Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

LLYTHYR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

yn camgymeryd, mae yn nai i Ardalydd Salisbury. Dywedai mai ei amcan ydoedd terfynu y ddadi. fawr sydl wedi cael ei chario yn mlaen er's blynyddau rllwng Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr, aTi fod yn credu fod pawb yn ei gweled yn darfod. Dygai y Mesur dri pheth i ben: (1) Rhydd- hau Clerigwyr Eglwys Loegr. (2) Sicr- hau yr holl gymunroddioii. (3) Darparu trefn i bob Anghydffurfiwr igael ei gladdu gyda'r fath wasauaeth crefyddol yn y mynwentydd plwyfol a roddai foddlon- rwycld i'w berthynasau. Nid oodd yn meddwl y gwnelai ei Fesur lwvr foddloni yr Anghydffurfwyr politicaidd. Eu diben hwy wrth ddyfod a Mesur Claddu ger bron y Ty oedd dadsefydlu yr Eglwys; a'i ddi- ben yntau ydoedd cymeryd o'u dvylaw arf dinystriol fyddai yn debyg o effeithio hyny. Nis gallai neb guddio y ffaith na ddelai yr amser oddi amgylch pryd y teflid y mynwentydd yn agored i'r Angbyd- ffurfwyr. Dichon y byddai hyny yn gam tuag at ddwyn oddi amgylch Ddadsefyd- liad; ac ar y Haw arall, dichon y symudai o'r ffordd leswm cryf dros liyny. Ei gyn- llun ydoedd cyfyngu yr liawl i ddefuyddio y fynwent i'r rhanau hyny o'r wlad lie nad oedd Claddfeydd C'yhoeddus o fewn pellder eyfleus. Gwrthwynebwyd y Mesur gan Beresford Hope, tin o aelodau Tory- aidd Prifysgol Caergrawnt, a brawd-yn nghyfraith i Ardalydd Salisbury. Ei reswm ef dros hyny oedd fod y Mesur yn rhoddi i Anghydffurfwyr y peth oeddent yn ymofyn yn hollol, ar draul rhoddi i fyny anrhydedd yr Eglwys. Mesur unochrog ydoedd, ac nid oedd y feddyginiaeth a gynygiai ond dychymygol. Condemniai ymddygiad Cymdeithas Rhyddhad Grefydd yn gwneyd maes brwydr o'r mynwentydd. Ar ei ol cyfododd Marten un o'r aelodau Toryaidd dros dref Caergrawnt, a gwrth- wynebai yntau .y Mesur am y rbeswm na wnai ddystewiyr Ymneillduwyr Politic- aidd. Ei gynghor ef oedcl mynu cladd- feydd cyhoeddus yn mhob man, a chau i fyny y rhan hv-yaf o'r Mynwentydd Plwyf- ol oedd eisioes wedi eu gorlenwi. Yr oeddwn yn ofni wrth weled yr aelod bychan siaradus hwn ar ei draed am tuag awr o amser fod y Toryaid wedi pender- fynu siarad y Mesur allan; hyny yw, peidio rhanu y Ty o gwbl, ond parhau i siarad hyd chwarter i chwech, ac yna, yn ol rheolau y Ty ar y 4ydd dydd. or wyth- nos, byddai y Mesur yn syithio i'r llawr, neu yn cael ei ohirio am un flwyddyn beth bynag. Yckydig iawn o'r aelodau oedd yn y Ty yn ystod yr amser y bu Marten yn siarad, dim ond i hyv un ar faine y Trysorlys, a thri neu bedwar ar fainc flaenaf yr ochr Wrthwyntbol. Am 8 o'r gloch, cyfododd Syr Charles Forster, yr aelod Rhyddfrydig dros Walsall, ar ei draed; ond yr oedd yn amlwg ei fod yn dyoddef oddiwrth anwyd trwm, ac nad oedd yn bwriadu myned a nemawr o am- ser y Ty; oblegid ni fu ar ei draed ond am ryw wyth mynyd. Ynfydrwydd, meddai, ydoedd ei siarad am ychwaneg o gladdfeydd, claddedigaethau dystaw, a zil t;1 ffurfiau o wasanaeth claddu wddi eu dethol a'u cadarnhau gan y Senedd. Yr unig lsvybr i benderfynu y pwnc oedd cydym- gysyllta yehydig o synwyr cyffredin a chariad cristienogol. Ar ei. ol, dyna ryw greadur tal, cochddu, barfog, 45 oed, yn eyfodi Qddiar un o'r meinciru Toryaidd, yn union wrth gefn Balfour, ae yn dechreu siarad gyda thon fawr, fel pe buasai -yn cwyno ar ol marwolaeth ei nain, Ar ol ymholi, deallais mai yr "Anrhydeddus" Wilbraham Egerton, un o'r aelodau dros Ganolbarth Swydd Gaerlleon, a mab i Arglwydd Egertoh, ydoedd. Geil w ei hun yn Libet-al- Consei-valive, os oes yfath beth a hyny yn bodoli. Wrth wrando arno yn siarad, "Ai tybed," ebe fi wrtiiyf fy hun, "fod rliyw Eytldfrydwr erioed wedi pleidleisio dros hwn ynn.? Dywedai ei fod yn credu fod ei gyfaill Balfour yn onest a thrwyadl, ond ei fod yn beiddio meddwl ei Lod yn llwyr anmhoaibl bodd- loni yr Ymneillduwyr Politicaidd. Yr oedd I venture to thinlc" fel rhyw ymadrodd llusg gmddo o flaen pob brawddeg. I venture to thinlc, but, I venture to think (yr wyf yn beiddio meddwl), meddai yn barhaus. "I wish he would 'venture' on the ice and sink out of sight; or venture to sit down!" ebe y oyfaill ffraeth oedd ar fy llaw bhwith. Taflodd y Parchedig oedd ar fy ochr dde edrychiad sarug arno, a cheisiais inau guddio fy wyneb. Yn ystod yr haner awr gymerodd Egerton i "feiddio meddwl," dylifai yr aelodau i mewn i'r Ty; ond nid oedd mainc y Trysorlys yn haner llawn. Yr oedd Stafford Northcote, Cross, Arglwydd John Manners a rhyw ddau neu dri ereill yno, ond parhaent i symud yn ol a blaen, ac i siarad a'u gilydd fel pe buasent yn ym- gynghori beth i wneyd, Ar y fainc flaenaf Wrthwynebol yr oedd deuddeg yn eistedd, ac yn eu plith, Gladstone, Bright, Iiartington, Forster, Syr Henry James, Syr W. Harcoutt, Dr Lyon Playfair, Stansfield, Grant Duff, &c. Yr cedd y gallery hefyd erbyn hyn yn agos llawn, ac yn ddisymwth clyna rywun yn taro ei law ar fy. ysgwydd ac yn gofyn Sut wyt ti Tobit ?" Erbyn edrych pwy oedd ynb ond y cyfaill G. Jones, cyfreithiwr, Aberystwyth. Yr oedd wedi d'od i Lundain ar ryw neges, ac fel finau yn teimlo awydd clywed y ddadl ar Fesur Claddfeydd Balfour. Wyddost ti beth?" meddai, -1 mae John Roberts, Fflint, yn myned i siarad yn union deg." Eis- teddai Roberts ar y drjdedl fainc below the gangway, yn y fan lie y bydd Parnell yn arfer eisted-1. Yr oedd Henry Richard yn eistodd ar y fainc o'r ta ol iddo, yn union wrth ei gefn ac wedi bod yn estyn rhyw bapyrau iddo. Ar y gair, dyma Egerton wedi gorphen c, beiddio meddwl," ac yn eistadd i I awr, John Roberts yn ey foli ar ei draeJ, a'r Llef- aryd(I yn gvaeldi allan "Mr Roberts!" Dacw fo y Cymro cynhes, a'r aelod Rhyddfrydig dros fwrdeisdrefi Fflint. Nid yw yn ymddangos ryw lawer dros 40 oed. Y mae o faintioli braidd llai na'r cyffredin, ond y mae golvvg gwr craffus arno, llygaid bywiog iawn, a gwynebpryd llawn o sirioldeb. Y mae yn amlwg ei fod yn ddyn sydd wedi arfer gweithio yn galed. Mae ei dacl yn un o is-lywyddion Coleg Normalaidd Bangor, ac nid oes neb wedi bod yn fwy ffyddlon dros y sefydliad hwnw. Teimlais fy nghalon yn euro yn gyflym, a'm teimlad yu cynhesu, pan gyfododd John Roberts i anerch y Ty am y tro cyntaf erioed. Nis gallaf ddywedyd ei fod yn gynhyrfus, ond yr oedd yn amlwg. ei fod yn berffaith ddifrifol. Yr unig gamsyniad wnaeth oedd dechreu mewn ton braidd yn rhy uebel, ond yr oedd ei lais yn ddigon clear, a'i eiriau yn ddealladwy. Fel Syr Charles Forster o'i flaen, bu yn ddigon call i beidio siarad ilawer. Prin rhyw saith mynyd ydoedd hyd ei araeth. Cafodd uderbyniad gwresog iawn gan yr holl Dy. Dywedai mai y mynwentydd plwyfol oedd braidd yr unig Gladdfeydd Cylioeddus yn Nghymru, ac o dan yr amgylchiadau ei bod yn galed na chan- iateid i'r Anghydffurfwyr gladdu eu meirw ynddynt yn ol eu dull en hunain, Yr wyf yu apelio at y Ty," meddai "i symud y gwarthllod (stigma) sydd yn gorphwys ar y wlad, a rhoddi ei hiawn- derau a'u hawliau i'r bobl. Ymddengys mai Lloegr," meddai yn mhellach, "yw yr unig wlad lie nas gellir rhoddi ym- ddiried yn y bobl i ddwyn yn mlaen eu gwasanaeth claddu yn weddaidd. Mae yr ameer wedi dyfod, pryd y -dylid symud y fath argraff. Os yw y Mesur hwn yn anghyson," ychwanegai, gobeithio y gadeweir iddo fyned i Bwyllgor, pryd y gall y boueddwr anrhydeddus, yr aelod dros JLirifysgol Caergrawnt, (B. Hope) gael cyfleustra i gynoithwyo i'w wneyd yn gyijon. Gall etholwyr lihyddtrydig bwrdeisdrefi Filint deimlo yn falch. Y mae ganddynt gynrychiolwr campus. Hir oes iddo wasanaethu ei gc-nedl. Yr oeddwn yn hoffi ei glywed yo. son am Gyrmfu yn ei araeth, a charwn weled ein haelodau ereili yn gwneyd yr un peth. Mae yr holl aelodau Gwyddelig bron bob tro y oy fodant i siarad yn son rhywbeth am yr twerddon, ac felly yn rhoddi agwedd genedlaethol ar eu hareithiau. Y nesaf i gyfodi oedd Arglwyda F. Hervey, un or aelodau Toriaidd dros Bury, bt. Edmunds, a mab i Ardalydd Bristol. Dyn ieuans 6'2 oed, gwallt a barf ddu, a siaradwr da iawn. Siaradodd ini tuag ugain mynyd yn mhlaid y Mesur. Gyda'i fod yn eistedd cyfododd Henry Richard, Osborne Morgan, a J. G. Talbot un o'r aelodau Toriaidd dros 'Brifysgol Rhydyehain ar eu traed. Galwodd y Llefarydd ar yr olaf, yr hwn a eisteddai