Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN DDIRWESTOL. ■ GAN P. S. DAVIES, BANGOR. Atebwyd tri o resymau Mr Stephens,Tan- ymarian, yn erbyn cymeradwyo gwin an- feddwolatwasahaethy Cymundeb yn y rhifyn diweddaf. Dyma'r tri arall:— 1. Mai gwin meddwol oedd yn y gwledd- oedd gynt, fel y dengys hanes y wledd yn Cana Galilea. Pob dyn a esyd y gwin da (oinon kalon) yn gyntaf, tlC wedi iddyni feddwi," dyna fel y mae yn y gwreiddiol, yna un a fo gwaeth." 2. Fod rhyw ddrwg yn y gwin anfedd- wol hefyd, oblegid gwaherddid yn ben- dant i rai yfed na bwyta dim o ffrwyth y winwyddea. 3. Y dylai fod gyda ni gymaint o barcli a diolchgarwch i'r G-wa; edwr pan yn gwneuthur coffadwriaeth o'i farwolaeth fel nad allem feddwl am ba fath win ddylideiddefnyddio. Caiff yr oldf fod yn miaenaf y tro hwn eto. Byddwn yn berffaitli ddiogel wrth ddysgu yn hollol gross i Mr Stephens. Beth pe cymhwysid yr un rheol at gerdd- oriaeth y cysegr, lley mae efe yn feirn- iad o awdurdod. y dylai fod genym t, galonau mor 11awn o ddiolchgaiwch wrth ganu mawl i Dduw pob gras y dylem fod mor wxesog yn yr ysbryd yn y canu fel nad allem feddwi am enyd am y nodau na'r tonau, na'r hauer tonau, na'r cyw- eirnod, na'r cywair mwyaf, na 'r lleiaf, na'r amser i gychwyn, na'r am- ser i orphwys, na grym nac ahsawdd y llais, na man helyntion o'r fath, ond drive on gan ddiystyru pob manylion o gynllun,j na threfn, ac amser, a mesur, a phwysau.A elwid creadur felly yn gerddor ? Beth ddywedai Mr Stephens ar y pen hwn? Mai y rhai sydd wedi llafurio galetaf gyda'r elfenau annhebgorol yw y cantorion mwyaf diboen iddynt eu hunain a'r mwyaf effeithiol ac adeiladol i'w gwrandawyr. Mai y rhai sy'n caethiwo eu hunain gyda'r elfenau yw y rhai mwy- af digaethiwed a diofn wrth ganu. Ac .felly y mae Mr Stephens ei hun yn canu. Ond y mae yn gosod i ni reol at y Cy- mundeb ag y mae efe ei hun yn ei gwadu yn mhob cysylltiad arall. Credaf na roddai y fath reol at ddim arall a wyr efe am dano. Er hyny at y Cymundeb y mae yn ein dysgu y dylem fod mor hwyliog yn y gwasanaeth, ie, yn rliy uchel o lawer i allu meddwl am beth can lleied a natur yr elfenau fydd ar y bwrdd. Ond dibyna hyny ar ba mor llawn y mae'r cymunwr o awydd am "ddangos Crist oni ddelo." Os oer fydd yn yr amcan oer fydd hefyd am yr e7fenau. Os yw dyn yn penderfynu addoli mewn gwirionedd ar ol cyrhaedd ty yr Arglwydd bydd y penderfyniad hwnw yn dylanwadu ar fanylion ereill, megis gwylia ar dy droed wrth fyned i dy Dduw," "bydd barotach i wrandaw," it a, na frysied dy galon i draethu dim gerbroa Duw," y petha addewaist, tal." Hwyl a'r felidith ynddi fyddai yr hwyl i angholio y manylion a'u diystyru. Clyw- ais am hen folianwr unwaith yn Nhalaeth Efrog Newydd mewn hwyl fawr yn mol- ianu nes dyrysu y pregethwr yn llwyr.Yr oedd brawd arall yn y pwlpud yn teimlo dros y brawd oedd yn pregethu. Disgyn- odd hwn at yr hwn oedd yn molianu mor drystfawr. Dywedodd ryw air yn ei glust, ac yn y man bu distawrwydd mawr Cafodd y prpgethwr lonydd i fyned trwy ei waith, a chafwyd cyfarfod dedwydd. Ond pa foddy distawsochyr hen folian- wr mor effeithiol ? meddai y pregethwr wrth y llall. "0 dim ond ag un gair bach." Wei, beth oedd hwnw ?" Wnes i ddim ond gofyn iddo am ddolar at y genadaeth gartrefol a thawodd yn y man." Mae llu mawr o'r epil hyny yn ein gwlad ninau hefyd. Ceisiant hwyl fawryn yr addoliad ond dini manylion! Canwn Gogoaiant a holl nerth y llais tyneraf ond, ie, ond, peidiwoli son am anniweirdeb na diota na chyfeddach na meddwdod na man gelwyddau nac annonestrwydd na dim a fyddo yn cyffwrdd a'r gydwybod, ouite "chewch ch'i ddim hwyl." Hen ystryw Jesuitaidd yw fod rhyw bethau yn rliy gysegredig i ni fanylu arnynt. Ac yn nghYtgod y ddichell hon y mae athrawiaeth y trawsylweddiad a llawer o athrawiaethau ereill yn cael ffynu. yn eu mysg. A thrwy yr un twyll dam- niol y maent yn gallu cadw Gair Duw oddiwrth y werin. Mae hen egwyddor beryglus yn ngwrtli- ddadl Mr. Stephens; ac yr wyf yn berffaith sicr fy meddwl mai hyny fydd barn pob dyn ystyriol cyn hir am y geii iau dieithr a lefarwyd ganddo yn nghynadledd.Tref- lys. Yn lie dyweyd y dylai fod genym gymaint o barch a diolchgarwch i'r Gwaredwr ar y Cymuncleb fel nad allem feddwl am ba fath win ddylid ei ddef- nyddio, dylaeai ddyweyd y dylai fod ein calonau mor llawn o barch a chariad at y Gwaredwr wrth wneathur coffadwriaeth o'i angeu loes fel iias gallem ganiatau i ddim aflan ddylod i inewn i'rswper sanct- aidd. Y fath ofal am yr elfenau oedd yn yr Hen Oruchwyliaeth Pob peth yn berffaith gwbl o arogl peraidd i'r Ar- glwydd." "Ond melldigedig yw'r twyll- odrus, yr hwn y mae yn ei ddeadell wrryw, ac a adduna ao a abertha un llygredig i'r Arglwydd; canys Brenin Mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y Iluoedd, a'rll henw sydd ofnadwy yn mhlith y cenhedloedd;" Mal. i. 14. A foasai Mr. Stephens yn dweyd wrth Moses a'r holl Lefiaid ac wrth Mal- aclii mai arwydd o ddiffyg cariad at y Gwaredwr oedd eu bod ynrboi cymaint o sylw i "elfenau" yr ordinhadau? Ac onid oedd y manylder sanctaidd cyn ac ar Wyl y Pasg yn wers i ninau ? Gwn fod Mr. Stephens In gyfarwydd a'r hanes. Dau beth o'r un Iliw yn hollol fyddai diystyr- icch o amcan y sacrament a diofalwcJi am elfenau'r sacrament. A dau beth o'r un anian, a'r un gwres a'r un ysbryd; o'r un serch, ac o'r un cariad; o'r tin egwyddor, o'r un duwioldeb, ac o'r un sancteidd- rwydd; o'r un tarddiad, o'r un rhediad, ac yn yr un cyfeiriad; o'r un rhyw, or un ystyr, ac o'r un galon yw y Diolch cynes uchel am yr Oen a laddwyd, a'r gofal inanol eiddigus i wabaniaethu rhwng y glan a'r aflan at wasanaeth y Cymundeb. O'r un man y daetli cariad at y diben goreu yn yr ordinhad a'r dymuniad am y ffordd oreu i'w gweinyddu. Her i un dyn allu eu hysgar, na gwadu eu hunrhywiaeth. Ond y mae'r ddau beth yn Mr. Stephens yn groes i'w gilydd. Cariad cynhyrfus iaWn at y dybeit a dim gofal am y dull. Cofio am y cariad mawr gyda chynnwys phiol y felidith. Defnyddio tywyllwch yn go- ffadwriaeth o'r goleuni. Defnyddio cyn- yrch niarwolaeth yn goffadwriaeth o'r bywyd. Defnyddio alcohol, y peth y mae y Dr. Richardson yn ei alw the devil in solution, yn goffadwriaoth o ffynoneJI yr holl fendithion Yn lie hyny, dewch i ni gael peth iachus "er oaffa" am iachawdwriaeth; peth da ynddo ei hun "er Cuffa" amy daionipenaf; un o roddion rhagluniaetli "er coffa" am Rodd Anfeidrol Gras; peth byw ynddo ei hun "er coffa" am y Bywyd, peth-nasydd yn peri galar i neb "er coffa" am yr hyn sy'n "llawenydd i'r holl bobl;" peth nad yw yn felidith i un genedl "er coffa" am Drugaredd Duw i bob cenedl. Y mae gwir gariad at ddiben yr oi dinhad yn ein rhwymo i geisio yr elfenau puraf "er coffa" am "y bwyd yn wir, a'r ddiod yn wir I, sydd yn yr efengyl i'r enaid. Ie, diod yn wir, ac nid y truthion hylosg sydd yn cael eu gosod ar fwrdd y Cymundeb. A ydych chwi yn beiddio galw y truthion aflan gwenwynig hyn yn ffrwyth y winicydden ? Nid oes gan Mr. Stephens nac un gweini- dog arall yn y cyfunùeb gyda'r hyn a elwir Port Wine brawf eu bod wedi tywallt dafn o ffrwyth y winwydden ar y Cymundeb erioed. Pe crinai pob cangen o'r winwydden heddyw ar yr holl ddaear, ni byddai prinder o'r gwinoedd sydd yn awr yn y farchnad. Gellid eu cael am yr un pris yn union pe darfyddai y winwydden y mynyd hwn. Yr argraff sydd ar fedd- yliau ein gweinidogion yw mai ffrwyth y. winwydden yn eplesedig sydd ganddynt ar y Cymundeb. Byddai hyny yn nes i ffrwyth y winwydden na'r peth sydd gan- ddynt, end byddai mor annhebyg i bur ffrwyth y winwydden ag yw Satan i'r Archangel. Bu'r cythreuliaid oil yn angylion yn eu dechreuad, ac yr oedd y gwin yn fendith yn ei gyflwr cyntaf. Collodd y cythreuliaid eu dechreuad trwy wrthryfel; a cliollodd y gwin ei stad o fendith trwy eplesiad. Y gwrtlmtfel a'r eplesiad, cyffelyb ydynt; y gors fawr rhwng henclith a melldith, rhwng bywyd ac angeu, rhwng nef ac uffern. Daliwn ninau at oehr y fendith a'r bywycl a'r nef. Y mae'r angylion syrthiedig bob un yn debycach i angylion glan nag yw gwin- oedd Prydain i ffrwyth y winwydden