Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

, "Y DDARLITH GYMRAEG. GYNTAF."

HANES BYWYD J. B. GOUGH.

News
Cite
Share

HANES BYWYD J. B. GOUGH. (Pa/rhad o'r rhifyn cyn y diweddaf.) Ya mis Hydref, 1842, llawnododd Gough yr Ardystiad Dirwestol. Pan yn crwydro ar hyd yr heolydd, a theimlo ei hun"yn ddi- gartref, yn ddiamcan, a bron yn ddi-obaith," dyma rywun yn eyffwrdd a'i ysgwydd, Mr Gough, onide ?" gofynai y dieithr- ddyn. Dyna fy enw," oedd yr atebiad. "Buoch yn yfed heddyw ?" Do, syr." 4" Paham na wnewch lawnodi yr Ar- dystiad ?" Tarawodd dull caredig a mwynaidd yr holiedydd dant ar galon y truan difeddwl, addawodd fyned i'r cyfarfod dirwestol, ac arwyddo yr Ardystiad dranoeth. Ond drwy y prydnawn a'r hwyr nis gallai wrthwynebu ei sychedangerddoi am frandy, ac hyd yn oed boreu dranoetb, yfai yn helaeth. Cafodd ei demtio yn ami i dori ei addewid; ond gan i'r dieithrddyn caredig roddi ym- ddiried ynddo, aeth i'r cyfarfod erbyn yr amser, ac eisteddodd yn mysg y gwrandawyr. Yn mhen ychydig, gofynodd ganiatad i siarad. Dywedodd b.:tb oeddrvm wedi wneyd iddo, a'i fod y pryd hwnw yn "ddi- gaitref, gofidus, afiacb, a chrwydryn di-gym- deithas." Ar ol eistedd i lawr, arwyddodd yr Ardystiad gyda lIaw grynedig, a chanlynwyd ei esiampl gan amryw bobl ieuainc. Yr oedd y poenau ddioddefodd y dyddiau canlynol yn annisgrifiadwy. Nos a dydd blinid ef gan freuddwydian dychrynllyd; gwelai rywi ddrychiolaethau ar fFurf ellyllon yn llenwi ei ystafell, gan wawdio a. gwatwaru ei boenau ac am wythnos gyfan ymddangosai fel gwall- gofddyu. Drwy fendith Ddw, gorchfygodd ei wane, ac aeth allan i'r awyr agored; ond yr oedd ei ruddiau yn galnog a gwelw, ei lygaid 0 45 yn laswyn a difywyd, a'i ddwylaw a'i aelodau braidd yn ddinerth. Ymdrechodd yn galed i gyfodi o'r pwll oedd wedi suddo iddo. Gofalodd am ei waith, talodd fwy o sylw i'w wis, a'i ymddangosiad allanol, a rhoddodd ei bresenoldeb yn rheol- aidd yn y cyfarfodydd dirwestol. Yr oedd ei ail gynygiad i areithio yn fyr iawn, ond yn bur fwyiog Yr wyfyn d'od yn y blaen yn dda iawn," meddai, ac yn teimlo yn llawer gwell nag oeddwn wythnos yn ol." Adrodda un tro digrif ddigwyddodd arno yn ystod un oi areitliiau cyntaf Un pryd- nawn," meddai," ni wnaf byth Unghofio. Yr oeddwn wedi methu, oherwydd prinder arian, a phrynu dillad cymhwys a gweddaidd i ym- ddangos o flaen cynulleidfa barchus ac felly gorfodwyd fi i wisgo hen overcoat fawr, yr hon, oberwydd gwaeledd iy nillad, a lotymais hyd fy ngen. Yr oedd y lie yr oeddwn yn sefyll arno yn bur agos i stove go boeth. Fel yr oeddwn yn siarad, dechreuals dwymo; ac ar ol ymorchestu tipyn, aeth y gwres mor an- nioddefol nes y trwythwyd fi gan chwys. Nis gallaswn oherwydd y dyrfa gilio oddiwrth y tin mawr, ac yr oedd dad-fotymu fy hugan allan o'r pwnc. Drwy y gwres oedd yn cael ei daflu allan o fy nhestun ar un llaw, a'r gwres oedd yn dyfod o'r stove ar y Haw arall, yr oeddwn mewn gwirionedd rhwng dau dan. Pan ddarlyddais yr oeddwn bron ddiflygio, oherwydd yr oedd fy nghorn yn cynwys mwy o ddefnydd gwres (caloric) na fu ynddo erioed o'r blaen." E r nad oedd ganddo y bwriad lleiaf i ddyfod yn ddarlithiwr cyhoeddus, gelwid am ei wasanaeth yn barbaus, a siaredid yn uchel iawn am ei dalentau. Ei unig ddymuniad ydoedd rhybuddio ereill rhag syrthio i'r pwll y syrthiodd efe iddo. Y tal cyntaf dderbyn- iodd am areithio ydoedd dau ddolar (8s 4d), a dychwelodd adrefyn galonog iawn. Yn fuan iawn daeth gwahoddiadau iddo o bob parth o'r wlad, a chafodd bythefnos o ryddid oddi- wrth ei waith .er myned i areithio. Ni ddychwelodd at ei hen orchwyl byth; oblegid o hyn allan yr oedd y galwadau am ei was- anaeth mewn cysylltiad a'r achos dirwestol yn fwy nas gallai gyflawrni. Aeth ei glod fel areithiwr yn fuan ar hyd a lied Cyfandir mawr Gogledd America, ac yr oedd pobpeth yn arwyddo fod dyfodol gogoneddus o'i flaen. Ond un diwrnod digwyddodd amgylchiad fu agos yn ddinystr iddo. Torodd ei Ar- dystiad! Pan yn aros mewn lie o'r enw Worcester, ymosododd rhyw glefyd dicithr arno. Gadawodd ei lety, gan ddywedyd wrth