Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

NODIADAU GAN Y GOL.

OFFEIRIADAETH EIN HENWAD..

News
Cite
Share

OFFEIRIADAETH EIN HENWAD.. Yn srcr, melldith Annibyniaeth ydyw offeiriadaeth rhai o'i gweinidogion a alwant eu hunain yn Annibynwyr; ac mor sicr a hyny, ni lwydda Annibyniaetb nes eael ymwared oddiwrth yr hunllef offeiriadol ac arglwyddiaethol hwn. Hyderaf yn gryf y ceidw y Parch. M. D. Jones a'i blaicl Anuibyniaeth yr eglwysi yn feddiant i'r eglwysi, ac y gwel y Glymblaid eu camsynied o geisio dwyn pob llywodraeth i'w dwylaw eu hunain, a cheiso lladd pob tegwch, a rhyddid, a Christionogaeth, a mathru dan draed egwyddorion Annibyniaeth. Yr oedd yn llawen iawn genyf ddarlleu gofyniadau "Iota Epsilon" yn y GELT, Yr hyn sydd wedi bod yn fy meddwl i ydyw y dymunoldeb i'r Parch. M. D. Jones, neu unrhyw un cyfarwydd yn hanes yr Athrofa, fyned allan i'r gwahanol eglwysi i egluro cysylltiad yr Athrofa a'r Enwad, a pha beth ydyw amcan y Glym- blaid. Diau fod llawer o honom nas gallwn ddeall pa beth mewn gwirionedd ydyw achos yr anghydwelediad poenus, gan na chymerasom lawer o interest yn y ddadl ar ei chychwyniad, ac na chaed dadl deg arno o gwbl. Credwyf pe gwneid hyn y deuai llawer i dcleall fod y Parch. M. D. Jones yn ymladd i gadw yn fyw Annibyniaeth ein heglwysi, ac y cai bob Annibynwr deallus ac ystyriol i'w bleidio, a chydymdeimlo ag ef yn ngwyneb y sarhad a'r athrod y mae gelynion rhyddid a Christionogaeth yn geisio daflu arno. Aed y CELT yn mlaen, y mae wedi gwneyd gwasanaeth annhraethol eisoes, a diau y lluosoga ei dderbynwyr yn atdaliad am ei wasanaeth. Llanfair P.G. J. WILLIAMS.

RHODD WERTHFAWR I EGLWYS ANNIBYNOL…

LLYTHYR O'R AMERICA,