Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
SPECIAL -vOTIOE. Revised Scale of Charges for Advertise- ments in the" Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four Seven Ins. Ins. Ins. s. d. s. d. s. d. One Column 7 0 25 0 40 0 Half „ 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 8 8 .12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted I Concerts „ Vacant Eisteddfodau Apartments Wanted Sales by Auction, &c., &c „ To Let as follows:- One Insertion, per line 4d. Four Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2 id. Longer periods by special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise- ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to A*. DRIFFIELD at Carnarvon. TELERAU Y CELT." 1 drwir Post am chwarter 0 1 8 2 eto eto 030 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned ârwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i dd'od i law bob 3 mis. Telerau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. 0" D.S.—Sylwer yn fanwl ar yr uchod. JgfJl
Y < CELT' A CHOLEG Y BALA.
News
Cite
Share
Y < CELT' A CHOLEG Y BALA. Buom mewn mymryn o bryder y dydd- iau diweddaf rhag y buasai rbai o gefnog- wyr y CELT yn cwyno fod braidd ormod o'i golofnau wedi cael eu rhoddi i amddiftyn Coleg y Bala, sefydliad ag sydd wedi bod mor ddefnyddiol i'n heglwysi, ac o'r fath les ac anrhydedd i'n Hen wad; end da iawn genym allu hysbysu nad oedd raid i ni bryderu am hyny, am fod yr adroddiadau a gafwyd mor deg, a'r esboniadau mor eglur, a'r amddiffyniadau mor angenrheid- iol, ac am eu bod wedi dyfod allan mewn adeg mor briodol, nes ydynt wedi cael cymeradwyaeth cyffrcdinol, nid yn unig holl gyfeillion gwirioneddol y Coleg, ond hefyd holl bleidwyr y drefn efengylaidd Gynulleidfaol. Yr oeddid yn dechreu teimlo fod hawliau yr eglwysi, nid yn unig yn cael eu hanghoBo, a'u gwthio o'r neilldu, ond eu mathru dan draed drwy dra-arglwyddiaeth henaclnriaethol cyn- adleddau, a phenderfyniadau. dialeddol y Cyrddau Chwarterol. Yn wir, yr oedd traha a rhwysg Pabaidd Diotrephes- iaeth rhai o henaduriaid, nou yn hytrach archoffeiriaid ein Henwad Annibynol (\) Cynulleiafaol (!) wedi myned yn anoddef- adwy. Yr oedd eu cynllwynion i geisio ei wneud yn beiriant Vaticanaidd eu cynlluniau a'u cynlluniau i drefnu ei ol- wynion, a gosod y man-olwynion i chwyrn-droi dan gysgod cantau uchet yr olwynion mawr, i weithio allan eu hang- hyfiawnderau cymdeithasol o bob natur, eolegol a gweinidogaethol, cymanfaol a chynadleddol, gwladol ac eglwysig, yn felldith i grefydd a brawdgarweh, yn nerth i watwarwyr anffyddiog, ac yn warth i'r oes. Y mae eu hymddygiad at lawer- oedd o ffyddloniaid mwyaf gweitbgar a brawdgar yr enwad wedi bod er's llawer o flynyddoedd, nid yn unig yn Babaidd, ond yn farbaraidd o erlidgar. Ond y mae yn llawenydd fod yr "eglwysi" yn dechreu adnabod eu hysbryd a'u bys- trywiau a'u hamcanion; a'u bod yn teimlo yn ddwys oddiwrth eu gormes, nes llwyr ffieiddio rhwysg eu Phariseaeth. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'r go- hebwyr a'r eglwysi. a'r cyfarfodydd cyhoeddus, ydynt wedi dyfod allan mor deg a gwrol i ardystio mewn modd mor gryf a syml yn erbyn erledigaethau gorphwyllog y fath hunanoldeb Pharis- eaidd. Y mae argoelion eglur yn awr yn amlhau ar bob Haw y daw miloedd eto i'r maes i amddiffyn iawnderau ac i ddryllio llyffetheiriau yr eglwysi Cynulleidfaol. Y mae yr argoelion hyny o'r diwedd wedi cryfhau ac amlhau nes dyrysu a dychrynu Clymblaid y gormeswyr, ac wedi eu gwasgu, fel yr addefant, i argyfwng difrifol," nes y maent yn awr oddiar gopa eu twr ucbaf, dan grynu, yn ceisio ysgwyd cwr isaf aswy baner cymod. Y maent yn ymresymu yn wylaidd a duwiolfrydig ia.wn am ysbryd cariad a phwyll," drwy eu bod yn gwcled fod eu tanbelenau a'u saethau marwol- aeth o'u cynadleddau a'u llwyni, o Gelloedd Cudd eu hogofeydd, ac o uchel- fanau eu Cestyll, wedi gwheud yr eglwysi yr oddaith." Cofier mai eu cyffes hwy ydyw fod yr eglwysi wedi cael eu tanio nes myned yn "oddaith;" a chofier hefyd mai gormes eu cynadl- eddau hwy, ac athrod eu hargraffwasg hwy, ac udiadau a glafoerion eu cynffon- wyr hwy, sydd wedi gwneuthur yr eglwysi yn oddaith." Gwyr yr ysgrif enydd y-n dda, a g*yr holl Gymry Prydain ac America yn dda, er's tros ddeuddeng mlynedd, am eu cynllwynion i gamliwio a diraddio a diswyddo y Prif- athraw a g*yr hefyd yn well na hyny am eu cymdystiolaethau cableddus a'u cynllwynion bradwrus yn ei erbyn ei hun drwy y deunaw mlynedd diweddaf. Yr oedd am ollwng dros gof driciau Lerp wl- aidd eu Phariseaeth, ac enllibiau gwen- wynig eu gau Dyst' cableddus ond nis g*yr yn iawn pa fodd i wneud hyny, gan fod brad a gormes eu Phariseaeth yn parhau mor gynddeiriog ag erioed, a hyny hyd yn nod pan y maent yn ym- ffrostio o'u parodrwydd i gyfarfod y Parch M. D. Jones yn y modd mwyaf caredig." Er fod eu ton wedi lleddfu ychydig yn yr "argyfwng difrifol" y maent wedi dwyn yr enwad iddo, y maent, nid yn wir yn eu brawdgarwch, ond yn eu dychryn, yn cyhoeddi eu bod yn barod i gyfarfod y Parch M. D. Jones yn y modd mwyaf caredig;" ond y mae seiliau i gredu pe buasai ef, yn ol ei hen awydd- fryd am degwch a brawdgarweh, yn ym- aberthu i fyned i'w cyfarfod i'r Am- wythig, y buasent yn ei gau allan '{)'u cyfeillach fel y gwnaethant y tro o'r blaeo. Os ydynt, oherwydd fod 11 can. lyniadau niweidiol eu gormes wedi eu dwyn i argyfwng difrifol," yn dechreu edifarhau a newid eu ffordd ac os ydynt mewn gwirionedd yn "barod i gyfarfod y Parch M. D. Jones a'i gyfeillion mewn modd caredig," fel y dywedant, y ffordd effeithiolaf iddynt fyddai dyfod i lawr ar unwaitb o uchelfeydd eu cynadleddau i awyrgylch brawdgarweh, a gwneud cgapologies" effeithiol, mewn ysbryd tyner ac efengylaidd. Dywedwyd wrthynt yn garedig, er's blynyddoedd lawer, eu bod drwy Glymbleidiaeth offeiriadol eu cynadleddau a thra-ar- glwyddiaeth ysweinig eu pwyllgorau yn cyflymu i waered ar y lithrig ffordd lydan i wa4gu yr eglwysi i'r argyfwng difrifol" y maent ynddo yn awr, ond gogami yr oeddynt y rhybuddion brawd- gar a ffyddlawn a roddid iddynt, a hyny yn y modd mwyaf nwydog a ffroenuchel. Ar ol eu hir ddallineb i ragweled "canlyn- iadau" difrifol eu gormes, y maent yn awr yn dechreu agor eu llygaid i'w canfod ar ol brefuddwydion gorfoleddus cynhyrftis eu hunanoldeb am nerthoedd eu dylanwad a'u "doniau" i ladd y neb y mynent, a Ilethu pob achos a phob sefydl- iad fyddent am "ddifodi," y maent yn awr yn teimlo eu bod wedi ymlithro i argyfwng difrifol." Ar ol eu bod wedi dyfal lafurio drwy Phariseaeth eu hundeb- au, a dichellion eu cynghorau, a disgybl-. aeth eu pwyllgorau, a chondemniadau eu Cyrddau Chwarterol, ac enllibiau veu Celloedd Cudd, ac estyniad gwefr-linynau eu cenfigen o gwrdd i gwrdd ac o dy i dy, a thrwy ffrydiaa athrod eu Tyst-iaid, a'u cylch-lythyrau, a'u bacTcbitings wrth bob bwrdd, ac ar bob aelwyd, ac yn mhen pob heol, a'u saethau gwenwynig o'r llwyni, y maent o'r diwedd yn dechreu deall a theimlo eu bod wedi dwyn yr Enwad a'r eglwysi i "argyfwng difrifol," a bod eu harfau marwolaeth, a'u dirgel saethau, a'u pentewynion tan wedi gwneud yr eglwysi yn "oq.daith; ac felly y maent yn awr yn eu dychryn yn dweyd fod angen am "yspryd cariad a phwyll," gan amlygu dymuniad i "gyfarfod y Prif- atbraw yn y modd mwyaf caredig." Os