Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

DAU DDARLUN.

News
Cite
Share

DAU DDARLUN. Darlun Cyntaf.—-Ysgol Sul. Haner avr wedi dan. Yr athraw heb ddyfod. Tri o'r dosbartk yn absenol.. Dafydd yn taro William nes gwaedodd ei drwyn. Trcchodd ei grys gwyn. Ugain munud cyn tri-r-yr athraw yn dod. P'le y dar- Ilenwil ? Dim llawer o bwys p'le. Yr athraw yn dysgu ychydig. Y bechgyn yn tain dim sylw. Yr athraw yn holi yn ddifater. Y plant yn ateb yn fwy difater. Yr athraw yn edrych allan drwy y flenestr, ac o gylch yr Ysgol. Y bechgyn yn dal tn y cler (gwybecl). Diwedd yr Ysgol. Penill yn cael ei roi allan. Yr athraw ddim yn eanu. Y bechgyn ddim yn gofalu am hyny. Yr athraw yn dweyd ei fod' yn credu lias gallai fod yno y Sul nesaf. Y bechgyn yn credu nas gallent hwythau, ychwaith. Beth ddysgwyd ? Dim dim!! dim! J! Yr Ail Ddarlun.—D&U o'r gloch. Yr athraw yno. Y dosbarth oil yno. De- chreu yr Ysgol—yr. athraw yn canu-y bechgyn yn canu. Yr athraw yn holi yn fywiog. Y bechgyn yn ateb yn siriol. Yr athraw yn edrych ar ol ei ddosbarth. Y dosbarth yn edrych yn eu llyfrau. Dim munud wedi ei cholli. Diwedd yr Ysgol, Yr athraw yn canu. Y bechgyn yn sylwi. Yr athraw yn trefnu gwers y Sul nesaf. Y bechgyn yn dymuno cael bod yno hefyd bob Sul. Beth ddvsewvd ? 1. Y cwbl oedd yn y wers. 2. Yr oil a awgrymodd yr athraw. Gof. Pa un o'r ddau ddarlun sydd well genyeh cliwi ? Ateb. Yr ail ddarlun. Gradeweh i ni gael ugain mil o honynt. Cyf. A. E. D.

TABOR, BRYNCAWS.~~r~

[No title]

PANTYCRUGIAU.

LLYTHYR LLUNDAIN.