Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Jtoiiatiau jjan j> ©ot.

News
Cite
Share

Y mae yr I Herald of Peace' am y mis yma yn gyfoethog iawn o ffeithiau, ac yn nerthol iawn ei ymresymiaclau yn erbyn difrod a galanastra rhyfeloedd. Yn yr ysgrif gyntaf, cawn fam a. theimlad hen Ymerawdwr Germani ar y mater. Rhodd- wn yma ychydig o'i eiriau wrth Lys- genhadwr America — Anfonais am danooh er hysbysu i chwi fy ngobaith y bydd i ddytanwad eich llywodraeth chwi, yn yr adeg bwysig yma, gael ei roddi mewn dull effeithiol er cadw heddwch. Yr wyf wedi gwele(I digon o ladd a tbywallt gwaed; ac yr wyf yn gobeithio na chawn ddiin rbagor o ryfeloedd yn yr amser byr y byddaf fi ar y ddaear." Y mae seiliau i obeithio fod calon Ymer- awdwr Rwssia hefyd am geisio ymgadw o ryfel. Y mae yn amlwg iawn fod ambell i benadur dyngarol a gwladgar, er ei holl urddas a'i brofiad, yn cad ei wasgu i ryfel gan ryw Jingoes cribddeiliog pen- sionedig ydynt yn ei gylchynu. Yn ail ysgrif yr 'Htrald of Peace.' ceir ymresym^ iadau amryw o seneddwyr Holland er egluro yr angen mawr sydd am lys o gyflafareddiad er terfynu dadleuon cyd- wladwriaethol. Ceir yn y drydedd ysgrif farnau rhai o brif ddeddfwyr yr Unol Dalqithiau ar yr un. pwnc. Ryw bedair blynedd yn ol, darfu i'r gydgynghorfa yno, sef eu dau Dy, gyhoeddi penderfyn- iad, Fod i Arlywydd yr Unol Daleithau anfon cais at lywodraethau gwledydd ereill i ddymuno arnynt gydymgynghori a chydweithio er cyfansoddi uchel lys i gyflafareddu er atal rhyfeloedd ac yr ydys newydd fod yn gwasgu y mater at ystyriaeth yr Arlywydd Hayes ao y mae yntau wedi addaw gwneud ei oreu yn yr achos. Ceir yn yr 'Herald of Peace,' wedi hyny, Benau Darlith ar gynllwyn- ion y rhai sydd dda ganddynt derfysgoedd a rhyfeloedd i enyh dychryniadau ar bob Haw, er tanio yspryd rhyfelgar, a chynal sefydliadau milwraidd drudfawr er llygru a cholledu yr holl fyd. Cydmerir wedi hyhy yspryd a chymeriad a siampl y rhai sydd dros ryfel a theimladau a Ilafur y rhai sydd droa dangnefedd ac ewyllys da. Ceir yno wedi hyny ysgrif gref iawn ar dreuliau rhyfeloedd. Hysbysir fod yn ystod y pum mlynedd ar hugain diweddaf 8,548,000 o'n cyd-ddynion wedi cael eu lladd drwy wallgofrwycld rhyfel yn nydd- iau goreu eu nerth, a bod y draul o'n lladd yn £ 2,473,000,000. Pe buasai amser a nerthoedd y milwyr a laddwyd felly yn cael eu. defnyddio er cyfoethogi y byd, a phe buasai yr arian a wastraffwyd wrtlr eu lladd mewn rhyfel yn cael eu defnyddio er eyflawni gwelliantau, buasai y canlyn- iadau, neu yr enillion, yn werth anmhris- iadwy i holl wledydd y ddaear. Ceiv wedi hyny yn yr 'Herald of Peace' esboniadau syml ar y rhyfeloedd prisenol yn Afl- ghanistan ac Affrica, a chydQ. hyny amryw ysgrifau ar lygredigaethau a gormes sef- ydliadau milwraidd, ac adroddiadau cyf arfodydd heddwch. Hoffem yn fawr iawn i'r rhai sydd am gael golwg deg ar bync- iau cydwladwriaethol fynu eyfle i astudio erthyglau ac adroddiadau cynwysfawr a galluog yr 'Herald of Peace,' gan ei fod yn fisolyn mor radlawn (dwy geiniog y ZD rhifyn), a chan y byddai yn hawdd ei gael o'r swyddfa, SO New Broad Street, Finsbury, London, E.C., neu drwy unrhyw lyfnverthwr. — ♦- Y mae argoelion yn awr y bydd i lyw- odraethau ma-wrion Ewrop gyfansoddi llys o gyflafareddiad, ac effeithioli aw- grymiadau "Treaty Berlin," gyda golwg ar y pwys annarluniadwy i gael heddwch i deyrnasu dros y byd. Gobeithio y cyd- ymroddant ar unwaith i gyfansoddi llys oydwiadwriaethol felly fydd yn anrhydedd oesol iddynt, ac yn agoriad un o byrth pwysicaf y mil blynyddoedd. DWYBEINBABTH TENNESSEE.—Y mae yr argoelion o hyd yn amlhau fod mwnau o'r fath wertbfawrocaf yn amryw o'r parthau hyny ag y bydd y reilffordd yn myned drwyddynt. Y mae yno aur mor loyw ac aur California, a haiarn gweUna haiarn Pennsylvania, a gio gwell na glo goreu Cymru, a zinc cystal a dim geir yn New Jersey, a copr mor bur a dim geir gyda glenydd Llyn Superior, a marrnor a ohalch o'r fath oreu. Y mae yno hefyd goedydd ardderchog at adeiladu tai a llongau, a. phprllanau llawnion o'r ffrwyth- au melusaf, a .hinsawdd or fath iashusaf a phan agorir y reilffordd, bydd yn hawdd eu dwyn i'r farchnad. Nid oes eisieu ond ychydig o arian ac o ymroad er gwneud yr holl fangre yn un hyfryd ao enwog. Y PLA YN RWSSIA,—Dywedir fod tetilu- oedd y manau lie y torodd. y pla allan gyntaf, wedi bod yn byw yn ddiarebol o afler ac aflan, mewn pob math o fudreddi. Yr ydys wedi gallu profi yn eglur lawer gwaith fod dyfodiad heintiau i deuluoedd ac ardaloedd a gwledydd i'w briodoli i droseddiado ryw gadgen. neu gaughenau o ddeddfau iechyd. Dylai pawb gofio yr egwyddor bwysfawr nad ellir byth dros- eddu deddfau anian, mwy na deddfau efengyl, heb orfod dioddef y canlyniadau. -7—

[No title]

TYSTEB DR. UAYID THOMAS.