Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. COLEG Y BALA.—Derbyniwyd ysgrifau eryfion teg Howard, G. ap G., Tanysgrifiwr, Ap Edeyrn, J.B., CyfaillTegwch, Pcrerin, Hen Bwyllgorwr, ac amryw ereill, yn rhcsymu dros gynal Pwjdlgor nesaf y Coleg yn y Baln, fel arfer, yn rheolaidd, yn ol y rhag- hysbysiadau ac yn ardystio yn ddifrifol yh erbyn y rhyfyg ynfyd, a'r traha anfrawdol o gynal Pwyllgor ar yr un pryd yn yr Am- wythig; ac ymffrosfcio y gall y Pwyllgor hwnw, y tu all an i glawdd Offa, fod yn Bwyllgor cyfroithlawn. Gall fod yn fatli o gynadledd, neu seiat, ncu conclave i drin mater ion athrofaol, eglwysig, neu wladol; ond nis gall byt.h fod yn Bwyllgor cyfreith- lawn hen Goleg defriyddiol y Bala. Drwg genym i'r ysgrifau y cyfeirir ntynt, ac am- ryw erthyglau ereill, ddyfod i law yn rhy ddiweddar i ymddangos yr wythnos ymn. MEWN LLAW.-R. R. Ellis; R. Jervis, Cel- ynog loan GwyUb; M. G.; Gohebydd John Jonos, P^ntycelyn 0. T. Jones Iota Epsilon Un o'r Gweinidogion, &c. lUf Ba gorfod arnom adael llawer allan o ddiffyg llo, gan fod gwahanol ysgrifau ar Goleg y Bala wedi cymeryd mwy o'n gofod nag afeddyliasom.
COLEG ANNIBYNOL Y BALA.-
News
Cite
Share
COLEG ANNIBYNOL Y BALA. Y mae lluaws o brofion fod y Glymblaid er's amryw flynyddoedd yn ceisio cael llywodraeth yr enwad Annibynol i'w dwylaw eu hunain. Dywedent drwy'r blynyddoedd fod eisieu llai o brcgethu a mwy ogynadleddu mewn cy- sylltiad a'n huchelwyliau crefyddol. Un ymdrech egniol at byny oedd cael un Coleg i Gymru, a hwnw dan eu bawdurdoll hwy. Pan oedd y Parch B. Williams, Canaan, yn weinidog yn Ninbycb, yr oedd efe a phob' Liverpool yn perthyn i'r un Cwrdd Chwarter, sef Undeb Dinbych a Fflint; ac yr oedd hyny yn fantais iddynt gydweithio o blaid eu ham canion Clymbleidiol, ac ni adawsant i'r fath gyfle fyned heibio yn ofer. Yr adeg hono, oddeutu pedair blynedd ar ddeg yn ol, pan yn fytyriwr yn y Bala, aethum am Sul i Fostyn. Yr oedd Mr Pugh gartref; a dywedodd lawsr wrthyf am ystranciau y Glymblaid. Yr oedd ganddynt symudiad ar droed y pryd hwnw i atal Coleg Caerfyrddm i gasglu yn Nghyfun- deb Dinbych a Fflint. Dranocth yr oedd y Cyfarfod Chwarterol i gael ei gynal yn Nin- bych; a dywedodd Mr Pugb wrtbyf fod mater Colcg Caerfyrddin i ddyfsd ger bron yno. Dywedodd hefyd ei fod ef wedi ysgrifenu llythyr ar y pwnc i'r Gynadledd am nad allai fyned yno ci hnn; ac yehwanegodd, Yr wyf yn deall cu hamean yn drwyadl, nid yw hyn ond tlechreu y gwaith; ymosod ar Golcg 9 C, Caerfyrddin yn gyntaf, wedi hyny ymosod ar Golcg y Bala." Gan fy mod yn dyfod sdref drwy Ddinbych dranocth aethum i fewn i'r Gynadledd; ond deallais nad oedd mater Coleg Caerfyrddin i gael ei drafod y diwrnod hwnw am fod arnynt ormod o arswyd llythyr Mr Pugh. Yr oedd arnynt fwy o ofn Pugh na'r, un dyn yn Nghymru. Yr oedd yr ymosodiad hwn ar Goleg Caerfyrddin yn adeg helynt yr Un Coleg Yn fuan ar ol hyn symudodd Mr Williams i'r Deheudir, ac mewn Cyfarfod Chwarterol yn Rhos, torwyd gweinidogion Liverpool ogyfandeb Dinbych a Ftlint am eu bod yn afreolaidd, ac ni chlybu- wyd mwyach son am rwystro Coleg Caer- fyrddin yno i gasglu. Yr wyf yn'credu fod boll fyfyrwyr y Bala a yrnsefydiasant yn y weinidogaeth ynymddwyn yn garedig at holl fyfyrwyr Aberhonddn a Chaerfyrddin pan ar cu teithiau casglyddol, Ond cafodd amryw o fyfyrwyr y Bala achos i gwyno mai neraidd iawn yr ymddygodd rhai o flaenoriaid y Glymblaid atynt hwy pan :yn casglu at y Coleg. Gwyddys am weinidog enwog a ysgrifenodd lythyr at fyfyriwr o'r Bala oedd yn casglu i'w rybuddio i beidio dyfod i gasglu na phregethu i'w gynullcidfa ef. Gellid nodi engreifltiau ereill cyflelyb. Gwrthodai Clymblcidiwr oedd weinidog ar eglwys gref i'r Bala gael casglu yn ei gyn- ulleidfa, ond rboddid deg swllt i'r myfyriwr wrth fyned heibio, tra yr oedd y gynulleidfa houo yn cssglu tua deg pant at Goleg C, Aberhonddu; a diau y gwnaethai yn gyffelyb at y Bala pe cawsai chwareu teg, oblegid y mae yn casglu cym int at y Bala ag at Aber- honddu wedi i'r gwwridog hwnw jmadael. Yr oedd gweinidogaeth yn taflu ei holl ddylanwad o blaid casg'iad Absrhonddu, ac yn myned o dy i dy i cfyn tanysgrifiadau, tra yrymddygfti yn ddigon ocraidd a dirmygus pan ddeuai myfyriwr o'r Bala heibio. Y mae hen fyfyriwr o'r Bala, gwr sydd yn awr yn y weinidogaeth yn Nyhymru, wedi dyweyd lawer gwaitb fod un o dtloctoriaid ciaidd y Glymblaid wedi ei ddirmygu gymaint pan yn casglu, fel yr oedd yn credu y buasai y cyfryw ymyrwr yn ei gicio allan o'r dref" pe raeiddiasai. Os yw rhai o flaenoriaid y Glym- blaid yn ymddwyn yn dynernch at fyfyrwyr y Balayn y blynyddan diweddaf, dichon mai yr esboniad yw eu bod yn disgwyl am ei lywodraeth. Nid yw byn oil ond lhan o'r cynllun i ddifodi y Coleg; ac wedi methu ei ddifodi rhuthro am ei lywodraeth drwy drais. Rhan arall o gynllua y Glymblaid i lywodr- aetbu yr enwad yw meddiannu y wasg: codasant newyddiadur bychan a galwyd cf yn Bapur yr Enwad. Dadleuant hefyd y dylent hwy gael gwneyd un Dyddiadur ac un Llyfr Hymnau" i'r enwad, anathemau uwchben pwy bynag a feiddia ambeu anffaeledigrwydd eu honiadau Pabyddol. Gweithiant yn egniol o blaid pobpeth sydd yn tueddu i symud yr enwad oddiwrth cgwyddorion Cynulleidfaoliaeth at llenadur- ueth; ac i'r diben hwnw ecisiant wneyd defnydd mawr o'r Cyfarrodydd Chwarterol. Pan yn cyfrwys gynllunio i gael llywyddiaeth Coleg y Bpla i'w dwylaw eu hunsin apeliassnt at y Cyfarfod Chwarterol ac nid fit y Tanys- grifwyr a'r Eglwysi, am y gwyddent He y byddent debycaf o lwyddo; ond Cilnt weled eu bod wedi dwyn eu hachos i lys nad oes ganddo hawl i'w drafod, oblegid myn y Tan- ysgrifwyr eu hargyhoeddi mai ganddynt hwy y maeyr awdurdod i lywodracthu eu har inn eu hunain. Ond y gorchwyl diweddaf a osododd v Glymblaid i'r Cyfarfod Cbwarterol yw condemnio Uythyrau y Parch M. D. Jones; wedi mctlm ohonynt eu hateb nid oes dim i'w wneyd ond galw am gymhorth i'w hanghymeradwyo ac megis y mae areithiau Gladstone lieb eu hateb gan y Ceidwadwyr, er yu cael mwyafrif yn ea herbyn yn y Senedd, felly hefyd y maellythyrau M. D. Jones heb eu hateb gan y Glymblaid er eu bod yn cnel gan ambeli Gwrdd Chwaiter basio pleidlais o gondeniniad arnynt. Os ydynt am eu dirymu atebant hwy ond y mae hyny yn orchwyl anhawdd am en bod yn anatebadwy. Y mae tua cleuriaw o Undcbau Sirol yn Nghymru, ond ni chafwyd end pedwar yn ddigon ynfyd i ^ondemuio llythyrau y Parch M. D. Jones; a rhai enwog am Glymbleidwyr oedd y rhai byny. Cynygiwyd y mater o flaen Cyfundebau ereill, ond gwrthodwyd pasio penderfyniad arno. Os yw Mr M. D. Jones yn taraw yn 1 cd drwm, cofier mai amddHfyn eihun y mae; a phe byddai dyn, mewn bunan-amddiffyniad yu taraw mor drwm nes lladd ei wrthwyneb- ydd, ni chosbid mo hono; ond pe tarawsai efe felly, ac efe yn ymosodwr, diau y eawsai ei grogi. Y mac y gyfraith wladol yn gwaeyd gwalianiaeth dirfawr rhwng ergyd yr ymosod- ydd ac ergyd yr hlinan-amldiffynwr. Y mae Mr Jones hefyd yn amddiffyn ei hun dan ei enw priodol, ar ol dioddef ei enllibio dan ffugenwau am flynyddoedd. Y gwr a gynygiodd goodemnio llythyrau y Parch M. D. Jones yn Nghyfarfod Chwarterol Arfon oedd ein cyfaill Mr W. J. Parry, Btthesda. Dygodd ef yn mlaen ar y diwedd er ceisio yn garcdig ganddo beidio a chafodd 28 o'i blaid a 21 yn erbyn—mwyafrif go fychan yn Bethesda, lie yr oedd llu o gyfeillion Mr Parry yn brescnol; a diau fod cynlluniwr medrus fel efe wedi awgrymu wrthynt fod y mater i gael ei roddi i bleidlais. Ond pe buasai y Gynadledd hono yn Dolyddelen yn lie yn Bethesda, gallaf sierban Cymru oil na fuasai y fath benderiyhiad byth yn pasio. Y mae y Cyfarfod brwdfrydig ac unfrydol a gawsom nos Fercher diweddaf ar fater Coleg y Bala yn ddigon o brawf o hyny. A ebaniatau bod yn weddus i Gyfarfod Chwarterol Arfon gondemnio llythyrau Mr M. D. Jones, Mr Parry oedd yr angbymwysaf yn y Cyfarfod i wneyd hyny; oblegid nid oedd yno neb wedi defnyddio y fath eiriau caledion ag a ddefnyddiasai efe am yr hen Batriarch S. R. drwy ei alw yn Cyw potiwrs—•cefnog- ydd caethfasnach mewn gwlad bell-Ilrolygydd I carthffosydd Patagonia—king of speculative tramps-r-un gafodd M.A, pan oedd Spregleg yn cadw ysgol — gorthymydd caethesau er mwyn porthi ei nwydau aflywodraethus- yabeilydd eiddo achosion gweiniaid, &c." Brawddegau angylaidd Ond perthyn i ba ddosbaith o angylioa ? Ond y peth rhyfeddaf o'r holl drafodaeth Son oedd rheswrn Mr Parry dros gael llaisy Cyiarfod ar y llythyrau. Dywedai, gan fod y Cyfarfod Chwarterol wedi ei ddewis ef yn gynrychiolydd ar Bwyllgor yr Amwythig, y C) y dymunai gael gwybod gan y Cyfarfod pa leth i'w wneyd yno gyda golwg ar y Parch M. D. Jones. Dyna ei syniad, ond nid wyf yn hollol sier o'r geiriau. Yn awr dymunaf alw sylw neillduol at reswm Mr Parry. Onid ydyw yn gollwng y gath o'r cwd" yn ddiar- wybod ? A wyddai Mr Parry yn mlaen Haw y cynygid condemniad ar y Parch M. D. Jones yn Mhwyllgor yr Amwythig ? Onid. asgwrn y gynen o'r blaen oedd Bodiwan ? 0 Ond yn awr, M. D. Jones ydyw. Ie, efe sydd ar y ffordd. A oedd ar Mr Parry eisieu hyflorddiant gan y Owrdd Chwarter ar ddim a ddeuai l'rbwrdd yn yr Amwythig ond con- demie Mr M. D. Jones ? Ai i gondemnio Mr Jones oedd prif amean Mr Parry yn myned i'r Amwythig ? Paham na ofynasai efe am gyfarwyddyd ar bynciau ereill sydd mewn dadl yn ein plith ? Y mae amryw o'r farn o'r dechreu mai amcan y Glymblaid yw cael Michael oddiar y ffordd; ond nid ydynt yn ddigon goneat a gwrol i gydnabod byny yn wyneb-agored ac y mae Mr Parry mewn munud anwyliadwrus wedi cadarnbau y dyb hono; a byny yn fwy pan gofiem mai ei brif gyfeillion yw y boM a ddywedasant—" Diolch i DJuw mae rhwyg yn Nghamp y Bals !"— Rhaid i ni fyned i'r Bala eto, a medJiannu y Coleg, yna bydd yr holl enwad yn ein dwy- law "—"Ni bydd Michael D. Jones yn hir yn y Bala"—" Rhaid cropo Michael "-a Rhaid crogi Michael," &c. (