. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol— 1. Cynygiodd Mr J. Rees, ac eiliodd Mr J. Thomas—" Fod tender Mrs Gwen Phillips mewn perthynas i ofalu am lanhau a chynu tanau yn Ysgoldy Llangadog yn cael ei dder- byn fel yr isaf ddaeth i mewn, sef 2s 3c yr wythnos." 2. Cynygiwyd gan T. Jones, ac eiliwyd gan Mr Levi Rees-" Fod y cynygiad yn nghvlch pwrcasu glo a than wydd i Fwrdd Ysgol Gwynfe, yn nghyd ag apwyntiad person cymhwys i ofalu am lanhau yr Ysajoldy, &c., yn cael ei ohirio hyd ycyiarfod nesafyn Bryn- amman." 3. Cynygiodd Air J. Thomas,1 ac eiliodd y CaJeirydd—u Fod order Miss Evans am lyfrau, &c, i'r Infant School i gael eiystyr- ied yn y eyfarfod nesaf." 4. Cynygiodd Mr L. Rees, ac eiliodd Mr T. Jones—"Fod y Cadeirydd, W. N. Lewis, a J. Rees i eistedd ar y Pwyllgor Undebol a ffurfir rhwng Llangadog a Llansadwrn." 5. Cynygiodd Mr J. Thomas, ac eiliodd^y Crdeirydd—" Fod yr Ysgrifenydd i ohebu Wr Board of Guardians mewn perthynes i amgylchiadau Mr D. Lewis, Brynamman, yr hwn a enilla ond dau swllt a dimai y dydd, a chaaddo deulu o chwech4'w cynal, ac i ddy.- muno arnynt i gyfranu dillad i'r plant fel y gallont ddyfod i'r ysgol." 6. Cyuygiwyd- Fod yr Ysgrifeaydd i ohebu ag ysgrifenydd- ion y Byrddau Ysgolion canlynol mewn per- thynas i'r taliadau blynyddol a wneir i'r ysgol- feistri, sef Llansadwrn, Tal-llychau, Llansawel, Llanegwad, a Brechfa." (7.) Cynygiodd Mr W. N. Thomas, ac eiliodd Mr D. Howells- Fod yr Ysgrifenydd i hysbysu yr Ysgolfeistri, .&c, sydd dan reolaeth y Bwrdd fod eu cytun- debau presenol yn terfynu ar yr 31ain o fit Mawrth, 1879."
"trawsfyn YDD.
News
Cite
Share
"trawsfyn YDD. CYSTADLEUAETH LENYDDOL YR ANNIBYNWYB. .qynali wýd yr uchod eleni yn y Llan ar y laf o Fawrtb. Llywyddwyd yn ddoniol, gan Gutyn Ebrill, Yoelgron, Ffestiniog. Daeth torf fawr yn nghyd nes oedd yr Ysgoldy Frytanaidd ynllawn. Y buddugwr ar y dadgann ydoedd R. Humphreys (Eos Criba). Cyfartal oeddynt Evan Owen a W. Owen ar y prif draetbawd. Ail draethawd, J. Roberts a R. Evans. Y beirniad oedd y Parch J. B. Parry, Befchania, Ffestiniog. Goreu ary farddoniaeth, E. Evans, Ysgwrn, tt W. Jones, Tyddynyladys. Barnwr, G-utyn Ebrill; ar y gwahanol bethau ereill, gan Mri W. Owens, Ty'rfelin Gwilym Eden, Dolymynach; W. S. Evans, Tollborth Jane Williams, Llechedris D. Griffith, Abersern. Cafwyd dadganiadau deheuig gan frodyr o'r ardal i ddifyru y cyfarfod; ac ar y diwedd daeth dan gor yn mleen i gystadlu ar yr anthem, "Graslawnyw yr Arglwydd:" eg Llawryplwyf, dan arweiniad Mr John Wil- liams, Hetidrefawr; a chor y Llan, dan ar- weiniad Robert Roberts, Penygareg-street, yr bwn a enillodd y lUwryf. Rhoddwyd can- moliaeth uchel i'r cor arall. Y beirniad oedd Mr Edward Jones (Asaft. Collen), yr hwn a wnaeth ei waith yn ganmoladwy. Ac yna ymadawyd wedi cael cyfarfod bywiog a dyddorol. Mae y gysladleuaeth hon yn un undebol i'r eglwys, ac yn cael ti ebynal yn y gwabanol eglwysi yn flynyddol. Mae y cyfarfodydd yn Huosog, a'r gwobrwyon yn werthfawr. Nid wyf fi yn hoffi y gwobrwyon o lyfrau, oblegid mae pob dyn yn gwybod pa le mae ei wendid, aphe cai y gwobrwyon yn arian, gallai brynu y llyfrau a fyno i lenwi y bwlcb.—M. Q.
~Y TAD A'R DDAU FAB.
News
Cite
Share
Y TAD A'R DDAU FAB. Aros adref, 'nhad, nis gallaf, Poeni'm calon mae fy mrawd, Yn y maes, ac ar yr aelwyd, Iddo 'rwyf yn destun gwawd Pyro im' y rhan a ddigwydd Or boll ddaoodd genyt oyfld, Ar fy nhaith i wlad estronol Af ar doriad gwawr y dydd. Yn dy erbyn di dy hunan Nid oes genyf imiiiyw fai, Cyfiawn, grasol, a thosturiol Fuost i mi yn ddiau Ond er hyny rhaid yw myned 0 hen balas llawn fy nhad, Gwg a chulni fy mrawd liynaf, Hyn a'm gyr i arall wlad. Y tad eisteddai ar ei gadair, Megys delw dan ei bwn, Gan ymholi wrtho'i hunan, Beth a ddaw o'r bachgen hwn ? Rhanu iddo wnaeth ei fywyd, Cyn ei fyned i wlad bell; Gyda'r gair difrifol yma, Cefnu 'rwyt ar wlad sydd well. Yn y wlad 'rwyt iddi'n myned Nid oes ond y newyn du, A doi dithau 'nol ei brofi Eto i goflo am danaf fl; Yna y dechreuodd deithio Llwybrau yr afradlon ffol, Ymgysylltodd a phuteiniaid Byth yn meddwl dod yn ol. Yno'n fuan darfu'r cyfoeth, Cododd newyn yn y wlad, Gan ei arwain eto i goflo Am ei anwyl, anwyl dad; Tremio yn ei wyneb gwelw Wnai y newyn yn mhob lie, Ae nid oedd a roddai iddo Un gymwynas is y ne'. Siomedigaeth erch a deimlai Yn mhob gwrthddrych is y rhod, Ac hiraethai yn ei yspryd Am gael eto adref ddod Wrtho'i hunan y sisialai, Gan ymholi weithiau'n syn: Fi, y plentyn yma'n marw, Gweision yn cael bara gwyn. Codi wnaf a cherddaf adref, Ac a dd'wedaf wrth fy nhad, Uchel beehais yn dy erbyn. Paid a'm gwrthod i fy ligwlad Llwyd a charpiog yw fy ngwisg, Annheilyngaf fab wyf fi, Gwna fl fel dy weision cyflog, Rho le imi yn dy dy. Yn ei ludded mawr a'i eisieu, Araf deithiai tua thre, Rhwng euogrwydd a chywilydd Methai edrych tua'r ne'; Ond pan eto yn y pellder, Ei dad a'i canfu, eiddil gwan, Ac a redodd i'w gyfarfod, Gan ei nerthu yn y fan. Wedi iddynt ymgofleidio Yno a chusanu 'n,hyd, v Melua odiaeth y gymdeithas, Wedi bod o gartref cy'd Tua'r palas cerdded wnaethai Er ei wisgo gyda brys A'r wisg oreu yn y teulu, Modrwy roddwyd am ei fys. Yna'r 110 pasgedig laddwyd, Ac fe'i rhanwyd yn eu plith, Dyma wledd a goflr ganddynt Yn mhen oesoedd rif y gwlith; Cynghaneddion, dawns, a miwsig, Odlau pur y nefoedd gaed, Iacha wd wriaeth rad yn cadw Hen afradlon yn y gwaed. Wedi clywed o'r mab hynaf Sain gorfoledd yn y ty, Mewn sarugrwydd gofyn wnaethaf, Beth mewn difrif heddyw sy ? Dy frawd a ddaeth o estron wlad, A'th dad a laddodd iddo Y llo pasgedig ar y ddol, Mae galwad arnat ato. Ond grwgnach wnaeth, ac nid a'i mewn Er taer ymbilio arno, Y drws a gloid, ac yntau maes, Heb obaith mwy fynd yno; Chwychwi sydd heddyw wrth y llyw Yn Seion ar y ddaear, Gochelwch dra-arglwyddiaeth ffol A bythol ddyddiau galar. Dywedodd lesu Grist ei hun Wrth rywrai go urddasol, A'r publicanod o'ch blaenchwi I mewn i'r deyrnas nefol; Gan hyny, frodyr, byddwchfgall, A dysgwch fod yn fiyddlon, Gyrasoch drwy eich grwgnach cas Ugeiniau yn afradlon. ALLTUD AJRFON. Morfa Bychan, Portmadog.
Y < CELT' A CHOLEG Y BALA.
News
Cite
Share
Is-gadeirydd y Gymdeitbas Ddirwestol. Mae yn ameuthyn i gorph ac enaid gael clywed ei fatb. Cafodd gynulliad lluosog, a derbyniad cynbes a brawdol. Blin iawn genym orfod cofnodi fod yr hen weinidog parchus Mr J. Lloyd, Ebenezer, capel y Bedyddwyr, Mertbyr, wedi rboddi y fugeii- laetb i fyny, ac yn. bwriadu symud at ei blant i ardal Casnewydd. Bydd yn golled i'r dref ar ei ol, ac yn neillduol enwad y Bedyddwyr. Perchid Mr Llovd gan bawbo'r en wadaaereitt yn ddiwahaniaeth, a sibrydir hefyd na chaifl ymadael heb ryw atddangosiad gylweddol o'r teimladau da sydd tuag sto. Y Glowyr tto.-Dydd Sadwrn, Mawrtb laf. rhoddodd cwmpeini gwaith Plymouth rybadd, yr hwn a barodd syndod a ehyffro nid bychan yn neillduol i'r gwyr priod, am mai hwy yn unig a'i cafodd, sef—Fod pob cytundeb sydd rhyngddynt hwy "r cwmni i derfynu ar ddi- wedd y mis hwn. Dyben y rbybudd hwn, fel y tybir, yw gorfodi y dynion sydd a theuluoedd ganddynt i symud i fyw i dai y ewmni-llawer o ba rai sydd weigion ar hyn o bry 1, oddiar y ffaith na chafodd y dynion sengl y fath rybudd. Yn wir, onid oes arogl gormes ar hyn? Aryr un dydd, rhoddwyd rhybudd i bawb y byddai y taliadan o hyn allan yn bythefnosol, yn lie yn wythnosol. Credir y gwrthwynebir y mesurau hyn gan y gweithwyr, ac na ymos- tyngant i iau haiarnaidd agents cajon galed; a diau genyf yr schosa hyn anghysur a diflasdod mewn teuluoedd sydd i raddau pell yn eael gwaith cadw corff ac enaid yn nghyd heb gael eu trethu yn yebwanegol a rhent fawr o fudd i'r cwmni.—Gohebydd.