Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
DEUWCH I'R BALA.
News
Cite
Share
DEUWCH I'R BALA. k Chwi, Annibynwyr dewrion, 0 dowch i'r BALA i gyd, A thyngwn, frodyr ffyddlon, Y mynwn drefn ar fyd Y mynwn RYDDID perffaith Rhag gormcs "Clymblaid" gref, Y mynwn i'n hathrawiaeth Barhau yn null y nef. 0 de'wch i'r Bala, frodyr, Yn ol y ddefocl gynt; A'r 'MWYTIIIG dan ei gwewyr, A'i Phwyll(?)gor gyda'r gwynt! Y BALA hawlia'r orsedd A'r Coleg; a min cledd Y cadwn ei anrhydedd Er gwaetha'r byd a'r bedd. a. E.
SILOH, LLANFACHRAETH.
News
Cite
Share
SILOH, LLANFACHRAETH. ANWYL FKAWD,—Mewn perfchynas i Ath- rofa y Bala, gan fod y gweinidogion yn methu cydweled, fod c-isicu i'r eglwysi roddi cu barn, yr ydym ni feI eglwys yn Llanfachraeth yn rhoddi cin ploidlais, fod yr atbrofa i fyned yn mlaen fel o'r blaen, dan ariweiniad yr un ath- xawon, gan ei bod morddefnyddiol a'r un ath- rofa sydd yn perthyn i ni fel enwad. Y mae geBym hawl i bleidlais—cyfranasom ddwy bunt ( £ 2) y flwyddyn duiweddaf. Arvvyddwyd gan Griffith Price, Edward Evans, Robert Griffiths, John Pughe, Hugh Roberts, Thomas Price, Evan Griffiths, Evan Evans, David Griffiths, Griffith Price, ieti. Afawrth 17eg, 1879.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau, &c. G ENEDIG AETIIAU. EDWARDS—Mawrth lleg, yn 3, Jennet street, Lerpwl, priod Mr. Thomas Edwards, ar ferch. HUGHEs-ChwefrorJ3eg, yn 71, Pool-side, Caer- • narfon, priod Mr. Thomas Hughes, plastrwr, ar fab. PRIODASAU. ROBERTS-WILLIAMs-Mawrth 13cg, yn addoldy Great Mersey Street, Liverpool, gan y Parch W. Roberts, Mr Hugh Williams, Albert Vaults, Llandudno a Miss, Emma Williams, 34, Doon Street, Liverpool, gynt o America. Drwy fod Gol. y CELT wedi cael mwynhad ac addysg lawer tro yn eu cyfeiilach, gall ddjweyd o galon- "Like fragrant oil distilling from above May heavenly graces feed your mutual- love, While earthly blessings like soft gales combine To fan in bosoms pure the flame divine; Until at length, in spite of storms tt rise, To cheer our souls in realms above the sj^jps." A gall hefyd ychwanegu dymuniad lenan Glan Geirionydd i ddau o'i gyfeillion ar adeg eu Priodas:— "Llandudno dirionia fo'u Gwynfa hwy yma, Nes caffont newidfa am Wynfa fo well; Rhai duwiol o duedd a fo'nt hyd on diwedd, Aed son am cu rhinwedd a'u mawredd yn mhell"; I'w rhan boed hir einioes, lieb groes nac an. hunedd, Mewn hedd ac anrhydecldbo diwedd eu taith, Ac wed'yn cant gwrddyd uwch angen a gweryd, I foli mewn gwynfyd yn hyfryd eu hiaith." MAPWOLAETIIAU. SURDIVAL—Mawrth 7fed, yn 20 mlwydd oed, Miss Mary Ellen Surdival, Trailwm. Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Gaernarfon.
MARCHNADOEDD.■
News
Cite
Share
MARCHNADOEDD. YD. LLUNDAIN, MAWRTH 17EG.—Yr oedd cyf- Ienwad gweddol o wenith yn y farchnad heddyw. Gwerthai yn raddol, ac ar y cyfan nid oedd ond ychydig gyfuewidiaS yn ei bris er dydd Limn diweddaf. Yr oedd prisiau gwenith gwyn newydd Essex a Kent yn as)- I rywio o 34s i46sy chwarter; gwenith coeli nowydd, 33s i 43s y chwarter. Nid oedd ond ychydig iawn o wenith tramor ar werth. Lied farwaidd ydoodd masnach yr liaidd, ond yr oedd ei brmyn dal yn gefydlog. Gwerthai haidd at falu am o 33s i 40s y chwarter; haidd at fragu, 30s i 36s. Mewn canlyniad i ddyfodiad cyfienwad helaeth o geirch tramor i'r farchnad, yr oedd pris y ceirch ar gyfar- taledd, wedi gostwng oddeutu 6e er yr wyth- nos ddiweddaf. Yr oedd pris y ceirch Seisuig rhwng 20s a 24s y chwarter. Yr oedd masnach y maize yn lied fy wiog, a'r prisiau braidd yn ffafr y gweithwr. Ychydig fusnes wnaed gyd ffa a phys, er fod y prisiau yn sefydlog.
ANIFEILIAID.
News
Cite
Share
ANIFEILIAID. LIUNDAIN, MAWRTH 17EG.-Ar y cyfan gellid dyweyd fod masnach y gwariheg yn fwy bywiog heddyw nag yr oedd ddydd Linn diweddaf. Yr oedd y prynwyr yn lied Iuosog. Gwerthai y Scots goreu am 5s 4c yr 8 pwys. Ychydig o anifciliaidtramor oedd yu y farchnad, ac mown canlyniad yr oodd eu prisiau wedi codi ychydig. Lied iuosog oedd y defaid, ac yr oedd nifer mawr o'r cyfienwad wedi eu cneifio. Yr oedd y prisiau yn dal yn t efýdlog. Gwerthai .y Downs goreu am o 68 6c i 6s 8c yr 8 pwys. Gweddol ydoedd masnach yr wyn, ac amrywiai eu prisiau o 83 i 9s yr 8 pwys. MarA-aidd iawn ydoedd busnes y lloi a'r moch, ac ni bu cyfnewidiad yn eu prisiau er yr wythnos ddiweddaf.
[No title]
News
Cite
Share
CAERNARFON, MAWRTH 15FED.—Y prisiau/fel y canlynYmcnyn ffres, o Is 6c i Is 8e; pot, lie i 126; beef, 0 7c i 9c.; mutton, o lOc i lie; hwyaid, 0 3s i 3s 6e yr un; dofednod, 0 2s Oc i i 3s Oc. Pytatws, 3s Oc i 3s 6c y cant. Wyau, o 14 i 16 am swllt.
AT EGLWYSI ANNIBYNOL FFESTINIOG.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
deuwch frodyr i'r Bala, a gellwch fod yn bur sier y byddwch trwy hyny yn gwneud gwasanaeth i'r Arglwydd Iesu Grist. ANNIBYNWR. Ffestiniog, Mawrth 14eg, 1879. » BEULAH, MALDWYN. FONEDDIGION,-Nos Lun, Mawrth lOfcd, cynal- iwyd cyfarfod cyhoeddus i ymdrin a helyntion Coleg y Bala a'r Prif-athraw. Yr oedd yn bre- senol, heblaw y Beulaiaid, amryw o aelodau eglwysi Llanerfyl, Foel, a Llanbrynmair. Llyw- yddwyd gan Mr J. Jones, Dolwon. Dywedai- Fel adran o Annibynwyr Maldwyn, a chyfranwyr cyson at y Coleg, tcimlwn fod genym hawl, ac y dylcm amlygu ein barn yn ei achos. Gofynasom ddwy waith, mewn yspryd gostyngedig abrawdol, i ysgrifenydd y cyfundeb a gaem ganiatad i ddy- weyd ein barn yn y gynadtedd ar un o faterion cyhoeddus yr enwad yn Nghymru, ond ni wnaeth sylw o'n cais. Yn wyneb hyn, ar ol ystyriaeth ddwys, ac ymgynghoriad pwyllog, barnasom yn ddoeth gymeryd y cwrs presenol o weithredu. Ni roddwn y goreu i neb am barchu gweinidogion. Dysgwyd ni o'n mebyd i anrhydeddu y weinidog- aeth; ond yr ydym yn rhwym i roddi y flaenor- iaeth i egwyddorion. Ac y mae ben egwyddorion cryfion ac anw/1 cynulleidfaoliaeth yn werthfawr yn ein golwg; a chredwn eu bod yn ansigledig ac yn anfarwol. Oddiar argyhoeddiad trwyadl fod rhai o'r egwyddorion crybwylledig wedi cael eu dirmygu yn yr ymdrafodaeth a'r Coleg, a bod yr erledigaethau creulawn a ddioddefodd y Prif- athraw y blynyddoedd diweddaf yn annheg, yn anghyflawn, a diangenrliaid, tybiwn ei bod yn ddyledswydd arnom ddefnyddio rhyw foddion i'w amddiffyn, a dyna amcan y cyfarfod hwn. Yna pasiwyd y pondcrfyniadau canlynol gydag unfrydedd hollol:— 1. Fod y cyfarfod hwn yn llawenhau yn llwydd- iant cynyddol Coleg y Bala, dan ofal yr athrawon presenol. Sylwyd—Ei fod yn fwy perthynasol a ni yn Nghymru nag un o'r Colegau ereill. Ei fod yn hollol dan ein Ily wodraeth-unig Athrofa y Gogledd -a'i fod yn y blynyddoedd diweddaf wedi bod yn nodedig ar gyfrif ei gynydd a'i wasanaethgarwcli, yn enwedig i'r eglwysi Cymreig, yr byn sydd yn tystiolaethu yn uchel am gymhwysdcrau yr athrawon. 2. Ein bod yn llwyr anghymeradwyo Uythyrau ac ymddygiadau Mr W. J. Parry, Bethesda, tuag at S. R. I Ystyrid fod gwaith boneddwyr ieuainc dibrofiad yn ysgrifenu y fath gabldraethau anwireddus ar gymeriad hen wron parchus a ymladdodd fnvydrau rhyddid gwladol a chrefyddol am dros dri ugain mlynedd yn annheilwng o wlad Gristionogol. Rhyfedd na fuasai duwiolfrydedd rhyw gwrdd chwarter yn ei alw i gyfrif. 3. Fod y cyfarfod hwn yn dymuno dadgan yn ddigel ei gydymdeimlad llwyraf a'r Parch M. D. Jones, yn wyneb yr erledigaethau a ddioddefodd yn ystod y blynyddoedd diweldaf. Awgrymid fod ffyrnigrwydd a pharhad y cyhuddiadau disail a ddygid yn ci erbyn yn trwyadl gyfiawnhau ei hunan-amddiffyniad; a'i fod wedi dioddef can belled ag yr oedd dysgeidiaeth yr Hen J-yfr yn gahv am icldo wneud; a thrwy hyny iddo roddi esiampl o oddcfgarwclv na chanfyddir ond anfynych ei chyffelyb. 4. Ein bod yn anghymeradwyo rheolau an- nhrofnus, aml-eiriog, a thwyllodrus y Cyfansodd- iadNewydd. Nodid-Ei fod yn euog o wanliau yr elfen wer- inol ag oedd mor gryf yn ei lywodraethiad dan yr Hen Gyfansoddiad, ac yn tueddu i wneud ei- reol- iad yn fwy unbenaethol. 5. Ein bod yn teimlo yn ofidus oherwydd pon- nodiad dyn mor unochrog a Mr C. R, Jones ar Bwyllgor yr Amwythig, mewn adeg y mae y pleid- iau mor boeth a thyn. Siaradwyd yn gryf y dylesid, pan y mae y pleid- iau yn y fath belider-Annibyiiiaetli yn y fath gyfwng pwysig—ethol cynrychiolydd diduedd, aumhleidgar, heddychol, tangnefeddus, awyddus, ac ymdrechgar i adfer undeb, brawdgarweh, a chydweithrediad. 6. Yr ydym yn annghymeradwyo y Cyfarfodydd Chwarterol hyny sydd wedi condemnio llythyrauy Parch M. D. Jones ya y CELT, yn protestio nad oedd Cyfarfod Cliwarterol y Drefnewydd wrth wneud hyny yn cynryelnoli teimladau a syniadau holl eglwysi Maldwyn ar y pwnc. 0 barthed i'r penderfyniad hwn, dygwyd ymlaen y gosodiadau canlynol:-Os oedd ponderfyniad y Drefnewydd yn gynyrch rarch i grefydd, ac an. rhydedd yr enwad y perthynwn iddo," peth rhyfedd na fuasent wedi dechreu condemnio yn gynt. Y dylasai rhai o'r person an y dywedid eu bod wedi derbyn cam trwy lytliyrau y Prif-athraw, cyn ei gondemnio mor nwydwyllt, ymdrechu dym- chwelyd ei osodiadau drwy ymresymiad. Ein bod yn dystion o glywed rhai oedd yn ded. frydu mor Phariseaidd J-n y Drefnewydcl yn llefaru creulonacli brawddegau, a mwy annheilwng o'r efengyl, na dim a ymddangosodd yn llythyrau hunan-amddiayniad M. D. Jones. Mai yn y Bala y dylid trin achos y Prtf-athraw, ac nid yn y Cyfarfodydd Chwarterol. 7. Yr ydym yn barnu fod y blaid wrthwynebol yn dirmygu egwyddorion anwylaf cynulleidfaol iaeth, ac yn ceisio troi yr enwad yn Bresbyteraidd, drwy roddi awdurdod i'r Cyfarfodydd Chwarterol i nodi personau ar Bwyllgor y Bala, yn gystal a thrwy amryw foddion creill. Credai y cyfarfod fod rheol 9 or Cyfansoddiad Newydd yn cyfyngu ar ryddid a hawliau yr eg- lwysi, yn sychu ffynonellauei hawdurdod, a bod arwyddion yr ttmserau yn awgrymu yn gryf fod yn bryd i'r eglwysi ddeffro o'u cysgadrwydd, sefyll dros eu hawliau, fel na'u delir dan iau caethiwed. 8. Yn hytrach na gwario llawer ar goed a cheryg yn y Bala, gwell genym godi i'r Mvfvrwvr. Dywedwyd ychydig eiriau gwresog o blaid cynal 0 y Myfyrwyr yn anrhydeddus, ac yn erbyn gwastraff ar adeiladaeth. Terfynwyd y cyfarfod gyda'r pen- derfyniad canlynolEr fod y cyfarfod hwn yn cydymdeimlo yn gryf a'r Parch M. D. Jones yn yr ymosodiadau parhaus sydd ar ei gymeriad fel dyn, Cristion, a Phrif-athraw Celeg y Bala.eto dymunem ddadgan ein bod yn teimlo yn alarus ac yn gofidio yn ddwys oherwydd yr anghydwelediad difrifol sydd wedi cymeryd He, a'n bod yn taer ddymuno, er mwyn anrhydedd a Ihvyddiant yr enwad, or mwyn cysur a ffyniant yr eglwysi, ac yn enwedig er mwsn rhinwedd a chrefydd, ar i'r pleidiau ym- wasgu at eu gilydd, mewn brawdgarweh Cristion- ogol, ac i. gydymroi i gariad a gweithredoedd da. Dolau. JOHN JONES.