Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

DEUWCH I'R BALA.

SILOH, LLANFACHRAETH.

Family Notices

MARCHNADOEDD.■

ANIFEILIAID.

[No title]

AT EGLWYSI ANNIBYNOL FFESTINIOG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

deuwch frodyr i'r Bala, a gellwch fod yn bur sier y byddwch trwy hyny yn gwneud gwasanaeth i'r Arglwydd Iesu Grist. ANNIBYNWR. Ffestiniog, Mawrth 14eg, 1879. » BEULAH, MALDWYN. FONEDDIGION,-Nos Lun, Mawrth lOfcd, cynal- iwyd cyfarfod cyhoeddus i ymdrin a helyntion Coleg y Bala a'r Prif-athraw. Yr oedd yn bre- senol, heblaw y Beulaiaid, amryw o aelodau eglwysi Llanerfyl, Foel, a Llanbrynmair. Llyw- yddwyd gan Mr J. Jones, Dolwon. Dywedai- Fel adran o Annibynwyr Maldwyn, a chyfranwyr cyson at y Coleg, tcimlwn fod genym hawl, ac y dylcm amlygu ein barn yn ei achos. Gofynasom ddwy waith, mewn yspryd gostyngedig abrawdol, i ysgrifenydd y cyfundeb a gaem ganiatad i ddy- weyd ein barn yn y gynadtedd ar un o faterion cyhoeddus yr enwad yn Nghymru, ond ni wnaeth sylw o'n cais. Yn wyneb hyn, ar ol ystyriaeth ddwys, ac ymgynghoriad pwyllog, barnasom yn ddoeth gymeryd y cwrs presenol o weithredu. Ni roddwn y goreu i neb am barchu gweinidogion. Dysgwyd ni o'n mebyd i anrhydeddu y weinidog- aeth; ond yr ydym yn rhwym i roddi y flaenor- iaeth i egwyddorion. Ac y mae ben egwyddorion cryfion ac anw/1 cynulleidfaoliaeth yn werthfawr yn ein golwg; a chredwn eu bod yn ansigledig ac yn anfarwol. Oddiar argyhoeddiad trwyadl fod rhai o'r egwyddorion crybwylledig wedi cael eu dirmygu yn yr ymdrafodaeth a'r Coleg, a bod yr erledigaethau creulawn a ddioddefodd y Prif- athraw y blynyddoedd diweddaf yn annheg, yn anghyflawn, a diangenrliaid, tybiwn ei bod yn ddyledswydd arnom ddefnyddio rhyw foddion i'w amddiffyn, a dyna amcan y cyfarfod hwn. Yna pasiwyd y pondcrfyniadau canlynol gydag unfrydedd hollol:— 1. Fod y cyfarfod hwn yn llawenhau yn llwydd- iant cynyddol Coleg y Bala, dan ofal yr athrawon presenol. Sylwyd—Ei fod yn fwy perthynasol a ni yn Nghymru nag un o'r Colegau ereill. Ei fod yn hollol dan ein Ily wodraeth-unig Athrofa y Gogledd -a'i fod yn y blynyddoedd diweddaf wedi bod yn nodedig ar gyfrif ei gynydd a'i wasanaethgarwcli, yn enwedig i'r eglwysi Cymreig, yr byn sydd yn tystiolaethu yn uchel am gymhwysdcrau yr athrawon. 2. Ein bod yn llwyr anghymeradwyo Uythyrau ac ymddygiadau Mr W. J. Parry, Bethesda, tuag at S. R. I Ystyrid fod gwaith boneddwyr ieuainc dibrofiad yn ysgrifenu y fath gabldraethau anwireddus ar gymeriad hen wron parchus a ymladdodd fnvydrau rhyddid gwladol a chrefyddol am dros dri ugain mlynedd yn annheilwng o wlad Gristionogol. Rhyfedd na fuasai duwiolfrydedd rhyw gwrdd chwarter yn ei alw i gyfrif. 3. Fod y cyfarfod hwn yn dymuno dadgan yn ddigel ei gydymdeimlad llwyraf a'r Parch M. D. Jones, yn wyneb yr erledigaethau a ddioddefodd yn ystod y blynyddoedd diweldaf. Awgrymid fod ffyrnigrwydd a pharhad y cyhuddiadau disail a ddygid yn ci erbyn yn trwyadl gyfiawnhau ei hunan-amddiffyniad; a'i fod wedi dioddef can belled ag yr oedd dysgeidiaeth yr Hen J-yfr yn gahv am icldo wneud; a thrwy hyny iddo roddi esiampl o oddcfgarwclv na chanfyddir ond anfynych ei chyffelyb. 4. Ein bod yn anghymeradwyo rheolau an- nhrofnus, aml-eiriog, a thwyllodrus y Cyfansodd- iadNewydd. Nodid-Ei fod yn euog o wanliau yr elfen wer- inol ag oedd mor gryf yn ei lywodraethiad dan yr Hen Gyfansoddiad, ac yn tueddu i wneud ei- reol- iad yn fwy unbenaethol. 5. Ein bod yn teimlo yn ofidus oherwydd pon- nodiad dyn mor unochrog a Mr C. R, Jones ar Bwyllgor yr Amwythig, mewn adeg y mae y pleid- iau mor boeth a thyn. Siaradwyd yn gryf y dylesid, pan y mae y pleid- iau yn y fath belider-Annibyiiiaetli yn y fath gyfwng pwysig—ethol cynrychiolydd diduedd, aumhleidgar, heddychol, tangnefeddus, awyddus, ac ymdrechgar i adfer undeb, brawdgarweh, a chydweithrediad. 6. Yr ydym yn annghymeradwyo y Cyfarfodydd Chwarterol hyny sydd wedi condemnio llythyrauy Parch M. D. Jones ya y CELT, yn protestio nad oedd Cyfarfod Cliwarterol y Drefnewydd wrth wneud hyny yn cynryelnoli teimladau a syniadau holl eglwysi Maldwyn ar y pwnc. 0 barthed i'r penderfyniad hwn, dygwyd ymlaen y gosodiadau canlynol:-Os oedd ponderfyniad y Drefnewydd yn gynyrch rarch i grefydd, ac an. rhydedd yr enwad y perthynwn iddo," peth rhyfedd na fuasent wedi dechreu condemnio yn gynt. Y dylasai rhai o'r person an y dywedid eu bod wedi derbyn cam trwy lytliyrau y Prif-athraw, cyn ei gondemnio mor nwydwyllt, ymdrechu dym- chwelyd ei osodiadau drwy ymresymiad. Ein bod yn dystion o glywed rhai oedd yn ded. frydu mor Phariseaidd J-n y Drefnewydcl yn llefaru creulonacli brawddegau, a mwy annheilwng o'r efengyl, na dim a ymddangosodd yn llythyrau hunan-amddiayniad M. D. Jones. Mai yn y Bala y dylid trin achos y Prtf-athraw, ac nid yn y Cyfarfodydd Chwarterol. 7. Yr ydym yn barnu fod y blaid wrthwynebol yn dirmygu egwyddorion anwylaf cynulleidfaol iaeth, ac yn ceisio troi yr enwad yn Bresbyteraidd, drwy roddi awdurdod i'r Cyfarfodydd Chwarterol i nodi personau ar Bwyllgor y Bala, yn gystal a thrwy amryw foddion creill. Credai y cyfarfod fod rheol 9 or Cyfansoddiad Newydd yn cyfyngu ar ryddid a hawliau yr eg- lwysi, yn sychu ffynonellauei hawdurdod, a bod arwyddion yr ttmserau yn awgrymu yn gryf fod yn bryd i'r eglwysi ddeffro o'u cysgadrwydd, sefyll dros eu hawliau, fel na'u delir dan iau caethiwed. 8. Yn hytrach na gwario llawer ar goed a cheryg yn y Bala, gwell genym godi i'r Mvfvrwvr. Dywedwyd ychydig eiriau gwresog o blaid cynal 0 y Myfyrwyr yn anrhydeddus, ac yn erbyn gwastraff ar adeiladaeth. Terfynwyd y cyfarfod gyda'r pen- derfyniad canlynolEr fod y cyfarfod hwn yn cydymdeimlo yn gryf a'r Parch M. D. Jones yn yr ymosodiadau parhaus sydd ar ei gymeriad fel dyn, Cristion, a Phrif-athraw Celeg y Bala.eto dymunem ddadgan ein bod yn teimlo yn alarus ac yn gofidio yn ddwys oherwydd yr anghydwelediad difrifol sydd wedi cymeryd He, a'n bod yn taer ddymuno, er mwyn anrhydedd a Ihvyddiant yr enwad, or mwyn cysur a ffyniant yr eglwysi, ac yn enwedig er mwsn rhinwedd a chrefydd, ar i'r pleidiau ym- wasgu at eu gilydd, mewn brawdgarweh Cristion- ogol, ac i. gydymroi i gariad a gweithredoedd da. Dolau. JOHN JONES.