Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
-...."'-ISPECIAL NOTICE.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
SPECIAL NOTICE. Revised Scale of Charges for Advertise- ments in the Celt" until further notice. TRADE ADVERTISEMENTS, One Four Seven Ins. Ins. Ins. s. d. a. d. s. d. One Column 7 0 25 0 40 0 Half „ 4 0 14 0 21 0 Quarter „ 2 6 8 8 12 10 ADVERTISEMENTS FOR LONGER PERIODS BY SPECIAL TERMS. GENERAL ADVERTISEMENTS: Situations Wanted Concerts Vacant Eisteddfodau Apartments Wanted Sales by Auction, &c., &c To Let as follows:- One Insertion, per line 4d. Four Insertions, „ 3d. Seven Insertions, „ 2!d. Longer periods by special agreement. The above prices are all for prepaid Advertise- ments, 5 per cent. added for credit. P.O.O. and Cheques payable to A. DRIFFIELD at Carnarvon. A <,
TELERAU Y GELT;"
News
Cite
Share
TELERAU Y GELT;" 1 drwy'r Post am chwarter 0 18 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto .< 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Khoddir eiw yn ol 3c o bob swilt am niter uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- lad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i dd'od 1 law bob 3 mis. Telorau i America 2g yr un yn cynwys y cludiad. BUT D.S.—Sylwer yd fanwl ar yr uchod.
COLEG Y BALA.
News
Cite
Share
COLEG Y BALA. Cynhelir y Pwyllgor nesaf yn y BALA, Mawrth 26ain, 1§79, yn y lie; a'r amser, a'r drefn arferol; a dysgwylir i gyfeillion ffyddlawn y Colog gyfar- fod yno i gydlawenhau yn ei lwyddiant cynyddol, a chydanadlu, a chydleisio, a chydweithio er parhad a helaethiad ei ddefnyddioldeb. Ceir hys- bysiadau pellach ar hyn mewn rhifynau dyfodol.
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Drwg iawn genym fod amryw ysgrifau amserol ar Bynciau pwysig wedi cael eu gwasgu o'r neilldu y pythefnos diweddaf, am na fedrid cael lie iddynt. Y mae un gronfa felly yn y Swyddfa, ac un arall ar fwrdd y Golygydd. Y mae cryn nifer o ysgrifau y Go], yn aros eu tro, neu ar eu ffordd i'r "Fasged." Felly rhaid ji ni ostyngodig erfyn ar ein prif Ohebwyr— S. R., D. S. D., ac ereill o Dadau y CELT, 'ft fod dipyn yn llai pwyllog a "domol," a braidd yn fyrach eu rhesymau, er cael lie i lithoedd Gohebwyr ieuangach. Yr oeddym, ar gychwyniad y CELT, mewn ofn pryderus rhag prinder defnyddiau ond y mae y pryder hwnw wedi diflanu. Ein profedig- aeth yn awr ydyw methu caelllo i ysgrifau gwir weri-hfawr. Yrydjra yr un pryd, yn gwbl ewyllysgar i TOBIT, Lluudain, gael ei ffordd yn rhydd a'i gylch yn llawn, oblegid y mae ei esbon- iadau diweddar ar Bynciau Mawrion yr adeg yma, yn gyfoethocach ao yn eglurach na dim ydym yn weled yn Gymraeg na Saesneg. Gwyddom yn dda fod ein darllenwyr yn ystyried Llythyr Llan- dain bob wythnos yn werth y CELT, pe na byddai dim arall ynddo. Y mae Tobit, ar air ein cydwybod, mewn dull nodedig o lawn ac o deg, wedi enill yr enw GOHEBYDD LLUNDAIN. Yr ydym yn ddiolchgar iawn hefyd i'r Prif Athraw Gwladgar, galluog, a gweithgar, y Parch Michael D. Jones, am ei eglurhad byr newydd yn y CELT diweddaf 'o gyh- llwynion, cenfigen, a hunanoldeb y "NI" Gymbleidiol i geisio "difodi" Afchrofa y Bala. Bydd awgrymiadau a beirniadaethau Musicus, o ganol "Maes y Can," yn dderbyniol, a hyderwn yn ddefnyddiol i gangen bwys- fawr iawn o addoliad y Cysegr. Buasai yn dda genym pe gallasai y CELT roddi lie helaeth at bwnc mor fuddiol: ond gwyddom yr ymdrecha Musicus fod yn fyr eglur. "Y BWYSTFIL BHUPEHSIG.—Cawsom gyfle nos Fercher diweddaf, Chwefror 19eg, yn Penmaenmawr, i glywed darlith y Parch J. Ossian Davies, Llanelly, ar « Hanes y Bwyst- fil Rbufeinig." Pan feddyliwn am honiadau anffiieledigrwydd, a hudoliaethau coel-grefydd. a chribddeiliaeth gormes, ac erledigaethau creulondeb yr Eglwys Babaidd drwy yr oesau aetliant heibio, ae am ei dulliau cyfrwys yn dyddiau ni, i geisio gweithio allan a lledaenu ei hudoliaethau a'i hathrawiaebhau gau, drwy yr holl wledydd ac yn enwedig pan feddyl- iwn am yr hyn y mae wedi ei wneyd drwy gyfrwysdra ei sel yn rhai o siroedd Cymru, yn y chwarter canrif diweddaf, yr oedd yn llawenydd mawr genym glywed gweinjdog Annibynol ieuano hyawdl fel Ossian yn ei darlurtio mor llawn, ac eglur, a boneddigaidd, yn ngoleuni yr efengyl; a bod y gynulleidfa liosog oedd yn ei wrando yn teimlo mor ddedwydd o ddechreu y ddarlifch i'w diwedd.
FFYDDLQNDEB CREFYDDOL.
News
Cite
Share
FFYDDLQNDEB CREFYDDOL. (Parhad o'n rhifyn diweddaf.J Pe byddai y rban luosocaf yn myned iddynt tynai hyny rai ereill. Mae ty llawn a chynes yn tynu pobl iddo. Mae y lluaws yn tynu ereill ar eu hoi. Pe byddai dwy ran o dair o'r eglwys yn goialu am foddion gras yn wythnosol, ceid gweled agwedd arall ar grefydd yn ein gwlad. Gwelid gwrandawyr efengyl yn tynu i'n cyfarfodydd. Peth lied gyffredin yw clywed dynion yn siarad yn ddiystyrllyd am y cwrdd gweddi, a'r moddion wythnosol, am fod mor lleied yn myned iddynt, ond pe byddai y mwyafrif yn gofalu am danynt, gwnelai hyny hwynt yn fwy parchus yn ngolwg y byd, a dechreaai dynion gymhell eu gilydd i'r cyfarfodydd hyn; fel hyn y bydd yn amser llwyddiant mawr ar grefydd. "Bydd eto y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer ac yr a pres- wylwyr y nail ddinas i'r llall, gan ddywedyd, "Awn gan fyned i weddio gerbron yr Ar- glwydd ae i geisio Arglwydd y lluoedd. Minau a af hefyd: ie, pobloedd lawer a chenedloedd cryfion, a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerusalem; ac i weddio geibron yr Arglwydd" Y fath amser hyiryd sydd mewn addewid. Pan fyddo cyfarfodydd eglwysig yn boblogaidd; byddant yn ddylanwadol. Y mae ychydig ffyddloniaid yn mbob eglwys. Mae y rhai hyn bob amser yn y cyfarfodydd wythnosol. Maent yno nid yn unig 0 ddyledswydd, ond heiyd o bleser; teim!ant hyfrydwch yn y gwaith. Y mae ychydig enwau yn mhob Sardis. Dyma y rhai anwyl gan Dduw. Hwy sydd yn cadw tan ar allorau crefydd. Maent yn allu yn yr eglwys, ac yn help mawr i'r weinidogaeth. Mae cynulleidfa luosog yn ymgasglu at eu gilydd i addoli Daw ar yr wythnos yn llefaru yn uchel wrth y byd. "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawuder ef; a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Dylem fod yn ffyddlon y nid yn unig er ein mwyn ein hunain, ond er mwyn ereill. Mae yr hyn sydd yn lies ac yn bwysig i ni, yn Ilesol ac yn Uesol a phwysig i wrandawyr yr efengyl hefyd. "Ar hwn a enillo eneidiau sydd ddoeth." Mae eisieu gofalu am gyfarfodydd wythnosol er tynu sylw y byd ar ol crefydd. Peth enbyd yw difaterwch ac anffyddlondeb yn yr eglwys. Mae yr ysbryd hwn yn dylanwadu ar y byd ac yn gwneuthur y difater yn fwy anysturiol. Mae llawer o grefyddwyr yn esgeuluso y cyfarfodydd hyn oherw) dd nad ydynt yn teimlo dyddordeb ynddynt. Nid yw eu car- iad yn ddigon cryf at bethau Duw i golli dim amser i fyned i'r cyfarfod yn yr wythnos. Nid yw eucariad at bethau yr efengyl yn ddigon cryf i droi y byd o'u meddwl. Mae ysbryd y byd yn gryfach na dylanwad crefydd areu calonau. Nid ydynt fel y wraig yn yr erengyl yr hon a. ymwtLVodd trwy y dyrfa at yr lesu ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef, a chafodd ei bendithio, "Yna yr lesu a drodd a phan y gwelodd hi, efe a ddywedodd Ha ferch, bydd gysurcs, dy ffydd a'th iach- aodd. Dyma ddigon o dal am y drafferth. Mae tyrfaoedd ar ffordd llawer i ddylod i'r cyfarfodydd wythnosol, am nad oes ganddynt ddigon 0 ffydd i ymwthio trwy y dyrfa. Dywedygweithiwreifodynrhynin i fyned i'r cwrdd. Dywed y niasnachwr "rbaid i mi ofalu am y shop a'r fasnach. Dywed y gor- uchwyliwyr fod y gwaith yn galw am dano, a bod yn rhaid iddo ofalu am lesiant ei feistr, am byny,nad all efe fyned i'r cyfarfodydd. Fel hyn y mae un yn myned i'w faes, ac arall i'w fasaacb, heb ofala ond ycbydig am achos Duw. Ygwir achos o hyn yw, diflyg tuedd a chariad at bethau Duw. Nid yw y