Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

iiiimHI i -urn■mililliniumninni^iiIPIIIniiiiimiiiiiiiwininiiwiiiiwuwn…

News
Cite
Share

iiiim HI i urn ■ mil illinium ninni^ii IPIII niiiiimiiiiiiiwininiiwiiiiwuwn PWYLLGOR ATHROFA Y BALA. Gwelais hysbysiad yn y CELT am Chwefror 21, fod y Pwyllgor nesaf i gael ei gynal yn nghappl yr Annibynwyr, Amwythig. Ac yn y CELT am Chwefror 28ain, gwelais hysbysiad fod Pwyllgor nesaf yr athrofa i gaoloi gynal yn y Bala, fel arferol, yr hyn sydd yn llawer mivy rhesymol a theg, Yr wyf wedi bod yn dyfalu beth allasai fod yr amcan o symud y Pwyllgor, ond erbyn hyn yr wyf weili cael esboniad ar yr amcan, sef bod plaid o weinidogion, fel Diotrepbes gynt, yn chwenycliu y blaen, ac yn meddwl fod ganddynt ddigon o ddylanwad i wneyd fel y mynont a phob sefydliad; a bod yn rhaid ymostwng i'w cyfreithiau hwy,a bod ganddynt hawl i ladd y sawl ddewisant, a'r neb a ddewisant a gad want yn fyw.' Fel un sydd yn cyfranu pum' swllt yn flynyddol at yr Athrofa, y mae genyf bawl i ddatgan fy marn. Yr wyf wedi cyfranu at yr Atbrofa er's llawer o flynyddoedd, ac wedi bod yn offervn i gael llawer coron gan ereillat yr Atlirofa, ond nid er mwyn cael pleidlais i ddifodi yr Atbrofa, ond er mwyn ei helpu yn mlaen. Mae yn dda genyf fod merclicd wedi dyfod mor boll yn mlaen a bod ganddynt vote ar fyrddau ysgol, a byrddau gwarcheidwaid, ac yr wyf yn disgwyl nac yw yr amseryn bell pan y cawn vote mewn etlioliadau sirol; ond pa un bynag, y mae genyf fi vote yn 0 Mhwyllgor Atlirofa y Bala, os ydwyf yn berson. Os nad ydwyf, fenllai y bydd yr Yswain boneddigaidd o Betbesda gystal ac esbonio beth ydyw "person." Yr wyf yn deall ei fod ef yn'ddyn galluog. Daethum j'r P>n!a bob cam o Bowdon y Pwyllgor diweddaf, ond fe'm perswadiwyd i beidio myned i mewn ac yr wyf yn penderfynu (os byw ag iach) o dd'od i'r Pwyllgor nesaf, ac ni chymeraf fy mherswadio gan neb. Y mae wedi myned yn ormed o'r dydd ar Annibyniaeth i gymeryd ei gor- mesu gan weiniclogion uchelgeisiol; yr eghvysi sydd yn cynal yr Athrofa, ac nid y gweinidogion. Bywioliaeth go wael fyddai ar Atbrofa y Bala pe byddai yn byw ar gyfraniadau y gweinidogion. Y mae genyf barch mawr i weinidogion. Yr wyf wedify nysgu er yn blentyn ibarchu gweinidogion yr cfengyl, ac mae fy nghar- tref yn Ngbymru yn llety fforddolion ar byd y blynyddau, ac yn parhau felly. Yr wyf yn adnabod y rhan fwyaf o weinidog- ion De a Gogledl. Ond pan y maogwein- idogion Ýll: tra-arglwyddiaethn, ni wna hi mo'r tro iddynt. Yr wyf yn gwybod am weinidogion sydd yn elynol i Athiofa y Bala a'r eglwysi yn bleidiol, ac eto fe ddawy gweinidogion i'r Bala i bleidleisio 0 yn erbyn yr eglwysi. A ydyw hyn yn deg? Os cynrychiolaeth, gadewch i ni gael cyn- rycliiolaeth deg. Yr wyf yn credn mai yr eglwysi raid gymeryd rheolaeth amgylch- t3 9, iadau y Cjleg yn eu dwylaw en hunain. Yr wyf yn ddiolchgar i'r Parch M. D. Jones am ei ysgrifau galluog, ond nid yw wedi dyweyd yr oil eto. Yr wyf fi yn gwy bod ychydig yn rhagor nag y mae ef wedi ddyweyd. Da genym fod yr hybarch S.R. yn dal ati i ysgrifenu mor alluog a meistrolgar. A diolch yn fawr i Scrutator am roi ei ys- grifau mewn gwedd gyfreithiol. Y mae yn ddigon amlwg i bawb erbyn hyn nad oes gan neb bawl isymad y Pwyllgor o'r Bala, ac os gwnant na bydd dim grym yn eu gweithred?!idau. Yr wyf yn synu fod Doctdriaid, a chyfreithwyr, a dysgedigion mor fawr wedi camgymeryd cymaint. Hen gyfansoddiad yr Athrofa sydd mewn grym, ac fydd mewn grym hefyd. Dywedodd nn gweinidog pe buasai ganddo ddeg o votes y buasai yn eu rhoi bob un i symud y Pwyllgor o'r Bala. Yr wyf inau yn teimlo pe buasai genyf ddeg pleidlais y buaswn yn eu rhoi bob un i'r Athrofa a'r Pwyllgorau fod yn y Bala fel arferol. Y mae brwydr fawr Arma- gedon Athrofa y Bala i gael ei hymladd y 26ain o'r mis hwn yn y Bala, fel y cyhoed lwyd ddwy flynedd yn ol. Yr wyf inau yn teimlo fel Gruffydd Risiart, gan mai rhyfel ydyw, make ready boys and girls, deuwch i'r Bala, holl gyfcill- ion yr Athrofa, a gadewch i'r gelynion fyned i'r Amwythig i ymladd a'u gilydd. Y mae yn gywilydd i weinidogion athrocli a hystyngio y Parchedig M. D. Jones. Yr wyf wedi troi cryn lawer yn mhlith pregethwyr, a gallaf ddyweyd ar air a chydwybod 8Jnai Mr Jones ydyw y dyn tebycaf i Iesu Grist a welais erioed. Pe byddai pob gweinidog yn ymddwyn 9 yn y tai ac ar y ffordd fel y mae ef wedi wneyd, ac yn gwneyd, byddai yn gredit iddynt; ond gallaf ddyweyd nad vdyw ymddygiadau rhai ohonynt mor bur ag y mynant i ddynion gredu eu bod. Y mae yn rhyfedd i mi, pa fodd y mae y rhai oedd yn dirmygu mwyaf ar y diweddar Mr Peter, yn awr yn ei ddefnyddio yn dwl yn eu Haw i ddirmygu y Parch M. D. Jones. Clywais un o weinidogion Liver- pool yn dyweyd na byddai byth lwydd- iant ar Athrofa y Bala tra byddai Peter yn Athraw, a chlywais leygwr yn dyweyd y byddai Peter yn Gil- boa dragwyddol; ond yn awr, pan 0 y mae hyny yn fanteisiol i'w cenfigen a'u malais liwy, nid oes neb yn werth dim ond y diweddar Mr Peter. Pa fodd y cysonir peth fel hyn ? Gallaf eich sicrhau, er eich holl fwr- iadau melldigedig, mai cynghor yr Ar. glwydd a saif: "Fe wnaeth Haman an- nuwiol grogbren i grogi Mordecai, ond efe ei hun a grogwyd arno." Xr wyf yn credu fod Mr Jones yn ddyn Duw mewn gwirionedd, ac y caiff amddiffyniad y Brenin Mawr. Y mae ymddygiadau rhai gweinidoglon at y Parch M. D. Jones mor annynol, annghristionogol, ac annuwiol yn ddigon i greu Anffyddwyr. Onid rheol euraidd yr efengyl ydyw gwneyd i ereill, fel y dymunem i ereill wneyd i ni? Rhoddwch eich hunain yn lie y Parch M. D. Jones a'i deulu. Pa fodd y buasech yn teimlo ? Terfynaf gyda gofyn pa bryd y daw gweinidogion i ym- ddwyn yn deilwng o'u swydd ? Yn sicr fe fydd llawer yn cael ei ofyn oddiar eu llaw y dydd mawr a ddaw. GRACE ROBERTS. Bowdon, Manchester.

Y BWRDD AMRYWIAETHOL.