Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
LLANBRYNMAIR.
News
Cite
Share
LLANBRYNMAIR. Chwefror 20fed, cynaliwyd cyfarfod yn y Pandy, pryd yr adroddodcl plant dan ddeunaw oed dde- chreu y 5ed bennod o'r Barnwyr, a declireu yr lleg o Matthew. Yr oedd yr adroddyddion yn 43, heb- law y plant Ileiaf, a adroddent pennod 3 o'r Rhodd Mam. Canwyd amryw ddarnau gan gor y lie. Llywyddid gan y Gweinidog, a holwyd y plant ganddo. Beirniadid gan Mri Williams, ysgolfeistr, a Breese, Brynderwen. Ataliwyd y tair brif wobr —paliam? Rhoddwyd llyfrau bychain j'r wytli oeddent yn cael eu holi; ac felly yr oedd y goreu a'r gwaelaf yn cael yn gyfartal, sef pob ungeiniog.. Aeth yr lioll blant drwy eu gwaith yn nodedig dda. Arferir er's blynyddau cynal y cyfarfodydd hyn mewn gwahanol ddulliau ar draul y Xi a adawodd y diweddar G. Francis, Ysw., yn flynyddol i bump o'r ysgolion, er budd y plant.-Gomer ab Gymer.
..I AT ISAREFENYDX) CYFUNDEB…
News
Cite
Share
I AT ISAREFENYDX) CYFUNDEB MALDWYN. Y laf,—A ydyw yn rheolaidcl a rhesymolfodyr un person yn llywydd ac yn ysgrifenydd mewn unrhyw gyfarfod cyhoeddus? Yn 2il,-Hyshysir ni gan gynadledd y cyfarfod chwarterol, fod rhyw ddefnydd rhyfedd yn cael ei wneycl o ysgrifaU y Parch M. D. Jones gan "an- nuwiolion yn y tafarndai." Hysbysir ni cto, pa gyffelyb ddefnydd oedd yn cael ei wneyd olionynt ? Yn 3ydd,—Hysbysir ni hefyd, pa fodd y daeth Cynadledd Maldwyn i ddeall fod yr ysgrifau yn cael eu traiod gan fynychwyr y tafarndai ? A ydyw y cenliadon yu arfer eistedd yn eu plith yn eisteddfa y gwatwarwyr ? Gan fod aelodau y gynadledd mor gyfarwydd yn z,Y helyntion "annuwiolion y tafafndai," hoffem wy- bod, yn 4ydd,—Pa ddefnydd a wna yr "ammwiol- ion" hyny o ysgrifau ffug y 'Tys £ a'r Dydd,' megis yr eiddo "pwyllgorwr," y "gell gudd," a'r "gwr ar ei hynt," &c., &c. Yn 5ed,—A ydyw diaconiaid Llanbrynmair yn arjer myned i'r cyfarfodydd chwarterol, neu a ddenwyd y ddau a fu yn y Drefnewydd i'r cyfarfod i ddiben neillduol, sef siarad yn gryf" dros bleidlais o gondemniad ar y Parch M. P. Jones? Gan fod ysgrifenydd y sir mor barod i wasan- aethu y gynadledd, diameuy cawn ganddo atebion boddhaol i'r gofyniadau tichod. Maldwyn. YMHOLYDD. i
I '■ ", I Baritoamaetfr.
News
Cite
Share
I Baritoamaetfr. CRIST YN TAWELU YR YSTORM. Ar For Galilea cyfododd Ystorm ofnadwy o wynt, Pan ydoedd yr lesu 'n ei groesi I wlad y Gergesiaid ar hynt; Y morwyr a'i wylaidd ddysgybIion Mewn dychryn ddywedenr y'nghyd Fed angau y'ngwaelod y dyfroedd Yn aros am danynt i gycl.' Ond Iesu y'nghanol y cynhwrf Orweddai yn dawel mewn hun, Heb arno nao arswyd na dychryn," Wrth gampau 'i greadur ei hun; Nid ydoedd ond wedi rhyw lacio Awenau'r elfenau'r pryd hyn, A'rtonaumawreddog.ynnwyfus Ymbrancient fel hyrddod ar fayn. Er cymaint oedd terfysg y tonau, Ar gwyntoedd cynhyrfus y'nghyd, Arosai yr lesu yn dawel Heb gael ei ddihuno o hyd Ond gweddi o galon drallodus Mewn north anorchfygol o'r bron, Adseiniodd y'nglust y Gwaredwr Yn uwch na mawr ruad y don Dihunodd, cyfododd, eeryddoid, Tawelodd y sorom or mor fawr, Symudodd yr ofn o galonau'r Dysgyblion a'r morwyr yn awr Y gwyntoedd cynhyrfus ostegent Ar archeb Tywysog y byd A'r mor a orweddai'n ei wely- Yn dawel fel baban mewn cryd. Dwy elfen neillduol mewn natur *? Yn rhoddi tystiolaeth a gawn, 0 Dduwdod, dysgawdwr yr Iuddew, Ar for Galilea yn Hawn Er iddo ymddangos yn ddynol, A'i eni. o'r Forwyn lan Fair, Y eyfroedd a'r gwyntoedd ysrormus Ar amnaid a wnaethant ei air. Atebai'r ddwy elf en mewn undeb, Dystewch a gwrandrwch arno Ef Duw cadarn a thad tragwyddoldeb Cynhaliwr a noddwr y Nef Rheolwr y bydoedd afrifed, Cynhaliwr a deddfwr pcb dyn, Yr Hwn sy'n gorchfyg-u pob rhwystr Yn gwbl o'i allu ei hun." Tra'n morio tua'r byd mawr trag'wyddol Gofalwn am Grist yn y Hong Pan ddelom i afcn marwolactli Neu, suddo y byddwn yn lion Gofalwn bod breichiau tragwyddol Otanom i groesi ei Hi, Fel caifom gyrhaedd vd yn dawel I'r hafan ddymunol sy' fry. HafodElwy. II5CAN/LVKN. — "GADAWED Y DRYG10NUS EI FFORDD." Y rhai mewn braw draw a droant—oddiwrth Pdu wartime ffyrdd drygchwant; I Ddnw,' os yr ufyddhant, Yn ei gcsail teg oesant. Nofiaw ga rhain mewn nwynant—a dilys Delw Ion a fyddant; Y drydedd Nef a droediant— Jeliefa 'nawr a fwynha.nt. IEUAN ÅLWEN.
AWGRYMIAD I FÈCRGYN IEUAINC,
News
Cite
Share
trwm i'r holl dylwyth, aeth masnachdy mawr Mr Beverley ar dan. Yr oedd y golled yn chwerw, ond yr oedd ganddo ddigon o fodd ac o ysbryd i ail-gychwyn; a plienderfynodd ail-adeiladu ei fasnach- dy yn y dull goreu. Galwodd ato y tri llano erybwylliedig. Eglurodd ei f wriad iddynt, gan eu cynghori i chwilio am ryw waith er enill eu bywoliaeth, tra y byddai efe yn ail-adeiladu ac yna y caent ddyfod yn ol i'w swyddau priodol. Anogodd hwy i fod yn gynil, ao yohwan- egodd y rhoddai fentbyg ychydig iddynt osbyddent mewn angen. Daeth Philip a Morris ato yn bur fuan i fenthyca ganddo, am eu bod yn mwynhau bywyd o segur- dod a mymryn o loddest;" ond ni welwyd George yn benthyca dim gan neb. Yn inlien ychydig dcyddiau, pan yr oedd Philip a Morris yn ymrodio o amgylch adfeilion muriau yr hen fasnaclidy, gwelent George ynoyn ei frock lwyd, yn gweitbio ei oreu, gyda gweithwyr cyffredin, dan arolygiaeth adeiladydd y masnachdy newydd a goganasant ef ar unwaith, gan ddyweyd ei fod yn gywilydd ganddynt welod eu cyd-glero yn gweithio fellv gyda seiri cyffredin coed a maen a gofynasant iddo, a oedd arno ddim cywilydd ei fod wedi darostwng ei hun folly ? Nac oes, ynwir, ddim, meddai George gwell genyf weithio yn iach fel hyn, na myned oddeutu i segura a benthycio a begio. Ar hyny dyma Mr Beverley a Miss Florence yn dyfod i roi tro drwy yr adeilad newydd. Ehag cywilydd, George, ymguddia mewn mynyd rliag i'th Feistr a'i Ferch dy weled ond yn lie ymgilio ac ymguddio, gwelent George yn ymorchcstii i symucl trawst, yn ol cyfarwyddyd yr adeiladydd. Gwclodd Mr Beverley a Miss Florence, George yn ei wrid siriol iaclius, gyda'i oruchwylion. Ar ol syllu ychydig arno oddidraw, er bod yn sicr mai George ydoecld;-Holo, ebai Mr Beverley, ai chwi syddyna George? Ie, meddai George, yn ei lais clir a'i wrid hardd, ond heb ddim argoel cywilydd. Ydych chwi wedi cyflogi yn rheolaidd i gynorthwyo ? Ydwyf, syr, meddai George y mae yr adeiladydd yn talu i mi gyflog ei weith- wyr cyffredin, ac y mao gobaith ac addewid i mi am godiad. Gwell genyf veithio, syr, na segura a syrthio i ddyled. Cefais fy arfer i weithio o'm mebyd, a diolch i drugaredd yr wyf yn hoffi hyny. Bu Mr Beveiley wedi hyny ynymddiddan cryn lawer a'r adeiladydd, ac yr oedd yn eglur oddiwrth eu hedrychiadau tnagat George, mai am da'no of yr peddynt yn ymddiddan. Yn y cyfamser, yr oedd Philip a Morris yn ymddiddan a Miss Florence, ac ynawgrymu iddi fod arnynt gywilydd gweled eu cyfaill George yn gweiihio felly. Yn fuau wedi hyny trodd Mr Beverley tuag adref a Miss Florence yn ei fraich, gan fowio i Philip a Morris wrth gychwyn. Nid oedd cyfle i fowio i ^George, am ei fod yn brysur gyda'i waith. Penderfynodd Philip o, Morris na byddai iddynt ddim rhagor o gyfeillach a, George am ei fod yn gw.neyd ei hun mor isel." Yn mhen rhai dyddiau ar ol hyny, galwasant yn swyddfa private Mr Bever- ley; a phwy welent wrth ddesc uchaf y prif ohebiaethau a'r cyfrifon ond George. Yr oeddynt yn ei weled yn hawdd drwy y gwydr oedd o gylch ei ddesc. Gofyn- asant i un o'r porthorion, Er's pa bryd yr oedd George yn y lie hwnw; atebodd y porthor nas gwyddai yn sicr, ond yclrwanegai fod Mr Beverley a'r teulu yn hoff iawn ohono; a'u bod yn ymddiried eu gohebiaethau eyfrinachol iddo. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hyny, huriocld Philip a Morris Gig i fyned am dro i'r wlad; ac wrth fyned clywent glychau yn canu ar bob Haw; a chyda hyny dyma gerbyd nodedig o hardd, a meirch ribanawg, yn dyfod i'w cyfarfod a Mr a Mrs Beverly yn siriol iawn ar y fainc flaen, a George a Miss Florence yn lion 'a gwridog ar y fainc arall yn dyfod adref fraich yn. mraich o'u taith briodasol: a dyna fu diwedd eu hysbryd i oganu George am ei weithgarwch. S. R.