Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

UNDEB DINBYCH A FFLINT.

CYNADLEDDAU EIN HENWAD.

News
Cite
Share

perthyn iddynt. Pution. Gofynaf, Onid ellid edrych ar ysgrif an y Proffieswr yn yr un goleu? Yn sicr, nid ydym i roi meddwl llythyrenol i bob gair a brawddeg a ddefnyddir yn y dyddiau hyn, onide, yn wir, mae yn Ilawn bryd troi Ilawer o'n gweinidogion a'n blaenoriaid i weinyddu a blaenori mewn rhyw gylclioedd heblaw cylchoedd cysegr- edig y weinidogaeth a'r eglwys. Nid wyf mewn un wedd am ganmol y Parch M. D. Jones am ys- grifenu y geiriau a'r brawddegau cellweirus ddaethant allan yn ei ysgrifau diweddar. Ond os ydyw yn iawn i gynadledd basio penderfyniad yn ei gondemnio ef, paham na buasent cyn hyn yn pasio penderfyniad er condemnio ereill hefyd? Os oedd yn iawn i adael i ysgrifau W. N. a J. J. ddod allan yn rheolaidd y naill wythnos ar ol y llall am fisoedd yn y 'Tyst a'r Dydd,'| godi i'r gwynt feiau y 'Cronicl,' onid tegwch a darllenwyr y 'Tyst' fu- asai gadael i Mr Morgan Evans, Oakford, neu ryw un arall fuasai yn dewis trwy yr un cyfrwng ddod allan a chodi i'r gwynt ragoriaethau y 'Cronicl?' Ond pan gynnygiwyd at hyn, wele ddwy ysgrif gan Mr Evans yn cael ymddangos, ac ar eu liol ys- grif y Gol. yn can colofnau'r Tyst' yn erbtn ys- grifau Mr Evans; ac esgusawd y Gol. dros adael i'r ddwy ysgrif ymddangos oedd, "Ei barch mawr i berson Mr Evans, Oakford." A fyddai yn deg tynu casgliad fel hyn, tybed? Mai esgusawd Gol. y 'Tyst' dros adael i ysgrifau W. N. a J. J. ym- ddangos, oedd, ei gasineb at 01. y 'Cronicl.' Os dyna ydyw safon Gol. y 'Tyst' i farnupa beth gaiff a pha beth na chaiff ymddangos yn y 'Tyst a'r Dydd'—Cyhoeddiad yr Enwad, fel ei gelwir-yn, sicr ddigon, mae tegwch a'r gwahanol opiniynau sydd yn yr enwad ar wahanol bynciau yn galw am fod yr Olygiaeth mewn dwylaw digon diduedd i wrthod ysgrifau ei gyfaill penaf, os yn annlieilwng, ac i dderbyn ysgrifau ei gas ddyn, os byddant yn deilwng. Mae genym bob lie i gasglu mai yr un egwyddor sydd yn eyffroi blaenoriaid cynadleddau ein Cyfarfodydd Chwarterol i ddwyn ger bron eu penderfyniadau yn yr adeg brcsenol. Yr wyf wedi synu llawer at fy nghyfaill Mr W. J. Parry—yr arry hwn a ystyrir yn gyfreithiwr go lew—ac ereill yn ymddwyn fel y gwnacthant yn ngliyfarfodyr Am- wythig, yn troi o'r neilldu hen gyfansoddiad y Coleg, a gosod i fyny yn ei le un arall o ddewisiad y Pwyllgor mor groes i reolau pob tegwch cym- deithasol a deddfau. gwladol. Mae fy nghyfaiil wedi syrthio eto i amryfuscdd ofnadwy, ac yn dangos ei fod yn Hawn o'r casineb gwaethaf at rywrai sydd a fynont a Choleg y Bala. Yn sicr, "mae'r Ethiop wedi newid ei groen a'r llewpard ei frychni," pan ymeiddia Mr Parry godi i gynyg "vote of censure" am ddefnyddio iaith isel a dir- mygus am hen weinidogion, &c., tra mae ar gael a chadw ei eiriau cf, a'i ysgrifau cableddus, am yr hen wcinidog, S. R Gobeithio fod hyn yn dde- chreuad cyfnod newydd yn hanes iaith fy nghyf- aill, a'i fod bellach yn deehreu telmlo edifeirwch oherwydd y geiriau caledion, maleisus, anwireddus ddefnyddiwyd tuag at un o hen Gewri Cym.ru; ac y caiff Cyfarfod Chwarterol Arfon y tro nesaf yr hyfrydwch mawr o gyalawcnhau oherwydd fod un pechadur yn mliergon Mr Parry wedi edifarhau, ac y bydd ei ymddygiadau yn y dyfodol yn llawn o fErwythau addas i edifeirwch. Gall M. D. Jones gymeryd calon, nid ydyw teitaladau yr yehydig frodyr ydynt yn cyfarfod yn y cynadleddau ddim yn ddatganiad teg a cliywir o delmladau yreglwysi; oblegicl wyr ddim dair o bob cant o'r cglwysi fod dim o'r fath yn myned yn y blaen yn y cynadledd- au. Dywedaf fwy. Fe basiwyd penderfyniad yn condemnio Mr Jones mewn cynadledd lie nad oedd ond deg gweinidog yn bresenol, a dim ond saith o'r deg fotiodd dros y cynygiad. Y mae yn per- thyn i'r Cvfundeb bedwar-ar-ddeg ar hugain o weinidogion heblaw lluaws o eglwysi gweigion. Yn wyneb fEaitli fel hon, onid ydyw yn hyfdra ofn- adwy mewn 'icynadlcdd" i gyhoeddi fod y Cyfun- deb yn pasio "vote of censure" ar un o brif athraw- on ein Colcgau? Bydded liysbys nad ein hamcan ydyw cyflawnhau llythyrau y Parch. M. D. Jones, ond yn hytrach treio dangos yrysbryd unochrog a amlygir gan ein gweinidogion tuag at y naill yn walianol ir Ilall. Nid oedd reports y 'Tyst' wrth ddarlunio ffurf penglogau, agwedd wynebau, hyd barfau, am- gylchedd corphorau, lliw gwasgodau, a chlymau cadachau y brodyr a wrthwynebasant weithred- iadau Pwyllgor y Bala, yn ddim ond tipyn o gellwair, tipyn o ysmaleiddiwch diniwed, ddim gwerth cymeryd sylw o hono; ond pan mae y Parch. M. D. Jones yn ysgrifenu tipyn yn yr unrhyw ddull ysmala, wele floedd allan o sir Benfro i Gyfundeb Dwyreiniol Morganwg, a'r adsain oddiyno i Bethcsda fawr yn Arfon, ag oddiyno i Faldwyn, "Gofalwch basio 'Vote of Censure' yn y Cyfarfod Chwarterol ucsaf ar lyth- yrau y Proffeswr M. D. Jones, Bala; bydd hyny yn gymhorth mawr erbyn Cyfarfod CyfEredinol yr Amwythig mis Mawrth." Beth pe cymerai yr eglwysi at drafod materion gweinidogion yn yr un dull ag y trafoda gweinidogion fater y Parch. M. D. Jones ? Beth fyddai y canlyniadau tybed ? Yn ddiau lluaws ycliwaneg o eglwysi gweigion. Pe buasai gronyn o degweh yn y brodyr, buasont naill ai yn gadael Ilonydd i lythyrau Mr. Jones hyd ar ol cyfarfod yr Amwythig, neu ynte yn rhybuddio pob gweinidog a phob cglwys wag i fod yn y Cyfarfodydd Chwarterol am y bwriedir dwyn cynygiad o'r fath ger bron. A chan na wnaed hyny, tegwch a'r gweinidogion absenol a'r eglwysi na chynrychiolid fuasai i'r cyfryw oedd yn pasio y penderfyniad ddweyd, "Yr ydym ni sydd a'n henwau isod, drosom ein hunain a thros ein hcglwysi," &c., lie buasai yr eglwysi wedi paoio y penderfyniad, ac nid gyru allan floedd mor anhynod ac anghywir. Gobeithio y caiff yr hen Broffeswr oes hir eto i arwain meddyliau ein gweinidogion ieuaine ar hycl feusydd gwyrddion ffrwythlawn yr Ysgrytliyrau. ac i fewn i gelloedd dyfnion feddyliau Duw mewn duwinyddiaeth, fel mae wedi arfer.—Ydwyf, ODDIAR AEL YR ERYRI.