Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
LLANELLI.
News
Cite
Share
LLANELLI. Dy wedir na fu fath gydymdeimlad yn gor- lenwi mynwesau trigolion Llanelli erioed, ag sydd yn y dyddiau presenol, tuagat Mrs Howell, yr hon trwy ryw anffiiwd truenus, neu ddyryswch synwyrati, a grogodd ei hunig aneth, boreu y Sul o'r blaen. Gwraig ydyw i Cadben James Howell, ac yn ymddangos fel rhai yn mwynhau pob cysuron teuluaidd angenrheidiol er gwneud cartrcf ac aelwyd yn ddedwydd. Ganwyd iddi ei merch ry w ddau fis yn ol; ac ymddengys na fu yn gwbl ddiberygl oddiar hyny. Am fod ei phriod ar y mor, byddai y forwyn yn cysgu y nos gyda hi; gan ei bod yo byw mewn ty ei hun ac yn gydmarol ieuanc fel gwraig. Oddeutu wyth o'r gloch y boreu a nodwyd, deffrodd y forwyn a chyfoiodd, gan adael y fam a'r baban nh effro yn y gwely; ond yn M"le,n, ychydig amser, clywodd y forwyn lais ei meistres yn gwaeddi fod ei geneth wedi ei chrogi; yna brysiodd am gael ei chymydoges yno fel ag i weled pobpeth fel ag yr oedd yr hnn a fl1 mor ddoeth ag hunan-feddiannol a rhoddi y plentyn mewn dwfr poeth er ceisio ei adferu ond er pob ymdrech a doethineb, methwyd adferu na chadw bywyd. Dydd Mawrth canlynol, cynaliwyd trengholiad ar gorff yr eneth, a dyehwelwyd rheithfarn o Lofrudd- illeLh wirfoddol" yn erbyn y fam. Tranoeth dygwyd hi ger brQn yr ynadot), pa rai a'i trosglwyddiasant hi i gar char Caerfyrddirr i aros ei phrawf yn y brawdlys nesaf. Tybiaeth gyffredinol y eyhoedd yw fod Mrs, Ilowell allan o'i synwyrau ar y pryd; oherwydd edrychid arni fel un o brif. funeddigesau y dref a'r eyiiiydocraeillau. Adnabyddid hi ga.) bawb am ei bod bod amser yn gwasanaethu fel cantores emvog yn y eyngherddau mwyaf nrddasol i bob enwad yn ddidal ac yn ddi- wahaniaeth. Yn ngwyneb cnledi yr- amser presenol, y tnae cwmni o'r Americawediagor eadgon or AMERICAN MARKET yn y He hwn, a mawr y son a'r siarad sydd," gan gigyddion y dref am. gig a 11 In gwabanol mvyd lati y dieithriaid; a hyn i'w briodoli yn hollol am cu bod yn gwerthu gwell ymborth am lai o artau na hwy. Dygasant gyhuddiad haerllug yn eu hcrbyn y dydd o'r blaen-nad oodd en mvyddau yn iachus fel bwyd dynion; ond da genyrn byfforddi y wcrin i'w holl ymborth ddal ei brawf, a'i bwyso yn ngblorianan cyfiitwnder, er gwaethaf ymosodiadau beiddgar gclynion. Ymddengys fod cig y wlad hon wedi gostwng d y. geiniog y pwys eissoes, a byny fel effaitb agoriad y sibp newydd. Dydd ism Sul a Merchor, yr wythnos d'r blaen, cafwyJ DWYLONG allan ychyd'g o'r po!'tbladj hwn, lieb neb o'r dwylaw ynddynt. Nid oes gwybodaeth sicr eto pa tin ai gadael y llongau, a myncd i ryw lan a wnaethant, ai ynte boddi. Yi-nactitior Hougau yn alluog i gario d wy fil o dyneiii a'r Halt dipyn yn llai; felly, rhwng pobpeth, amser digon tcrfypglyd ydyw hi ar y Llan- elliaid.—John James floan GwylHJ.
J, TREDEGAR.
News
Cite
Share
J, TREDEGAR. Cynaliwyd eisteddfod yn y Temperance Hall Mawrth 3ydd. Cymerwyd y gadair gaa y Parch W. Walters. Beirniad v gerddoriaeth, Mr 0. Griffiths (Eryr Eryri), Waenfawr, Car- narfon; y rhyddiaeth a'r farddoniaetb, Mr D. 1V. Jones (Dewi Glaritaf). BeirniadaeLh ar y Jiân, y Ddafod a'r Oenbuddngol, Gwy. ddonfryn, Merthyr. Cystadleuaeth c tnu y solo te"nor," Y BwthynaryTraeLb;" goreu, Mr Lewis, Ebbw Vale. Adrodd, "Mi gollais V TrenWaff?yn Wyri. Rhanwyfl y wobr rhwt^g un o Hirwaun ac un o Rhymni. Canu unrhyw ddeuawd; goreu, Mr Lewis, Ebbw Vale, a'i gyfaill.Beirniadaeth Dewi Glantaf ar yr "Englynion i'r Goleuni Gwefreiddiol buddugol, loan ab Dewi. Beirniadaeth yr Eryr ar y Don Gynulleidfaol; buddugol, allan o Wytli-ar-htigain, Mr J. Oledan Williams. Bcrirniadaeth Dewi Glantaf ar yrHir aThodd- aid i ddanblentyn Gelynas Tredegar; budd- ugolj Lhvch y Llawr. Cystadleuaeth ar Mor- gan Hen goreu, parti Gvvenb. Beimiadaeth ar y traethawd, IJndeb rhwng y Meistri a'r Gweithwyr; buddugol, D. Weeks (Honddu). Canu,. "Gwenau y Gwanwyn"- (G. Gwenf); goreu, parti Gwent. Cystadleuaeth ar "Th<> Slave Ship;" neb yn deilwng. Y brif gystad- leuactb, tri ch&r—Ooednor, Leinn, a Mori-ih, Rhymney; rhanwyd rhwng y ddau olaf. Cys- ladleuaeth yr anthem, "Duw sydd noddfa" (R. Mills); goreu, Moriah a Rhymney; buddiigol, y cyntaf. Cynaliwyd cyngherdd ynyr h.vyr, prydygwaRana-cthtvyd gan Haw Peris, Eos Morlais, a Llinos Rhondda, ac unncu ddau o barties y gymydogaeth. Yr oacld y,solos yn dda., yn enwedig y iri enwog, Limos, Eus Morlais, a Huw Poris.—Gohebydd.
CAPEL Y WIG, CEREDIGION.
News
Cite
Share
CAPEL Y WIG, CEREDIGION. Cynaliwyd Cyfarfod Ohwarterol y Cyfundeb yn y lie nchod ar y 5ed a'r 6ed o'r mis hWD. Llywydd y gynadledd oedd Mr Evans, Aber. ayran. PENCERFTNIADAU. Fod y cyJarfod oesif i fod yn Llanbadarn, yn Mai, a Mri Williams, Rhydybont, a Thomas Llanbedr, i bregethu ar y pvneiau. Gobirwyd ymdriniaeth ar gyfansaddiad newydd Qym- deithas yr Acho3ion Seisnig hy'd y cyfarfod nesaf. Cymeradwywyd yr amcan o sefedlu Cenad- aeth yn Llundain, ac anogir e^lwysi y Cyfun deb i wneud eu rhan tuag ati. .1 Cymeradwywyd Mri I). Willrams, Alltwalis. a W. Mason, Sion, fel ymgeiswyr i Athrofa y Bala. Eia bod yn dymuno dstgan ein cydym- deimlad a'n hanwyl frawd Mr Morris, Aber- teifi, yn eigystodrl DC yn dymnno eiadferiad buan. Eto. Eio cydymrleimlad n'n banwyl frawd T. M. Thomas, Affrica, yn ei drallod blin yn herwydd marwolaeth ei anwyl fib. Ein bod yn cymeradwyo y devvisiad o Mr T. C. Jones, Ceinewydd, gyht Llandderfel, i ymweled a'r eglwysi ar ran Cymdeitbas y Morwyr, ec yn hyderu y ca ddeibyniad croesawus. Ilysbyswyd ni gan Mr Phillips ei fod yn hwriadu caei cyiarfodtdd i ail-agor capel enwogHoreh, tnadiwedd Mai neu ddechreu Mehefin; a'u bwriad o wneud byny heb geiniog o ddyled arno. Ardderchog! mae ganddo ef a'i anwyl bobl allu a cbaion i weithio. Dywenydd gcnym fod yn mwriad yr eglwys yn Ebenezer a C tstellnedd igael capel newydd. Dymunwn iddynt bob llwyddiant yn eu hanturiaeth. Beth na all pobl o dan .arwpinad y galluog E, A. Jones wnend ? Ar ol gorphen ar bethau amgylchiadol, adroddodd nifer o'r brodyr eu profiad gwein- idogaethol. Ein teimlad oedd rcai dymunol a ido, by fry cl cyfarfyddiad brodyr mewn brawdol- iaeth bur, hcb ddim i chwerwi yr undeb. Pregethwyd yn y gwahanol oedfaon gan Mri Davies, Tyasnt, loan vii 46; J I.. Gwernllwyn, 1 Oorinthiaid, xii 12. tPregtth- odd ar y mater 1 hnddediK H Gf!amod Eg- iwysig a'i rwymedigaethau." Pregeth ragorol Trueui na eh-ivvsni aelodau yr eglwysi yn gyffredinol ei chlywed. Pasiwyd penderfyniad o ddiolcbgarwch gwresog y frawdoliaeth iddo) Jetfsys, Saron, IVlathew xxriii 6 Rowlands Nebo, Diavhebion xxviii 13; Owen. Whix- hall, loan Vii 4f>; Thomas, Brynmair, Ilebreiaid' xiii 5; Jones, Castellnewydd, Exodus xxiii 2; Jones, Pencader, Micah iv. 13; Philhp?, Llandyrsil, Ephtsiaid ii 14 19; Thomas, Llanbedr, Esiah Iv 1; 1 1. b Davies, Clarach, Actau xiii 38-41; Edwardf, Llanbs.darn, loan xvi 7. Cawsom gyfarfodydd da; byderwn yr erys yr argraffiadau dymunol.—J. M. P.
. CEINEWYDD.'
News
Cite
Share
CEINEWYDD. Y mne hwn yn le dymunol iawn i dreulio dyddinu hir-ddydd haf, er adferyd iechyd a, north i'r cyfausoddiad dyaol. Mae yr adeil- adau y rhan fwyaf yn ricwydd, ac yn cael eu cadw yn lan. Ymwelir S'r Ho gan gannoedd o yinwelwyr yn ystod tymor yr haf. Mao yma drichapel ac un Eglwys blwyfol, ac yn adeil- rtdau newyddion a iiardd acyn ddiweddar, fo adeiladwyd yma. ysgoldy newydd helaeth, mewn cysylltiad A r Bwrdd YsgoJ, er darparu a idy.Kg i'r do ienainc sydd yn fcyfu i fyny; ac er y gosS a'r cyfleusderau, mac amboll i John a Mary, &c, yn gomedd myned i'r Ysgol. Y canlyniad yw, fod y pwyllgor wedi penderfynu l-hoddi y compulsory mewn grym; HO y maent wedi dowis un o'r lie i latiw y swydd bwysig hon, ac un gwyllt ydyw of hef/d. Mae rhwng haner Dea Gogledd. Pa till fuont ddodwydd yn ei ddewisiad ai peidio, darfu i mi ei glywcd yn dyweyd wrth fam plctityn un disvrnod, na iydclai waeth gandlo fab i "aer coch fvvy na Saer gwyn, y gorfodai iddynt fyned i'r ysgol. Pahato ysoniai amy saer coch ? Mae ef yn huno er's droa ugain mlynedd; am byny, gad- awer i'w enw lonydd i orphwys gydÙ hen bererin. Mae doethineb yn angenrheidiol er bod yn addas i lanw yr unrhyw swydd o bwys. G ibeithio na, wna, y brawd ddim anghofio ei hun, er cael ei anrhydeddii â'r swydd. Mae rheol i weithio, ac wrth reol y dylid gweithio, ac nid vn ol mympwy direol a diamcan. Gwaith disynwyr yw dwrdian ac ymgecru a rhieni y plant ar beliau yr heolydd, ac i fygwtb y phnt ynta a thraw, er mwyn dangos fod ganddo ef awdmvlod gwell yw defnyddio y moddioll cyfreiihlawn a defnyddio synwyr cyffVtdin er bod yn efFeilhiol i gyrhaedd yr amcan mown golwg. Llestr gwag syddrn gwneud mwyaf o stwr; ae fe ellir penderfynu, os bydd dyn yn gwneud llawcr o stwtz, fod ei siol yn wag. Dylid ffrwyno tymer wyllt, ac nid dreifio plentyn fel pe bai yn asyn. Ar hyn o bryd, nid ymhcl- aethaf. Dyraunaf lwyddianfc i'r ysgol. Ydwyf, yr eiddoch, Tbiliwr GWEI.LT.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodakau, 8tc. GENEDIGAETHAU., DAVIES—Mawrth 32ain, priod Mr David Davies, tinman, Wesley Cottage, Llanbedr, ar ferch. Wele, Duw a gyfoetliogodd, Do, y teulu hwn o ferch; Bydded iddi gael hir ddyddi m, Fel y delo i enill serch; Duw o'r nef fo yn arweinvdd Ac yn gyfaill i'r un facli, Fel y bydd 'n ddefnyddiol Iddo Ac y daw yn mlaen yn iach. Gan mai hon yw'r gyntaf O'r rhyw deg i'r teulu hyn, Bendith Duw yn awr fo arno, Fel y caffo fywyd gwyn; Ar yr aelwyd bydd yn llawen Yn cysuro 'i thad a'i inhain; Ac yn nghwmni ei hoff frawd William Bydd y fach yn fwyn ddinam. T. R, PRIODASAU. WILLIAMS—LEWIS—Mawrth 10, jn swyddfa'r cof- restrydd, Porthmadog, Mr R. Williams, a Mrs Ellen Lewis-y ddati o Qliapet street, Porth- madog. MARWOLAETIIAU. WILLIAMS—Mawrth 25, yn 18 mis oed, Annie, mercb Mr Hugh Williams, grocer, &c., New- borough street, Caernarfon. DAVIES—Mawrth loeg, yn 33 rnlwydd oed, Mar- garet, anwyl briod. Mr John (Josu) Davies, Pound, ger Llanbadr Yr oedd yn wael ei hiechyd er's tro. Gwasanaetlnvyd yn y ty gan y Parch Joseph Jones, gweinidog y Wesleyaid. Claddvvyd hi yn mynweht Llanbedr y dydd Mawrth canlynol. Gadawodd dri o blant i alaru ar ei ho1..
GALWAD.
News
Cite
Share
GALWAD. Y mae eglwys Annibynol Penlan, Pwllheli, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch Owen Jones, Ebenezer, Arfon, i ddyfod yn weinidog iddi; ac y mae yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol, a bwriada. ddechreu ei weinidogaeth ddechreu Gorpheuaf nesaf.