Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

COLEG Y BALA A'R DDAU BWYLLGOR.

News
Cite
Share

COLEG Y BALA A'R DDAU BWYLLGOR. MR. GOL.Mae yn ddrwg iawn genyf fod am- gylchiadau wedi gyru pethau i'r ffurf sydd arnynt yn bresenol yn nglyn a'r sefydliad uchod ac yr wyf yn credu fy mod wrthddyweyd hyn yn dweyd tcimlad calon ugeinian o'n gweinidogion a chan- oedd o'n haelodau eglwysig. Mae personau per- tliynol i'r ddwy blaid wedi ysgrifenu hanes y Coleg am yr ugain mlynedd diweddaf; ac yn nglyn a'r hanes yn enwi amgylchiadau, ac yn eu galw yn anffodian y sefydliad; ac y mae yn ddigon tebyg y daw rhyw rai cto i gyfeirio at yr un pethau, ac wrth wneyd hyny yn teimlo wrtli gwrs eu bod yn gwncyd gwasanaeth i'r achos. ,!Ond y mae hyn yn sicr, ein bod yn methu a chydolygu pa amgylch- iadau yn hanes y sefydliad fu yn anffodion iddo; ac y mae yn eithaf sicr hefyd nas gallwn ar hyn o bryd, beth bynag, gydolygu ar y mater. Ond fe gydolyga pawb o'r ddwy ochr fod rhyw bethau wedi troi allan ag y mae yn rhaid eu galw yn 'an- ffodion y sefydliad,' fel, ar hyn o bryd, y mae pethau wedi cymeryd ffurf hollol annedwydd ac anghysurus. Tybed, mewn difrif, nad oes digon o synwyr a chrefydd yn ein plithi fel pleidiau, fel nas gallwn feddwl am ryw dir y gallwn ni gyfarfod a'n gilydd i gydweithioyn nglyn a Ilwyddiant y sefydliad? Mac yn anhawdd iawn gcnyf gredu nad yw hyn yn bosibl. Bydd Pwyllgor yn yr Amwythig, ac un yn y Bala yr un diwrnod. Wrth gwrs, mae genym ein golygiadau am gyfreithlondeb y naill a'r llall o'r Pwyllgorau hyn ond gadael hyny allan o'r cwestiwn yn hollol ar hyn o bryd, tybed na cheid gan bob un o'r Pwyllgorau hyn i ddewis chwecli o ddynion, ac i'r deuddcg hyny gyfarfod a'u gilydd yn rhywle i geisio trcfnu rhyw gynllun i ddyfod a'r pleidiau at eu gilydd, fel y gallwn cto gyd- wcithio yn mhlaid llwyddiant sydd mor agos at ein calon ? Yr ydym yn ymwybodol fod teimladau wedi eu liarcholli o bob ochr, brodyr wedi gollwng saethau at eu gilydd ag yr wyf yri sier y byddant yn teimlo yn edifar am hyny wedi i'r frvvydr fyned drosodd ac i'w gwaed oeri. Heddwch ac amser yn unig.a wellha yr archollion hyny. Ac y mae yn eithaf sicr y bydd ami un o honom wedi ein symud cyn y cwbl iacheir yr archollion. Yr wyf yn dra hyderus y gellir gwneyd rhyw beth yn y cyfeiriad uchod. Yr wyf yn ysgnfenu liwn yn hollol ar fy nghyfrifoldeb fy hun, lieb ymgynghori a neb o'r naill ochr na'r llall. Os llwyddir i gael dynion i wneyd hyn, yr wyf yn teimlo y bydd iddynt wneyd gwasanaeth, nid yn unig i'r sefydliad yn y Bala, ond i achos crefydd yn ein plith fel enwad. Yr eiddoch yn bur, DAVID REES, Capel Mawr. „ COLEG Y BALA. Mtt. GOL.,—Dymunaf eicli liynawsedd i gyflwyno drwy y CELT yr ychydig nodiadau a ganlyn i sylw y rhai hyny a fwriadant gyfarfod yn yr Amwythig y Mawrth 2Gain, gyda'r bwriad o drafod achos Coleg' y Bala. Gwn yn dda am lawer o honoch eich bod yn awyddus i gael tcrfyniad buan a boddhaol ar yr anghydfod sydd wedi bod er's blynyddoedd yn achos y sefydliad hwn; ac a'r rhai hyny yn unigy mae a fynwyf. Am ereill sydd a'u gwynebau tua'r Amwythig, yr wyf yn ofni am lawer o honynt nad ocs ynddynt y gronyn llciaf o ducdd at dcrfynu y taeru a'r ysgrifenu sydd wedi bod ar ol pob cyfar- fod a gynaliwyd yn yr aclics; na, yr wyf yn ofni am y dosparth hwn y gwnant eu goreu i barhau yr- anghydfod. Y mae yn eu mysg rai yswciniaid nad oes dim a'u boddlona ond dial, cyn belled ag y gallont. Mae rhai dynion yn ymhyfrydu mewn gwneyd eu goreu i greu anghydfod, gan ei fod ganddynt yn flasus fwyd. Nid ydynt hwy yn petrnso ohcrwydd y sarbad a deflir ar yr en wad, oherwydd fod rhai o'r fath yn cael sylw, bwyd a diod rhai dynion ydyw ymdrechu creu anghydfod; felly, mi adawaf y rhai hyn, gan nad ydynt yn talu sylw i ddim ond cynyrch eu penglogau eu hunain. Dymunaf yn ostyngedig alw sylw- aibenig y j pwyllog, y synwyrol, a'r deallus, y rhai na charant I fod a llaw ganddynt i waradwyddo ein hannibyn- iaeth, at yr hyn a ganlyn yn arbenig:—■ ] 1. Pa an ai yr undebau sirol ai yr eglwysi sydd wedi cyfranu at Goleg y Bala? Os yr eglwysi, pa un ai gan y mwyafrif ai gan y lleiafrif y mae yr hawl i drafod yr achos hwn, a phob achos arall a gynhelir gan y lluaws, ac a honir ei fod yn perthyn i'r enwad? 2. A ydyw yr eglwysi Annibynol yn rhwym o ymostwng i gymeryd eu llywodraethu gan gynad- leddau yr undebau sirol ai nid ydynt? 3. Pa un ai cynrycliiolaeth yr eglwysi ai ynte hunan-gynrychiolacth, sef un bersonol, sydd yn gwneyd i fyny gynaclleddau yr undebau sirol? 4. A ydyw pob un a deimlo awydd i fyned i'r Cyfarfod Chwarterol yn meddu pleidlais, pa un bynag fyddo ai gweinidog, diacon, ai aelod, pob un, wrth gwrs, yn pleidleisio drosto ei hunan, ynte? A ydych yn tybied, yn wyneb yr uchod, eich bod yn meddu yr awdurdod i drafod achos Coleg y Bala, neu ryw achos arall y cyfrenir gan yr eglwysi at ei gynal fel achos i'r enwad, heb gymaint a gofyn llais y cyfranwyr at yr achos? Mae hyn mewn effaith cystal a dyweyd na fedd y cyfranwyr yr un fiirn ond i roddi. Mae mwy o'r Babaeth yn hyn na dim arall. Tybiwyf yn gryf mai yr unig beth a ddylai cyfarfod yr Amwythig, Mawrth 26ain, 1879, ei wneyd yw trefnu ar lwybr er gosod yr achos yn deg a gonest o flaen yr cglwysi, a chael eu Ilais hwy ar pwy sydd i drefnu yr achos. Ac os na wneir rhywbeth o'r fath, tybiwyf y dyiid darbwyllo yr eglwysi i wrthod cyfranu at unrhyw sefydliad ag y proffesir ei fod yn perthyn i'r enwad, ond a drefnir yn ddiarwybod i'r enwad, a'r enwad sydd yn gorfod dioddef oherwydd ymyriadau personau diawdurdod. Yr ydych yn gwybocl oil nad oes genym fel Annibynwyr yr un gynrychiolaeth o gwbl i drafod unrhyw achos, ac nad oes yr un i'w chael ond trwy i eglwysi yr enwad eu dewis, a phaham y sonir yn barhaus am yr enwad yn nglyn ag achosion fel byn ? Paham na ddywedir mai gweithrediadau pwyllgorau hunanetholedig ydynt? Credwyf am danoch, frodyr, eich bod yn deall An- nibyniaeth yn dda; felly bydded iddi gael ei gweithredn, ac nid bloeddio Annibyniaeth a gweithredu yn Drefnyddol. Cysondeb, frodyr, a chydweitlirediad a thawelwch mae llawn ddigon o ymladd wedi bod, a hyny i ddim pwrpas. CYRUS. MR. GOL.,—Gwelais yn y rhifynau diweddaf o'r CELT gollfarniad' rhyw bedair neu bump o gynad- leddau ar lythyrau M. D. Jones, prif-athraw y Bala; ond credaf yn onest fod y mwyafrif o lawer wedi dyfod i wrandaw yr efengyl i'r Cyfarfodydd Chwarterol hyny, a fuasent yn barod i wrthdystio yn erbyn yfath gondemniad pe cawsent gyfleusdra i ddangos hyny. Goddefer i mi ofyn ychydig ofyniadau syml i'r sawl a ewyllysio eu hateb, os gwncir hyny ogwbl: (1) A oes gan rywun neu rywrai o'r bobl uchod rywbeth yn erbyn cymeriad moesol M. D. Jones ? (2) A oes achwyniadau yn ei erbyn fel athraw annheilwng ? (3) Pa fodd y darfu i bobl dda y cynadleddau uchod fod mor ddisylw o'r llytliyrau bryntion a gafodd ymddangos ar dudalenau y 'Dydd,' y 'Tyst a'r Dydd,' yn ganlynol i un o Bwyllgorau y Bala, gan rai a fu yn ddigon hyf a haerllug i roddi dar- luniad i'r cylioedd o agwedd cyrfE dynion parchus yn y weinidogaeth, ac yn ddigon beiddgar hefyd i'w llys-enwi ? (4) Paham y cyfrifir M. D. Jones yn fwy pech- adur. pan y mae cf yn dyfod allan i amddiffyn ei hun dan ei enw priodol, tra y mac ereill yn gaol ymosod arno am lawer blwydcfyn o dan ffngenwau, ac etc yn cad dianc yn gwbl ddigerydd gan bobl gydwybodol y cynadleddau a nodwyd ? Foneddigion, goddefer i mi ofyn, Pa faint a fyddai yr enill pe llwyddai y dosbarth uchod yn eu liamcan ? Fy marn bcrsonol i—ac yr wyf yn crcdu fy mod yn dadgan barn miloedd heblaw fy hun— y byddai y golled yn anrheithiol fawr i'n henwad yn gyffredinol. Disgwyliaf y bydd rhywun neu rywrai mor foneddigaidd a dyfod allan o dan eu lienwau priodol i roddi tipyn o eglurhad ar yr uchod, a hyny mewn ysbryd boneddigaidd. J. REES, Ceinewydd. — LLAIS YR EGLWYSI. Mn. GOL.,—Mae lluaws o gyfeillion o wahanol eglwysi cwr uchaf sir Aberteili yn teimlo y diolcli- garwch gwresosaf i'r Parch M. D. Jones am ei lythyrau cryf ac eglur o hunan-amddiffyniad a ymddangosodd yn y CELT. Yr oeddym drwy y blynyddoedd aeth heibio yn goddef dirmyg gan wawdwyr crefydd. Dywedent fod gweinidogion ein henwad wedi troi i ymladd a'u gilydd yn lie ceisio achub pechadtiriaid; ac hefyd fod prif-athraw y Bala wedi troi bron fel lleidr pen ffordd. Yna dygent bapur mawr yr enwad i brofi eu liieriad. Darllenent ef i'n clyw, a phrynent ef i'r pwrpas hwnw; dygent ef i'r gwaith, mewn trefn i'w ddar- llen ar yr awr giniaw pan fyddai y bobl yn nghyd; byddai rhai yn chwerthin, rhai yn cabin, ereill yn gorfod goddef yn methu a dyweyd dim felly yr oedd gelynion crefydd yn defnyddio Papur yr En- wad i wawdio crefyddwyr. Yr ydym yn synu pa fodd y darfu i'r Parch M. D. Jones oddef i'w ym- osodwyr ei ddiraddio yn y dull mwyaf gwarthus, a hyny am lawer o flynyddoedd. Ond pan ddacth allan i ddinoethi twyll Phariseacth ei elynion, mae gan yr eglwysi le i siarad yn ddifloesgni yn erbyn eu gwawdwyr a'u gelynion. Byddwch galonog, y mac yr eglwysi o'ch plaid, ac fe fynant eu rhyddid i farnu drostynt eu hunain. Cynrycliiolaeth Esgobol," nid peth nowydd i'r eglwysi yw: mae yn adnabyddus er's blynyddoedd. Mae hen driciau y blaid uchelgeisiol wedi cu dinoethi, fel y caffo yr eglwysi gyile i edrych arnynt yn y goleu pri- odol. Onid yw yn resynol meddwl fod yr eglwysi yn cael cu hafionyddu gan rai a alwant eu himain yn weinidogion y gair trwy rwygo a diraddio y dynion mwyaf llafurus a gonest fu ar y ddaer er- ioed, am iddynt beidio gwerthu cu cydwybodan i bleidio eu Phariseacth hwy ? Mae amddiffyniad M. D. Jones yn disgyn fol gwrcichion poeth ar gnawd el erlidwyr, a tbeimlant mor ddwy 8 nes eu gweithio i godi llaw fel arwydd o gondemniad yn erbyn M. D. Jones. Nid codi Haw mown Cyfar- fodydd Clwarterol, na lioll duyfais y Gell Gudd, a dyn i lawr gymeriad y Prif-athraw. Y mae ei lafur diflino o blaid y Coleg a'i gyd-genedl yn rliwymd ein cymeradwyaeth camsyniodd y blaid esgobol eu hadeg i gael cwbl lywodraeth ar yr eglwysi y dyddiau hyn. Dylent gofio S. R., yr hwn a fu am liirfaith flynyddoedd yn llafurio dros ei gcnliedlaeth, er gwelliant gwladol a chrefyddol, yn enwedig dros lwyddiant eglwysi Annibynol. Ni fu yr un teutu yn Nghymru o'r bron heb wledda ar ddanteithion y 'Cronicl Dacb,' ac mae ei egwydd- orion wedi gwreiddio yn ddwfn yn meddyliau y miloedd darllenwyr. Mewn gair, Plant S. R. sydd yn gwneyd i fyny swyddogion ac aelodau einheg- lwysi y dyddiau hyn; mac ein parch a'n anwylder tuag ato yn fwy nas gallwn gredu anwireddau ac enllibus chwcdlau ei athrodwyr. Nid oedd clywed ei fod yn pleidio caethwasiacth yn America ond cryfhau ein serch tuag ato, wrthAveled rhai broclyr yn y weinidogaeth yn ceisio ei ddiraddio yn ei hen ddyddiau. Gonnod job yn Nghymru. Dymunwn ncrth iddo barhau i sefyll yn wrol dros egwyddor ion anwyl Annibyniaeth. Cedwch y Pwyllgor yn y Bala. Dyna ydyw dy- muniadyreglwyd; ac aed y lleill i'r Amwythig neu yn mhollach os byddant yn clewis. Llanbadarn. D. JOXES.

[No title]