Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

, "Y DDARLITH GYMRAEG. GYNTAF."

News
Cite
Share

"Y DDARLITH GYMRAEG GYNTAF." Y mae Lladmerydd yn y (Tyst a'r Dydd, am Eagfyr 20fed, yn cyhoeddi mai yn y Concert Hall, Liverpool, Tachwedd 25ain, 1846, ytraddodwyd y 11 Ddarlith Gym- raeg Gyntaf," a hono gan y Parch. W. Rees, ar fywyd ac athrylith yr emynwr melus o Bantycelyn. Ni chefais yr hyfrydwch o glywecl y ddarlith addysg- iadol hono, o leiaf y pryd hyny. Gwn ei bod yn effeithiol, a bod Hiraethog yn anymhongar wrth ei thraddodi; ond yr oedd cyhoeddi yn y 'Tyst,' yn niwedcl 1878, mai hono oedd y "Ddarlith Gymraeg Gyntaf" yn gam a hanes y Cymry, ac yn brawf y medr Lladmerycld weithiau fod yn bur anwybodus os bydd yn ewyllysio. Bu llawer o ddarlithio yn Gymraeg am lawer o flynyddoedd cyn y flwyddyn 1846. Bu Caledfryn yn darlithio ar "Grib- ddeiliaeth," ac ar rai o bynciau mawrion RhyclclïdMasnachol a Chrefyddol lawer o flynyddoedd oyn hyny. Bu Hiraethog hefyd yn areithio ar wahanol bynciau cyn hyny. Bu Eta Delta Pugh, Mostyn Price, Dinbych; J. R., Conwy; Patriarch Llanwrtyd Powell, Caerdydd, yn dar- lithio ar eu pynciau dewisol lawer gwaith cyn hyny. Bu S. R. yn darlithio ar wahanol bynciau dros bymtheng mlynedd cyn darlithy Concert Hall yn 1846. Cyf- ansoddodd, ar gais pwyllgor coleg, ddarlith ar y Beibl yn 182t, a bu yn ei thraddodi mewn gwahanol fanau, weithiau yn Saesneg, ond y rhan amlaf yn Gymraeg. Nid oedd ambell eglwys yn hoffi y gair "darlith" Er boddhau y cyfryw medrai ddarllen fel testun, 2 Tim. iii. 16 ac felly ei galw yn bregeth ond yr oedd y rhan fwyaf yn dewis ei chael fel darlith. Bu ganddo un arall o gylch yr un amser ar yr Iaith Gymraeg, ac un arall ar "Steps to success," yr hon a draddododd rai gweithiau yn Saesneg, ond yn amlach yn Gymraeg. Bu ganddo hefyd ddarlith ar Ariangarwch, yr hon a ganmplid gan yr awenyddol Hiraethog. Bu hefyd yn darlithio drwy bron bob sir o Gymru yn erbyn y." Gaethfasnach," o leiaf bymtheng mlynedd cyn adeg traddodiad y "Ddarlith Gymraeg Gyntaf a noda Dr. Thomas. Bu yn traddodi ei ''Lecture" yn erbyn Caethwasanaeth ar gais y dyngarwr enwog Joseph Price o Fynachlog Nedd, a Joseph Sturge o Birmingham, a'u Ladies Anti- Slavery Societies. Anrhydeddid y ddar- lith hono a chadeirydd ac a holl seremoniau rheolaidddar lith, Pan yr oedd unwaith ar daith drwy ranau o Ogledd Cymru yn ei tbraddodi, denodd ei hen hoff gyfaill dyngarol a hyawdl Williams o'r Wern i ddyfod gydag ef drwy brif gylohoedd Maldwyn a Meirion. Bu yr hen Byddfrydwr enwog Q'r Wern am y tridiau cyntaf o'r daith braidd yn ddihwyl, drwy fod heb grynhoi i'w feddwl ystadegaeth a hanesyddiaeth y pwnc; ond wrth siarad yn ei gylch pan yn cydfarch- ogaeth o fau i fan, llanwyd ei galon o elfenau y pwnc, ac yna nid oedd elsieu i'w gyfaill feuanc wneud bron ddim ond agor cil y porth iddo. Yr oedd nerth ei resymeg a thynerwch ei apeliadau yngorchfygu holl deimladau ei wrandawyr. Bu S. R. hefyd ar gais yr un hen foneddigion gwladgar yn darlithio llawer ar Heddwch a Rhyfel, adichon ygallai gyfeirio at hen frodyr ereill faont yn darlithio cyn 1846. Ac yn wir, y mae yn gam a'n cenedl i Dr. Thomas gyhoeddi yn awr mai darlith Dr. Rees oedd y Ddarlith Gymraeg Gyntaf." Ofer disgwyl i Dr. Thomas gywiro ei dystiol- aeth oblegid rhaid i ambell i Ddoctor gael ei ryddid i dysbiolaethu yn ol penarglwyddiaetb ei ben, a rhagdeimlad ei galon, er dyrchafu neu ddarostwng y neb y myno yn ol ewyllys ei fawrfrydigrwydd. Er cael pwys da o sebon meddal er talu y compliment mawr yn ol i Dr. Thomas, y mae cyfaill JackalyMol i'r ddau Ddoctor, pan "ar ei hynt" yn y 'Tyst' am Ionawr 24ain, tudalen 9, yn mawrygu y ddau Ddoctor yn yr iaith gan- lyno] :Dranoeth i'r Nadolig, yr oedd y lluwchfeydd eira wedi llenwi y fltyrdd gyda godren y Wyddfa; ac felyr oeddyr awenyddol y Hiraethog gyda dau gyfaill yn ceisio gwneyd am orsaf Llanberis, safai Hiraethog yn sydyn, a gwelai rywun wedi ysgrifenu a'i fys ar yr eira gwyn I J- T— Taniai llygad y bardd- bregethwr hyawdl; sythai i fyny, a dywedai yn ddifrifol, gyda phwyslais na fedr neb ond efe ei roddi:—'Oyn saffed a'r byd i chi, fo sy'n gwneyd hyn eto. Mae o wedi myned a llywodraeth y cyfarfodydd, y cymanfaoedd, y colegau, a'r Undeb; a dyma fo, 'rwan, wedi cymryd llywodraeth yr elfenau yn ei law, yn siwr i chi fo sy'n peri yr holl dywydd garw yma. Y mae Jackal y Doctoriaid pan" ar ei hynt" hono, yn dweyd llawer am eu mawredd yn yr un rhifyn o Bapyr yr Enwad; gan awgrymu fod rhai o'r "Had offeiriadol wrth Fraint a Defawd yn cenfigenu wrth ddoniau y ddau Ddoctor. Na, yn wir, gall yr "Had offeiriad- ol" lawenhau yn eu defnyddioldeb. Bu yr ysgrifenydd yn ffyddlawn iawn i'r Doctor hynaf am haner can mlynedd. Ni wnaetb ddim erioed er ceisio diraddio yr un o'r ddau, ond y maent hwy wedi hir gynllwyn, yn, yr yspryd mwyaf gwenwynig, i'w ddiraddio a'i ignorio ef yn y dulliau mwyaf anfrawdol ac anfoneddigaidd. Tro y Dr.T fydd nesaf i seboni Dr. B. Hawdd iddynt gael cyflawnder o sebon. Y R HYNAF O'B HAD OITEIIUAUOL.

HANES BYWYD J. B. GOUGH.